Ein prif swyddogaethau
Prif swyddogaethau Tŷ’r Cwmnïau yw:
- corffori a diddymu cwmnïau cyfyngedig;
- archwilio a chadw gwybodaeth am gwmnïau a gyflwynir yn unol â’r Ddeddf Cwmnïau a deddfwriaeth gysylltiedig; a
- threfnu i’r wybodaeth hon fod ar gael i’r cyhoedd.
Y Cofrestrydd Cwmnïau
Cofrestrydd Cwmnïau Cymru a Lloegr, a Phrif Weithredwr Ty’r Cwmnïau, yw Gareth Jones. Mae ei swyddfa yn Nhy’r Cwmnïau yng Nghaerdydd.
Cofrestrydd Cwmnïau’r Alban yw Dorothy Blair ac mae ei swyddfa yng Nghaeredin.
Mae Canolfan Gwybodaeth yn Llundain hefyd.
Cliciwch yma am fanylion Ble i Ddod o Hyd Inni a Phwy i Gysylltu â Nhw.
Hanes
Mae gan y Deyrnas Unedig gyfundrefn corffori cwmnïau ers 1844. Erbyn heddiw, mae materion corffori cwmnïau wedi eu cwmpasu gan y gyfraith, sef gan Ddeddf Cwmnïau 1985 a’r ddeddfwriaeth ddiweddaru a gynhwysir yn Neddf Cwmnïau 1989.
Caiff pob cwmni cyfyngedig yn Lloegr, Cymru a'r Alban ei gofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau, Asiantaeth Weithredol o dan Yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio (BERR). Mae mwy na 2 miliwn o gwmnïau cyfyngedig wedi eu cofrestru ym Mhrydain Fawr, a chaiff mwy na 300,000 o gwmnïau newydd eu corffori bob blwyddyn.
|