Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan
Gwasanaeth Cymraeg
Hafan | Cysylltu â ni | English  
 
Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin

Amdanon Ni


Arddangosfeydd

Mynychwn a chefnogwn amrywiaeth o arddangosfeydd drwy gydol y flwyddyn. Mae mynychu arddangosfeydd yn caniatáu inni:

  • godi ymwybyddiaeth o Dŷ'r Cwmnïau, ein swyddogaethau a'n gwasanaethau
  • cwrdd â'n defnyddwyr presennol a'u helpu, a'n cyflwyno'n hunain i gwsmeriaid newydd
  • ateb ymholiadau ynghylch deddfwriaeth gwmnïau, gan gynnwys materion cydymffurfio
  • darparu llwyfan ar gyfer cyflwyno a dangos ein gwasanaethau gwybodaeth ar-lein

Ein harddangosfeydd nesaf fydd:

Dydd Mercher 22 i Ddydd Iau 23 Chwefror 2012
10yb i 4yp
Business South
Rose Bowl, Southampton, SO30 3XH
Dydd Mawrth 17 i Ddydd Mercher 18 Ebrill 2012 Business North West
Manchester Central, Windmill Street, Manchester, M2 3GX
Dydd Gwener 25 i Ddydd Sadwrn 26 Mai 2012 New Start Scotland
Royal Highland Centre, Ingliston, Edinburgh, EH28 8NB

Bydd ein tîm arddangosfeydd ar y stondin, yn barod i gynnig canllawiau ynghylch cydymffurfio a dangos ein gwasanaethau gwybodaeth ar-lein yn ôl y galw.

Os hoffech docynnau ar gyfer unrhyw rai o'r arddangosfeydd uchod, cysylltwch â:

Paul Hughes
Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ
phughes@companieshouse.gov.uk
+44 (0)29 2038 0628