Tŷ’r Cwmnïau a Diogeledd Cardiau Credyd/Debyd Ar-lein
Pam eich bod wedi newid eich proses talu drwy gerdyn?
Mae’r newidiadau hyn wedi cael eu cyflwyno gan Visa a MasterCard i roi ichi ddiogelwch ychwanegol wrth dalu am nwyddau a gwasanaethau ar-lein. Mae Tŷ’r Cwmnïau yn un o nifer o gyrff yn trefnu’r diogeledd ychwanegol hwn i’w cwsmeriaid er mwyn rhoi tawelwch meddwl wrth dalu dros y rhyngrwyd a bydd y drefn hon yn dod yn fwyfwy cyffredin.
Sut mae’r broses yn gweithio?
Dim ond unwaith y bydd eisiau ichi gofrestru gyda Verified by Visa a MasterCard SecureCode i greu’ch cyfrinair ar gyfer pob un o’ch cardiau talu. Wedyn, bob tro y byddwch yn ymweld â gwasanaeth WebCHeck neu WebFiling Tŷ’r Cwmnïau (a bod angen taliad) gan ddefnyddio’ch cardiau cofrestredig, fe ofynnir ichi gofnodi’r cyfrinair perthnasol fel dilysiad diogeledd ychwanegol cyn i’r archeb gael ei chadarnhau.
Sut ydw i’n cofrestru am y diogeledd ychwanegol yma neu’n cael gwybod a yw’r newidiadau hyn yn effeithio arna i?
I gofrestru gyda Verified by Visa a MasterCard SecureCode, mae angen ichi ddod i wybod a yw’ch dosbarthydd cardiau yn cymryd rhan yn y mesurau diogeledd ychwanegol yma. Gellir gwneud hyn naill ai drwy gysylltu â’ch dosbarthydd cardiau’n uniongyrchol neu drwy ymweld â’r gwefannau canlynol:
http://www.visaeurope.com/personal/onlineshopping/verifiedbyvisa/main.jsp or http://www.mastercard.com/uk/personal/en/cardholderservices/securecode/index.html
Beth os ydw i wedi cofrestru’n barod?
Os ydych wedi cofrestru’n barod, y cyfan sydd eisiau ei wneud yw cofnodi’ch côd personol Verified by Visa neu MasterCard SecureCode ar y sgrin wrth gael eich procio i wneud gan eich dosbarthydd cardiau ar y tudalen talu.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i wedi anghofio fy nghyfrinair?
Os ydych wedi anghofio’ch cyfrinair, cliciwch ar y ddolen gyswllt Forgotten Password fydd i’w gweld ar sgrin y dosbarthydd cardiau ar ôl tudalen talu Netbanx.
Pwy y dylwn i gysylltu yn Nhŷ’r Cwmnïau os ca i broblemau gyda hyn?
Yn anffodus, ni fydd modd i Dŷ’r Cwmnïau ateb cwestiynau cwsmeriaid ar wahân i’r rhai a nodwyd uchod. Dylai pob ymholiad ynglŷn â Verified by Visa a MasterCard SecureCode gael ei gyfeirio’n uniongyrchol at eich dosbarthydd cardiau.
|