|
 |
Grwpiadau Buddiant Economaidd Ewropeaidd - GBO4
Chwefror 2008 - Fersiwn 7
Cynnwys
| Cyflwyniad |
| 1.Ynghylch grwpiadau BEE |
| 2. Sut i gofrestru grwpiad BEE |
| 3. Gwybodaeth bellach |
Canllaw yn unig yw'r llyfryn hwn a dylid ei ddarllen ar y cyd â'r ddeddfwriaeth berthnasol.
|
Brig
Cyflwyniad
Mae’r llyfryn hwn yn egluro prif nodweddion Grwpiadau Buddiant Economaidd Ewropeaidd (BEE). Mae’n dweud wrthych chi pa wybodaeth y mae angen ei chofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau wrth i grwpiad:
- gael ei ffurfio yn y DU;
- symud ei gyfeiriad swyddogol i’r DU o Wladwriaeth Aelodol arall; neu
- sefydlu swyddfa yn y DU tra’n cadw’i gyfeiriad swyddogol y tu allan i’r DU.
Mae’r llyfryn hwn hefyd yn dweud wrthych chi pa bryd y mae angen cyflwyno rhybudd am newidiadau i fanylion y grwpiad i Dŷ’r Cwmnïau, pa ffurflenni i’w defnyddio a lle i’w cael.
Fel canllaw yn unig y bwriedir y llyfryn hwn. Os ydych yn ystyried ffurfio grwpiad BEE, dylech chi gyfeirio at y ddeddfwriaeth sy’n rheoli grwpiadau felly, neu geisio cyngor cyfreithiol arbenigol. Fe welwch y gyfraith berthnasol yn Offeryn Statudol 1989/638 sy’n cwmpasu Prydain Fawr, ac Offerynnau Statudol Gogledd Iwerddon 1989/216 – gweler pennod 3.
Brig
PENNOD 1
Ynghylch Grwpiadau BEE
Bwriedir i grwpiadau BE helpu busnesau i ffurfio a chynnal cysylltiadau â chwmnïau mewn Gwladwriaethau Aelodol eraill. Ar gyfer busnesau, a chwmnïau llai yn arbennig, gall opsiynau datblygu eraill – uno, meddiannu, mentrau ar y cyd – fod yn rhy gostus a chymhleth. Mae’r grwpiad BEE yn ffordd amgen o ffurfio cysylltiadau mewn Gwladwriaethau Aelodol eraill heb golli hunaniaeth ac annibyniaeth unigol.
| Mae Rheoliadau’r UE (gweler pennod 3) yn ei gwneud yn ofynnol ac yn caniatáu i Wladwriaethau Aelodol wneud darpariaethau arbennig o dan y gyfraith genedlaethol gyda golwg ar grwpiadau BEE. O ganlyniad, mae rhai gwahaniaethau yn systemau cyfraith Gwladwriaethau Aelodol, megis eu cymhwyster cyfreithiol, rheolwyr a’r gofynion o ran archwilio ariannol. Dim ond grwpiadau BEE sydd wedi’u cofrestru yn y DU a gaiff eu cwmpasu gan yr wybodaeth a roddir yma. |
1. Beth yw grwpiad BEE?
Mae’r grwpiad BEE yn fath o gymdeithas rhwng cwmnïau neu gyrff cyfreithiol, cwmnïau neu unigolion eraill o wahanol wledydd yn yr UE sydd angen gweithredu ar y cyd ar draws ffiniau cenedlaethol. Bydd yn cyflawni gorchwylion arbennig dros ei berchnogion aelodol ac mae’n rhywbeth cwbl ar wahân i fusnesau’r perchnogion. Ei nod yw hwyluso neu ddatblygu gweithgareddau economaidd ei aelodau.
Gellir sefydlu grwpiad BEE yn unrhyw un o’r Gwladwriaethau Aelodol, a chaiff weithredu yn unrhyw ran o’r UE. Caiff hefyd wneud trefniadau â chyrff y tu allan i’r UE, er na chaiff y cyrff hynny eu hunain ddod yn aelodau o grwpiad BEE.
2. Beth y gall grwpiad BEE ei wneud?
Rhaid i weithgareddau grwpiad BEE ymberthnasu â gweithgarwch economaidd ei aelodau tra’n cadw’n ategol iddynt. Gellir dehongli cysyniad ‘gweithgarwch economaidd’ yn eang iawn. Er enghraifft, caiff prifysgolion a sefydliadau ymchwil gymryd rhan mewn grwpiad BEE. Caniateir hefyd greu grwpiad BEE rhwng pobl yn y proffesiynau (er enghraifft, cyfreithwyr). Bydd angen, fodd bynnag, i broffesiynolion ystyried a fyddai cymryd rhan mewn grwpiad BEE yn groes i reolau eu proffesiwn. Ni chaiff y grwpiad ei hun ddilyn proffesiwn – gan y byddai hynny’n cymryd lle gweithgareddau’r aelodau – ond caiff gynnig i’w aelodau wasanaethau’n ymwneud â’u proffesiwn (er enghraifft, ymgynghori ar faterion cyfreithiol).
Ar wahân i hyn, a chyfyngiadau cwestiwn 3, gall y grwpiad BEE wneud beth bynnag y mae ei aelodau’n dymuno. Er enghraifft, gallai cwmnïau yn y DU, Sbaen a Ffrainc ffurfio grwpiad i wneud ymchwil wyddonol mewn maes sydd o ddiddordeb cyffredin; neu fe allai cwmnïau ym Mhortiwgal a’r Alban ddefnyddio grwpiad i greu cyd-weithgarwch marchnata ar gyfer cyfres newydd o gynhyrchion; neu fe allai cyfreithwyr yn Lloegr, Denmarc a’r Almaen uno i rannu gwybodaeth.
3. Beth na chaiff grwpiad BEE mo’i wneud?
Ni chaiff grwpiad BEE:
- gael ei ffurfio gyda’r nod o wneud elw, er y gall hynny ddigwydd o ganlyniad i’w weithgareddau arferol;
- arfer meistrolaeth reoli dros weithgareddau’r aelodau eu hunain na thros weithgareddau ymgymeriad arall;
- dal cyfrannau yn unrhyw un o’i aelodau;
- derbyn buddsoddiadau gan y cyhoedd;
- bod yn aelod o grwpiad BEE arall;
- cyflogi mwy na 500 o bobl;
- cael ei ddefnyddio i roi benthyciadau i gyfarwyddwr cwmni na neb sy’n gysylltiedig â chyfarwyddwr lle byddai hynny wedi’i gyfyngu neu ei reoli drwy’r gyfraith wladol;
- cael ei ddefnyddio i drosglwyddo eiddo rhwng cwmni a chyfarwyddwr, nac unrhyw un sy’n gysylltiedig â chyfarwyddwr, ar wahân i’r graddau sydd wedi’u caniatáu drwy’r gyfraith wladol.
4. Beth yw manteision grwpiad BEE?
Bydd grwpiad BEE yn cael sawl mantais, gan gynnwys ‘cymhwyster cyfreithiol’ – yr hawl i dderbyn contractau ac erlyn (neu gael ei erlyn) – a thryloywder treth (gweler cwestiwn 15). At hynny, mae gan yr aelodau ystwythder o ran y dull o gyllido’r grwpiad. Er enghraifft, lle bo cwmnïau llai neu gyrff dielw yn chwarae rhan gall eu cyfraniad fod ar ffurf y gwasanaethau a’r medrau y gallant eu cynnig. Does dim gofynion cyfalaf i grwpiad BEE. Caiff aelodau amrywio’u dulliau cyllido, eu hawliau a’u rhwymedigaethau drwy gontract fel bod modd i’r grwpiad ddatblygu. A chan na chaiff grwpiad BEE ddal cyfrannau yn ei aelodau, nac arfer unrhyw feistrolaeth reoli drostynt, y grwpiad sy’n gweithio i’r aelodau, ac nid fel arall.
5. Beth yw’r anfanteision?
Y pris i’w dalu am absenoldeb gofynion cyfalaf yw atebolrwydd ar y cyd ac unigol sy’n ddigyfyngiad ar ran yr aelodau. Mae hyn yn golygu nid yn unig nad oes cyfyngiad i atebolrwydd ariannol unrhyw un o’r aelodau dros weithgareddau’r grwpiad, ond hefyd bod modd dal pob aelod yn unigol atebol dros y gweithgareddau hynny. Os na ddarperid ar gyfer atebolrwydd felly, mae’n bosib na fyddai gan drydydd partïon hyder i lofnodi contractau â’r grwpiad. Yn ogystal, er y gallai grwpiad BEE gael ei gyllido, er enghraifft, o gronfeydd yr aelodau drwy godi cyfalaf cyfrannau ymhlith yr aelodau neu drwy fenthyciadau banc, ni chaiff geisio cronfeydd gan y cyhoedd na phrynu cyfran mewn grwpiad BEE arall.
6. Beth yw fframwaith grwpiad BEE?
Caiff grwpiad BEE ei sefydlu yn yr un ffordd, yn fras, â chwmni. Rhaid ei ffurfio gan o leiaf ddau aelod o Wladwriaethau Aelodol gwahanol, a rhaid penodi rheolwr neu reolwyr i weithredu’r grwpiad o ddydd i ddydd.
7. Pwy gaiff fod yn aelod o grwpiad BEE?
Mae’r Rheoliadau’n anelu at wneud aelodaeth o grwpiad BEE yn agored i gymaint â phosib o bobl a chyrff o fewn yr Undeb. Y prif amod yw y dylai pob aelod fod wedi chwarae rhan mewn gweithgarwch economaidd yn yr UE cyn dod yn aelod o’r grwpiad.
8. Oes yna amod cenedligrwydd?
Rhaid i grwpiad BEE fod ag o leiaf ddau aelod sydd â’u gweinyddiaeth ganolog neu eu prif weithgareddau wedi’u seilio mewn Gwladwriaethau Aelodol gwahanol.
I fod yn gymwys i ddod yn aelodau, mae’n rhaid i gwmnïau a chyrff cyfreithiol eraill:
- fod wedi cael eu ffurfio yn unol â chyfraith un o’r Gwladwriaethau Aelodol a bod â’u swyddfa gofrestredig neu statudol (lle bo honno’n berthnasol) yn yr UE; a
- bod â’u gweinyddiaeth ganolog (sef, lleoliad eu rheoli a’u llywio canolog) yn yr UE.
Caiff unigolion fod yn aelodau os dilynant unrhyw weithgarwch diwydiannol, masnachol, amaethyddol neu weithgarwch crefft neu os cynigiant wasanaethau proffesiynol neu eraill yn yr UE.
Ni chaiff cyrff o wledydd nad ydynt yn yr UE fod yn aelodau.
9. Beth yw rôl yr aelodau?
Yr aelodau sy’n penderfynu sut y caiff grwpiad BEE ei redeg. Fel arfer, bydd hyn wedi’i nodi yng nghontract ffurfio’r grwpiad, ond does dim rheidrwydd i bethau fod felly. Does dim rheidrwydd i gynnal cyfarfodydd rheolaidd nac i benderfyniadau’r aelodau gael eu gwneud mewn cyfarfodydd yn unig: gall pob cysylltu fod drwy ffacs, teleffon neu gynadledda fideo os dyna ddymuniad yr aelodau.
Bydd o leiaf un bleidlais gan bob aelod. Gall y contract ffurfio roi mwy nag un bleidlais i rai aelodau (er enghraifft, os yw un aelod wedi tanysgrifio cyfran fwy o’r cyfalaf neu’r arbenigedd), ar yr amod na fydd un aelod unigol yn dal mwyafrif o’r pleidleisiau.
Mae’r aelodau’n rhydd i benderfynu’r trefniadau pleidleisio sydd i’w gosod yn y contract ffurfio, ac eithrio rhai penderfyniadau’n effeithio’n sylfaenol ar fodolaeth a gweithrediad y grwpiad BEE lle mae angen penderfyniadau unfrydol. Y penderfyniadau lle mae angen unfrydedd yw:
- newid amcanion y grwpiad;
- newid nifer y pleidleisiau sydd gan bob aelod;
- estyn parhad y grwpiad;
- newid cyfraniadau’r aelodau at gyllid y grwpiad;
- newid rhwymedigaethau’r aelodau, oni bai bod darpariaeth fel arall yn y contract ffurfio;
- diwygio’r contract ffurfio mewn ffordd sydd heb ei chwmpasu uchod, oni bai bod darpariaeth fel arall yn y contract ei hun; a hefyd
- trosglwyddo cyfeiriad swyddogol grwpiad BEE i Wladwriaeth Aelodol arall.
10. Beth yw rôl y rheolwyr?
Bydd yr aelodau’n penodi rheolwyr i redeg y grwpiad BEE a chymryd penderfyniadau beunyddiol arferol. Rhaid penodi o leiaf un rheolwr. Gall grwpiadau BEE sydd wedi’u cofrestru yn y DU benodi personau cyfreithiol (er enghraifft, cwmni wedi’i gorffori o dan y Ddeddf Cwmnïau) yn rheolwyr, ar yr amod bod unigolyn wedyn yn cael ei gofrestru’n gynrychiolydd i’r rheolwr.
Bydd yr aelodau’n pennu terfynau pwerau’r rheolwyr. Mae gweithredoedd y rheolwyr yn cyfrwymo’r grwpiad BEE ac mae’r aelodau’n gyd-atebol am y gweithredoedd hynny. Yr unig gyfyngiad y gellir ei orfodi ar y rheolwyr gan yr aelodau yn y cyswllt hwn yw’r ‘llofnod dwbl’. Mae hyn yn golygu mai dim ond gan gyd-weithred dau neu ragor o aelodau y bydd y grwpiad BEE wedi’i rwymo. Os defnyddir y ddyfais reoli hon, bydd yn effeithiol dim ond os rhoir gwybod am ei bodolaeth yn y Gazette priodol - gweler cwestiwn 5 ym mhennod 2.
11. Oes gan grwpiad BEE bersonoliaeth gyfreithiol?
Rhoir i grwpiad BEE sydd wedi’i gofrestru yn y DU bersonoliaeth gyfreithiol fel ‘corff corfforaethol’ o’r dyddiad sydd wedi’i nodi ar ei dystysgrif gofrestru.
12. Pa reolau cystadlu sy’n gymwys i grwpiadau BEE?
Nid yw grwpiadau BEE wedi’u heithrio rhag y gyfraith gystadlu yn yr UE na’r wladwriaeth unigol. Maent yn ddarostyngedig i reolaeth o dan Erthyglau 85 a 86 o Gytundeb Rhufain ac i ddeddfwriaeth gystadlu genedlaethol yn yr un ffordd ag unrhyw ymgymeriad arall. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Office of Fair Trading, Field House, Breams Buildings, Llundain EC4A 1PR.
13. Sut y caiff grwpiad BEE ei gyllido?
Nid yw’n ofynnol i aelodau grwpiad BEE danysgrifio unrhyw gyfalaf. Gall y grwpiad gael ei gyllido drwy gyfalaf wedi’i fuddsoddi gan aelodau neu drwy fenthyciadau neu roddion oddi wrthynt hwy neu eraill. Gall cyfraniad rhai aelodau fod ar ffurf y gwasanaethau a’r medrau y gallant eu cynnig. Ni chaiff grwpiadau BEE geisio buddsoddiad gan y cyhoedd.
14. Oes grantiau ar gael i grwpiadau BEE?
Does dim byd sy’n atal grwpiad BEE rhag ymgynnig am gronfeydd yr UE neu’r Llywodraeth. Ond does dim grantiau arbennig sydd ar gael i grwpiadau BEE yn benodol.
15. Pa reolau trethiant sy’n gymwys i grwpiadau BEE?
Mae’r system drethu’n gweithredu o dan drefniadau tryloywder ariannol: hynny yw, caiff unrhyw elw, colledion neu enillion eu rhannu rhwng yr aelodau yn ôl eu cyfrannau. Caiff y rhain eu trethu wedyn yn nwylo’r aelodau yn unol â’r gyfraith wladol berthnasol yn y ffordd arferol. Mae’r darpariaethau ar gyfer trethu grwpiadau BEE yn y DU i’w gweld yn Neddf Cyllid 1990, Atodlen11.
16. Sut maen nhw’n gweithio?
At ddibenion trethiant, ystyrir bod grwpiad yn gweithredu’n asiant i’w aelodau: ei weithgareddau yw gweithgareddau’r aelodau sy’n gweithredu ar y cyd, ac ystyrir bod pob aelod â chyfran o eiddo, hawliau, rhwymedigaethau ac elw’r grwpiad BEE. Y contract ffurfio sy’n pennu’r gyfran o’r elw, y colledion neu’r enillion sydd i’w derbyn gan bob aelod, lle nodir hynny yn y contract. Os na nodir dim byd yn y contract, rhoir i’r aelodau gyfran gyfartal. Pennir eu cyfran o ran eiddo, hawliau a rhwymedigaethau yn yr un modd.
Darperir manylion ariannol, cyfrifon a gwybodaeth gan y grwpiad BEE gan weithredu drwy ei reolwyr. Mae aelodau’r grwpiad yn atebol ar y cyd ac yn unigol am unrhyw weithredu neu hepgor gyda golwg ar y darpariaethau trethu.
Nid yw cysyniad tryloywder trethiant yn estyn i drethi eraill fel TAW a tholl stamp. Bydd yn rhaid i grwpiad BEE gofrestru at ddibenion TAW os gwnaiff gyflenwadau trethadwy sy’n mynd y tu hwnt i’r terfynau cofrestru, yr un ffordd ag unrhyw un arall.
17. Beth yw’r gofynion cyfrifeg?
Nid yw’r grwpiad BEE yn ddarostyngedig i unrhyw ofynion cyfrifeg nac archwilio ariannol, ac felly does dim rhaid iddo ffeilio ffurflen flynyddol gyda Thŷ’r Cwmnïau. Ond mae yn ofynnol iddo gyflwyno manylion ariannol i Gyllid y Wlad.
Cyllid a Thollau EMFfurfiwyd Cyllid a Thollau EM ar 18 Ebrill 2005, yn dilyn cydsoddiad Cyllid y Wlad ac Adrannau Tollau Tramor a Chartref EM.
PENNOD 2
Sut i gofrestru grwpiad BEE
1. Ga i gofrestru grwpiad BEE yn unrhyw un o Wladwriaethau Aelodol yr UE?
Rhaid i grwpiad BEE fod wedi’i gofrestru lle lleolir ei ‘gyfeiriad swyddogol’ yng Ngwladwriaethau Aelodol yr UE. Rhaid i’r cyfeiriad swyddogol fod naill ai:
- lle mae gweinyddiaeth ganolog y grwpiad, neu
- lle mae gweinyddiaeth ganolog un o’i aelodau, neu – yn achos unigolyn sy’n aelod – lle mae prif weithgarwch yr unigolyn, ar yr amod bod y grwpiad yn dilyn gweithgarwch yno.
2. Lle dylwn i gofrestru grwpiad BEE yn y DU?
Os yw cyfeiriad swyddogol y grwpiad i fod yng Nghymru neu Loegr, rhaid iddo gofrestru gyda’r canlynol:
Cofrestrydd Cwmnïau Cymru a Lloegr
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ
Os yw cyfeiriad swyddogol y grwpiad i fod yn yr Alban, rhaid iddo gofrestru gyda’r canlynol:
The Registrar of Companies for Scotland
Companies House
37 Castle Terrace
Edinburgh
EH1 2EB
Os yw cyfeiriad swyddogol y grwpiad i fod yng Ngogledd Iwerddon, rhaid iddo gofrestru gyda’r canlynol:
The Registrar of Companies for Northern Ireland
1st Floor, Waterfront Plaza,
8 Laganbank Road
Belfast
BT1 3BS
Tel: 0845 604 88 88
Ffacs: 028 9090 5353
DX 481NR
Mae grwpiadau BEE yng Ngogledd Iwerddon yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth weithredu ar wahân, ond tebyg, i rai sydd wedi’u cofrestru ym Mhrydain Fawr – gweler pennod 3.
3. Oes rhwymedigaeth i gofrestru mewn Gwladwriaethau Aelodol eraill os yw’r grwpiad BEE yn dilyn gweithgareddau yno hefyd?
Os bydd grwpiad BEE sydd wedi’i gofrestru yn y DU yn agor sefydliad mewn Gwladwriaeth Aelodol arall, rhaid cofrestru’r sefydliad hwnnw yn y Wladwriaeth Aelodol honno.
Mae’r un peth yn gymwys y ffordd arall: os bydd grwpiad yn cofrestru sefydliad yn y DU ond bod ei gyfeiriad swyddogol mewn Gwladwriaeth Aelodol arall, rhaid iddo gofrestru yn y rhan honno o’r DU lle mae’r sefydliad wedi’i leoli.
4. Oes modd trosglwyddo’r cyfeiriad swyddogol o un Wladwriaeth Aelodol i un arall?
Oes. Gellir trosglwyddo’r cyfeiriad swyddogol o fewn yr Undeb. Wrth drosglwyddo i Wladwriaeth Aelodol arall, rhaid llunio cynigiad trosglwyddo a’i ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnïau. Ni ellir cymryd penderfyniad i drosglwyddo cyn pen 2 fis ar ôl cyhoeddi’r cynigiad.
5. Pa wybodaeth y mae’n rhaid ei chyhoeddi?
Rhaid i ffurfiant a therfyniad grwpiad BEE gael eu cyhoeddi yn Gazette Llundain, Caeredin neu Belfast (fel a fo’n briodol) ac yna, cyn pen mis, yng Nghylchgrawn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd. At hynny, rhaid i amrywiol newidiadau a digwyddiadau eraill hefyd gael eu cyhoeddi yn y Gazette. Mae rhestr lawn y rhain i’w gweld yn Erthyglau 8 a 14 o’r Rheoliadau – gweler pennod 3.
Yn y DU, gwnaed y Cofrestrydd Cwmnïau’n gyfrifol am gyhoeddi’r manylion hyn.
Os yw’r grwpiad BEE yn trosglwyddo’i gyfeiriad swyddogol i Wladwriaeth Aelodol arall, bydd y Gofrestrfa yno yn mynnu tystiolaeth bod y cynigiad i drosglwyddo wedi cael ei gyhoeddi. Cyfrifoldeb y grwpiad yw sicrhau copi o’r Gazette perthnasol, sydd i’w gael gan:
| The London Gazette |
The Edinburgh Gazette |
| PO Box 7923 |
73 Lothian Road |
| London SE1 5ZH |
Edinburgh EH3 9AW |
| |
| The Belfast Gazette |
| 16 Arthur Street |
| Belfast BT1 4GD |
Fel dewis arall, am argraffiadau Llundain, Caeredin neu Belfast, ffoniwch linell archeb TSO ar 0870 600 5522 neu ymweld â’r gwefan www.gazettes-online.co.uk.
6. Pa enw ca i ei roi ar y grwpiad?
Rhaid i grwpiadau BEE gynnwys naill ai ‘Grwpiad Buddiant Economaidd Ewropeaidd’ neu ‘GBEE’ yn eu henw. Ni all yr enw gynnwys unrhyw un o’r canlynol: ‘cyfyngedig’, ‘anghyfyngedig’ neu ‘cwmni cyfyngedig cyhoeddus’, eu talfyriadau na’r ymadroddion Saesneg cyfatebol. Yn yr un modd, ni all yr enw gynnwys ‘SE’ (na’r talfyriad SE rhwng cromfachau neu gydag atalnodau eraill cyn neu ar ôl y talfyriad). Am ragor o wybodaeth, gweler ein llyfryn The European Company: Societas Europaea (SE).
Gyda’r eithriad hwn, mae’r un rheolau a chyfyngiadau ynglŷn ag enwau yn gymwys, o ran sylwedd, i grwpiadau BEE sydd wedi’u cofrestru yn y DU ag ar gyfer cwmnïau wedi’u ffurfio a’u cofrestru o dan Ddeddf Cwmnïau 1985. Am wybodaeth bellach, gweler ein llyfryn, 'Enwau Cwmni'.
7. Beth sydd angen i gofrestru?
Mae 3 gwahanol phosibilrwydd cofrestru:
(i) Rhaid i grwpiad BEE newydd sydd i fod â’i gyfeiriad swyddogol yn y DU gyflwyno i‘r Cofrestrydd priodol:
- Ffurflen EEIG1;
- y contract ffurfio; ac
- os nad yw’r contract yn Saesneg, cyfieithiad ardystiedig.
(ii) Rhaid i grwpiad BEE presennol sy’n trosglwyddo’i gyfeiriad swyddogol o Wladwriaeth Aelodol arall i’r DU gyflwyno i‘r Cofrestrydd priodol:
- Ffurflen EEIG1, contract a chyfieithiad ardystiedig (lle bo hynny’n briodol);
- tystiolaeth o gyhoeddi’r cynigiad trosglwyddo; a
- datganiad nad yw awdurdod cymwys wedi gwrthwynebu’r trosglwyddo o dan Erthygl 14(4) o’r Rheoliadau.
(iii) Rhaid i grwpiad BEE presennol sy’n sylfaenu sefydliad yn y DU ond a fydd yn parhau i fod â’i gyfeiriad swyddogol y tu allan i’r DU gyflwyno’r dogfennau canlynol i‘r Cofrestrydd priodol:
- Ffurflen EEIG2;
- copïau ardystiedig o bob dogfen a gafodd ei chyflwyno i’r awdurdod cofrestru agosaf i gyfeiriad swyddogol y grwpiad BEE; a hefyd
- os nad yw’r dogfennau yn Saesneg, cyfieithiadau ardystiedig.
8. Beth mae’n rhaid i’r contract ffurfio ei ddweud?
Rhaid i’r contract ffurfio gynnwys o leiaf yr wybodaeth ganlynol am y grwpiad BEE:
- ei enw llaw – gweler cwestiwn 6;
- ei gyfeiriad swyddogol;
- yr amcanion y sylfaenwyd y grwpiad ar eu cyfer;
- enw, enw busnes a ffurf gyfreithiol pob aelod;
- cyfeiriad parhaol neu swyddfa gofrestredig pob aelod;
- rhif a lle cofrestru pob aelod (os o gwbl); a hefyd
- parhad y grwpiad BEE, ac eithrio lle bo hwnnw’n amhenodol.
9. Oes rhaid cofrestru unrhyw ddogfennau eraill?
Ar ôl cofrestru’r grwpiad BEE, rhaid ffeilio hefyd nifer o ddogfennau a manylion ychwanegol eraill. Y rhain yw:
- Hysbysiad am benodi a diswyddo rheolwyr. Ym Mhrydain Fawr defnyddiwch Ffurflen EEIG3 lle mae’r cyfeiriad swyddogol ym Mhrydain Fawr, a Ffurflen EEIG4 lle mae rywle arall. Yng Ngogledd Iwerddon, defnyddiwch Ffurflen EEIG3 lle mae’r cyfeiriad swyddogol yng Ngogledd Iwerddon, a Ffurflen EEIG4 lle mae rywle arall.
- Rhaid defnyddio Ffurflen EEIG4 hefyd i ffeilio’r dogfennau a’r manylion canlynol:
- unrhyw ddiwygio ar y contract ffurfio;
- hysbysiad am neilltuo’r cyfan neu ran o gyfranogiad yr aelod o’r grwpiad BEE;
- unrhyw ddyfarniad barnwrol neu ddyfarniad aelodau yn gorchymyn neu’n cadarnhau dirwyn y grwpiad BEE i ben;
- unrhyw ddyfarniad barnwrol yn dirymu’r grwpiad BEE;
- hysbysiad am benodi neu derfynu penodiad datodwr neu ddatodwyr y grwpiad BEE;
- hysbysiad am derfynu datod y grwpiad BEE;
- cynigiad i drosglwyddo’r cyfeiriad swyddogol i Wladwriaeth Aelodol arall; a hefyd
- hysbysiad am unrhyw ddarpariaeth sy’n eithrio aelod newydd rhag talu dyledion a rhwymedigaethau eraill a darddodd cyn iddynt ymuno.
- Rhaid defnyddio Ffurflen EEIG5 i ffeilio hysbysiad am sylfaenu neu gau unrhyw sefydliad o dan y grwpiad BEE, ac eithrio lle mae angen cofrestru ar Ffurflen EEIG2.
10. Beth yw’r ffioedd ffeilio?
- I gofrestru Ffurflen EEIG1 neu Ffurflen EEIG2, y ffi yw £20.
- I gofrestru enw newydd (ar Ffurflen EEIG4), y ffi yw £10.
- I gofrestru arwystl gan grwpiad BEE, y ffi yw £13.
Mae pob dogfen arall yn ddi-dâl (gan gynnwys Ffurflen EEIG4 lle na chynhwysir newid enw).
| Sylwer mai fel canllaw rhagarweiniol yn unig y bwriedir y llyfyn hwn. Dylai unrhyw un sy’n arfaethu sefydlu grwpiad BEE geisio cyngor arbenigol. |
PENNOD 3
Gwybodaeth bellach
1. Pa ddeddfwriaeth sy’n cwmpasu grwpiadau BEE?
Sefydlwyd grwpiadau BEE gan Reoliad Cyngor (CEE) Rhif 2137/85. Cyfeirir at hyn fel ‘y Rheoliadau’ yn y llyfryn hwn. Mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i Wladwriaethau Aelodol wneud darpariaethau pellach yng nghyswllt grwpiadau BEE o dan y gyfraith genedlaethol er mwyn rhoi grym ymarferol i Reoliadau’r UE. Yn y DU y darnau deddfwriaeth perthnasol yw:
- Offeryn Statudol 1989/638: The European Economic Interest Grouping Regulations 1989, HMSO, ISBN 0 11 096638 4. (Mae hwn yn cynnwys Rheoliadau Prydain Fawr a’r UE yn llawn, ynghyd â ffurflenni enghreifftiol ar gyfer ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnïau).
- Rheolau Statudol Gogledd Iwerddon 1989/216: The European Economic Interest Grouping Regulations (Northern Ireland 1989), HMSO, ISBN 0 337 89216 4. (Mae hwn yn cynnwys Rheoliadau Gogledd Iwerddon a’r UE yn llawn, ynghyd â ffurflenni enghreifftiol ar gyfer ffeilio gyda’r Gofrestrfa Cwmnïau a Chymdeithasau Llesiant, Belfast).
Mae gwybodaeth bellach hefyd i’w chael mewn canllaw cryno i Reoliadau’r UE, wedi’i gynhyrchu gan Gomisiwn yr UE:
Ffeil Ewropeaidd: The European Economic Interest Grouping, Comisiwn y Cymunedau Ewropeaidd, Ebrill 1989, Lwcsembwrg. ISSN 0379-3133.
2. Ble galla i gael ffurflenni a llyfrynnau canllaw?
Mae hwn yn un o gyfres o lyfrynnau gan Dŷ’r Cwmnïau sy’n rhoi arweiniad syml i’r Ddeddf Cwmnïau.
Mae ffurflenni statudol a llyfrynnau canllaw ar gael, yn rhad ac am ddim, oddi wrth Dŷ’r Cwmnïau. Y ffordd gyflymaf i’w cael yw drwy’r wefan hon neu drwy ffonio 0870 3333636.
Os byddai hynny’n well gennych, gallwch ysgrifennu at ein hadrannau defnyddiau ysgrifennu yng Nghaerdydd neu Gaeredin.
Gellir hefyd gael ffurflenni gan ddogfenwyr cyfreithiol, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid ffurfio cwmnïau – cyfeiriadau mewn llyfrau ffôn ar gyfer busnesau.
Os dymunwch gofrestru grwpiad BEE yng Ngogledd Iwerddon, mae ffurflenni statudol ar gael, yn rhad ac am ddim, drwy gyflwyno cais ysgrifenedig i:
Registry of Companies
Department of Enterprise, Trade and Investment
1st Floor, Waterfront Plaza,
8 Laganbank Road
Belfast
BT1 3BS
Tel: 0845 604 88 88
Ffacs: 028 9090 5353
DX 481NR
Gellir hefyd gael ffurflenni gan ddogfenwyr cyfreithiol, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid ffurfio cwmnïau – cyfeiriadau mewn llyfrau ffôn ar gyfer busnesau.
3. Sut ydw i’n anfon gwybodaeth at y Cofrestrydd?
Gallwch gyflwyno dogfennau â llaw (yn bersonol neu drwy negesydd), gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa, gwyliau banc a phenwythnosau.
Gallwch hefyd anfon dogfennau drwy’r post, drwy’r gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) neu drwy’r Post Cyfreithiol (LP) yn yr Alban.
Wrth anfon dogfennau, dylech eu cyfeirio at:
Ar gyfer grwpiadau BEE yng Nghymru a Lloegr: |
Ar gyfer grwpiadau BEE yn yr Alban: |
The Registrar of Companies
Companies House
Crown Way
Cardiff CF14 3UZ
DX33050 Cardiff |
The Registrar of Companies
Companies House
37 Castle Terrace
Edinburgh EH1 2EB
DX ED235 Edinburgh 1
LP – 4 Edinburgh 2 |
Ar gyfer grwpiadau BEE yng Ngogledd Iwerddon: |
The Registry of Companies
Department of Enterprise, Trade and Investment
Department of Economic Development
1st Floor, Waterfront Plaza,
8 Laganbank Road
Belfast
BT1 3BS
Tel: 0845 604 88 88
Fax: 028 9090 5353
DX 481NR |
Wrth anfon dogfennau drwy’r post, drwy negesydd neu drwy Wasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) a’ch bod yn dymuno derbynneb, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn rhoi nodyn cydnabod os amgaewch gopi o’ch llythyr eglurhaol gydag amlen stampiedig yn dangos y cyfeiriad dychwelyd. Byddwn yn marcio’r copi o’ch llythyr â chôd bar yn dangos y dyddiad derbyn ac yn ei ddychwelyd ichi yn yr amlen a ddarparwyd gennych.
Sylwer: nid yw cydnabod dod i law yn golygu bod dogfen wedi’i derbyn i’w chofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau.
| Sylwer: nid yw Tŷ’r Cwmnïau’n derbyn cyfrifon nac unrhyw ddogfennau statudol eraill dros beiriant ffacs. |
Brig
|