|
Deddf Enllib a Chofrestru Papurau Newydd
Cynnwys
| Cyflwyniad |
| 1. Cofrestru papur newydd |
| 2. Gwybodaeth Bellach |
Canllaw yn unig yw hwn a dylid ei ddarllen law yn llaw â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
|
Brig
Cyflwyniad
Mae’r llyfryn hwn yn egluro beth sydd angen i chi ei wneud i gofrestru papur newydd.
Os ydych yn ystyried cofrestru papur newydd, dylech gyfeirio at y ddeddfwriaeth sy’n llywio’r drefn o gofrestru papurau newydd, neu dylech gael cyngor cyfreithiol.
Gellwch gael hyd i’r gyfraith berthnasol yn Neddf Enllib a Chofrestru Papurau Newydd 1881.
PENNOD 1
Cofrestru papur newydd
1. Pwy ddylai gofrestru?
Rhaid i berchennog/perchnogion papur newydd a gyhoeddir yng Nghymru neu yn Lloegr (neu yng Ngogledd Iwerddon) gofrestru rhai manylion gyd’r Cofrestrydd Cwmnïau yng Nghaerdydd (neu yn Belfast). Fodd bynnag, nid oes angen cofrestru:
os mai cwmni corfforedig o dan Ddeddf Cwmnïau 1985, neu o dan un o’r deddfau oedd yn ei rhagflaenu (neu Ddeddfau cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon) sy’n berchen ar y papur newydd;
os yw’r papur newydd yn gyfnodolyn a gyhoeddir ar hyn o bryd neu y bydd yn cael ei gyhoeddi yn gyfnodol sy’n fwy na 26 diwrnod;
os na chodir tâl am y papur newydd ar hyn o bryd neu yn y dyfodol (oni bai ei fod yn cynnwys hysbysebion yn bennaf – gweler isod).
2. Beth yw papur newydd?
Mae Adran 1 yn diffinio ‘papur newydd’ fel unrhyw bapur sy’n cynnwys newyddion i’r cyhoedd, gwybodaeth, neu ddigwyddiadau, neu unrhyw sylwadau neu arsylwadau yn y papur sy’n cael ei argraffu i’w werthu, ac a gyhoeddir yn Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon yn gyfnodol, neu mewn rhannau neu rifau yn gyfnodol sy’n llai na 26 diwrnod rhwng cyhoeddi unrhyw ddau bapur, dwy ran neu ddau rif.
Hefyd unrhyw bapur a argreffir er mwyn ei ddosbarthu, a’i wneud yn gyhoeddus yn wythnosol neu yn amlach, neu yn gyfnodol sy’n llai na 26 diwrnod ac yn cynnwys hysbysebion yn unig neu’n bennaf.
3. Sut mae cofrestru?
Llenwi Ffurflen NLR1 a’i hanfon at y Cofrestrydd Cwmnïau yng Nghaerdydd (neu Belfast) ynghyd â’r tâl cofrestru o 50c (a chyfeirio hefyd at y paragraffau nesaf).
Fel arfer rhaid cofrestru enw pob perchennog, ond lle bo’n anghyfleus i gofrestru pob enw, gall yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio awdurdodi cofrestru un neu ddau enw ‘perchennog cynrychioliadol’ yn unig. Gall hyn ddigwydd mewn achos megis lle bo nifer fawr o berchnogion neu nad yw’r perchnogion yn bresennol yng ngwledydd Prydain.
Os dymunwch gofrestru papur newydd ar y sail hwn, dylech ysgrifennu at y Cofrestrydd gan nodi’r rhesymau sy’n ei gwneud yn anghyfleus i gofrestru enwau pob perchennog. Hefyd dylech roi gwybodaeth i ddangos bod y cynrychiolwyr a gynigir yn gwbl abl i fodloni unrhyw hawliadau a all godi am enllib neu reswm arall sy’n ymwneud â’r modd y rheolir y papur newydd. Os cofrestrir ar y sail hwn, y tâl cofrestru yw £1.
Gellir cael Ffurflen NLR1 oddi wrth y Cofrestrydd yng Nghaerdydd neu Belfast - nodir y cyfeiriadau o dan Gwybodaeth Bellach.
4. Pa ddogfennau eraill y mae’n rhaid eu ffeilio?
Dim un wrth gofrestru, ond rhaid llenwi manylion ar Ffurflen NLR1 yn flynyddol bob mis Gorffennaf. Mae tâl ffeilio o 25c yn daladwy gyda’r ffurflen hon, neu 50c os bu newid naill ai yn enw’r perchnogion neu yn enw’r cyhoeddiad. Mae’r Cofrestrydd yn anfon ffurflen wag at bob papur newydd cofrestredig ychydig cyn y dyddiad y mae angen y wybodaeth.
Os oes newid yn enw’r perchnogion a gofrestrwyd unrhyw adeg arall o’r flwyddyn, dylid nodi hyn ar Ffurflen NLR2. Gellir cael y ffurflen hon oddi wrth y Cofrestrydd yng Nghaerdydd neu Belfast - nodir y cyfeiriadau o dan Gwybodaeth Bellach.
5. Sut mae talu’r ffioedd?
Dylid gwneud sieciau neu Archebion Post yn daladwy i ‘Tŷ’r Cwmnïau’ a’u hanfon gyda’r ffurflen(ni) perthnasol i’r cyfeiriad perthnasol a nodir ym mhennod 2.
6. Beth os daw’r papur newydd i ben?
Os daw’r papur newydd i ben, neu os daw’n eiddo i gwmni - gweler cwestiwn 2 - dylech roi gwybod i’r Cofrestrydd. Nid oes ffi yn daladwy am hyn.
7. A oes raid cyhoeddi unrhyw fanylion eraill?
Ar wahân i gofrestru o dan y Ddeddf hon, mae enw’r busnes a ddefnyddir gan y cyhoeddwr nad yw:
yn gwmni cofrestredig sy’n masnachu o dan ei enw cofrestredig;
yn unigolyn sy’n masnachu o dan ei enw ei hun; nac
yn bartneriaeth sy’n masnachu yn enw pob un o’r partneriaid;
yn dod o dan y cyfyngiadau ar enwau a osodir gan Ddeddf Enwau 1985 (gweler ein llyfryn cyfarwyddyd, 'Enwau Busnes' am ragor o wybodaeth). Hefyd mae’n ofynnol i berchnogion y cyfryw fusnesau ddadlennu eu henwau o dan yr un Ddeddf.
8. A ddiogelir enw’r papur newydd?
Nid yw cofrestru o dan y Ddeddf yn diogelu enw’r papur newydd; gellir cofrestru rhif y gwlith o bapurau dan yr un enw. Gellir diogelu enw drwy ei gofrestru fel nod masnach. Gellir cael rhagor o wybodaeth oddi wrth Gofrestrfa Nodau Masnach y Swyddfa Eiddo Deallusol y DG ar:
E-bost: enquiries@ipo.gov.uk
Gwefan: www.ipo.gov.uk
Newidiodd y Swyddfa Batentau ei henw i Swyddfa Eiddo Deallusol y DG (UK- IPO) ar yr 2ail o Ebrill 2007
PENNOD 2
Gwybodaeth bellach
1. Ble ellir cael golwg ar y ffurflenni?
Gellir cael golwg ar ffurflenni sy’n dwyn manylion am bapurau newydd sydd ar hyn o bryd wedi’u cofrestru o dan y Ddeddf yn Nhŷ’r Cwmnïau, Ffordd y Goron, Caerdydd CF14 3UZ. Hefyd gellir cael golwg arnynt drwy roi deuddydd o rybudd yn Ystafell Chwilio Tŷ’r Cwmnïau yn Llundain, 21 Bloomsbury Street, Llundain WC1B 3XD (dylid ffonio: 0870 3333636 gydag unrhyw ymholiadau).
Yr un yw’r trefniadau yng Ngogledd Iwerddon lle dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at y Registrar of Companies, 1st Floor, Waterfront Plaza, 8 Laganbank Road, Belfast, BT1 3BS, rhif ffôn: 0845 604 88 88, Ffacs: 028 9090 5353, DX 481NR.
2. Ble mae cael gafael ar ffurflenni a llyfrynnau canllaw?
Un o gyfres o lyfrynnau Tŷ’r Cwmnïau yw hwn sy’n ganllaw syml i’r Ddeddf Cwmnïau.
Mae ffurflenni statudol a llyfrynnau canllaw ar gael yn ddi-dâl oddi wrth Tŷ’r Cwmnïau. Y ffordd gyflymaf o gael gafael arnynt yw drwy’r wefan hon neu drwy ffonio 0870 3333636.
Os yw’n well gennych, gellwch ysgrifennu at ein hadrannau llyfrfa yng Nghaerdydd neu yng Nghaeredin.
Hefyd gellir cael ffurflenni oddi wrth lyfrwerthwyr cyfreithiol, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantau ffurfio cwmnïau - mae eu cyfeiriadau mewn llyfrau ffôn busnesau.
3. Sut mae anfon gwybodaeth at y Cofrestrydd?
Gellwch drosglwyddo dogfenni at y Cofrestrydd drwy law (yn bersonol neu drwy gludwr) gan gynnwys ar adegau y tu allan i oriau swyddfa, gwyliau banc a’r penwythnos yng Nghaerdydd, Llundain a Chaeredin.
Hefyd gellwch anfon dogfenni drwy’r post neu drwy’r gwasanaeth Cyfnewid Dogfenni (DX). Os ydych yn anfon dogfenni, a fyddech gystal â’u cyfeirio at:
| Ar gyfer cwmnïau corfforedig yng Nghymru a Lloegr: |
Ar gyfer cwmnïau corfforedig yn yr Alban: |
Y Cofrestrydd Cwmnïau
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ
DX33050 Caerdydd |
The Registrar of Companies
Companies House
37 Castle Terrace
Edinburgh EH1 2EB
DX ED235 Edinburgh 1
LP4- Edinburgh 2 |
Os ydych yn anfon dogfenni drwy’r post, cludwr neu Gwasanaeth Cyfnewid Dogfenni (DX) ac yn dymuno cael derbynneb, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn rhoi cydnabyddiaeth i chi os ydych yn amgáu copi o’ch llythyr eglurhaol ac amlen wag sy’n dwyn eich enw a’ch cyfeiriad a stamp. Byddwn yn barcodio’ch copi o lythyr gyda’r dyddiad derbyn a’i ddychwelyd atoch yn yr amlen a ddarparwyd.
Noder os gwelwch yn dda: nid yw cydnabod bod dogfen wedi dod i law yn golygu bod dogfen wedi’i derbyn ar gyfer ei chofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau.
| Noder os gwelwch yn dda: nid yw cydnabod bod dogfen wedi dod i law yn golygu bod dogfen wedi’i derbyn ar gyfer ei chofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau. |
| Noder os gwelwch yn dda: Nid yw Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn cyfrifon nac unrhyw ddogfen statudol arall drwy ffacs. |
sut i gyswllt a ni
Canolfan Cyswllt a Gwybodaeth: 0870 33 33 636*
Mini-com: 029 2038 1245
enquiries@companieshouse.gov.uk
www.companieshouse.gov.uk
*Er dibenion hyfforddi a sicrhau ansawdd, fe allai eich galwad gael ei monitro
Caerdydd
Tyˆ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron,
Caerdydd
CF14 3UZ
Facs: 029 2038 0900
Caeredin
Companies House
37 Castle Terrace,
Edinburgh
EH1 2EB
Fax: 0131 535 5820
Llundain
Companies House
21 Bloomsbury Street,
London
WC1B 3XD
Fax: 029 2038 0900
Brig
|