Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Amdanon Ni


Rheoliadau Ansolfedd Trawsffiniol 2006

Mae Comisiwn y Cenhedloedd Unedig ar y Gyfraith Fasnach Ryngwladol ("UNCITRAL") wedi mabwysiadu testun cyfraith enghreifftiol ar ansolfedd trawsffiniol; cafodd hwn ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cyffredinol y CU yn Rhagfyr 1997. Bydd Rheoliadau Ansolfedd Trawsffiniol 2006 yn gweithredu’r gyfraith enghreifftiol ym Mhrydain Fawr, a daeth i rym ar 4 Ebrill 2006.

Cefndir

Yn aml, nid yw cyfreithiau ansolfedd rhyngwladol wedi’u bwriadu i drin ansolfedd trawsffiniol. Mae’r problemau awdurdodaethol ac ymarferol sy’n codi yn ei gwneud yn anodd i ddeiliaid swyddi ansolfedd eu gweinyddu’n gyflym ac effeithiol. Ystyrir yn gyffredinol fod yr ansicrwydd a greir drwy hyn yn rhwystr i fasnach a llif buddsoddiad o wlad i wlad. Mae ymagwedd fydeang at ansolfedd trawsffiniol yn hanfodol, felly, ac mae’r un peth yn wir am gydweithrediad rhwng llysoedd, awdurdodau ac ymarferwyr cenedlaethol.

Beth mae’r rheoliadau yn ei wneud

  • Rhoi mynediad i gynrychiolwyr a chredydwyr tramor i lysoedd Prydain Fawr a sicrhau eu hawliau i gymryd rhan mewn gweithrediad ansolfedd ym Mhrydain Fawr.
  • Gosod y meini prawf ar gyfer penderfynu a ddylid cydnabod gweithrediad ansolfedd tramor.
  • Darparu i lysoedd Prydeinig a deiliaid swyddi ansolfedd ym Mhrydain gydweithredu â llysoedd tramor neu gynrychiolwyr tramor yn y meysydd sydd wedi’u cwmpasu gan y Gyfraith Enghreifftiol.
  • Pennu dulliau gweithredu mewn cysylltiad â gweithrediadau o dan y Gyfraith Enghreifftiol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Cynhwysant ddarpariaeth gyffredinol gyda golwg ar ddulliau gweithredu ac arferion y llysoedd, ac ar apeliadau mewn cysylltiad â gweithrediadau o dan y Rheoliadau, costau a materion cyffredinol eraill.
  • Gwneud darpariaeth ar gyfer hysbysiadau a gaiff eu cyflwyno i’r Cofrestrydd Cwmnïau o dan y Rheoliadau.

Gwybodaeth gan Dŷ’r Cwmnïau

Lle penodwyd cynrychiolydd tramor i gofrestru cwmnïau, canghennau a mannau busnes ym Mhrydain Fawr, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn ffurflen ML7 yn pennu manylion cryno’r gorchymyn llys, pa bryd y cafodd ei wneud a phwy a benodwyd yn gynrychiolydd tramor. Bydd gwybodaeth yr ML7 ar gael gan Dŷ’r Cwmnïau drwy gysylltu â’r timau canlynol:

yng Nghaerdydd, y Tîm Diddymu 029 20 380 651, neu ar gyfer ffeiliadau yn yr Alban Tŷ’r Cwmnïau, Caeredin ar 0131 535 5855. Am wybodaeth bellach, cysylltwch ag:

Andrew Wall
awall@companieshouse.gov.uk
Tîm Polisi. Tel: 029 20 380 861

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies