Amdanon Ni |
|||||||
|
|
Y Fonesig Elizabeth Neville, DBE QPM yw Dyfarnwraig annibynnol Tŷ’r Cwmnïau. Bydd y Fonesig Elizabeth yn ymchwilio i gwynion ynglŷn ag oedi, anghwrteisi a chamgymeriadau yn y ffordd y cafodd y cwynion hyn eu trin gan Dŷ’r Cwmnïau. Bu i’r Fonesig Elizabeth ymddeol fel Prif Gwnstabl Heddlu Wiltshire yn 2004 a hi ar hyn o bryd yw Asesydd Cwynion Annibynnol asiantaethau’r Grŵp Gyrwyr a Gweithredwyr Cerbydau (DVO) sy’n cynnwys DVLA, yr Asiantaeth Safonau Gyrru, yr Asiantaeth Ardystio Cerbydau a’r Asiantaeth Gwasanaethau Cerbyd a Gweithredydd, yn ogystal â bod yn Asesydd Cwynion annibynnol i’r Asiantaeth Briffyrdd. Hi yw Dyfarnwraig Cwynion annibynnol yr Asiantaeth Adennill Asedion a bydd yn eistedd ar Dribiwnlysoedd Apeliadau Heddlu. Mae’n Gyfarwyddwraig Anweithredol yn y Swyddfa Twyll Difrifol ac yn aelod o’r Awdurdod Heddlu Ynni Niwclear Sifil. Bydd y Fonesig Elizabeth hefyd yn adolygu apeliadau ysgrifenedig yn erbyn codi cosbau ffeilio hwyr, er bod y cyfle i ddefnyddio disgresiwn yn gyfyngedig iawn gan fod y Senedd wedi pennu beth yn union y caiff ac na chaiff y Cofrestrydd Cwmnïau ei wneud. Mae’r proses cosbau ffeilio hwyr wedi ei nodi’n ddiamwys yng nghanllawiau Tŷ’r Cwmnïau ar Gosbau Ffeilio Hwyr – Apeliadau; byddwch cystal â darllen yr wybodaeth hon cyn ysgrifennu at y Fonesig Elizabeth ynglŷn â chosb ffeilio hwyr. Ni all y Fonesig Elizabeth ddelio â’r canlynol:
Mae angen i Dŷ’r Cwmnïau gael cyfle i ddatrys unrhyw anghydfod, felly cyn cael ei hatgyfeirio i sylw’r Fonesig Elizabeth, mae’n rhaid bod cwyn wedi mynd drwy holl drefn fewnol Tŷ’r Cwmnïau a chan hynny bod wedi cael ei hystyried gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethu Cwsmeriaid. PEIDIWCH AG YSGRIFENNU AT Y FONESIG ELIZABETH OS NA DDILYNWYD Y DREFN HON. Os byddwch yn dal yn anfodlon ar ôl cael dyfarniad, gallwch gysylltu â’ch Aelod Seneddol a gofyn am i’r gŵyn gael ei hatgyfeirio i sylw Ombwdsman y Senedd a’r Gwasanaeth Iechyd. |
||||||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|