Cliciwch yma i weld fersiwn Saesneg y Llyfryn Canllaw hwn (gan agor mewn ffenestr arall)
Medi 2008 - Fersiwn 9 - Fel yr addaswyd gan Ddeddf Cwmnïau 2006
Rhaid bod yn ymwybodol o’r canlynol wrth ddarllen y nodiadau canllaw hyn:
Mae rhai (ond nid y cyfan) o ddarpariaethau Deddf Cwmnïau 2006 wedi dod i rym. Gan hynny, mae rhai o ddarpariaethau Deddf Cwmnïau 1985 yn dal yn berthnasol. Rydym wedi ceisio gwneud yn glir drwy’r holl nodiadau hyn, gymaint â phosib, pa Ddeddf sy’n berthnasol. Os hoffech chi wybod pa ddarpariaethau yn y Deddfau priodol sydd mewn grym, galwch heibio i’n gwefan www.companieshouse.gov.uk. Mae dolen ar ein gwefan hefyd i wefan BERR (Yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio) www.berr.gov.uk/bbf/co-act-2006/index.html, lle gallwch weld rhagor o wybodaeth. Mae rhai darpariaethau yn y Ddeddf newydd yn amodol ar drefniadau trosiannol. Cyhyd â phosib, eglurwn hyn yn y canllaw hwn a rhown fanylion ar ein gwefan
Mae dau gam pellach yng ngweithrediad Deddf Cwmnïau 2006 a drefnwyd ar gyfer Hydref 2008 a Hydref 2009. Byddwn yn diweddaru unrhyw nodiadau canllaw a effeithir gan y gweithrediadau hynny ar y pryd. Efallai yr hoffech chi gadw golwg ar ein gwefan hefyd lle byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth wrth i’r broses o weithredu barhau, er mwyn ichi gael mynediad at y newyddion diweddaraf.
Tan fis Hydref 2009, mae’r nodiadau canllaw hyn yn gymwys yn unig i gwmnïau wedi eu ffurfio ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban). Bwriedir wedyn i’r system ar wahân ar gyfer Gogedd Iwerddon ymdoddi i system gyfunol ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd.
Cynnwys
| Cyflwyniad |
| 1. Beth os ydw i'n ffeilio cyfrifon cyntaf fy nghwmni? |
| 2. Sut i osgoi cosbau ffeilio hwyr |
| 3. Unwaith y gosodwyd cosb ffeilio hwyr |
| 4. Gwybodaeth bellach |
Canllaw yn unig yw hyn a dylid ei ddarllen ar y cyd â'r ddeddfwriaeth berthnasol.
- Deddf Cwmnïau 1985 a 2006,
- Gorchymyn Deddf Cwmnïau 2006 (Dechreuad Rhif 5, Darpariaethau Dros Dro ac Arbedion) 2007 (OS2007/3495),
- Rheoliadau Cwmnïau (Cosbau Ffeilio Hwyr) a Phartneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cyfnodau Ffeilio a Chosbau Ffeilio Hwyr) 2008 (OS2008/497).
|
Brig
Cyflwyniad
Rhaid i bob cwmni - preifat neu gyhoeddus, bach neu fawr, yn masnachu neu heb fod yn masnachu - anfon ei gyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau bob blwyddyn. Os cyflwynir cyfrifon yn hwyr, bydd y Cofrestrydd yn gosod cosb awtomatig.
Mae'r llyfryn hwn yn egluro cosbau ffeilio hwyr yn fanylach. Mae'n cynnwys cyngor ar sut y gall cyfarwyddwyr cwmnïau fodloni eu rhwymedigaethau ffeilio heb dynnu cosb.
Brig
PENNOD 1
Egluro cosbau ffeilio hwyr
1. Beth yw cosbau ffeilio hwyr?
Cyflwynodd y Senedd gosbau ffeilio hwyr ym 1992 i annog cyfarwyddwyr cwmnïau cyfyngedig i ffeilio'u cyfrifon yn brydlon gan fod rhaid iddynt ddarparu'r wybodaeth statudol hon ar gyfer y cofnod cyhoeddus. Mae Deddf Cwmnïau 1985 a Deddf Cwmnïau 2006 ill dwy yn dweud y caiff cosb awtomatig ei gosod ar unrhyw gwmni sy'n cyflwyno'i gyfrifon i Dŷ'r Cwmnïau ar ôl y cyfnod a ganiateir ar gyfer ffeilio.
2. Faint yw'r cosbau?
Mae hynny'n dibynnu ar ba mor hwyr y bydd y cyfrifon yn dod i law'r Cofrestrydd, fel y dangosir yn tabl hwn:
Hyd yr oedi ar ôl dyddiad
dyledus y cyfrifon |
Cwmni
preifat |
Cwmni
cyhoeddus
|
| 3 mis neu lai |
£100 |
£100 |
| 3 mis a diwrnod hyd 6 mis |
£250 |
£1,000 |
| 6 mis a diwrnod hyd 12 mis |
£500 |
£2,000 |
| Mwy na 12 mis |
£1,000 |
£5,000 |
NODYN: Cynyddwyd yr ystodau cosbau uchod ar gyfer cyfrifon a gaiff eu cyflwyno’n hwyr o 1 Chwefror 2009 ymlaen. Am wybodaeth bellach, gweler ein gwefan www.companieshouse.gov.uk
Rydym wedi rhannu gweddill y bennod hon yn ddwy. Y rheswm am hyn yw bod cyfnodau gwahanol yn cael eu caniatáu i ffeilio’ch cyfrifon yn ôl a ydych yn eu paratoi yn unol â Deddf Cwmnïau 1985 neu Ddeddf Cwmnïau 2006.
RHAN UN – DEDDF CWMNÏAU 1985
MAE’R CANLYNOL YN GYMWYS I GYFNODAU CYFRIFEG YN DECHRAU CYN 6 EBRILL 2008.
1.Pa mor hir sydd gen i i ffeilio cyfrifon cyntaf fy nghwmni?
Os ydych yn ffeilio cyfrifon cyntaf eich cwmni ar ôl y corffori a’u bod yn cwmpasu cyfnod o fwy na 12 mis, rhaid eu cyflwyno i’r Cofrestrydd o fewn 22 mis i’r dyddiad corffori ar gyfer cwmnïau preifat a 19 mis ar gyfer cwmnïau cyhoeddus. Er enghraifft, bydd cwmni preifat a gafodd ei gorffori ar 1 Ionawr ac y pennwyd 31 Ionawr fel “dyddiad cyfeirnod cyfrifeg” iddo – y dyddiad y daw’r cyfnod cyfeirnod cyfrifeg i ben bob blwyddyn – yn cael tan ganol nos ar 1 Tachwedd y flwyddyn ddilynol (22 mis o ddyddiad y corffori) i gyflwyno’i gyfrifon, nid 30 Tachwedd.
2. Pa mor hir sydd gen i fel arfer i ffeilio fy nghyfrifon?
Oni bai eich bod yn ffeilio cyfrifon cynta'ch cwmni (gweler cwestiwn 1) , yr amser a ganiateir fel arfer i gyflwyno cyfrifon i Dŷ'r Cwmnïau yw:
- 10 mis o ddiwedd y cyfnod cyfrifeg perthnasol ar gyfer cwmnïau preifat; a
- 7 mis o ddiwedd y cyfnod perthnasol ar gyfer cwmnïau cyhoeddus.
Os bu ichi newid y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg, gan fyrhau’r cyfnod cyfeirnod cyfrifeg drwy hynny, y terfyn amser newydd ar gyfer ffeilio fydd y naill neu’r llall o’r ddau opsiwn canlynol:
- 10 mis ar ôl y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg newydd (sef, dydd ola’r cyfnod cyfeirnod cyfrifeg newydd) i gwmni preifat (7 mis i gwmni cyhoeddus); neu
- 3 mis ar ôl y dyddiad y derbyniwyd yr hysbysiad (ffurflen newid dyddiad cyfeirnod cyfrifeg) yn Nhŷ’r Cwmnïau, p’un bynnag fo hiraf.
Mae'r tabl isod yn dangos y dyddiadau ar gyfer cyflwyno cyfrifon yn arferol. Nid yw’n gymwys i gyfrifon cynta’r cwmni os yw’r cyfnod cyfrifeg yn hirach na 12 mis (gweler cwestiwn 1).
| Diwedd y cyfnod cyfrifeg perthnasol (dyddiad cyfeirnod cyfrifeg) |
Terfyn amser ar gyfer cyflwyno: |
| Cwmnïau preifat |
Cwmnïau cyhoeddus |
| Ion 31 |
Tach 30 |
Awst 31 |
| Chwef 28 |
Rhag 28 |
Medi 28 |
| Maw 31 |
Ion 31 |
Hyd 31 |
| Ebr 30 |
Chwef 28/29 |
Tach 30 |
| Mai 31 |
Maw 31 |
Rhag 31 |
| Meh 30 |
Ebr 30 |
Ion 30 |
| Gorff 31 |
Mai 31 |
Chwef 28/29 |
| Awst 31 |
Meh 30 |
Maw 31 |
| Medi 30 |
Gorff 30 |
Ebr 30 |
| Hyd 31 |
Awst 31 |
Mai 31 |
| Tach 30 |
Medi 30 |
Meh 30 |
| Rhag 31 |
Hyd 31 |
Gorff 31 |
Os na ddaw cyfnod cyfeirnod cyfrifeg eich cwmni i ben ar ddiwrnod ola'r mis, yna bydd pob cyfnod a ganiateir ar gyfer cyflwyno cyfrifon yn diweddu ar y dyddiad cyfatebol yn y mis priodol. Er enghraifft, bydd cwmni preifat y pennwyd 10 Medi fel dyddiad cyfeirnod cyfrifeg (DCC} ;i ddo yn cael tan 10 Gorffennaf (nid31 Gorffennaf) y flwyddyn ddilynol i gyflwyno'i gyfrifon.
Cadwch mewn cof y diffiniad o gyfnod o fisoedd mewn cysylltiad â ffeilio cyfrifon a’r ffordd y pennir yr ystodau cosbau:
- Bydd cyfnod o fisoedd ar ôl dyddiad penodedig bob amser yn dod i ben ar y dyddiad cyfatebol yn y mis priodol. Er enghraifft, bydd cwmni preifat y pennwyd 30 Medi fel DCC iddo yn cael tan ganol nos ar 30 Gorffennaf y flwyddyn ddilynol i gyflwyno’i gyfrifon, nid 31 Gorffennaf.
- Os nad oes dyddiad cyfatebol, diwrnod ola’r mis fydd yn gymwys. Er enghraifft, bydd cwmni preifat y pennwyd 30 Ebrill fel DCC iddo yn cael tan ganol nos ar 28/29 Chwefror y flwyddyn ddilynol i gyflwyno’i gyfrifon.
|
Mae’r diffiniad o gyfnod o fisoedd hefyd yn gymwys i ffeilio cyfrifon cyntaf – gweler cwestiwn 1 uchod.
Mae’r ffordd y pennir y cyfnod a gaiff ei ganiatáu i ffeilio cyfrifon cwmnïau wedi newid ar gyfer cyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 6 Ebrill 2008 – gweler cwestiwn 4 o dan ‘Deddf Cwmnïau 2006’ isod.
Sylwer: Os yw’r terfyn amser ar gyfer ffeilio yn dod i ben ar ddydd Sul neu Ŵyl Banc, mae’r gyfraith o hyd yn mynnu i gyfrifon gael eu ffeilio erbyn y dyddiad hwnnw. Felly, dylech ofalu eu postio mewn pryd fel eu bod yn cyrraedd cyn terfyn amser o’r fath er mwyn osgoi cosb.
Pwysig: Os oes gennych chi unrhyw amheuon ynglŷn â'r terfyn amser ar gyfer cyfrifon eich cwmni, cysylltwch â ni ar 0870 33 33 636 a gofyn am gadarnhad o'r dyddiad ar gyfer ffeilio'ch cyfrifon. Fel arall, gallwch wirio pa bryd y mae’ch cyfrifon nesa’n ddyledus drwy ddefnyddio WebCHeck, gwasanaeth rhad ac am ddim ar ein gwefan www.companieshouse.gov.uk sy’n eich galluogi i chwilio gwybodaeth gwmnïau arbennig.
Cofiwch: Dyddiad dod i law'r Cofrestrydd sydd yn bwysig - nid y dyddiad postio.
RHAN DAU – DEDDF CWMNÏAU 2006
MAE’R CANLYNOL YN GYMWYS I GYFNODAU CYFRIFEG YN DECHRAU AR NEU WEDI 6 EBRILL 2008.
Ar gyfer cyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 6 Ebrill 2008, cafodd yr amser arferol a ganiateir i ffeilio cyfrifon ei ostwng o 10 mis i 9 mis i gwmnïau preifat, ac o 7 mis i 6 i gwmnïau cyhoeddus. Mae’r canlynol yn egluro sut y bydd hyn yn effeithio ar y ffordd y pennir y terfynau amser ar gyfer cyflwyno cyfrifon derbyniol.
1. Pa mor hir sydd gen i i ffeilio cyfrifon cyntaf fy nghwmni?
Os ydych yn ffeilio cyfrifon cyntaf eich cwmni ar ôl y corffori a’u bod yn cwmpasu cyfnod o fwy na 12 mis, rhaid eu cyflwyno i’r Cofrestrydd o fewn 21 mis i’r dyddiad corffori ar gyfer cwmnïau preifat a 18 mis ar gyfer cwmnïau cyhoeddus. Er enghraifft, bydd cwmni preifat a gafodd ei gorffori ar 1 Ionawr ac y pennwyd 31 Ionawr fel dyddiad cyfeirnod cyfrifeg iddo – y dyddiad y daw’r cyfnod cyfeirnod cyfrifeg i ben bob blwyddyn – yn cael tan ganol nos ar 1 Hydref y flwyddyn ddilynol (21 mis o ddyddiad y corffori) i gyflwyno’i gyfrifon.
2. Pa mor hir sydd gen i fel arfer i ffeilio fy nghyfrifon?
Yr amser a ganiateir i ffeilio cyfrifon yw:
- 9 mis ar gyfer cwmnïau preifat; a
- 6 mis ar gyfer cwmnïau cyhoeddus
ar ôl diwedd y cyfnod cyfeirnod cyfrifeg perthnasol.
3. Os bydda i’n byrhau fy Nghyfnod Cyfeirnod Cyfrifeg, oes rhaid imi ffeilio erbyn y terfyn amser gwreiddiol o hyd?
Nac oes. Os bu ichi newid y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg, gan fyrhau’r cyfnod cyfeirnod cyfrifeg drwy hynny, y terfyn amser newydd ar gyfer ffeilio fydd y naill neu’r llall o’r ddau opsiwn canlynol yn awtomatig:
- 9 mis ar ôl y ar ôl y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg newydd i gwmni preifat (6 mis i gwmni cyhoeddus); neu
- 3 mis ar ôl y dyddiad y derbyniwyd yr hysbysiad (ffurflen newid dyddiad cyfeirnod cyfrifeg) yn Nhŷ’r Cwmnïau, p’un bynnag fo hiraf.
4. Fyddwch chi’n pennu’r amser a ganiateir i ffeilio cyfrifon yn yr un ffordd o dan Ddeddf Cwmnïau 2006?
Mewn rhai enghreifftiau, byddwn. Fel arfer, bydd cyfnod o fisoedd ar ôl eich Dyddiad Cyfeirnod Cyfrifeg yn dod i ben ar y dyddiad cyfatebol yn y mis priodol. Er enghraifft, bydd cwmni preifat y pennwyd 5 Ebrill fel dyddiad cyfeirnod cyfrifeg iddo yn cael tan ganol nos ar 5 Ionawr yn y flwyddyn berthnasol i gyflwyno’i gyfrifon. Mae’r diffiniad o gyfnod o fisoedd yn dal yn gymwys i ffeilio cyfrifon cyntaf – gweler cwestiwn 1 uchod.
Fodd bynnag, ar gyfer cyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 6 Ebrill 2008, os bydd y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg yn syrthio ar ddydd ola’r mis, bydd y cyfnod a ganiateir ar gyfer ffeilio hefyd yn dod i ben ar ddydd ola’r mis priodol. Mae’r tabl isod yn dangos y terfynau amser ar gyfer cyflwyno cyfrifon yng nghyswllt cyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 06 Ebrill 2008:
| Diwedd y cyfnod cyfrifeg perthnasol(dyddiad cyfeirnod cyfrifeg) |
Terfyn amser ar gyfer cyflwyno: |
| Cwmnïau preifat |
Cwmnïau cyhoeddus |
| Ion 31 |
Hyd 31 |
Gorff 31 |
| Chwef 28 |
Tach 30 |
Awst 31 |
| Maw 31 |
Rhag 28 |
Medi 28 |
| Ebr 30 |
Ion 31 |
Hyd 31 |
| Mai 31 |
Chwef 28/29 |
Tach 30 |
| Meh 30 |
Maw 31 |
Rhag 31 |
| Gorff 31 |
Ebr 30 |
Ion 30 |
| Awst 31 |
Mai 31 |
Chwef |
| Medi 30 |
Meh 30 |
Maw 31 |
| Hyd 31 |
Gorff 30 |
Ebr 30 |
| Tach 30 |
Awst 31 |
Mai 31 |
| Rhag 31 |
Medi 30 |
Meh 30 |
Sylwer: Os yw’r terfyn amser ar gyfer ffeilio yn dod i ben ar ddydd Sul neu Ŵyl Banc, mae’r gyfraith o hyd yn mynnu i gyfrifon gael eu ffeilio erbyn y dyddiad hwnnw. Felly, dylech ofalu eu postio mewn pryd fel eu bod yn cyrraedd cyn terfyn amser o’r fath er mwyn osgoi cosb.
Pwysig: Os oes gennych chi unrhyw amheuon ynglŷn â'r terfyn amser ar gyfer cyfrifon eich cwmni, cysylltwch â ni ar 0870 33 33 636 a gofyn am gadarnhad o'r dyddiad ar gyfer ffeilio'ch cyfrifon. Fel arall, gallwch wirio pa bryd y mae’ch cyfrifon nesa’n ddyledus drwy ddefnyddio WebCHeck, gwasanaeth rhad ac am ddim ar ein gwefan www.companieshouse.gov.uk sy’n eich galluogi i chwilio gwybodaeth gwmnïau arbennig. Dyddiad dod i law'r Cofrestrydd sydd yn bwysig - nid y dyddiad postio.
Brig
PENNOD 2
Sut i osgoi cosbau ffeilio hwyr
1. Sut galla i osgoi cosbau?
Caniatewch ddigon o amser i sicrhau bod eich cyfrifon yn cyrraedd Tŷ’r Cwmnïau o fewn y cyfnod a ganiateir. Does dim gwarant y bydd y post dosbarth cynta'n cyrraedd drannoeth, felly os yw'r terfyn amser ar gyfer ffeilio yn agos, ceisiwch ystyried dulliau dosbarthu gwarantedig a fydd yn sicrhau bod eich cyfrifon yn cyrraedd mewn pryd. Cofiwch: bydd y cwmni’n tynnu cosb os caiff eich cyfrifon eu hoedi yn y post.
| Gallwch bellach ffeilio rhai categorïau o gyfrifon drwy ddefnyddio’n gwasanaethau Software Filing neu WebFiling. Galwch heibio i’n gwefan www.companieshouse.gov.uk am ragor o wybodaeth. Os ffeiliwch eich cyfrifon yn electronig, cewch e-bost yn cydnabod bod eich cyfrifon wedi dod i law yn Nhŷ’r Cwmnïau. |
I'ch helpu i ffeilio'n brydlon, hwyrach y carech chi ystyried yr awgrymiadau canlynol:
- cadwch gofnod yn eich dyddiadur neu'ch calendr i'ch atgoffa mewn da bryd am y terfynau amser ar gyfer ffeilio;
- darllenwch y llythyrau atgoffa a anfonwn i'ch swyddfa gofrestredig;
- os bydd hynny'n briodol, cyfarwyddwch eich cyfrifwyr mewn da bryd a'u hatgoffa am angen paratoi a chyflwyno'ch cyfrifon yn brydlon
2. Ga i wneud cais am amser ychwanegol i ffeilio?
Os oes rheswm arbennig dros wneud, cewch wneud cais i Dŷ’r Cwmnïau am estyn yr amser ar gyfer rhoi cyfrifon gerbron a’u cyflwyno. Efallai yr hoffech chi wneud hyn os, er enghraifft, y bu digwyddiad annisgwyl oedd y tu hwnt i reolaeth y cwmni a’i archwilwyr ariannol ac sy’n golygu na fydd y cyfrifon yn cyrraedd mewn pryd.
Rhaid ichi wneud y cais yn ysgrifenedig a’i gyflwyno cyn y terfyn amser arferol ar gyfer ffeilio. Rhaid iddo gynnwys esboniad llawn o’r rhesymau dros yr estyn a hyd yr estyniad a geisir.
Ar gyfer cwmnïau wedi’u corffori yng Nghymru a Lloegr, ysgrifennwch i:
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ
DX33050 Caerdydd
Ar gyfer cwmnïau wedi’u corffori yn yr Alban, ysgrifennwch i:
Companies House
37 Castle Terrace
Edinburgh EH1 2EB
DX ED235 Edinburgh 1
LP – 4 Edinburgh 2
3. Beth os bydd Tŷ'r Cwmnïau yn gwrthod fy nghyfrifon am eu bod yn anghywir?
Ni allwn dderbyn cyfrifon nes eu bod yn bodloni gofynion y Ddeddf Cwmnïau. Os, er enghraifft, y bydd llofnody n colli, fe'u dychwelir i gael eu diwygio. Gall hyn olygu cosb ffeilio hwyr os cyflwynir y cyfrifon diwygiedig yn hwyr.
I osgoi problemau, argymhellwn gyflwyno cyfrifon cyn gynted ag y byddant wedi eu cwblhau ac mor hir yn ôl â phosib cyn diwedd y cyfnod a ganiateir ar gyfer cyflwyno. Sylwch na dderbynnir copïau adlun (ffacs) o ddogfennau i gael eu cofrestru. Y ffordd gyflymaf a hawsaf i sicrhau bod eich cyfrifon yn cael eu cyflwyno’n brydlon yw defnyddio’n gwasanaethau Software Filing neu WebFiling. Gellir bellach ffeilio rhai categorïau o gyfrifon o dan y gwasanaethau hyn. Galwch heibio i’n gwefan www.companieshouse.gov.uk am ragor o fanylion.
Brig
PENNOD 3
Unwaith y gosodwyd cosb ffeilio hwyr
1. Sut bydda i'n gwybod pan fydd cosb yn ddyledus?
Os cyflwynir cyfrifon yn hwyr, caiff anfoneb ei gyrru’n awtomatig i gyfeiriad eich swyddfa gofrestredig.
2. Beth fydd yn digwydd os na thelir y gosb?
Caiff y ddyled ei hatgyfeirio i sylw cynrychiolwyr casglu os deil heb ei thalu. Gellir cymryd camau cyfreithiol, gan arwain, o bosibl, at ddyfarniad mewn Llys Sirol neu Lys Siryf yn erbyn eich cwmni.
3. Beth sy'n digwydd os gwna i adfer cwmni i'r Gofrestr?
Os adferwch chi gwmni a gafodd ei ddileu o'r Gofrestr a'i ddiddymu, mae’r gyfraith yn ystyried ei fod wedi parhau mewn bodolaeth fel na chawsai mo'i ddileu erioed. Bydd cyfrifon a gaiff eu ffeilio wrth adfer yn agored i gosbau ffeilio hwyr os cyflwynwch chi nhw’n hwyr.
Wrth benderfynu lefel unrhyw gosb, anwybyddwn fel arfer y cyfnod pan oedd y cwmni wedi ei ddiddymu.
Fel arfer, ni chasglwn gosbau ffeilio hwyr yng nghyswllt cyfrifon a ddaeth yn ddyledus pan oedd y cwmni wedi ei ddiddymu ond a dderbyniwyd pan gafodd ei adfer.
Fodd bynnag, bydd set o gyfrifon y dylid fod wedi eu cyflwyno 2 fis cyn diddymu cwmni preifat yn dal i gael eu hystyried gennym 2 fis yn hwyr os cânt eu cyflwyno gennych wrth adfer y cwmni - £100 o hyd fydd y gosb ffeilio hwyr. (Gweler pennod 1, cwestiwn 2 am dabl yn rhestru lefelau’r cosbau cyfredol am ffeilio hwyr.)
Am ragor o wybodaeth ynghylch adfer, gweler ein llyfryn ‘Dileu o’r Gofrestr, Diddymu ac Adfer’ neu, ar gyfer cwmnïau wedi eu cofrestru yn yr Alban, ‘Strike-off, Dissolution and Restoration (Scotland)’.
Brig
PENNOD 4
Gwybodaeth bellach
1. A yw cosbau ffeilio hwyr yn gymwys i unrhyw ddogfennau eraill?
Dim ond i gyfrifon.
2. A yw cosbau ffeilio hwyr yr un fath â'r dirwyon a osodir ar gyfarwyddwyr am beidio â ffeilio cyfrifon?
Maen nhw’n hollol wahanol. Caiff cosbau ffeilio hwyr eu gosod ar y cwmni o dan y gyfraith sifil. Gall methiant i dalu cosb ffeilio hwyr arwain at ddyfarniad gan y Llys Sirol (neu'r Llys Siryf) yn erbyn y cwmni.
Mae methiant i ffeilio cyfrifon yn dramgwydd troseddol a all olygu dirwy bersonol i'r cyfarwyddwyr yn y llysoedd troseddol.
Pwysig: Gallai cosb a dirwy fod yn daladwy am yr un set o gyfrifon os na chânt mo'u ffeilio mewn pryd.
3. Oes gan y Cofrestrydd unrhyw ryddid i gasglu cosb neu beidio?
Mae gan y Cofrestrydd ryddid cyfyngedig iawn i beidio â chasglu cosb. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y bydd yn manteisio arno.
Cofiwch: Ni wireddir danfoniad dogfen i'r Cofrestrydd nes iddi ddod i law yn Nhŷ’r Cwmnïau.
Angen gwybodaeth bellach?
Pwysig: Os oes gennych chi unrhyw amheuon ynglŷn â'r terfyn amser ar gyfer cyfrifon eich cwmni, cysylltwch â ni ar 0870 33 33 636 a gofyn am gadarnhad o'r dyddiad ar gyfer ffeilio'ch cyfrifon. Fel arall, gallwch wirio pa bryd y mae’ch cyfrifon nesa’n ddyledus drwy ddefnyddio WebCHeck, gwasanaeth rhad ac am ddim ar ein gwefan www.companieshouse.gov.uk sy’n eich galluogi i chwilio gwybodaeth gwmnïau arbennig.
4. Ble galla i gael ffurflenni a llyfrynnau canllaw?
Mae hwn yn un o gyfres o lyfrynnau gan Dŷ’r Cwmnïau sy’n rhoi canllaw syml i’r Ddeddf Cwmnïau.
Mae ffurflenni statudol a llyfrynnau canllaw ar gael, yn rhad ac am ddim, gan Dŷ’r Cwmnïau. Y ffordd gyflymaf i’w sicrhau yw drwy’n gwefan neu drwy ffonio 0870 3333636.
Os bydd yn well gennych, gallwch chi ysgrifennu at ein hadrannau deunydd ysgrifennu yng Nghaerdydd neu Gaeredin.
Gellir hefyd gael ffurflenni gan ddogfenwyr cyfreithiol, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid ffurfio cwmnïau – cyfeiriadau mewn llyfrau ffôn ar gyfer busnesau.
5. Sut dylwn i anfon gwybodaeth at y Cofrestrydd?
Y ffordd fwyaf diogel o anfon gwybodaeth statudol i Dŷ’r Cwmnïau yw drwy ddefnyddio’n gwasanaethau ffeilio ar-lein. Am ragor o wybodaeth a manylion cofrestru, ymwelwch â’n gwefan www.companieshouse.gov.uk
Gallwch chi gyflwyno dogfennau i’r Cofrestrydd â llaw (yn bersonol neu drwy negesydd), gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa, dros wyliau banc a thros y penwythnos i Gaerdydd, Llundain a Chaeredin.
Gallwch chi hefyd gyflwyno dogfennau drwy’r post, drwy’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX), neu drwy’r Post Cyfreithiol (LP) yn yr Alban.
Os anfonwch chi ddogfennau drwy'r post, byddwch cystal â’u cyfeirio at:
| Ar gyfer cwmnïau wedi eu corffori yng Nghymru a Lloegr: |
Ar gyfer cwmnïau wedi eu corffori yn yr Alban: |
Y Cofrestrydd Cwmnïau
Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ
DX33050 Caerdydd 1 |
The Registrar of Companies
Companies House
37 Castle Terrace
Edinburgh EH1 2EB
DX ED235 Edinburgh 1
LP – 4 Edinburgh 2 |
Dim ond os darparwch chi amlen stampiedig yn dangos cyfeiriad dychwelyd y byddwn yn cydnabod i ddogfennau ddod i law yn Nhŷ’r Cwmnïau. Ond os defnyddiwch ein gwasanaethau ffeilio ar-lein, cewch e-bost awtomatig yn cydnabod y dod i law.
Os ydych yn anfon dogfennau drwy'r post, drwy negesydd neu drwy’r drefn Cyfnewid Dogfennau (DX) a'ch bod yn dymuno cael derbynneb, bydd Tŷ'r Cwmnïau yn darparu cydnabyddiaeth os amgaewch chi gopi o'ch llythyr eglurhaol gydag amlen stampiedig ac arni eich cyfeiriad dychwelyd. Bydd y côd bar a roddwn ar eich llythyr copi yn cyfleu'r dyddiad dod i law ac fe ddychwelwn y copi yn yr amlen a ddarparwch. Dim ond os darparwch chi amlen stampiedig yn dangos cyfeiriad dychwelyd y byddwn yn cydnabod i ddogfennau ddod i law yn Nhŷ’r Cwmnïau. Ond os defnyddiwch ein gwasanaethau ffeilio ar-lein, cewch e-bost awtomatig yn cydnabod y dod i law.
Sylwer: nid yw cydnabyddiaeth dod i law yn golygu bod dogfen wedi ei derbyn i'w chofrestru yn Nhŷ'r Cwmnïau.
Sylwer: nid yw Tŷ'r Cwmnïau yn derbyn cyfrifon na dogfennau statudol eraill dros beiriant ffacs.
Brig
|