Amdanon Ni |
|||||||
|
|
Tŷ’r Cwmnïau a Diogeledd Cardiau Credyd/Debyd Ar-lein Mae Tŷ’r Cwmnïau bellach yn cymryd rhan yn MasterCard SecureCode a Verified by Visa (a adwaenir ar y cyd fel 3D Secure) i wella diogeledd talu ar-lein drwy gerdyn credyd/debyd. Nod y gwelliannau hyn yw gwarchod taliadau ar-lein dros y we drwy sicrhau nad oes rhywun arall yn defnyddio’ch cerdyn talu. Cafodd y gwasanaethau dan sylw eu cyflwyno gan Mastercard/Maestro a Visa mewn cydweithrediad â’r banc a roddodd eich Cerdyn Credyd/Debyd. Os yw’r cerdyn a ddefnyddiwch i dalu am ein gwasanaethau yn perthyn i’r cynllun, wrth ichi gofnodi manylion eich cerdyn ar ein tudalen talu gallwch gael eich dargyfeirio i dudalen rhoddwr eich cerdyn. Dim i chi ac i roddwr eich cerdyn y bydd y broses hon yn weladwy ac mae’n gwbl ddiogel. O’r fan hon, byddwch naill ai:
Wedi ichi ddewis un o’r uchod, eir yn ôl â chi i’n gwefan i gwblhau’ch archeb. Yn anffodus, ni fydd modd i Dŷ’r Cwmnïau ateb cwestiynau cwsmeriaid yn uniongyrchol ac felly dylai pob ymholiad ynglŷn â Verified by Visa a MasterCard SecureCode gael ei gyfeirio’n uniongyrchol at roddwr eich cerdyn. Unwaith eich bod wedi cofrestru, bydd pob taliad yn y dyfodol drwy’n gwasanaeth WebCHeck neu WebFiling yn cael ei gwblhau gyda’r diogeledd ychwanegol hwn wrth ichi ddefnyddio’r un cerdyn credyd neu ddebyd. Dylech sylwi bod y newidiadau hyn yn cael eu gwneud gan y dosbarthwyr cardiau’n uniongyrchol ac nid gan Dŷ’r Cwmnïau. Felly, dylai unrhyw ymholiadau ynghylch 3D Secure gael eu cyfeirio at ddosbarthydd eich cerdyn, nid Tŷ’r Cwmnïau. |
||||||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|