Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Amdanon Ni

Ein prif swyddogaethau Ac Hanes
Bwrdd a Rheolwyr Tŷ'r Cwmnau
Cyflenwi Tŷ'r Cwmnau
Llyfrgell
Canllaw
Cyfathrebu yn Gymraeg
Amrywiol
Dogfennau Polisi


Cliciwch yma i weld fersiwn Saesneg y Llyfryn Canllaw hwn (gan agor mewn ffenestr arall)

Cyfrifon a Dyddiadau Cyfeirnod Cyfrifeg - GBA3

Ebrill 2008 - Fersiwn 19

A yw’r arweiniad hwn ar eich cyfer chi?

Bydd yr arweiniad hwn yn berthnasol i chi os ydych:

  1. yn paratoi cyfrifon sy’n dechrau cyn 6 Ebrill 2008
Ni fydd yr arweiniad hwn yn berthnasol i chi os ydych:
  1. yn paratoi cyfrifon sy’n dechrau ar neu wedi 6 Ebrill 2008
Cynnwys

Brig
Cyflwyniad

Mae'r llyfryn hwn yn ganllaw i'r rheolau sy'n llywio datgelu cyfrifon unrhyw gwmni cyfyngedig i'r cyhoedd.

Mae’n delio â thri phrif bwnc:

  1. Dyddiadau cyfeirnod cyfrifeg (DCC).Y DCC yw diwedd y flwyddyn ariannol. Dyma hefyd y dyddiad sy’n penderfynu pryd y bydd cyfrifon yn ddyledus i’w cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau. Mae DCC gan bob cwmni. Rhaid dweud wrth Dŷ’r Cwmnïau ymlaen llaw pan fydd y dyddiad ar fin cael ei newid. Gall fod yn gostus os byddwch chi’n anghofio dweud wrthym ac yn paratoi cyfrifon ar gyfer y dyddiad anghywir. Os gwnewch chi hynny, fe wrthodwn gofrestru’r cyfrifon a bydd rhaid ichi baratoi cyfrifon newydd ar gyfer y DCC a gofnodwyd yn Nhŷ’r Cwmnïau.

  2. Paratoi a ffeilio cyfrifon. Ceir terfynau amser ar gyfer paratoi a chyflwyno cyfrifon i Dŷ'r Cwmnïau. Os byddwch chi'n methu bodloni'r terfyn amser, codir cosb awtomatig, a hynny'n ddieithriad. Felly mae'n bwysig i chi, i'ch cyfrifwyr ac i'ch archwilwyr ariannol fod yn ymwybodol o'r terfyn amser ar gyfer ffeilio.

  3. Cynnwys y cyfrifon.Ni all y llyfryn hwn ddweud wrthych chi sut i baratoi cyfrifon cwmni – bydd gan eich cyfrifydd wybodaeth arbenigol am hyn. Ond mi fydd yn dweud wrthych chi pa ddogfennau sy’n gwneud set o gyfrifon, pa eithriadau y gall fod modd ichi fanteisio arnyn nhw a ph’un a fydd angen ichi benodi archwilydd ariannol.

Fe welwch chi’r gyfraith berthnasol yn Neddf Cwmnïau 1985 (fel y’i diwygiwyd ym 1989 ac wedyn).

Mae angen i Gwmnïau Buddiant Cymunedol (BC) fod yn ymwybodol o reidrwydd ychwanegol wrth gyflwyno’u cyfrifon blynyddol. Rhaid iddynt baratoi a chyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau ‘adroddiad cwmni buddiant cymunedol’ gyda ffi o £15. Nid yw’r llyfryn hwn yn rhoi unrhyw wybodaeth am y gofynion ychwanegol hyn. Am fanylion, ymwelwch ag www.cicregulator.gov.uk

Brig 
PENNOD 1
Dyddiadau cyfeirnod cyfrifeg


1. Beth yw blwyddyn ariannol?

Mae'n rhaid i bob cwmni baratoi cyfrifon blynyddol yn cyfleu perfformiad a gweithgareddau'r cwmni yn ystod y flwyddyn. Yr enw a roir ar y cyfnod y sonnir amdano yn y cyfrifon yw blwyddyn ariannol. Bydd hon yn dechrau'r diwrnod ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf neu, yn achos cwmni newydd, ar y dyddiad corffori.

Term cywirach ar gyfer y flwyddyn ariannol yw'r cyfnod cyfeirnod cyfrifeg.

Daw'r cyfnod cyfeirnod cyfrifeg i ben ar y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg (DCC) - gweler cwestiynau 2 a 3 - neu ar ddyddiad hyd at saith diwrnod y naill ochr neu'r llall i'r DCC os bydd hynny'n fwy cyfleus.

2. Sut pennir y Dyddiad Cyfeirnod Cyfrifeg?

Ar gyfer cwmni newydd, fe bennir y DCC drwy gyfeirio at ddyddiad ei gorffori - gweler cwestiwn 3. Cewch newid y cyfnod cyfeirnod cyfrifeg cyntaf a chyfnodau cyfeirnod cyfrifeg dilynol drwy newid y DCC - gweler cwestiynau 4 a 5.

3. Pa gyfnod y mae'n rhaid i gyfrifon cynta'r cwmni ei fodloni?

Ar gyfer pob cwmni newydd, y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg cyntaf, yn awtomatig, fydd diwrnod ola'r mis un flwyddyn wedi'r dyddiad corffori. Er enghraifft, os corfforwyd y cwmni ar 10 Mehefin 1999, ei DCC fyddai 30 Mehefin, a byddai'r cyfrifon cynta'n bodloni cyfnod rhwng 10 Mehefin 1999 a 30 Mehefin 2000 - neu hyd at saith diwrnod wedyn neu ynghynt. Er y pennir y DCC adeg y corffori, fe allwch ei newid - gweler cwestiwn 4.

4. Oes modd newid y Dyddiad Cyfeirnod Cyfrifeg?

Oes, drwy lenwi Ffurflen 225 a'i hanfon i Dŷ'r Cwmnïau. Ond mae'n rhaid ichi gofrestru'r DCC newydd cyn y terfyn amser ar gyfer ffeilio'r cyfrifon. Mewn geiriau eraill, os yw Tŷ'r Cwmnïau'n disgwyl cyfrifon erbyn dyddiad cyfeirnod cyfrifeg arbennig a bod y rheiny'n mynd yn orddyledus, mae'n rhy hwyr i ddweud eich bod am newid y DCC. Fel arfer, bydd gan gwmnïau preifat 10 mis, a chan gwmnïau cyhoeddus 7 mis, i gyflwyno'u cyfrifon i Dŷ'r Cwmnïau. Ceir trefn wahanol o ran pennu'r cyfnod a ganiateir ar gyfer anfon cyfrifon cynta'r cwmni ac eglurir hon ym mhennod 2.

5. Oes unrhyw gyfyngu o ran newid y Dyddiad Cyfeirnod Cyfrifeg?

Cewch newid DCC drwy fyrhau cyfnod cyfeirnod cyfrifeg mor aml ag y dymunwch a chan gymaint o fisoedd ag y dymunwch. Ond ceir cyfyngiadau o ran estyn cyfnodau cyfeirnod cyfrifeg:

  • Ni chewch estyn cyfnod fel y bydd yn parhau am fwy na 18 mis o ddyddiad dechrau'r cyfnod cyfrifeg.
  • Ni chewch estyn mwy nag unwaith mewn 5 mlynedd, oni bai bod:

    (a) y cwmni'n ddarostyngedig i orchymyn gweinyddu; neu

    (b) bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cyfarwyddo felly; neu

    (c) bod y cwmni'n cydweddu ei ddyddiad cyfeirnod cyfrifeg â dyddiad isgwmni neu riant-gwmni wedi ei sefydlu o fewn Ardal Economaidd Ewrop. Dyma wledydd Ardal Economaidd Ewrop:

    Ynys yr Iâ Norwy Y Ffindir
    Sweden Iwerddon Y Deyrnas Unedig
    Denmarc Yr Almaen Yr Iseldiroedd
    Gwlad Belg Lwcsembwrg Awstria
    Portiwgal Sbaen Ffrainc
    Yr Eidal Gwlad Groeg Liechtenstein
    Gweriniaeth y Tsieciaid Estonia Cyprus
    Latfia Lithwania Hwngari
    Malta Gwlad Pwyl Slofenia
    Slofacia Bwlgaria Romania

6. Beth am gwmnïau wedi eu corffori dramor?

Bydd cwmni sydd wedi ei gorffori dramor ac sydd wedi cofrestru:
  • cangen ym Mhrydain Fawr, ac nad oes rhaid iddo gyhoeddi cyfrifon wedi eu harchwilio'n ariannol yn y wlad lle cafodd ei gorffori; neu
  • leoliad busnes ym Mhrydain Fawr;
yn ddarostyngedig i'r un rheolau gyda golwg ar y DCC ond bod dim cyfyngiad o ran sawl gwaith y caiff estyn cyfnodau cyfrifeg. Defnyddir yr un Ffurflen 225 i newid y DCC.

Bydd cwmni a gorfforwyd dramor, sydd â changen gofrestredig ym Mhrydain Fawr ac y mae'n ofynnol iddo gyhoeddi cyfrifon yng ngwlad ei gorffori, yn ddarostyngedig i reolau gwahanol - gweler ein llyfryn 'Oversea Companies' .

Brig 
PENNOD 2
Paratoi a ffeilio cyfrifon


Mae'r bennod hon yn egluro'r rheolau sylfaenol ar gyfer ffeilio cyfrifon. Mae'n gymwys i unrhyw gyfrifon cwmni, ni waeth a fydd eithriadau ffeilio'n berthnasol i gynnwys y cyfrifon.

1. Oes rhaid i bob cwmni gadw cofnodion cyfrifeg?

Oes. Rhaid i bob cwmni cyfyngedig ac anghyfyngedig, p'un a fo'n masnachu neu beidio, gadw cofnodion cyfrifeg.

2. Beth yw cynnwys set o gyfrifon?

At ei gilydd, mae'n rhaid i gyfrifon gynnwys:
  • cyfrif elw a cholled (neu gyfrif incwm a gwariant os nad yw'r cwmni'n masnachu i wneud elw);
  • mantolen wedi ei llofnodi gan gyfarwyddwr;
  • adroddiad archwilio ariannol wedi ei lofnodi gan archwilydd ariannol (lle bo hynny'n briodol);
  • adroddiad cyfarwyddwyr wedi ei lofnodi gan gyfarwyddwr neu ysgrifennydd y cwmni;
  • nodiadau i'r cyfrifon; a
  • chyfrifon grŵp (lle bo hynny'n briodol)

Sylwer : Ar gyfer cyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 1 Hydref 2007, mae’n rhaid i adroddiadau cyfarwyddwyr gynnwys arolwg busnes.Nid yw hyn yn wir am gwmnïau sy’n gymwys fel rhai ’bach’.

Ni all y llyfryn hwn fanylu ar yr holl wybodaeth y mae’n rhaid i’r dogfennau uchod ei chynnwys – ar gyfer hyn, gweler y Ddeddf Cwmnïau. Gellir hepgor gwybodaeth arbennig o gyfrifon cwmnïau bach a chanolig eu maint (gan gynnwys rhai bach iawn a segur) wedi eu paratoi o dan ddarpariaethau arbennig Rhan VII o’r Ddeddf. Caiff y cwmnïau hyn grynhoi ymhellach ar y cyfrifon a ffeilir ganddynt yn Nhŷ’r Cwmnïau – gweler pennod 3. Gall cwmnïau bach iawn a rhai segur hefyd gael eu heithrio rhag archwilio ariannol – gweler penodau 4 a 5.

Sylwer: Ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu wedi 1 Ionawr 2005, gellir paratoi’r cyfrifon yn unol â safonau cyfrifeg rhyngwladol.

3. Oes rhaid i bob cwmni gyflwyno'i gyfrifon i'r Cofrestrydd?

Mae'n rhaid i bob cwmni cyfyngedig ac anghyfyngedig cyhoeddus anfon ei gyfrifon at y Cofrestrydd. Os ydyn nhw'n gymwys ac yn dymuno gwneud, caiff cwmnïau canolig eu maint, bach, bach iawn a segur baratoi a ffeilio 'cyfrifon cryno' - gweler penodau 3,4 a 5.

Nid oes angen i gwmnïau anghyfyngedig gyflwyno cyfrifon i'r Cofrestrydd ond lle'r oedd y cwmni yn ystod y cyfnod a fodlonir gan y cyfrifon:

  • yn isgwmni neu'n rhiant-gwmni i ymgymeriad cyfyngedig; neu
  • yn gwmni bancio neu yswiriant (neu'n rhiant-gwmni i gwmni bancio neu yswiriant); neu
  • yn `gwmni cymwys' o fewn ystyr Rheoliadau (Cyfrifon) Partneriaethau a Chwmnïau Anghyfyngedig 1993 - gweler pennod 7 o'r llyfryn hwn; neu
  • yn gweithredu cynllun stampiau masnachu.
4. Pa gyfnod y mae'n rhaid i'r cyfrifon ei fodloni?

Rhaid i gyfrifon cynta'r cwmni fodloni'r cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad corffori, nid y diwrnod masnachu cyntaf. Daw'r cyfnod i ben ar y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg (DCC) neu hyd at 7 diwrnod y naill ochr neu'r llall i'r dyddiad hwnnw. Ymdriniwyd ym mhennod 1 â dyddiadau cyfeirnod cyfrifeg a sut i'w newid.

Bydd cyfrifon dilynol yn dechrau'r dydd ar ôl i'r cyfrifon blaenorol ddod i ben. Diweddant ar y DCC neu hyd ar 7 diwrnod y naill ochr neu'r llall iddo.

5. Pa mor hir sydd gen i i ffeilio cyfrifon cyntaf fy nghwmni?

Os ydych chi’n ffeilio cyfrifon cyntaf eich cwmni a’u bod yn cyfeirio at gyfnod o fwy na 12 mis, rhaid eu cyflwyno i’r Cofrestrydd o fewn 22 mis i’r dyddiad cofrestru ar gyfer cwmnïau preifat a 19 mis ar gyfer cwmnïau cyhoeddus neu 3 mis i’r DCC, p’un bynnag fo hwyaf. Bwrir cyfrif o’r terfyn amser ar gyfer cyflwyno i’r Cofrestrydd i’r union ddydd. Er enghraifft, bydd cwmni preifat a gorfforwyd ar 1 Ionawr 2005 ac y pennwyd 31 Ionawr fel Dyddiad Cyfeirnod Cyfrifeg (DCC) iddo, yn cael tan ganol nos ar 1 Tachwedd 2006 (22 mis ar ôl y dyddiad corffori) i gyflwyno’i gyfrifon, nid 30 Tachwedd.

Os yw’r cyfrifon cynta’n bodloni cyfnod o 12 mis neu lai, mae’r cyfnodau arferol a ganiateir ar gyfer cyflwyno cyfrifon yn gymwys (gweler cwestiwn 6).


6. Pa mor hir sydd gen i fel arfer i ffeilio fy nghyfrifon?

Onid cyfrifon cynta’ch cwmni yr ydych yn eu ffeilio (gweler cwestiwn 5), yr amser a ganiateir fel arfer i gyflwyno cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau yw:
  • ar gyfer cwmni preifat, 10 mis o'r DCC; neu
  • ar gyfer cwmni cyhoeddus, 7 mis o'r DCC.
Ond os byrhawyd y cyfnod cyfeirnod cyfrifeg, yr amser a ganiateir i ffeilio'r cyfrifon yw naill ai:
  • ar gyfer cwmni preifat 10 mis (neu ar gyfer cwmni cyhoeddus 7 mis) o'r DCC; neu
  • 3 mis o ddyddiad yr hysbysiad (Ffurflen 225)

Dylech chi gadw mewn cof y diffiniad o gyfnod o fisoedd mewn cysylltiad â ffeilio cyfrifon.

Bydd cyfnod o fisoedd ar ôl dyddiad penodol yn dod i ben ar y dyddiad cyfatebol yn y mis priodol. Er enghraifft, bydd cwmni preifat y pennwyd 30 Medi fel DCC ar ei gyfer yn cael tan ganol nos ar 30 Gorffennaf y flwyddyn ddilynol i gyflwyno’i gyfrifon, nid 31 Gorffennaf. Yn yr un modd, bydd cwmni preifat y pennwyd 28 Chwefror fel DCC ar ei gyfer yn cael tan 28 Rhagfyr, nid 31 Rhagfyr.

Os nad oes dyddiad cyfatebol, bydd dydd ola’r mis yn gymwys. Er enghraifft, bydd cwmni preifat y pennwyd 30 Ebrill fel DCC ar ei gyfer yn cael tan ganol nos ar 28 Chwefror y flwyddyn ddilynol i gyflwyno’i gyfrifon.

7. Oes modd estyn yr amser a ganiateir i gyflwyno cyfrifon?

Os bydd cwmni’n dilyn busnes mewn gwlad dramor neu â buddiannau tramor, a bod y flwyddyn ariannol yn dechrau cyn 1 Ionawr 2005, gellir hawlio estyniad 3 mis i’r cyfnod ffeilio arferol drwy gyflwyno Ffurflen 244 i Dŷ’r Cwmnïau. Rhaid cyflwyno’r ffurflen hon cyn y terfyn amser arferol ar gyfer ffeilio a rhaid gwneud hyn ar gyfer pob blwyddyn y mae’r cwmni am hawlio’r estyniad ar ei chyfer. Ni fydd yn gymwys yn awtomatig o un flwyddyn i’r llall. (Ni ellir defnyddio Ffurflen 244 ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu wedi 1 Ionawr 2005, ond mae modd caniatáu estyniad i’r cyfnod ffeilio o hyd o dan amgylchiadau eithriadol – gweler isod).

Gellir gwneud cais i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant am estyn yr amser ar gyfer gosod a chyflwyno cyfrifon os oes rheswm arbennig dros wneud. Er enghraifft, os buodd digwyddiad na ragwelwyd ac a oedd y tu hwnt i reolaeth y cwmni a’i archwilwyr ariannol. Rhaid i’r cais fod yn ysgrifenedig, cael ei gyflwyno cyn y terfyn amser arferol ar gyfer ffeilio, a rhaid iddo gynnwys esboniad llawn o resymau’r estyniad a hyd yr estyniad sydd eisiau.


Ar gyfer cwmnïau wedi eu cofrestru yng
Nghymru a Lloegr, ysgrifennwch at:
Ar gyfer cwmnïau wedi eu cofrestru yn yr
Alban, ysgrifennwch at:
Yr Ysgrifennydd Gwladol dros
Fasnach a Diwydiant
d/o Adran Gweinyddu Cwmnïau
Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ

DX33050 Caerdydd 1

The Secretary of State for
Trade & Industry
Companies House
37 Castle Terrace
Edinburgh EH1 2EB


DX ED235 Edinburgh 1

LP – 4 Edinburgh 2



8. Beth os cyflwynir y cyfrifon yn hwyr?

Ceir cosb sifil awtomatig am ffeilio hwyr. Mae'r swm yn dibynnu ar ba mor hwyr y bydd y cyfrifon yn dod i law a ph'un ai un preifat neu un cyhoeddus y mae'r cwmni. Mae'r cosbau penodedig fel a ganlyn:

Hyd yr oedi Cwmni cyhoeddus Cwmni preifat
3 mis neu lai £ 500 £100
3 mis a diwrnod hyd 6 mis £1000 £250
6 mis a diwrnod hyd 12 mis £2000 £500
Mwy na 12 mis £5000 £1000


Mae methiant i gyflwyno cyfrifon prydlon hefyd yn dramgwydd troseddol y gellir erlyn cyfarwyddwyr y cwmni amdano. Eglurir cosbau ffeilio hwyr yn llawn yn ein llyfryn `Cosbau Ffeilio Hwyr''.

Sylwer: os bydd terfyn amser ar gyfer ffeilio'n dod i ben ar ddydd Sul neu ³yl Banc, mae'r gyfraith o hyd yn mynnu i gyfrifon gael eu ffeilio erbyn y dyddiad hwnnw. Felly, fe ddylech chi wneud yn siŵr y cânt eu postio mewn pryd i gyrraedd cyn terfyn amser o'r fath.


9. Pwy all gymeradwyo a llofnodi cyfrifon?

Rhaid i’r cyfrifon gael eu cymeradwyo gan fwrdd cyfarwyddwyr y cwmni a’u llofnodi cyn eu hanfon i Dŷ’r Cwmnïau.

  • Rhaid i’r fantolen gael ei llofnodi gan gyfarwyddwr, gydag unrhyw ddatganiadau ynglŷn ag eithriadau cyfrifeg neu ffeilio yn ymddangos uwchben llofnod y cyfarwyddwr.
  • Rhaid i adroddiad y cyfarwyddwr, os oes angen un, gael ei lofnodi gan gyfarwyddwr neu ysgrifennydd y cwmni.
  • Os atodir adroddiad archwilio ariannol, adroddiad archwilio ariannol arbennig neu adroddiad cyfrifwyr wrth y cyfrifon, rhaid iddo nodi enwau’r archwilwyr neu’r cyfrifwyr a chael ei lofnodi a’i ddyddio* ganddynt.

*Yn gymwys i gyfrifon yn ymwneud â chyfnod yn dechrau ar neu wedi 1 Ionawr 2005.

Does dim rhaid ichi osod y cyfrifon gerbron cyfarfod cyffredinol o’r cwmni, na sicrhau cymeradwyaeth *Cyllid a Thollau EM (HMRC) iddynt, cyn eu hanfon i Dŷ’r Cwmnïau.

10. A fydd Tŷ’r Cwmnïau yn rhoi cyngor technegol ynghylch cyfrifon?

Na fydd. Gallwn ni roi cyfarwyddyd cyffredinol, ond nid cyngor ar faterion cyfrifeg penodol. Yn gyntaf, nid yw rhoi cyngor technegol yn swyddogaeth a roddodd y Llywodraeth inni. Yn ail, nid yw’n ymarferol: mae’ch cyfrifon yn dibynnu ar ofynion cyfreithiol cymhleth, ac ni wyddom ddigon am eich cwmni i fod yn hyderus ein bod yn rhoi ichi gyngor addas.
Ymgynghorwch â chyfrifydd os bydd angen y math hwn o gyngor arnoch chi.

11. Beth sy'n digwydd i ddogfennau a anfonir i Dŷ'r Cwmnïau?


Mae'r dogfennau a'r ffurflenni a gyflwynwch chi i Dŷ'r Cwmnïau yn cael eu sganio i greu delwedd electronig. Wedyn, caiff y dogfennau gwreiddiol eu rhoi i gadw a defnyddir y ddelwedd electronig fel dogfen waith.

Wrth i'ch contactau busnes adolygu record y cwmni, fe welan nhw'r ddelwedd electronig wedi ei hatgynhyrchu ar-lein neu ar ficroffilm. Felly, mae'n bwysig nid yn unig fod y gwreiddiol yn ddarllenadwy ond hefyd y gellir ei ddefnyddio i greu copi clir.

Mae gweddill y bennod hon yn gosod ychydig o ganllawiau ansawdd i'w dilyn wrth baratoi cyfrifon a dogfennau eraill i'w ffeilio yn Nhŷ'r Cwmnïau.

12. Beth sy'n digwydd os nad yw fy nogfennau'n bodloni'r canllawiau?


Mae adran 706 o'r Ddeddf yn caniatáu i Dŷ'r Cwmnïau wrthod dogfennau na ellir mo'u cipio'n electronig, gan roi rhybudd yn dweud pam eu bod nhw'n annerbyniol. Rhaid cyflwyno copi derbyniol o fewn 14 diwrnod i'r rhybudd (fel arall, byddwn yn ystyried bod y gwreiddiol heb ei gyflwyno).

13. Sut dylai dogfennau fod wedi eu trefnu?

Rhaid i bob dogfen a gyflwynir i'r Cofrestrydd nodi rhif cofrestru'r cwmni mewn lle amlwg, a rhaid iddi gydymffurfio ag unrhyw ofynion a bennir gan y Cofrestrydd gyda golwg ar eglurder y ddogfen honno.

Yn gryno, dylai dogfennau fod ar bapur gwyn plaen o faint A4 yn pwyso rhwng 80gsm a 100gsm gyda gorffeniad di-sglein. Dylai'r testun fod yn ddu, yn glir, yn ddarllenadwy ac o ddwysedd cyson.

Wrth baratoi dogfen:

  • defnyddiwch inc du neu deip du;
  • defnyddiwch lythrennau cryf (mae rhai wynebau teip a phinnau ysgrifennu tenau cain yn rhoi copïau o ansawdd gwael);
  • peidiwch ag anfon copi carbon;
  • peidiwch â defnyddio matrics-argraffydd;
  • cofiwch - gall ffotogopïau roi arlliw llwyd na fydd yn sganio'n dda;
  • defnyddiwch bapur A4 gydag ymyl hael; a
  • chynhwyswch rif y cwmni ar y dde yng nghornel ucha'r tudalen cyntaf.

Cyfrifon sglein

Os ydych chi'n cynhyrchu cyfrifon sglein wedi eu hargraffu mewn lliwiau, byddwch cystal â chadw'r rheiny'n ôl i'ch cyfranddeiliaid ac eraill a fydd yn eu gwerthfawrogi. Bydd arnon ninnau angen testun du ar bapur gwyn gyda gorffeniad di-sglein o hyd. Mae fersiwn teipiedig dirwymiad o broflen yr argraffwyr yn ddelfrydol, ar yr amod y cynhwysir y llofnodion angenrheidiol.

Bob blwyddyn, caiff tua 6,000 o setiau cyfrifon eu gwrthod am nad ydyn nhw'n ddigon darllenadwy. Y tri rheswm pennaf yw:

  • Cyfrifon sglein
  • Graddliwio ffigurau, e.e. i wahaniaethu rhwng y flwyddyn ariannol dan sylw a'r un flaenorol
  • Ansawdd argraffu gwael

14. Alla i gael rhagor o wybodaeth am hyn?

Am ganllawiau pellach ynglŷn â’n gofynion argraffu, cysylltwch â 0870 33 33 636.

15. Oes unrhyw ofynion ychwanegol i Gwmnïau Buddiant Cymunedol (BC)?

Oes. Mae’n rhaid i’r cwmni BC baratoi ‘adroddiad cwmni buddiant cymunedol’ y mae’n rhaid ei anfon i Dŷ’r Cwmnïau gyda’r cyfrifon blynyddol a ffi o £15. Dylid gwneud sieciau’n daladwy i ‘Tŷ’r Cwmnïau’. Am wybodaeth bellach ynghylch y rheidrwydd hwn, ymwelwch ag www.cicregulator.gov.uk

Brig 
PENNOD 3
Eithrio cwmnïau bach a chanolig eu maint


1. Pa eithriadau sydd ar gael?

Caiff rhai cwmnïau bach neu ganolig eu maint baratoi cyfrifon ar gyfer eu haelodau o dan ddarpariaethau arbennig adrannau 246 a 246A o Ddeddf Cwmnïau 1985. Yn ogystal, cânt baratoi cyfrifon cryno a'u cyflwyno i'r Cofrestrydd.

Mae’r bennod hon yn egluro’r eithriadau sydd ar gael i gwmnïau bach a chanolig eu maint. Gall rhai cwmnïau bach sydd â throsiant busnes o lai na £5.6 miliwn (£250,000 i rai sy’n elusennau) ac asedion o lai na £2.8miliwn hawlio eithriad rhag archwilio ariannol. Sonnir am hyn ym mhennod 4.

Ymdriniwyd ym mhennod 2 â'r cyfnod y mae'n rhaid i'r cyfrifon ei fodloni ac â'r amser a ganiateir i'w hanfon i Dŷ'r Cwmnïau.

2. Beth yw cwmni bach neu ganolig ei faint?

Ni all cwmnïau cyhoeddus na rhai cwmnïau yn y sectorau rheoledig fod yn gymwys fel cwmnïau bach neu ganolig. Yn yr un modd, ni all cwmnau sy'n rhan o grwp y mae iddo aelodau sy'n gwmnau cyhoeddus neu'n gwmnau yn y sectorau rheoleiddiedig, fod yn gymwys fel rhai bach neu ganolig (ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig - gweler cwestiwn 4). Ar gyfer cwmnïau eraill, maint y cwmni (ac yn achos rhiant-gwmni, maint y grwp a arweinir ganddo) yn nhermau ei drosiant busnes, cyfanswm ei fantolen (sef, cyfanswm yr asedion sefydlog a chyfredol) a nifer cyfartalog ei weithwyr sy'n penderfynu a gaiff ei ddosbarthu'n un bach neu ganolig.

Mae'r amodau cyfewin ar gyfer bod yn gwmni bach neu ganolig wedi eu nodi isod.

I fod yn gwmni bach, rhaid bodloni o leiaf dau o'r amodau canlynol:

  • rhaid i'r trosiant blynyddol fod yn £5.6 miliwn neu lai;
  • rhaid i gyfanswm y fantolen fod yn £2.8 miliwn neu lai;
  • rhaid i nifer cyfartalog y gweithwyr fod yn 50 neu lai.
Sylwer: Mae’r trothwyon uchod ar gyfer rhyddhad cyfrifeg yn gymwys i flynyddoedd ariannol yn dod i ben ar neu wedi 30 Ionawr 2004. Ar gyfer blynyddoedd ariannol cynharach, i fod yn gwmni bach, rhaid bodloni o leiaf 2 o’r amodau canlynol:
  • rhaid i’r trosiant blynyddol fod yn £2.8 miliwn neu lai;
  • rhaid i gyfanswm y fantolen fod yn £1.4 miliwn neu lai;
  • rhaid i nifer cyfartalog y gweithwyr fod yn 50 neu lai.


I fod yn gwmni canolig ei faint, rhaid bodloni o leiaf dau o’r amodau canlynol:
  • rhaid i’r trosiant blynyddol fod yn £22.8 miliwn neu lai;
  • rhaid i gyfanswm y fantolen fod yn £11.4 miliwn neu lai;
  • rhaid i nifer cyfartalog y gweithwyr fod yn 250 neu lai.
Sylwer: Mae’r trothwyon uchod ar gyfer rhyddhad cyfrifeg yn gymwys i flynyddoedd ariannol yn dod i ben ar neu wedi 30 Ionawr 2004. Ar gyfer blynyddoedd ariannol cynharach, i fod yn gwmni canolig, rhaid bodloni o leiaf 2 o’r amodau canlynol:
  • rhaid i’r trosiant blynyddol fod yn £11.2 miliwn neu lai;
  • rhaid i gyfanswm y fantolen fod yn £5.6 miliwn neu lai;
  • rhaid i nifer cyfartalog y gweithwyr fod yn 250 neu lai.

Os yw'r cwmni yn rhiant-gwmni, ni all fod yn gwmni bach na chanolig oni fo'r grwp a arweinir ganddo hefyd yn fach neu'n ganolig. Mae'r amodau cyfewin ar gyfer bod yn gwmni bach neu ganolig wedi eu nodi yng nghwestiwn 5.

At ei gilydd, bydd cwmni'n gymwys fel un 'bach' neu 'ganolig' yn ei flwyddyn ariannol gyntaf, neu mewn unrhyw flwyddyn ariannol ddilynol, os bodlona'r amodau yn ystod y flwyddyn honno a'r flwyddyn cynt. Os paid y cwmni â bod yn fach neu ganolig, bydd yr eithrio'n parhau am y flwyddyn gyntaf nad yw'r cwmni'n bodloni'r amodau. Ac fe bery'r eithrio'n ddi-dor os daw'r cwmni'n un bach neu ganolig unwaith eto y flwyddyn ddilynol - gweler y tabl isod.

Os credwch chi y gallai'r cwmni fod yn gymwys fel un bach neu ganolig ei faint, dylech ymgynghori â chyfrifydd proffesiynol cyn paratoi cyfrifon 'darpariaeth arbennig'. Os crynhowch y cyfrifon, bydd eisiau hefyd ichi ffeilio gyda'r Cofrestrydd adroddiad arbennig gan archwilydd ariannol yn cadarnhau bod y cwmni'n gymwys i greu cyfrifon o'r fath. Ni fydd angen yr adroddiad hwn os cafodd y cwmni ei eithrio rhag archwilio ariannol - gweler pennod 4 ar gwmnïau bach iawn.

Hwyrach y bydd y tabl canlynol o gymorth ichi benderfynu a ydych yn gymwys i baratoi cyfrifon 'bach' neu 'ganolig'.

Mae'r tabl yn berthnasol i gwmnïau bach. Ar gyfer cwmnïau canolig eu maint, ni raid ond rhoi 'canolig' yn lle 'bach'.

Blwyddyn 1 Blwyddyn 2 Blwyddyn 3 Cymwys yn:
  Y flwyddyn ariannol 1af
bach     Ie
heb fod yn fach     Nage
  Yr 2il flwyddyn ariannol
bach bach   Ie
bach heb fod yn fach   Ie
heb fod yn fach bach   Nage
  Y 3edd flwyddyn ariannol
bach bach heb fod yn fach Ie
bach heb fod yn fach bach Ie
heb fod yn fach bach bach Ie
bach heb fod yn fach heb fod yn fach Nage
heb fod yn fach bach heb fod yn fach Nage
heb fod yn fach heb fod yn fach heb fod yn fach Nage

3. Beth sy'n rhaid i gwmni bach neu ganolig ei gyflwyno i'r Cofrestrydd?

Gall y cwmni gyflwyno’r cyfrifon a baratowyd ar gyfer ei aelodau o dan ddarpariaethau arbennig Rhan VII o Ddeddf Cwmnïau 1985, neu fe all gyflwyno fersiwn cryno o’r cyfrifon hynny.

Rhaid i gyfrifon cryno’r cwmni bach gynnwys:

  • y fantolen gryno a nodiadau; ac
  • adroddiad arbennig gan archwilydd ariannol (oni fo’r cwmni hefyd yn hawlio eithriad rhag archwilio ariannol – gweler penodau 4 a 5).

Gallwch chi bellach ffeilio cyfrifon cryno wedi eu heithrio rhag archwilio ariannol drwy ddefnyddio’n gwasanaethau Software Filing neu WebFiling. Cyfeiriwch at ein gwefan www.companieshouse.gov.uk am ragor o wybodaeth.

Rhaid i gyfrifon cryno cwmni canolig ei faint gynnwys
  • y cyfrif cryno elw a cholled;
  • y fantolen lawn;
  • adroddiad arbennig gan archwilydd ariannol;
  • adroddiad y cyfarwyddwyr; a
  • nodiadau i’r cyfrifon.

Dylai adroddiad arbennig yr archwilydd ariannol ddweud bod gan y cwmni hawl, ym marn yr archwilydd, i gyflwyno cyfrifon cryno a bod y rheiny wedi eu paratoi’n briodol yn unol ag adran 246(5) neu (6) neu 246A(3) o Ddeddf Cwmnïau 1985, yn ôl y galw.

Rhaid i’r fantolen (ac adroddiad y cyfarwyddwyr lle bo hwnnw’n briodol) gynnwys datganiad i’r perwyl bod y cyfrifon wedi eu paratoi yn unol â darpariaethau arbennig Rhan VII o Ddeddf Cwmnïau 1985 gyda golwg ar gwmnïau bach neu ganolig eu maint, yn ôl y galw.

Cwmnïau Buddiant Cymunedol (BC)

Cofiwch: mae’n rhaid i gwmnïau BC sy’n manteisio ar yr eithriadau hyn baratoi a chyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau ‘adroddiad cwmni buddiant cymunedol’ o hyd, ynghyd â ffi o £15. Gweler cwestiwn 15, pennod 2.


4. Beth os byddai’r cwmni’n gymwys fel un bach neu ganolig ond am y ffaith ei fod yn rhan o grŵp y mae iddo aelodau sy’n gwmnïau cyhoeddus neu’n gwmnïau yn y sectorau rheoleiddiedig?

Ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu wedi 1 Ebrill 2005*, mae eithriadau arbennig ar gael i gwmnïau bach a chanolig sy’n perthyn i’r categori hwn.

  • Gall cwmnïau bach hepgor gwybodaeth arbennig o adroddiad y cyfarwyddwyr fel y cafodd hwnnw ei baratoi i’r cyfranddeiliaid (sef, y swm sydd i’w dalu fel buddran, arolwg busnes, datganiad falîs marchnad yr asedion sefydlog lle mae hwnnw’n sylweddol wahanol i swm y fantolen, datgeliadau amrywiol a’r rhan a chwaraeir gan weithwyr) a does dim angen i’r cwmni gyflwyno adroddiad y cyfarwyddwyr i Dŷ’r Cwmnïau.
  • Gall cwmnïau canolig hepgor gwybodaeth arbennig o’r arolwg busnes o fewn adroddiad y cyfarwyddwyr (sef, dadansoddiad yn defnyddio dangosyddion perfformiad allweddol mor bell ag y bo’r rheiny’n ymwneud â gwybodaeth anariannol).
(*Ar ôl eu gweithredu, cafodd y darpariaethau hyn eu hôl-ddyddio i fod yn gymwys hefyd i gyfrifon yn cwmpasu cyfnod yn dechrau rhwng 1 Ionawr 2005 a 1 Ebrill 2005 ac yn dod i ben ar neu wedi 1 Hydref 2005.)

5. Oes rheolau arbennig i grŵpiau bach a chanolig eu maint?

Oes, does dim angen i riant-gwmni baratoi cyfrifon grwp na'u hanfon at y Cofrestrydd os yw'r grwp yn un bach neu ganolig ei faint ac os nad yw'r un o'r cwmnïau dan ei adain: yn gwmni cyhoeddus, yn berson sydd â chaniatâd o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 i ddilyn gweithgarwch wedi ei reoleiddio, neu'n berson sy'n dilyn gweithgarwch yn y farchnad yswiriant.

I fod yn gymwys fel un bach, rhaid i grwp o gwmnïau fodloni o leiaf dau o'r amodau canlynol:

  • rhaid i'r trosiant busnes cyfanred fod yn £5.6 miliwn net (£6.72 miliwn gros) neu lai;
  • rhaid i gyfanswm cyfanred y mantolenni fod yn £2.8 miliwn net (£3.36 miliwn gros) neu lai;
  • rhaid i nifer cyfartalog cyfanred y gweithwyr fod yn 50 neu lai.
Sylwer: Mae’r trothwyon uchod ar gyfer rhyddhad cyfrifeg yn gymwys i flynyddoedd ariannol yn dod i ben ar neu wedi 30 Ionawr 2004. Ar gyfer blynyddoedd ariannol cynharach, i gael ei ystyried yn fach, mae’n rhaid i grŵp fodloni o leiaf dau o’r amodau canlynol:
  • rhaid i’r trosiant cyfanred fod yn £2.8 miliwn net (£3.36 miliwn gros) neu lai;
  • rhaid i gyfanswm cyfanred y mantolenni fod yn £1.4 miliwn net (neu’n £1.68 miliwn gros);
  • rhaid i nifer cyfartalog cyfanred y gweithwyr fod yn 50 neu lai

I fod yn gymwys fel un canolig, rhaid i grŵp fodloni o leiaf dau o’r amodau canlynol:

  • rhaid i’w drosiant busnes cyfanred fod yn £22.8 miliwn net (£27.36 miliwn gros) neu lai;
  • rhaid i gyfanswm cyfanred y mantolenni fod yn £11.4 miliwn net (£13.68 miliwn gros) neu lai;
  • rhaid i nifer cyfartalog cyfanred y gweithwyr fod yn 250 neu lai.
Sylwer: Mae’r trothwyon uchod ar gyfer rhyddhad cyfrifeg yn gymwys i flynyddoedd ariannol yn dod i ben ar neu wedi 30 Ionawr 2004. Ar gyfer blynyddoedd ariannol cynharach, i gael ei ystyried yn ganolig, mae’n rhaid i grŵp fodloni o leiaf lau o’r amodau canlynol:
  • rhaid i’r trosiant cyfanred fod yn £11.2 miliwn net (neu’n £13.44 miliwn gros);
  • rhaid i gyfanswm cyfanred y mantolenni fod yn £5.6 miliwn net (neu’n £6.72 miliwn gros);
  • rhaid i nifer cyfartalog cyfanred y gweithwyr fod yn 250 neu lai.


6. Beth os oes angen i gwmni bach neu ganolig baratoi cyfrifon grŵp?


Gall rhiant-gwmni bach sydd wedi paratoi cyfrifon unigol ar gyfer ei aelodau drwy ddilyn darpariaethau arbennig adran 246(2) neu (3) o Ddeddf Cwmnïau 1985, ddewis paratoi cyfrifon grŵp o dan ddarpariaethau arbennig adran 248A. Ond ni all grŵp bach ffeilio cyfrifon cryno yn Nhŷ’r Cwmnïau. Rhaid i gyfrifon grŵp sydd wedi eu paratoi o dan adran 248A gynnwys datganiad uwchben y llofnod ar y fantolen, yn cadarnhau eu bod wedi eu paratoi yn unol â darpariaethau arbennig Rhan VII o Ddeddf Cwmnïau 1985 gyda golwg ar gwmnïau bach.

Os bydd cwmni canolig ei faint yn penderfynu paratoi cyfrifon grŵp, rhaid i’r rheiny fod yn gyfrifon grŵp llawn.

Diwyg cyfrifon
Rhaid i ddiwyg y cyfrifon fod yn gyson ag Atodlenni perthnasol Deddf Cwmnïau 1985. Gwelir y darpariaethau sy'n gymwys i gwmnïau bach a chanolig eu maint yn Atodlenni 4, 5, 6, 8 ac 8A.

Ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu wedi 1 Ionawr 2005, fe all y cwmni ddewis paratoi cyfrifon grŵp yn unol â safonau cyfrifeg rhyngwladol. Rhaid i gyfrifon y rhiant-gwmni a phob un o’i is-ymgymeriadau gael eu paratoi yn ôl yr un fframwaith ar gyfer adroddiadau ariannol, ac eithrio i’r graddau bod rhesymau da dros beidio â gwneud.

7. Pa mor hir sydd gen i i gyflwyno cyfrifon i Dŷ'r Cwmnïau?

Mae'r un amser yn gymwys ag ar gyfer pob math arall o gyfrifon. Gosodir yr un cosbau am ffeilio hwyr. Gweler pennod 2.

Brig 
PENNOD 4
Eithrio cwmnïau bach iawn rhag archwilio ariannol


1. Pa eithriadau sydd ar gael?

Caiff rhai cwmnïau bach (gan gynnwys elusennau bach iawn) eu heithrio’n llwyr rhag archwilio ariannol os ydyn nhw’n gymwys ac am fanteisio ar y ddarpariaeth. Caiff rhai cwmnïau elusennol eu heithrio rhag archwilio ariannol ond rhaid iddyn nhw ddarparu adroddiad cyfrifydd ar y cyfrifon (eithrio rhannol). Aiff y bennod hon ymlaen i roi manylion pellach am sut i hawlio’r eithriadau.

2. Pa gwmnïau bach sy’n gymwys i’w heithrio rhag archwilio ariannol?

I fod yn gymwys i’w eithrio’n llwyr rhag archwilio ariannol, mae’n rhaid i’r cwmni

  • fod yn un bach (gweler pennod 3);
  • bod â throsiant busnes sydd heb fod yn fwy na £5.6 miliwn; a
  • bod â chyfanswm mantolen sydd heb fod dros £2.8 miliwn.
Seylwyer: Mae’r trothwyon uchod ar gyfer rhyddhad cyfrifeg yn gymwys i flynyddoedd ariannol yn dod i ben wedi 30 Mawrth 2004. Ar gyfer blynyddoedd ariannol cynharach, i gael ei ryddhau’n llwyr rhag archwilio ariannol, mae’n rhaid i gwmni:
  • fod yn gymwys fel un bach;
  • bod â throsiant sydd heb fod yn fwy na £1 miliwn; a
  • bod â chyfanswm mantolen sydd heb fod yn fwy na £1.4 miliwn.


Er mwyn i gwmni elusennol fod yn gymwys i'w eithrio'n llwyr rhag archwilio ariannol, rhaid iddo fodloni'r amodau ar gyfer cwmni bach (gweler pennod 3), rhaid i'w incwm gros beidio â bod yn fwy na £90,000 a rhaid i'w gyfanswm mantolen beidio â bod yn fwy na £2.8 miliwn (£1.4 miliwn ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dod i ben ar neu cyn 30 Mawrth 2004).

Mae cwmnïau elusennol sy'n rhai bach (gweler pennod 3)) ac sydd ag incwm gros rhwng £90,000 a £250,000 a chyfanswm mantolen heb fod yn fwy na £1.4 miliwn, yn gymwys i'w heithrio'n rhannol.

DS. Ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu wedi 27 Chwefror 2007, mae’n rhaid i gwmni elusennol sydd ag incwm gros rhwng £90,000 a £500,000 a chyfanswm mantolen o £2.8 miliwn neu lai drefnu adroddiad cyfrifydd.  Nid oes angen archwiliad proffesiynol nac adroddiad cyfrifydd ar gwmni elusennol sydd ag incwm gros o £90,000 neu lai, oni bai bod cyfanswm ei fantolen yn fwy na £2.8 miliwn.  Rhaid i gwmni elusennol sydd ag incwm gros o fwy na £500,000 neu gyfanswm mantolen o fwy na £2.8 miliwn drefnu archwiliad proffesiynol.

3. Ydy pob math o gwmni bach yn gymwys i’w eithrio?

Nac ydy. Rhaid cyflwyno cyfrifon archwiliedig i Dŷ’r Cwmnïau os yw’r cwmni’n perthyn i unrhyw un o’r categorïau canlynol:

(a)  Rhiant-gwmni neu isgwmni (onid oedd yn segur yn ystod y cyfnod pan fuodd yn isgwmni), ac eithrio lle mae’r grŵp:
  • mae’r grŵp yn gymwys fel grŵp bach, neu lle byddai’n gymwys pe bai pob corff corfforaethol o’i fewn yn gwmni; a
  • lle nad yw trosiant busnes y grŵp cyfan yn fwy na £5.6 miliwn net neu £6.72 miliwn gros; a
  • lle nad yw cyfanswm mantolenni cyfunol y grŵp yn fwy na £2.8 miliwn net (£3.36 miliwn gros).
Selwyr: Mae’r trothwyon uchod ar gyfer rhyddhau rhag archwilio ariannol yn gymwys i flynyddoedd ariannol yn dod i ben wedi 30 Mawrth 2004. Ar gyfer blynyddoedd ariannol cynharach, ni all rhiant-gwmni nac is-ymgymeriad (onid oedd yn segur dros y cyfnod y bu’n isgwmni) fod yn gymwys ond lle bo’r grŵp:
  • yn gymwys fel grŵp bach neu lle byddai’n gymwys pe bai pob corff corfforedig o fewn y grŵp yn gwmni; a
  • lle nad yw trosiant y grŵp cyfan yn fwy na £1 miliwn net (neu £1.2 miliwn gros); a
  • lle nad yw cyfanswm mantolenni cyfunol y grŵp yn fwy na £1.4 miliwn net (neu £1.68 miliwn gros).

(b) Cwmni cyfyngedig cyhoeddus, oni bai bod y cwmni’n segur – gweler pennod 5.

(c) Person sydd â chaniatâd o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 i ddilyn gweithgarwch wedi ei reoleiddio (ar wahân i gynrychiolydd penodedig y mae cwmpas ei benodiad/phenodiad wedi ei gyfyngu i weithgareddau sydd heb eu rheoleiddio - gweler isod).

Nid yw "gweithgarwch wedi ei reoleiddio" yn cynnwys:

  • trefnu contractau morgais rheoleiddiedig;
  • cynorthwyo gweinyddu a chyflawni contract yswiriant;
  • cynghori ynghylch contractau morgais wedi eu rheoleiddio; na
  • delio fel asiant, trefnu deliadau buddsoddi neu gynghori ynghylch buddsoddiadau - lle mae'r gweithgarwch yn ymwneud â buddsoddiadau perthnasol sydd heb eu seilio ar gontract.

(d) Cwmni sy'n dilyn gweithgarwch yn y farchnad yswiriant.

(e) Cynrychiolydd wedi ei b/phenodi o fewn ystyr ad. 39 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000.

(f) Cwmni cyfyngedig cyhoeddus oni fo'n un segur - gweler pennod 5.

(g) Corff cofrestr arbennig neu gymdeithas gyflogwyr o dan Ddeddf (Cydgyfnerthu) Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur 1992.

(h) Cwmni lle cafodd archwiliad ariannol ei fynnu gan aelod neu aelodau sy'n dal o leiaf 10% o werth nominal y cyfalaf cyfrannau a ddosbarthwyd neu sy'n dal 10% o unrhyw ddosbarth o gyfrannau; neu, yn achos cwmni wedi ei gyfyngu drwy warant, gan 10% o nifer ei aelodau. Dylai'r alwad am i'r cyfrifon gael eu harchwilio fod ar ffurf rhybudd ysgrifenedig i'r cwmni, wedi ei adneuo yn y swyddfa gofrestredig o leiaf mis cyn diwedd y flwyddyn ariannol dan sylw.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i rai cwmnïau rheoli fflatiau baratoi cyfrifon archwiliedig i gydymffurfio â thelerau eu prydles. Os byddwch chi’n amau, dylech geisio cyngor proffesiynol.


4. Beth sydd angen i gwmni a eithriwyd rhag archwilio ariannol ei anfon i Dŷ’r Cwmnïau?

Os yw’r cwmni’n gymwys (gweler cwestiynau 2 a 3), gellir cyflwyno i’r Cofrestrydd gyfrifon heb eu harchwilio ar ffurf mantolen gryno a nodiadau. Rhaid i’r fantolen gynnwys y datganiadau canlynol uwchben llofnod y cyfarwyddwr:

(a) Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar ... (dyddiad), yr oedd gan y cwmni hawl i gael ei eithrio o dan adran 249A(1) o Ddeddf Cwmnïau 1985. (Yn achos cwmnïau elusennol sy’n hawlio eithriad rhannol, cyfeirier at adran 249A(2)).

(b) Nid yw’r aelodau wedi mynnu gan y cwmni sicrhau archwiliad ariannol o dan adran 249B(2) o Ddeddf Cwmnïau 1985.

(c) Mae’r cyfarwyddwyr yn cydnabod eu cyfrifoldeb am:

i. sicrhau bod y cwmni’n cadw cofnodion cyfrifeg sy’n cydymffurfio ag adran 221; a

ii.  paratoi cyfrifon sy’n rhoi golwg wir a theg ar gyflwr y cwmni ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, ac ar ei elw neu ei golled am y flwyddyn ariannol, yn unol â gofynion adran 226, ac sydd fel arall yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf Cwmnïau ynglyn â chyfrifon, mor bell ag y bo’r rheiny’n berthnasol i’r cwmni.

(d) Paratowyd y cyfrifon yn unol â darpariaethau arbennig Rhan VII o Ddeddf Cwmnïau 1985 gyda golwg ar gwmnïau bach.

Os bydd y cwmni’n dewis, gall gyflwyno’r cyfrifon heb eu crynhoi fel y cawsan nhw eu paratoi ar gyfer ei aelodau. Rhaid i’r un datganiadau ymddangos ar y fantolen heb ei chrynhoi.

Cwmnïau Buddiant Cymunedol (BC)

Cofiwch: mae’n rhaid i gwmnïau BC sy’n manteisio ar yr eithriad hwn baratoi a chyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau ‘adroddiad cwmni buddiant cymunedol’ o hyd, ynghyd â ffi o £15. Gweler cwestiwn 15, pennod 1.

5. Mae fy nghwmni'n elusen sy'n hawlio eithrio rhannol - beth mae'n rhaid i adroddiad y cyfrifydd ei ddweud?

Rhaid i adroddiad y cyfrifydd ddweud:

(a) fod cyfrifon y cwmni ar gyfer y flwyddyn dan sylw yn cytuno â'r cofnodion cyfrifeg a gedwir gan y cwmni yn unol ag adran 221 o Ddeddf Cwmnïau 1985; a

(b) gyda golwg yn unig ar wybodaeth y cofnodion cyfrifeg ac ar y sail honno, fod y cyfrifon wedi eu llunio mewn ffordd sy'n gyson â darpariaethau'r Ddeddf fel a bennir yn isadran (6) o adran 249C, mor bell ag y bo'r rheiny'n berthnasol i'r cwmni; a

(c) gyda golwg yn unig ar wybodaeth y cofnodion cyfrifeg ac ar y sail honno, fod y cwmni'n bodloni gofynion adran 249A(4) neu (5) ar gyfer y flwyddyn ariannol dan sylw, ac na ddeuai o dan adran 249B(1)(a) i (f) unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn ariannol honno.

Rhaid i'r adroddiad ddangos enw a llofnod y cyfrifydd hysbysu.

6. Pwy gaiff fod yn gyfrifydd hysbysu?

Bydd cyfrifydd hysbysu naill ai:

  • yn unrhyw aelod o gorff a restrir isod, a'r aelod hwnnw â hawl, o dan reolau'r corff dan sylw, i ddilyn practis cyhoeddus ac yn gymwys i'w b/phenodi'n gyfrifydd hysbysu; neu
  • yn unrhyw berson (p'un a fo'n aelod o gorff o'r fath neu beidio) sy'n gymwys i gael ei b/phenodi'n archwilydd ariannol i gwmni o dan reolau'r corff dan sylw.
Y cyrff y cyfeiriwyd atyn nhw uchod yw:

(a) Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr;
(b) Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban;
(c) Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Iwerddon;
(d) Cymdeithas y Cyfrifwyr Siartredig Ardystiedig;
(e) Cymdeithas y Cyfrifwyr Cyhoeddus Awdurdodedig;
(f) Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifeg;
(g) Cymdeithas y Cyfrifwyr Rhyngwladol;
(h) Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli.
(i) Sefydliad yr Ysgrifenyddion a’r Gweinyddwyr Siartredig (Mae’r ychwanegiad newydd yn gymwys i flynyddoedd ariannol yn dod i ben ar neu wedi 30 Ionawr 2004).

Gall unigolyn, corff corfforaethol neu gwmni gael ei b/phenodi'n gyfrifydd hysbysu. Gellir penodi partneriaeth nad yw'n berson cyfreithiol o dan adran 26 o Ddeddf Cwmnïau 1989.

Rhaid i'r cyfrifydd hysbysu fod yn annibynnol a chwrdd ag amodau adran 27 o Ddeddf Cwmnïau 1989. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, na all fod yn swyddog nac yn weithiwr i'r cwmni.

7. Pa mor hir sydd gen i i gyflwyno cyfrifon i Dŷ'r Cwmnïau?

Mae'r un amser yn gymwys ag ar gyfer pob math arall o gyfrifon. Gosodir yr un cosbau am ffeilio hwyr. Gweler pennod 2.

8. Oes rhaid i gwmni a eithriwyd rhag archwilio ariannol anfon cyfrifon at ei aelodau o hyd?

Oes. Yn unol â Deddf Cwmnïau 1985, mae gan aelodau hawl i dderbyn neu fynnu copïau o gyfrifon a'r adroddiadau cysylltiedig.

Bydd banciau a rheolwyr credyd yn dibynnu ar yr wybodaeth sydd ar gael o Dŷ'r Cwmnïau i asesu dibynadwyedd credyd y cwmni ac ar hyn o bryd byddan nhw'n ceisio sicrwydd archwiliad annibynnol. Os yw'n gymwys i'w eithrio rhag archwilio ariannol, bydd eisiau i'r cwmni benderfynu a yw cyfrifon heb eu harchwilio'n ffurfiol yn drefn addas i'w amgylchiadau ei hun.

9. Oes angen cyfrifon blynyddol os nad yw’r cwmni’n masnachu?

Rhaid i bob cwmni cyfyngedig, p’un a fo’n masnachu neu beidio, gyflwyno cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau. Ond caiff cwmni cyfyngedig hawlio cael ei eithrio rhag archwiliad ariannol fel ‘cwmni segur’ lle na fuodd yn masnachu yn ystod y flwyddyn ariannol, ac os bydd yn bodloni rhai meini prawf eraill (gweler pennod 5).

Does dim angen i gwmnïau segur benodi archwilwyr ariannol ac fe allan nhw gyflwyno cyfrifon blynyddol symlach i Dŷ’r Cwmnïau. Am ragor o wybodaeth ynghylch statws segur, gweler pennod 5.

10. Mae erthyglau cymdeithasiad fy nghwmni'n dweud bod rhaid i'r cwmni fod ag archwilydd ariannol ond fe gaen ni ein heithrio fel arall. Beth allwn ei wneud?

Gall cwmnïau benderfynu diwygio'u herthyglau cymdeithasiad i sicrhau nad yw'r rheiny'n eu hatal rhag manteisio ar yr eithriadau rhag archwilio ariannol. Mae cwmnïau sydd ag erthyglau wedi eu seilio ar erthyglau enghreifftiol Tabl A o Ddeddf Cwmnïau 1985 yn annhebygol o gael problemau o'r fath. Ond mae fersiwn 1948 o Dabl A (a darpariaethau cynharach tebyg) yn gosod rheidrwydd i benodi archwilwyr ariannol. Hwyrach yr hoffai cwmnïau sydd ag erthyglau o'r fath geisio cyngor proffesiynol ynghylch newidiadau posibl.

Brig 
PENNOD 5
Eithrio cwmnïau segur rhag archwilio ariannol


1. Pa eithriadau sydd ar gael?

Gall cwmnïau segur hawlio cael eu heithrio rhag archwilio ariannol. Dim ond mantolen gryno a nodiadau y mae angen iddyn nhw eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau. Does dim rhaid cynnwys cyfrif elw a cholled nac adroddiad cyfarwyddwyr gyda chyfrifon cwmnïau segur wrth eu ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau, ond mae’n rhaid darparu adroddiad cyfarwyddwyr ar gyfer yr aelodau.

2. Beth yw cwmni segur?

Mae cwmni’n segur os na chafodd unrhyw ‘drafodion cyfrifeg arwyddocaol’ yn ystod y cyfnod.

Wrth ystyried a yw cwmni’n segur, gellir anwybyddu’r trafodion ariannol a ganlyn:

  • taliadau am gyfrannau wedi eu derbyn gan danysgrifwyr i’r memorandwm cymdeithasiad;
  • ffioedd wedi eu talu i’r Cofrestrydd Cwmnïau am newid enw’r cwmni, ailgofrestru’r cwmni a ffeilio ffurflenni blynyddol; a
  • thaliadau mewn cysylltiad â chosbau sifil wedi eu gosod gan y Cofrestrydd Cwmnïau am gyflwyno cyfrifon i’r Cofrestrydd ar ôl yr amser statudol a ganiateir ar gyfer ffeilio.

Ni all cwmni fanteisio ar eithriad rhag archwilio ariannol fel cwmni segur os yw:

(a) yn berson sydd â chaniatâd o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 i ddilyn gweithgarwch wedi ei reoleiddio;

Sylwer: Ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dod i ben ar neu wedi 31 Rhagfyr 2006, mae (a) yn amherthnasol bellach. Yn lle hynny, ni chaiff cwmni ffeilio cyfrifon segur os yw’n gwmni yswiriant a gafodd ei awdurdodi, yn gwmni bancio, yn ddosbarthydd e-arian,  I yn gwmni buddsoddi o dan y Gyfarwyddeb Marchnadoedd Offerynnau Cyllid (MIFID)neu’n gwmni rheoli sy’n perthyn i UCITS.

(b) yn berson sy’n dilyn gweithgarwch yn y farchnad yswiriant.

Os nad yw’r cwmni’n segur ers ei gorffori, ond iddo fynd yn segur wedyn, gall fanteisio ar yr eithriadau ar yr amod:

  • ei fod yn segur ers diwedd y flwyddyn ariannol flaenorol; ac
  • nad oes rhaid iddo baratoi cyfrifon grŵp ar gyfer y flwyddyn honno; a hefyd
  • ei fod yn gymwys fel ‘cwmni bach’ ar gyfer y flwyddyn honno (gweler pennod 3), neu y byddai wedi bod yn gymwys fel un bach oni bai am y ffaith ei fod:
  • yn gwmni cyhoeddus; neu
  • aelod o grwp o gwmniau sy’n cynnwys
  • cwmni cyhoeddus;
  • person (ar wahân i gwmni bach [ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dod i ben ar neu wedi 31 Rhagfyr 2006]) sydd â chaniatâd o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 i ddilyn gweithgarwch wedi ei reoleiddio;
  • cwmni bach sy’n gwmni yswiriant a gafodd ei awdurdodi, yn gwmni bancio, yn ddosbarthydd e-arian, yn gwmni buddsoddi o dan y Gyfarwyddeb Marchnadoedd Offerynnau Cyllid (MIFID) neu’n gwmni rheoli sy’n perthyn i UCITS (cymwys yn unig i flynyddoedd ariannol yn dod i ben ar neu wedi 31 Rhagfyr 2006);
  • neu berson sy’n dilyn gweithgarwch yn y farchnad yswiriant.

3. Pa wybodaeth y mae'n rhaid i gyfrifon cwmnïau segur ei chynnwys?

Does dim angen i gyfrifon segur a ffeilir yn Nhŷ'r Cwmnïau gynnwys cyfrif elw a cholled nac adroddiad cyfarwyddwyr. Gwelir mantolenni enghreifftiol ar ddiwedd y bennod hon.

Mae cyfrifon cwmnïau segur sydd heb eu harchwilio'n ffurfiol yn llawer symlach na chyfrifon cwmni sy'n masnachu, ond mae'n rhaid iddyn nhw ddangos:

  • mantolen gryno yn cynnwys datganiadau uwchben llofnod y cyfarwyddwr i'r perwyl bod y cwmni'n segur drwy gydol y cyfnod cyfrifeg. Gwelir testun llawn y datganiadau sydd eisiau yng nghwestiwn 4;
  • ffigurau unrhyw flwyddyn flaenorol er mwyn eu cymharu - er na fo eitemau incwm na gwariant ar gyfer y flwyddyn gyfredol;
  • rhai nodiadau i'r fantolen - gwelir rhestr lawn o'r eitemau sydd i'w bodloni ar ddiwedd y bennod hon.

Cwmnïau Buddiant Cymunedol (BC)
Cofiwch: mae'n rhaid i gwmnïau BC sy'n manteisio ar yr eithriad hwn baratoi a chyflwyno i Dy'r Cwmnïau 'adroddiad cwmni buddiant cymunedol' o hyd, ynghyd â ffi o £15. Gweler cwestiwn 15, pennod 1.

4. Pa ddatganiadau sydd eisiau ar y fantolen?

Mae’n rhaid i’r datganiadau canlynol ymddangos uwchben llofnod y cyfarwyddwr:

(a) Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar ... (dyddiad), yr oedd gan y cwmni hawl i gael ei eithrio o dan adran 249AA(1) o Ddeddf Cwmnïau 1985.

(b) Nid yw’r aelodau wedi mynnu gan y cwmni sicrhau archwiliad ariannol o dan adran 249B(2) o Ddeddf Cwmnïau 1985.

(c) Mae’r cyfarwyddwyr yn cydnabod eu cyfrifoldeb am:
  • sicrhau bod y cwmni’n cadw cofnodion cyfrifeg sy’n cydymffurfio ag adran 221; a
  • pharatoi cyfrifon sy’n rhoi golwg wir a theg ar gyflwr y cwmni ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, ac ar ei elw neu ei golled am y flwyddyn ariannol, yn unol â gofynion adran 226, ac sydd fel arall yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf Cwmnïau ynglyn â chyfrifon, mor bell ag y bo’r rheiny’n berthnasol i’r cwmni.
Os bydd y cwmni’n dewis, gall gyflwyno’r cyfrifon heb eu crynhoi fel y cawsan nhw eu paratoi ar gyfer ei aelodau. Rhaid i’r un datganiadau ymddangos ar y fantolen heb ei chrynhoi.


5. Alla i gael ffurflen safonol ar gyfer cyfrifon cwmni segur gan Dŷ’r Cwmnïau?

Gallwch, er nad oes rhaid ichi ei defnyddio. Mae Ffurflen DCA, sydd ar gael gan Dŷ’r Cwmnïau, wedi ei bwriadu i gwmnïau segur na fuon nhw’n masnachu ers eu corffori. Mae’r ffurflen hon yn anaddas i gwmnïau a aeth yn segur wedi masnachu. Fodd bynnag, gwelir mantolenni enghreifftiol a nodiadau ar gyfer pob math o gwmni segur ar ddiwedd y bennod hon.

6. Pa mor hir sydd gen i i gyflwyno cyfrifon cwmni segur i Dŷ’r Cwmnïau?

Mae’r un amser yn gymwys ag ar gyfer pob math arall o gyfrifon. Gosodir yr un cosbau am ffeilio hwyr. Gweler pennod 2.

7. Beth sy’n digwydd os bydd fy nghwmni’n ailddechrau masnachu?

Bydd unrhyw gwmni yn peidio â chael ei eithrio rhag archwiliad ariannol fel cwmni segur os bydd:
  • yn dechrau gweithgarwch busnes neu weithgarwch masnachu yn ystod y cyfnod ariannol; neu
  • heb fod yn gymwys mwyach am ryw reswm arall.

Pe digwyddai’r naill neu’r llall o’r rhain, byddai angen cyfrifon llawn ar gyfer y flwyddyn ariannol pryd y peidiodd y cwmni â chael ei eithrio ac efallai y byddai eisiau i’r cyfarwyddwyr benodi a rchwilwyr ariannol i’r cwmni. Mae’n bosibl y byddai’r cwmni’n gymwys i gael ei eithrio fel cwmni o faint canolig neu fach. Mae rhagor o wybodaeth am y gofynion archwilio i gwmnïau ac am eithrio cwmnïau bach rhag archwilio ariannol i’w chael ym mhenodau 3 a 4 o’r llyfryn hwn.

Mantolenni enghreifftiol i’w cyflwyno i’r Cofrestrydd Cwmnïau gan gwmnïau segur

Mae’r patrymau ar y tudalennau canlynol yn ganllaw i’r wybodaeth y mae angen ichi ei chynnwys (oni bai bod y cwmni wedi dewis paratoi cyfrifon yn unol â safonau cyfrifeg rhyngwladol ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu wedi 1 Ionawr 2005). Bwriedir i’r patrymau hyn adlewyrchu’r holl asedion a rhwymedigaethau posibl a all fod gan y cwmni, ond dim ond os oes swm ar wahân i ddim byd i’w gofnodi y mae angen ichi gynnwys pennawd penodol.

Fel eglureb yn unig y bwriedir y mantolenni enghreifftiol hyn. Ni ddylid mo'u hatgynhyrchu a'u defnyddio i'w cyflwyno i Dy'r Cwmnïau.

Os bu'r cwmni'n masnachu mewn blwyddyn ariannol flaenorol, cadwch mewn cof y bydd mantolen eich blwyddyn flaenorol yn dangos sefyllfa ariannol y cwmni fel yr oedd ar y pryd. Os na fu trafodion cyfrifeg ers hynny, hwyrach na fyddwch chi ond yn cario ymlaen ffigurau'r llynedd.

Ceir ddau ddiwyg – wedi eu marcio A a B – y gellir dilyn y naill neu’r llall ohonyn nhw. Mae cynnwys y ddau ddiwyg yr un fath: dim ond cyflwyno penawdau’r fantolen mewn trefn wahanol y maen nhw. Mae’n rhaid i’r fantolen gydbwyso:

  • Dan ddiwyg A, rhaid i’r asedion net fod yn gyfartal â chyfanred y cyfalaf a’r cronfeydd wrth gefn.
  • Dan ddiwyg B, rhaid i’r asedion fod yn gyfartal â’r rhwymedigaethau (gan gynnwys y cyfalaf a’r cronfeydd wrth gefn fel eitemau mantoli).

Rhaid i bob cofnod fod yn swm mewn ffigurau (nid geiriau) neu’n ‘0.00’. Ni fydd Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn unrhyw ddogfen sy’n cofnodi ‘Dim’ lle dylai ffigur ymddangos.

Rhaid i ddyddiad diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol a’r flwyddyn flaenorol fod yn bennawd uwchben pob colofn o ffigurau.

Ar gyfer y ddau ddiwyg, mae'r materion sydd i'w cynnwys yn y nodiadau i'r fantolen, lle bo'r rheiny'n briodol, ar ddiwedd pob enghraifft isod.

Wrth baratoi'ch cyfrifon, byddwch cystal â dilyn canllawiau cwestiwn 13 o bennod 2.

MANTOLEN CWMNI SEGUR DIWYG A

Rhif y Cwmni: ............................

Enw'r Cwmni: ..........................................

MANTOLEN AR ..../..../.......



(a) Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar ... (dyddiad), yr oedd gan y cwmni hawl i gael ei eithrio o dan adran 249AA(1) o Ddeddf Cwmnïau 1985.

(b) Nid yw’r aelodau wedi mynnu gan y cwmni sicrhau archwiliad ariannol o dan adran 249B(2) o Ddeddf Cwmnïau 1985.

(c) Mae’r cyfarwyddwyr yn cydnabod eu cyfrifoldeb am:

i. sicrhau bod y cwmni’n cadw cofnodion cyfrifeg sy’n cydymffurfio ag adran 221; a
ii. paratoi cyfrifon sy’n rhoi golwg wir a theg ar gyflwr y cwmni ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, ac ar ei elw neu ei golled am y flwyddyn ariannol, yn unol â gofynion adran 226, ac sydd fel arall yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf Cwmnïau ynglŷn â chyfrifon, mor bell ag y bo’r rheiny’n berthnasol i’r cwmni.

Cymeradwywyd gan fwrdd y cyfarwyddwyr ar ..............(dyddiad)

a

llofnodwyd ar eu rhan gan ......................(CYFARWYDDWR


MANTOLEN CWMNI SEGUR DIWYG B

Rhif y Cwmni: ................................

Enw'r Cwmni: .............................................

MANTOLEN AR ..


Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar ... (dyddiad), yr oedd gan y cwmni hawl i gael ei eithrio o dan adran 249AA(1) o Ddeddf Cwmnïau 1985.
(a) (b) Nid yw'r aelodau wedi mynnu gan y cwmni sicrhau archwiliad ariannol o dan adran 249B(2) o Ddeddf Cwmnïau 1985.

(c) Mae'r cyfarwyddwyr yn cydnabod eu cyfrifoldeb am:

i. sicrhau bod y cwmni'n cadw cofnodion cyfrifeg sy'n cydymffurfio ag adran 221; a
ii. paratoi cyfrifon sy'n rhoi golwg wir a theg ar gyflwr y cwmni ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, ac ar ei elw neu ei golled am y flwyddyn ariannol, yn unol â gofynion adran 226, ac sydd fel arall yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf Cwmnïau ynglyn â chyfrifon, mor bell ag y bo'r rheiny'n berthnasol i'r cwmni.

Cymeradwywyd gan fwrdd y cyfarwyddwyr ar ..............(dyddiad)

a

llofnodwyd ar eu rhan gan .......... (Cyfarwyddwr)

Nodiadau i fantolen cwmni segur

Rhaid rhoi'r wybodaeth ganlynol fel nodiadau i'r fantolen:

  • polisïau cyfrifeg, gan gynnwys rhai'n ymwneud â dibrisiant a gostyngiad gwerth asedion;
  • cyfalaf cyfrannau wedi ei awdurdodi;
  • os clustnodwyd cyfrannau o fwy nag un dosbarth, nifer a gwerth nominal cyfanred y cyfrannau o dan bob dosbarth a glustnodwyd;
  • gwybodaeth am unrhyw gyfrannau adenilladwy a glustnodwyd;
  • gwybodaeth am unrhyw gyfrannau a glustnodwyd yn ystod y flwyddyn ariannol;
  • gwybodaeth am asedion sefydlog;
  • manylion am ddyledrwydd;
  • y sail ar gyfer troi i arian sterling symiau a gyfleid yn wreiddiol yn arian breiniol gwledydd tramor;
  • gyda golwg ar bob eitem uchod (ar wahân i asedion sefydlog), y symiau cyfatebol ar gyfer y flwyddyn cynt;
  • manylion unrhyw is-ymgymeriadau a'r cyfrannau a ddelir ynddyn nhw, ynghyd â'r rheswm pam nad oes angen cyfrifon grŵp;
  • lle bo'r cwmni wedi gweithredu'n asiant dros unrhyw berson, ei fod wedi gweithredu felly; a
  • gwybodaeth am asedion ariannol sefydlog y gallesid fod wedi eu cynnwys yn ôl gwerth teg ond a gynhwyswyd yn y cyfrifon uwchlaw eu gwerth teg, a lle na wnaed darpariaeth ar gyfer gostyngiad eu gwerth (yn gymwys i flynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu wedi 1 Ionawr 2005).

Yn ychwanegol, mae'n bosibl y bydd rhaid rhoi'r wybodaeth ganlynol am is-ymgymeriadau:

  • manylion unrhyw ymgymeriadau y mae gan y cwmni 'ddaliant sylweddol' ynddyn nhw - er enghraifft, enw a chyfeiriad y busnes;
  • enw rhiant-gwmni eitha'r cwmni, ac (os yw'n hysbys) gwlad ei gorffori;
  • enwau rhiant-gwmnïau cyfryngol arbennig a gwledydd eu corffori neu (os nad ydyn nhw wedi eu corffori) cyfeiriadau eu prif fannau busnes; a
  • manylion am rai benthyciadau, gwarantau a thrafodion tebyg eraill gan y cwmni o blaid cyfarwyddwyr ac eraill.
Brig 
PENNOD 6
Cyfrifon partneriaeth


O dan Reoliadau (Cyfrifon) Partneriaethau a Chwmnïau Anghyfyngedig 1993, mae’n ofynnol i gwmnïau sy’n aelodau o ‘bartneriaethau cymwys’ baratoi cyfrifon y bartneriaeth a’u hatodi wrth eu cyfrifon eu hun.

1. Beth yw partneriaeth gymwys?

Mae partneriaeth gymwys yn un sydd wedi ei rheoli gan gyfraith unrhyw ran o Brydain Fawr os bydd pob un o’r aelodau:

(i) yn gwmni cyfyngedig; neu,

(ii) yn gwmni anghyfyngedig, neu’n gwmni Albanaidd, y mae pob un o’i aelodau yntau’n gwmni cyfyngedig.

Nodyn
(a) Mae unrhyw gyfeiriad at bartneriaeth gymwys mewn perthynas â phartneriaeth gyfyngedig yn cyfeirio at y partneriaid cyffredinol yn unig.

(b) Mae unrhyw gyfeiriad at gwmni cyfyngedig, cwmni anghyfyngedig, cwmni Albanaidd neu bartneriaeth arall yn cynnwys unrhyw ymgymeriad tebyg a ffurfiwyd o dan gyfraith gwladwriaeth arall.

Bydd y rheoliadau partneriaeth yn gymwys i’r mwyafrif o bartneriaethau cyfyngedig sydd â chwmnïau cyfyngedig yn bartneriaid cyffredinol iddyn nhw ac sydd wedi eu cofrestru o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907, gan fod rhaid i bartneriaethau felly fod â’u prif le busnes ym Mhrydain Fawr wrth gofrestru.


2. Pa gyfrifon y mae’n rhaid i’r bartneriaeth eu paratoi?

Mae’n rhaid i’r bartneriaeth baratoi cyfrifon a threfnu iddyn nhw gael eu harchwilio’n ffurfiol fel pe bai’n gwmni wedi ei lunio o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 er mwyn cydymffurfio â Rhan VII o’r Ddeddf honno. Diwygiwyd y Ddeddf i roi ystyriaeth i amgylchiadau partneriaethau cymwys. Fodd bynnag, gall y bartneriaeth fanteisio ar reoliad 7 sy’n caniatáu delio â chyfrifon ar sail gyfunol o fewn cyfrifon grŵp wedi eu paratoi naill ai:
  • gan aelod o'r bartneriaeth a gafodd ei sefydlu o dan gyfraith gwlad sy'n perthyn i Ardal Economaidd Ewrop (AEE); neu
  • gan riant-ymgymeriad i aelod o'r fath.
Mewn enghreifftiau felly, rhaid paratoi’r cyfrifon ar sail gyfunol o dan gyfraith y wladwriaeth sy’n perthyn i AEE yn unol â’r Seithfed Gyfarwyddeb ar Gyfraith Gwmnïau. Rhaid cynnwys nodyn yn dweud i’r cyfrifon gael eu paratoi i fanteisio ar y rheoliad hwn.

3. Ar gyfer pa gyfnod y mae’n rhaid llunio’r cyfrifon partneriaeth?

Gall y cyfrifon fodloni unrhyw gyfnod hyd at 18 mis y gellir ei bennu yng nghytundeb y bartneriaeth. Os na phennir y cyfnod yn y cytundeb, rhaid llunio’r cyfrifon partneriaeth ar gyfer pob cyfnod o 12 mis, gan ddiweddu ar 31 Mawrth ym mhob blwyddyn.

4. Pryd mae'n rhaid paratoi'r cyfrifon?

Rhaid paratoi'r cyfrifon partneriaeth o fewn cyfnod o 10 mis wedi diwedd y flwyddyn ariannol.

5. Pryd mae'n rhaid cyflwyno neu gyhoeddi'r cyfrifon
Lle paratoir cyfrifon partneriaeth, mae’n rhaid eu hatodi wrth gyfrifon nesaf pob partner sy’n gwmni cyfyngedig a’u cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau. Rhaid i gwmni cyfyngedig sy’n aelod o bartneriaeth gymwys roi i unrhyw berson yn unol â’i g/chais:
  • enw pob partner y mae'n ofynnol iddo draddodi copïau o'r cyfrifon partneriaeth i'r Cofrestrydd; ac
  • enw pob partner sydd wedi ei gorffori mewn gwladwriaeth arall o fewn AEE ac y mae'n ofynnol iddo gyhoeddi'r cyfrifon bartneriaeth yn y wladwriaeth honno.
Lle bo partneriaeth gymwys â'i phrif swyddfa ym Mhrydain Fawr a lle bo pob un o'i haelodau:
  • yn ymgymeriad tebyg i gwmni cyfyngedig wedi ei gorffori y tu allan i'r Deyrnas Unedig neu un o wladwriaethau eraill AEE; neu
  • yn ymgymeriad tebyg i gwmni anghyfyngedig neu bartneriaeth wedi ei ffurfio o dan gyfraith gwlad o'r fath, a phob un o'i aelodau yntau'n ymgymeriad cyfyngedig neu gyffelyb: yna
bydd rhaid i'r bartneriaeth:

a) drefnu i gyfrifon diweddara'r bartneriaeth fod ar gael i'w hadolygu gan unrhyw berson, yn ddi-dâl, yn ystod oriau busnes ym mhrif swyddfa'r bartneriaeth, gyda chyfieithiad ardystiedig os nad yw'r gwreiddiol yn Saesneg; a

bydd rhaid i bob aelod o'r bartneriaeth:

b) gyflenwi i unrhyw berson, yn unol â'i g/chais, gopi o gyfrifon diweddara'r bartneriaeth (ynghyd â chyfieithiad os nad yw'r gwreiddiol yn Saesneg). Gellir codi ffi i fodloni cost weinyddol darparu'r copi, ond dim mwy.

6. Oes unrhyw eithrio rhag y rheolau cyhoeddi?

Gall aelodau partneriaeth gymwys gael eu heithrio rhag y rheolau cyhoeddi uchod lle cyfunir cyfrifon y bartneriaeth fel cyfrifon grŵp wedi eu paratoi gan:
  • aelod o'r bartneriaeth a ffurfiwyd o dan gyfraith gwladwriaeth o fewn AEE; neu
  • riant-ymgymeriad i aelod a sefydlwyd felly.
Yn yr enghraifft hon, bydd rhaid i’r cyfrifon cyfunol gael eu paratoi a’u harchwilio’n ffurfiol o dan gyfraith y wladwriaeth aelodol a rhaid i nodiadau i’r cyfrifon ddweud y manteisiwyd ar y rheoliad hwn. Lle manteisir ar yr eithriad dan sylw, bydd rhaid i unrhyw aelod o’r bartneriaeth, pan ofynnir iddo wneud, ddatgelu enw o leiaf un aelod neu riant-ymgymeriad y mae cyfrifon y bartneriaeth wedi eu cyfuno o fewn ei gyfrifon grŵp.

7. Oes unrhyw gosb am fethu â chydymffurfio?

Oes. Bydd pob aelod o bartneriaeth gymwys neu bob cyfarwyddwr i gwmni sy'n bartner yn agored i gael ei (h)erlyn a'i (d)dirwyo hyd at £5,000.

Brig 
PENNOD 7
Gwybodaeth, cyngor a chanllawiau pellach


1. Ble galla i gael ffurflenni a llyfrynnau canllaw?

Mae hwn yn un o gyfres o arweiniad gan Dŷ’r Cwmnïau sy’n rhoi canllaw syml i’r Ddeddf Cwmnïau.

Os cawn gais, gallwn hefyd ddarparu canllawiau ar ddeddfwriaeth gysylltiedig. Mae'r teitlau'n cynnwys:  ‘Oversea Companies’ (GBO1), ‘Deddf Partneriaethau Cyfyngedig (GB02), ‘Deddf Enllib a Chofrestru Papurau Newydd  ’ (GB03), ‘Grwpiadau Buddiant Economaidd Ewropeaidd ’ (GB04), ‘Defnyddio'r Gymraeg  ’ (GB05), ‘The European Company: Societas Europaea (SE)’ (GB06) a ‘Cross Borders Mergers’ (GBO7).

Mae ffurflenni statudol a llyfrynnau canllaw ar gael, yn rhad ac am ddim, gan Dŷ’r Cwmnïau. Y ffordd gyflymaf i’w sicrhau yw drwy’r wefan hon. Neu fe allwch chi ffonio Tŷ’r Cwmnïau ar 0870 3333636.

Gellir hefyd gael ffurflenni gan ddogfenwyr cyfreithiol, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid llunio cwmnïau – cyfeiriadau mewn llyfrau ffôn ar gyfer busnesau.

2. Sut dylwn i anfon gwybodaeth at y Cofrestrydd?

Y ffordd sicraf a mwyaf diogel o anfon gwybodaeth statudol i Dŷ’r Cwmnïau yw drwy ddefnyddio’n gwasanaethau ffeilio ar-lein. Am ragor o wybodaeth a manylion cofrestru, ymwelwch â’n gwefan www.companieshouse.gov.uk

Gallwch chi gyflwyno dogfennau â llaw (yn bersonol neu drwy negesydd), gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa, dros wyliau banc a thros y penwythnos i Gaerdydd, Llundain a Chaeredin.

Gallwch chi hefyd gyflwyno dogfennau drwy'r post, drwy’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) neu drwy'r Post Cyfreithiol (LP) yn yr Alban.

Os anfonwch chi ddogfennau drwy'r post, byddwch cystal â'u cyfeirio at:

Ar gyfer cwmnïau wedi eu corfforiyng Nghymru a Lloegr: Ar gyfer cwmnïau wedi eu corfforiyn yr Alban:
Y Cofrestrydd Cwmnïau
Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ

DX33050 Caerdydd 1

The Registrar of Companies
Companies House
37 Castle Terrace
Edinburgh EH1 2EB

DX ED235 Edinburgh 1

LP4 Edinburgh 2

Wrth ddefnyddio’n gwasanaethau ffeilio ar-lein, cewch e-bost awtomatig yn cadarnhau’r dod i law. Os ydych yn anfon dogfennau drwy'r post, drwy negesydd neu drwy’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) a'ch bod yn dymuno cael derbynneb, bydd Tŷ'r Cwmnïau yn rhoi nodyn cydnabod os amgaewch gopi o'ch llythyr eglurhaol gydag amlen stampiedig ac arni eich cyfeiriad dychwelyd. Bydd y côd bar a roddwn ar eich llythyr yn cyfleu'r dyddiad dod i law ac fe ddychwelwn y copi yn yr amlen a ddarparwch.

Sylwer: nid yw cydnabyddiaeth dod i law yn golygu bod dogfen wedi ei derbyn i'w chofrestru yn Nhŷ'r Cwmnïau.
Sylwer: Nid yw Tŷ'r Cwmnïau yn derbyn cyfrifon na dogfennau statudol eraill dros beiriant ffacs.

3. Alla i ffeilio dogfennau mewn ieithoedd eraill?

At ei gilydd, mae’n rhaid i ddogfennau a anfonir at y Cofrestrydd gael eu ffeilio yn Saesneg. Ond gall dogfennau sy’n ymwneud â chwmnïau yng Nghymru gael eu llunio a’u cyflwyno yn Gymraeg.

O 1 Ionawr 2007 ymlaen, caiff cwmnïau gyflwyno’r dogfennau canlynol mewn ieithoedd eraill os anfonir cyfieithiad ardystiedig i’r Saesneg gyda’r ddogfen:

  • Penderfyniadau a chytundebau’n effeithio ar gyfansoddiad cwmni
  • Contractau’n clustnodi cyfrannau am gydnabyddiaeth nad yw ar ffurf arian parod
  • Ar gyfer cwmnïau sydd wedi eu cynnwys yng nghyfrifon grwpiau mwy o fewn yr AEE neu’r tu allan, cyfrifon y grŵp ac adroddiad ariannol y rhiant-ymgymeriad
  • Offerynnau arwystl (neu gopïau o offerynnau arwystl)
  • O 1 Ionawr 2007 ymlaen, caiff cwmnïau ffeilio hefyd gyfieithiadau ardystiedig gwirfoddol o unrhyw ddogfen, gan ddibynnu ar ofynion datgelu’r Gyfarwyddeb. Mae hyn yn cynnwys:
  • Dogfennau cyfansoddiadol megis y memorandwm a’r erthyglau cymdeithasiad
  • Penodiadau cyfarwyddwyr, newidiadau i’w manylion neu ymddiswyddiadau
  • Cyfrifon, adroddiadau a ffurflenni blynyddol
  • Gohebiaeth yn rhoi gwybod am newid swyddfa gofrestredig y cwmni
  • Dogfennau dirwyn i ben
  • Dogfennau cyfalaf cyfrannau (cwmnïau cyhoeddus yn unig)
  • Dogfennau’n ymwneud ag uno a rhannu (cwmnïau cyhoeddus yn unig)
  • Dogfennau’n ymwneud â chwmnïau tramor
Rhaid i’r cyfieithiad gwirfoddol ymwneud â dogfen a gafodd ei chyflwyno i’r Cofrestrydd ar neu wedi 1 Ionawr 2007. Dim ond yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd y gellir ffeilio cyfieithiadau gwirfoddol a rhaid anfon yr un pryd Ffurflen 1106.

Brig

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
 
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies