Amdanon Ni |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Cliciwch yma i weld fersiwn Saesneg y Llyfryn Canllaw hwn (gan agor mewn ffenestr arall)
Cyflwyniad Rhaid bod yn ymwybodol o’r canlynol wrth ddarllen y nodiadau canllaw hyn: Mae rhai (ond nid y cyfan) o ddarpariaethau Deddf Cwmnïau 2006 wedi dod i rym. Gan hynny, mae rhai o ddarpariaethau Deddf Cwmnïau 1985 yn dal yn berthnasol. Rydym wedi ceisio gwneud yn glir drwy’r holl nodiadau hyn, gymaint â phosibl, pa Ddeddf sy’n berthnasol. Os hoffech chi wybod pa ddarpariaethau yn y Deddfau priodol sydd mewn grym, ymwelwch â’n gwefan www.companieshouse.gov.uk. Mae dolen ar ein gwefan hefyd i wefan BERR (Yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio) www.berr.gov.uk/bbf/co-act-2006/index.html, lle gallwch weld rhagor o wybodaeth. Mae rhai darpariaethau yn y Ddeddf newydd yn amodol ar drefniadau trosiannol. Cyhyd â phosibl, eglurwn hyn yn y canllaw hwn a rhown fanylion ar ein gwefan Mae dau gam pellach yng ngweithrediad Deddf Cwmnïau 2006 a drefnwyd ar gyfer Hydref 2008 a Hydref 2009. Byddwn yn diweddaru unrhyw nodiadau canllaw a effeithir gan y gweithrediadau ar y pryd. Efallai yr hoffech chi gadw golwg ar ein gwefan hefyd lle byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth wrth i’r broses o weithredu barhau, er mwyn ichi gael mynediad at y newyddion diweddaraf. Tan Hydref 2009, bydd y nodiadau canllaw hyn ond yn gymwys i gwmnïau a ffurfiwyd ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban). Wedyn, fe drefnir i’r system ar wahân yng Ngogledd Iwerddon gyfuno i un system gyfan ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd. Mae gwybodaeth y llyfryn hwn yn gymwys i bob cwmni sydd wedi’i gorffori â chyfalaf cyfrannau yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, p’un a fo’n breifat neu’n gyhoeddus. Mae’n ganllaw rhagarweiniol i bwnc cymhleth, ac os bydd gennych chi unrhyw amheuon ynglŷn ag unrhyw beth, dylech ystyried ceisio cyngor cyfreithiol. Mae gwybodaeth y llyfryn:
PENNOD 1 Cyfalaf cyfrannau 1. Beth yw cyfalaf cyfrannau? Wrth i bobl furfio cwmni, byddant yn penderfynu a fydd atebolrwydd yr aelodau wedi ei gyfyngu drwy gyfrannau. Rhaid i’r memorandwm cymdeithasiad(un o'r dogfennau sydd angen i ffurfio'r cwmni) nodi:
Rhaid i'r aelodau (y ‘cyfranddeiliaid’) gytuno i dderbyn rhai neu bob un o'r cyfrannau wrth gofrestru'r cwmni yn Nhŷ’r Cwmnïau. Rhaid i'r memorandwm cymdeithasiad ddangos enwau'r bobl a gytunodd i feddu ar gyfrannau a nifer y cyfrannau a fydd ym meddiant pob un. Y tanysgrifwyr y gelwir y bobl hyn. 2. Beth yw cyfalaf awdurdodedig? Swm y cyfalaf sydd yn ei feddiant wrth ddechrau ei einioes ac sydd wedi’i nodi yn ei femorandwm cymdeithasiad yw cyfalaf cyfrannau awdurdodedig cwmni cyfyngedig (er y gall ei newid wedyn). Nid yr un peth yw cyfalaf cyfrannau awdurdodedig y cwmni a’i gyfalaf dosbarthedig. 3. A gaiff cwmni newid ei gyfalaf cyfrannau awdurdodedig? Oni bai bod ei erthyglau cymdeithasiad yn mynnu penderfyniad arbennig neu anarferol, caiff cwmni gynyddu ei gyfalaf cyfrannau awdurdodedig drwy fabwysiadu penderfyniad arferol. Rhaid ichi anfon copi o'r penderfyniad ynghyd â hysbysiad o'r cynnydd o ran cyfalaf cyfrannau awdurdodedig i Dŷ'r Cwmnïau ar Ffurflen 123 o fewn 15 diwrnod i fabwysiadu’r penderfyniad. Does dim ffi’n daladwy i Dŷ’r Cwmnïau. Caiff cwmni leihau ei gyfalaf cyfrannau awdurdodedig drwy fabwysiadu penderfyniad arferol i ddileu cyfrannau nad oes neb wedi eu cymryd nac wedi cytuno i'w cymryd. Rhaid ichi anfon hysbysiad o'r dileu, ar Ffurflen 122, i Dŷ'r Cwmnïau cyn pen mis. Does dim ffi’n daladwy i Dŷ’r Cwmnïau. * Am wybodaeth ynghylch penderfyniadau, gweler ein llyfryn 'Penderfyniadau'. (Deddf Cwmnïau 1985 neu Ddeddf Cwmnïau 2006) Sylwer: gall llyfryn Penderfyniadau Deddf Cwmnïau 1985 sy’n rhoi gwybodaeth gyffredinol fod yn berthnasol i’ch cwmni o hyd. 4. Cwmnïau Cyfyngedig Cyhoeddus a’r ‘isafswm awdurdodedig’Ni chaiff cwmni cyfyngedig cyhoeddus gynnal busnes nac arfer pwerau benthyca nes sicrhau tystysgrif fasnachu gan Dŷ’r Cwmnïau, yn cadarnhau bod ganddo o leia’r isafswm cyfalaf cyfrannau clustnodedig. Dyma’r ‘isafswm awdurdodedig’. Er mwyn bodloni’r gofynion a sicrhau tystysgrif fasnachu, mae’n rhaid i’r cwmni fod naill ai ag o leiaf £50,000 fel cyfalaf cyfrannau clustnodedig mewn arian arian sterling neu ag o leiaf €65,600 fel cyfalaf cyfrannau clustnodedig mewn arian ewro. Ni all y cwmni fodloni’r gofynion drwy gyfuniad rhwng cyfrannau ewro a chyfrannau sterling na thrwy gyfrannau mewn unrhyw arian treigl arall. Ymhellach, dim ond lle bo o leiaf 25% o werth nominal pob cyfran ynghyd ag unrhyw bremiwm wedi eu talu y gall cyfran sydd wedi ei chlustnodi yn unol â chynllun cyfrannau gweithwyr gael ei chyfrif tuag at fodloni’r isafswm awdurdodedig. Does dim rhaid i gwmni sy’n ailgofrestru o gwmni preifat i gwmni cyhoeddus wneud cais am dystysgrif fasnachu. Ond er mwyn ailgofrestru, mae’n rhaid i werth nominal y cyfalaf cyfrannau clustnodedig beidio â bod yn llai na’r isafswm awdurdodedig a rhaid i bob un o’r cyfrannau clustnodedig fod wedi ei thalu hyd at o leiaf 25% o’i gwerth nominal a’r cyfan o unrhyw bremiwm (er bod modd anwybyddu rhai cyfrannau). Rhaid i’r cwmni fodloni’r isafswm awdurdodedig, at ddibenion ailgofrestru, naill ai drwy gyfrannau sterling sydd â chyfanswm gwerth nominal o £50,000 fan leiaf neu drwy gyfrannau ewro sydd â chyfanswm gwerth nominal o €65,600 fan leiaf. Ni all ei fodloni drwy gyfuniad rhwng cyfrannau ewro a chyfrannau sterling na thrwy gyfrannau mewn unrhyw arian treigl arall. Os gall cwmni sy’n gwneud cais am dystysgrif fasnachu neu am ailgofrestru fodloni’r isafswm awdurdodedig naill ai drwy gyfrannau ewro neu drwy gyfrannau sterling, rhaid iddo ddewis yn ei gais pa arian treigl i ddibynnu arno. Rhaid i gwmni sy’n ailgofrestru o breifat i gyhoeddus lenwi Ffurflen 43(3). I wneud cais am dystysgrif fasnachu, rhaid i’r cwmni anfon Ffurflen 117 i Dŷ’r Cwmnïau. (gweler y nodyn canlynol) Nodyn 5. Beth yw cyfalaf dosbarthedig? Caiff cwmni gynyddu ei gyfalaf dosbarthedig drwy glustnodi rhagor o gyfrannau, ond dim ond hyd at y lefel uchaf a ganiateir yn unol â'i gyfalaf awdurdodedig (h.y. ni all cyfalaf cyfrannau dosbarthedig y cwmni fod yn uwch na’i gyfalaf cyfrannau awdurdodedig; rhaid iddo glustnodi o dan awdurdod priodol (gweler cwestiwn 7)).
Eiddo personol i'r cyfranddeiliaid, nid i'r cwmni, y mae cyfalaf cyfrannau ac felly, gyda rhai eithriadau, ni all ei leihau. Yr eithriadau yw::
Am ragor o wybodaeth ynghylch cyfrannau, trosglwyddo cyfrannau ac adennnill a phrynu cyfrannau’r cwmni ei hun, gweler pennod 2. 7. A gaiff cwmni gynyddu ei gyfalaf dosbarthedig?Caiff cwmni gynyddu ei gyfalaf cyfrannau dosbarthedig drwy ddosbarthu cyfrannau ychwanegol. Bydd cyfrannau wedi eu ‘dosbarthu’ pan gaiff rhywun ei gofrestru’n aelod yng nghofrestr aelodau’r cwmni.'Clustnodi' yw'r broses lle bydd y cwmni’n taro contract â rhywun i glustnodi cyfrannau a bod y person hwnnw’n cael hawl ddiamod i dderbyn cyfrannau. Bydd cyfarwyddwyr yn clustnodi cyfrannau ar ran y cwmni, ond mae angen i naill ai erthyglau’r cwmni neu benderfyniad gan y cwmni wedi ei fabwysiadu mewn cyfarfod cyffredinol eu hawdurdodi i wneud hynny. 8. Pa fath o benderfyniad sydd eisiau i’r cwmni ei fabwysiadu i glustnodi cyfrannau? Caiff unrhyw gwmni cyhoeddus neu breifat sydd â chyfalaf cyfrannau roi awdurdod drwy benderfyniad arferol. Gydag eithriad a ganiateir ar gyfer cwmnïau preifat (fel y sonnir yn y paragraff canlynol), mae’n rhaid i'r awdurdod fod am gyfnod penodol o hyd at bum mlynedd a rhaid iddo osod cyfyngiad ar faint o gyfrannau y caiff y cyfarwyddwyr eu clustnodi o dano. Rhaid i’r cwmni gyflwyno copi o benderfyniad yn rhoi, yn amrywio, yn dirymu neu'n adnewyddu awdurdod i glustnodi cyfrannau, i Dŷ'r Cwmnïau o fewn 15 diwrnod i'w fabwysiadu. Caiff cwmni preifat sydd â chyfalaf cyfrannau fabwysiadu penderfyniad drwy bleidlais yn awdurdodi’r cyfarwyddwyr i glustnodi cyfrannau am gyfnod amhenodol neu am gyfnod penodol sy’n hirach na phum mlynedd, er bod rhaid o hyd i benderfyniad o’r fath osod cyfyngiad ar faint o gyfrannau y caiff y cyfarwyddwyr eu clustnodi. Rhaid i’r cwmni gyflwyno copi o unrhyw benderfyniad drwy bleidlais i Dŷ'r Cwmnïau o fewn 15 diwrnod i'w fabwysiadu. Ni chaiff cwmni cyhoeddus fabwysiadu penderfyniad drwy bleidlais. *Am ragor o wybodaeth ynghylch penderfyniadau, gweler ein llyfryn 'Penderfyniadau'. (Deddf Cwmnïau 1985 neu Ddeddf Cwmnïau 2006) * Sylwer: gall llyfryn Penderfyniadau Deddf Cwmnïau 1985 sy’n rhoi gwybodaeth gyffredinol fod yn berthnasol i’ch cwmni o hyd. 9. Oes rhaid i gwmni cyhoeddus roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau wrth gynnig cyfrannau i’r cyhoedd? Does dim rhaid i gwmni gofrestru llyfrynnau prosbectws na manylion rhestru yn Nhŷ’r Cwmnïau. Ond y rheol gyffredinol yw na chaiff cwmni cyhoeddus gynnig gwarannoedd i’r cyhoedd yn y DU, na cheisio caniatâd i fasnachu mewn marchnad wedi ei rheoleiddio yn y DU, oni bai bod prosbectws a gymeradwywyd gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol wedi cael ei gyhoeddi ganddo. Am ragor o wybodaeth ynghylch y gofynion hyn, cysylltwch â’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (www.fsa.gov.uk) neu ffonio 020 7066 1000). 10. Oes rhaid i'r cwmni roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau wrth glustnodi cyfrannau? Nodyn: yn achos mater o hawliau, y dyddiad(au) clustnodi fel arfer fydd y dyddiad(au) y cafodd y cyfrannau eu clustnodi ar ôl i dderbyniadau/gwrthodiadau ddod i law’r cwmni, NID dyddiad dosbarthu llythyrau clustnodi dros dro. Os yw pobl i dalu am y cyfrannau drwy arian parod , rhaid ichi nodi manylion y swm gwirioneddol a delir, neu sy'n ddyledus i'w dalu, ar y ffurflen (gan gynnwys unrhyw swm a gafodd ei dalu neu sy’n ddyledus ac yn daladwy drwy bremiwm). Peidiwch â chynnwys unrhyw swm sydd heb fod yn ddyledus eto i’w dalu yng nghyswllt cyfran randaledig. Gwerth nominal a phremiwm cyfrannau 11. Oes rhaid i'r cyfrannau gael eu talu'n llawn adeg eu clustnodi? Mewn cwmni preifat, does dim rhaid i gyfrannau gael eu talu’n llawn adeg clustnodi: gellir gohirio'u talu. Rhaid i gyfrannau a gaiff eu clustnodi mewn cwmni cyhoeddus fod wedi eu talu hyd at o leiaf chwarter eu gwerth nominal a’r cyfan o unrhyw bremiwm. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gymwys i gyfrannau a gaiff eu clustnodi o dan gynllun cyfrannau i weithwyr, sef cynllun i annog perchnogaeth cyfrannau ymhlith gweithwyr, cyn-weithwyr a’u teuluoedd. Fel rheol gyffredinol, caiff cwmni glustnodi ar gyfer ei aelodau gyfrannau bonws fel rhai llawndaledig. Hefyd, fe gaiff cwmni sydd â chronfeydd wrth law at y diben hwn fodloni ei hun unrhyw symiau sydd heb eu talu mewn cysylltiad â'i gyfrannau. Gweler cwestiwn 14. Rhaid i gwmni beidio â chlustnodi cyfrannau am swm sy’n llai na gwerth nominal y cyfrannau, sef yn ôl disgownt. 12. Oes rhaid talu am gyfrannau drwy arian parod?Gellir talu am gyfrannau mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys arian parod, nwyddau, gwasanaethau, eiddo, ewyllys da, gwybodaeth arbenigol neu hyd yn oed cyfrannau mewn cwmni arall. Y dull olaf hwn a ddefnyddir yn aml pan fydd un cwmni'n meddiannu'r llall. Mae hefyd yn cynnwys taliadau arian parod i rywun arall ar wahân i’r cwmni sy’n clustnodi’r cyfrannau. Mae mwy o gyfyngu ar gwmnïau cyhoeddus o ran beth y cânt ei dderbyn fel taliad am gyfrannau. Rhaid i daliadau sydd heb fod ar ffurf arian parod gael eu prisio’n annibynnol cyn clustnodi cyfrannau (ac eithrio yn achos dyroddiadau bonws, uno cwmnïau neu drefniadau ar gyfer dileu cyfrannau mewn cwmni arall neu eu trosglwyddo i’r cwmni). Rhaid i’r cwmni gyflwyno copi o'r adroddiad prisio i Dŷ'r Cwmnïau gyda Ffurflen 88(2). At ei gilydd, gellir clustnodi cyfrannau am daliad sydd:
13. Oes rhaid imi anfon gwybodaeth bellach os bydd y clustnodi'n cynnwys taliadau sydd heb fod ar ffurf arian parod? Oes. Rhaid i Ffurflen 88(2) nodi i ba raddau y cafodd y cyfrannau eu hystyried gan y cwmni yn rhai sydd wedi eu talu. Rhaid nodi hyn fel canran o’r cyfanswm sy’n daladwy gyda golwg ar y gwerth nominal ac unrhyw bremiwm. Pennu i ba raddau y mae cyfrannau wedi eu talu Rhaid i Ffurflen 88(2) gynnwys hefyd ddisgrifiad byr o'r taliad di-arian-parod y clustnodwyd y cyfrannau amdano (er enghraifft, 'yn gyfnewid am drosglwyddo 100 o gyfrannau cyffredin o £1 yr un yn XYZ Cyfyngedig' neu ‘cyfalafu cronfeydd wrth gefn’). Rhaid cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau hefyd y contract ysgrifenedig y cyfansoddwyd y teitl i'r cyfrannau o dano. Os nad oes contract ysgrifenedig, rhaid cyflwyno Ffurflen 88(3) i Dŷ'r Cwmnïau gyda Ffurflen 88(2) o fewn mis i'r clustnodi. Does dim ffi’n daladwy i Dŷ’r Cwmnïau. Nid yw Ffurflen 88(3) yn dderbyniol lle ceir contract ysgrifenedig. Toll stamp Sylwer: Ar gyfer contractau yr ymrwymwyd iddynt ar ôl 30 Tachwedd 2003, does dim angen trefnu i’r contract ysgrifenedig na Ffurflen 88(3) gael ei stampio gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC). Os yw hynny wedi ei gymeradwyo o dan ei erthyglau, caiff cwmni benderfynu defnyddio unrhyw elw sydd heb ei ddosbarthu, neu unrhyw swm a gredydwyd i ‘gyfrif premiwm cyfrannau’ neu ‘gronfa adennill cyfalaf’ y cwmni i gyllido dyroddiad o gyfrannau ‘bonws’ llawndaledig neu randaledig ymhlith yr aelodau yn gymesur â'u daliadau presennol. Ni fydd y cyfranddeiliaid y rhoir y cyfrannau iddyn nhw yn talu dim byd. Gan y gall y dosbarthu hwn leihau'r arian sydd ar gael i dalu buddrannau, nid yw'r term 'bonws' bob amser yn briodol. Y term cywir yw 'cyfalafu cronfeydd wrth gefn' neu ‘cyfalafu elw’, ond gellir defnyddio’r termau 'sgrip' neu 'ddyroddiad sgrip' hefyd i ddisgrifio cyfrannau o'r fath. Caiff cwmni hefyd ddefnyddio elw a gyfalafwyd i gredydu symiau pellach i gyfrannau y talwyd yn rhannol amdanyn nhw er mwyn eu gwneud yn llawndaledig. Rhaid i’r cwmni roi gwybod am glustnodi cyfrannau bonws i Dŷ’r Cwmnïau ar Ffurflen 88(2). Y swm a dalwyd neu sy’n ddyledus yng nghyswllt pob cyfran fydd ‘dim’ neu ‘0.00’ a chaiff y cyfrannau eu dangos fel rhai wedi eu talu ‘ar wahân i drwy arian parod’. At hynny, os bydd cwmni cyhoeddus rhestredig yn dosbarthu cyfrannau bonws mewn cysylltiad â chyfrannau a ddelir yn y drysorfa, mae’n rhaid i’r cwmni roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau ar Ffurflen 169(1B ). Nid yw toll stamp yn daladwy. Does dim ffi’n daladwy i Dŷ’r Cwmnïau. 15. Beth yw hawliau rhagbrynu? Nid ydynt yn gymwys wrth glustnodi cyfrannau y gall cwmnïau eu dosbarthu’n llawndaledig neu rhandaledig am daliad sydd heb fod ar ffurf arian parod, neu gyfrannau o dan gynllun cyfrannau i weithwyr. Mae cynllun cyfrannau i weithwyr yn gynllun i annog gweithwyr, cyn-weithwyr a'u teuluoedd i berchnogi cyfrannau. Gall memorandwm neu erthyglau cwmni preifat hepgor hawliau rhagbrynu ond ni all memorandwm neu erthyglau cwmni cyhoeddus wneud felly. Mae Deddf Cwmnïau 1985 yn caniatáu i gwmni fabwysiadu penderfyniad arbennig i beidio â gweithredu hawliau adbrynu. 'Diffyg gweithredu hawliau adbrynu' y gelwir hyn. Bydd y penderfyniad yn gymwys i un clustnodiad penodol; mae angen penderfyniad pellach os yw amodau tebyg i fod yn gymwys i glustnodiadau’r dyfodol. Rhaid cyflwyno copi o'r penderfyniad arbennig i Dŷ'r Cwmnïau o fewn 15 diwrnod i'w fabwysiadu. Does dim ffi’n daladwy i Dŷ’r Cwmnïau. 16. Beth sy'n digwydd os bydd rhywun heb allu talu neu yn gwrthod talu am gyfrannau? Mae aelod yn agored i dalu gwerth nominal pob un o'i g/chyfrannau ac mae'r swm sy'n ddyledus i'r cwmni yn ddyled y gellir ei 'mynnu'. Lle bo aelod yn gwrthod talu cyfran gyfan neu unrhyw swm a fynnir yng nghyswllt un (h.y. lle bu ‘erchi’), caiff y cwmni ddwyn achos fforffedu os caniateir hynny o dan ei erthyglau. Gwelir trefn fforffedu nodweddiadol ym mharagraffau 18-22 o Dabl A oReoliadau Cwmnïau (Tablau A i F) 1985. Os nad ydych wedi mabwysiadu darpariaethau eraill yn ei lle, mae’n rhaid ichi ddilyn y darpariaethau hyn. Rhaid ichi ddilyn y darpariaethau’n fanwl, neu fel arall gall y llys ddatgan bod yr achos fforffedu'n ddirym. Caiff y cyfarwyddwyr werthu, ailglustnodi neu gael gwared mewn ffordd arall â chyfran a fforffedwyd, fel y gwêl y cyfarwyddwyr yn dda. Does dim angen rhoi gwybod i Dŷ'r Cwmnïau am y fforffedu neu'r ailglustnodi ac eithrio yn rhestr yr aelodau ar ffurflen flynyddol nesa'r cwmni. Os na all aelod dalu swm a fynnir yng nghyswllt cyfrannau, a lle bo'r aelod a'r cwmni'n gytûn, gellir ildio'r cyfrannau i'r cwmni. Mae hyn yn cael yr un effaith â fforffedu ond fe osgoir y drefn ffurfiol. Dim ond lle gallai fod wedi arfer ei bŵer fforffedu y caiff y cwmni dderbyn ildiad o'r fath. Caiff cwmni preifat ddal cyfrannau a fforffedwyd am gyfnod amhenodol, nes eu hailglustnodi. Rhaid i gwmni cyhoeddus ddileu'r cyfrannau a fforffedwyd os na cheir gwared â nhw mewn ffordd arall o fewn tair blynedd. Pe bai dileu o'r fath yn gostwng cyfalaf clustnodedig cwmni cyhoeddus islaw'r isafswm awdurdodedig, byddai'n rhaid iddo ailgofrestru'n gwmni preifat o fewn yr un cyfnod. Ni chaiff cwmni ddefnyddio cyfrannau a fforffedwyd at ddibenion pleidleisio. 17. Beth yw cyfalaf taledig, cyfalaf heb ei erchi, cyfalaf wrth gefn a phremiwm cyfran?
PENNOD 2 Cyfrannau 1. Oes yna wahanol fathau o gyfrannau? Caiff cwmni fod â chymaint o wahanol fathau o gyfrannau ag y myn, a phob math o dan wahanol delerau. At ei gilydd, fe rennir cyfrannau i'r categorïau canlynol:
Caiff gwahanol fathau o gyfran fod mewn gwahanol arian treigl. Ond rhaid i gwmni cyfyngedig cyhoeddus sy’n gwneud cais i’r Cofrestrydd am dystysgrif fasnachu fod naill ai ag o leiaf £50,000 o'i gyfalaf clustnodedig ar ffurf arian sterling neu ag o leiaf €65,600 o’i gyfalaf cyfrannau clustnodedig ar ffurf arian ewro. Mae’r un gofynion yn gymwys i gwmni preifat sy’n ceisio ailgofrestriad fel cwmni cyhoeddus. 3. A gaiff cwmni newid arian treigl ei gyfrannau? Caiff cwmni brynu ei gyfrannau ei hun (gweler cwestiynau 7 ac 8) a chlustnodi cyfrannau mewn arian treigl arall. Fel arall, fe all geisio gorchymyn gan lys i leihau ei gyfalaf dosbarthedig i ddim byd, dileu ei gyfalaf awdurdodedig, a chreu cyfalaf a chlustnodi cyfrannau yr un pryd ar sail gymesur yn yr arian treigl newydd. Mae cwmnïau cyhoeddus yn ddarostyngedig, fodd bynnag, i’r rheidrwydd “isafswm awdurdodedig”. Os byddai lleihau’r cyfalaf yn golygu bod gwerth nominal cyfalaf clustnodedig cwmni cyhoeddus yn disgyn islaw’r isafswm awdurdodedig, bydd angen fel arfer iddo ailgofrestru’n gwmni preifat. At y diben hwn, fodd bynnag, gall cwmni cyhoeddus fodloni rheidrwydd yr isafswm awdurdodedig drwy gyfrannau mewn amrywiol fathau o arian treigl. Mae’r ffordd y pennir a yw’r isafswm awdurdodedig yn cael ei fodloni wedi ei nodi yn Rheoliadau (Isafswm Awdurdodedig) Cwmnïau 2008. 4. A gaiff cwmni newid ei gyfrannau?
Ymhob un o'r achosion uchod, mae cyfanswm y cyfalaf cyfrannau awdurdodedig a dosbarthedig yn aros yr un fath. Rhaid rhoi gwybod i Dŷ'r Cwmnïau am y newid, drwy ddefnyddio Ffurflen 122, cyn pen mis. Does dim ffi’n daladwy i Dŷ’r Cwmnïau. * Am ragor o wybodaeth ynghylch penderfyniadau, gweler ein llyfryn 'Penderfyniadau'. (Deddf Cwmnïau 1985 neu Ddeddf Cwmnïau 2006) *.Sylwer: gall llyfryn Penderfyniadau Deddf Cwmnïau 1985 sy’n rhoi gwybodaeth gyffredinol fod yn berthnasol i’ch cwmni o hyd. 5. Oes modd i’r cwmni ddiwygio hawliau dosbarth? Caiff cwmni ddiwygio'r hawliau sydd ynghlwm wrth unrhyw ddosbarth o gyfrannau. Mae sut y gwneir hyn yn dibynnu ar darddiad yr hawliau - memorandwm, erthyglau neu rywle arall. Ni chaiff cwmni droi cyfrannau an-adenilladwy yn rhai adenilladwy. Caiff cyfranddeiliaid anghytûn sy'n dal o leiaf 15% o gyfrannau dosbarthedig y math hwnnw wneud cais i'r llys am ddirymu'r diwygio. Rhaid iddyn nhw wneud hyn o fewn 21 diwrnod i'r caniatâd gael ei roi neu i benderfyniad gael ei fabwysiadu i amrywio'r hawliau. Os bydd y llys yn caniatáu’r gorchymyn, rhaid i'r cwmni gyflwyno copi o orchymyn y llys i Dŷ'r Cwmnïau o fewn 15 diwrnod iddo gael ei wneud.
6. A gaiff cwmni ddefnyddio cyfrannau adenilladwy i leihau cyfalaf dosbarthedig? Caiff. Caiff cwmni sydd wedi dosbarthu cyfrannau adenilladwy leihau ei gyfalaf cyfrannau dosbarthedig drwy eu hadennill yn unol â'r cytundeb y cawsant eu dosbarthu o dano. Ond os na fydd y perchennog yn dychwelyd y cyfrannau i'r cwmni yn unol â'r cytundeb - er enghraifft, os cânt eu dychwelyd ynghynt na'r dyddiad a nodir yn y cytundeb - yna bydd rhaid i’r cwmni ystyried y trafodyn yn un lle prynir cyfrannau'r cwmni ei hun: gweler cwestiwn 7. Rhaid rhoi gwybod i Dŷ'r Cwmnïau am adennill cyfrannau, drwy ddefnyddio Ffurflen 122, cyn pen mis. Does dim ffi’n daladwy i Dŷ’r Cwmnïau. 7. A gaiff cwmni brynu ei gyfrannau ei hun? Os caniateir hynny gan ei erthyglau, caiff cwmni fabwysiadu penderfyniad arbennig i’w awdurdodi ei hun i brynu rhai o'i gyfrannau. Ond ni chaiff wneud felly os byddai hynny'n gadael cyfrannau adenilladwy yn unig yn ddosbarthedig. Bydd amodau'r penderfyniad yn dibynnu ar y cwestiwn ai 'pryniant marchnad' (sef, prynu drwy farchnad stoc gydnabyddedig) neu 'bryniant tu allan i'r farchnad' (sef, prynu mewn rhyw ffordd arall ar wahân i drwy gyfnewidfa stoc gydnabyddedig, neu brynu drwy gyfnewidfa stoc gydnabyddedig heb fod yn amodol ar drefniadau marchnata drwy’r gyfnewidfa honno) ydyw. Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y gellir prynu tu allan i'r farchnad:
At ei gilydd, pan fo cwmni’n prynu ei gyfrannau ei hun, caiff y cyfrannau eu dileu wrth eu dychwelyd i’r cwmni a rhaid rhoi gwybod am y pryniant i Dy’r Cwmnïau ar Ffurflen 169 o fewn 28 diwrnod. Fodd bynnag, gall cwmni cyhoeddus rhestredig ddal y cyfrannau ‘yn y drysorfa’ i’w hadwerthu neu eu trosglwyddo i gynllun cyfrannau gweithwyr yn nes ymlaen – os felly, rhaid rhoi gwybod am y pryniant i Dy’r Cwmnïau ar Ffurflen 169(1B). Am ragor o wybodaeth ynghylch dal cyfrannau yn y drysorfa, gweler cwestiwn 8. Prynu cyfrannau'r cwmni ei hun ar sail cyfalaf (cwmnïau preifat yn unig) Lle bo cwmni'n prynu ei gyfrannau ei hun, mae'r trafodyn yn un trethadwy o dan Ddeddf Cyllid 1986. Bydd Toll Stamp yn daladwy ar swm cyfanred y pris adbrynu yn ol ½% wedi ei dalgrynnu i’r lluosrif agosaf o £5.
Does dim ffioedd yn daladwy i Dŷ’r Cwmnïau yng nghyswllt Ffurflenni 169, 169(1B) na 173. 8. Oes angen i’r cwmni lenwi dogfennau trosglwyddo i adennill a phrynu ei gyfrannau ei hun? Does dim angen dogfen drosglwyddo pan fo cwmni’n adennill ei gyfrannau ei hun, neu’n prynu ei gyfrannau ei hun ac yn eu dileu. Nid yw’r naill na’r llall o’r trafodion hyn yn gymwys fel trosglwyddiad cyfrannau, a rhaid lleihau cyfalaf cyfrannau dosbarthedig y cwmni wrth iddyn nhw gael eu dychwelyd i’r cwmni. (Nid effeithir ar gyfalaf cyfrannau awdurdodedig y cwmni.) Mae dogfen drosglwyddo’n ddiangen hefyd pan fo cwmni cyhoeddus rhestredig yn prynu ei gyfrannau ei hun ac yn eu dal yn y drysorfa i gael gwared arnyn nhw yn nes ymlaen. Er nad yw’r math hwn o bryniant yn lleihau cyfalaf cyfrannau dosbarthedig y cwmni – fe ddaw’r cwmni yn gyfranddeiliad a chaiff ei gofnodi fel y cyfryw yn y rhestr aelodau – mae’n rhaid llenwi Ffurflen 169(1B) (yn stampiedig lle bo hynny’n briodol) a’i chyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau o fewn 28 diwrnod i’r prynu. Does dim ffi’n daladwy i Dŷ’r Cwmnïau. Lle bo cwmni cyhoeddus rhestredig yn prynu rhai cyfrannau i’w dal yn y drysorfa a rhai i’w dileu, yna mae’n rhaid llenwi Ffurflen 169 ar gyfer y cyfrannau sydd i’w dileu a Ffurflen 169B)(1 ar gyfer y cyfrannau sydd i’w dal yn y drysorfa. Does dim ffi’n daladwy i Dŷ’r Cwmnïau. Os bydd y cwmni’n penderfynu wedyn ddileu cyfrannau trysorfa, neu werthu cyfrannau trysorfa, neu drosglwyddo cyfrannau trysorfa i gynllun cyfrannau gweithwyr, rhaid rhoi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau o fewn 28 diwrnod ar Ffurflen 169A(2). Sylwer: Nid clustnodiad cyfrannau newydd yw gwerthu cyfrannau o’r drysorfa. Peidiwch ag anfon Ffurflen 88(2) i Dŷ’r Cwmnïau. 9. Ga i brynu cyfrannau gan rywun arall? Fel rheol, caiff cyfrannau mewn cwmni cyhoeddus eu trosglwyddo drwy frocer sy'n delio yn y farchnad sy'n briodol i'r cyfrannau hynny, sef Cyfnewidfa Stoc Llundain neu'r Farchnad Fuddsoddi Amgen. Ond gellir trosglwyddo cyfrannau'n uniongyrchol o werthwr i brynwr, gan hysbysu'r cwmni'n gyfatebol. Yn arferol, caiff cyfrannau mewn cwmni preifat eu trosglwyddo drwy gytundeb preifat rhwng y gwerthwr a'r prynwr. Yn y ddau achos, rhaid llenwi dogfen drosglwyddo. Bydd erthyglau cymdeithasiad cwmnïau preifat yn aml yn gosod cyfyngiadau y mae’n rhaid eu parchu ar drosglwyddo cyfrannau. Mae trosglwyddo cyfrannau fel rheol yn drafodyn trethadwy o dan y Ddeddf Stampiau. Bydd Toll Stamp yn daladwy i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi (HMRC) ar y swm cyfanred yn ôl ½% wedi ei dalgrynnu i’r lluosrif agosaf o £5. 10. Sut caiff cyfrannau eu trosglwyddo i berchnogion newydd? I drosglwyddo cyfrannau mewn cwmni preifat neu anghyfyngedig, rhaid i'r gwerthwr lenwi a llofnodi'r darn priodol o 'ffurflen trosglwyddo stoc' – sydd ar gael gan ddogfenwyr y gyfraith. – a'i chyflwyno, gyda thystysgrif y cyfrannau, i'r perchennog newydd. Wedyn, bydd rhaid i'r perchennog newydd lenwi ei ddarn ef/ei darn hi o'r ffurflen trosglwyddo stoc, talu unrhyw doll stamp i Gyllid a Thollau EM a chyflwyno'r ffurflen a gwblhawyd, ynghyd â thystysgrif y cyfrannau, i'r cwmni. Yna, bydd ysgrifennydd y cwmni'n trefnu i'r cyfarwyddwyr awdurdodi'r newid i gofrestr yr aelodau ac yn rhoi tystysgrif gyfrannau yn yr enw newydd. Peidiwch ag anfon ffurflenni trosglwyddo stoc i Dŷ'r Cwmnïau. Dylid cadw'r rheiny gyda chofnodion y cwmni ei hun. 11. Beth yw trawsgludo cyfrannau? Fel arfer, bydd unrhyw gyfyngiadau ar drosglwyddo cyfrannau a gynhwysir yn erthyglau’r cwmni yn gymwys i drosglwyddiad neu gais sy’n codi yn sgil marwolaeth neu fethdaliad y cyfranddeiliad. Pan roir gwarant gyfrannau, rhaid i'r cwmni ddileu enw'r cyfranddeiliad o'i gofrestr aelodau, gan nodi dyddiad rhoi'r warant a nifer y cyfrannau y mae'n ymwneud â nhw. Yn amodol i'r erthyglau, gall perchennog y warant gyfrannau ei hildio i gael ei dileu. Os felly, bydd gan y deiliad hawl i'w (h)enw gael ei ailgynnwys yn y gofrestr aelodau. Fel arfer, bydd cwmnïau’n rhoi taleb gyda gwarant gyfrannau fel y gall y perchnogion hawlio unrhyw fuddran. Bydd deiliad gwarant gyfrannau'n aros yn gyfranddeiliad, ond bydd aros yn aelod o'r cwmni'n dibynnu ar erthyglau'r cwmni. Dylai cwmni sy'n trosi ei holl gyfrannau'n warantau cyfrannau fod yn ofalus: gallai fynd yn gwmni diaelodau ac felly peidio â bod. 13. Beth sy'n digwydd os aiff tystysgrif gyfrannau ar goll? Fel arfer, bydd y cyfarwyddwyr yn mynnu gan y deiliad ildio unrhyw dystysgrif a ddifwynwyd neu sydd wedi treulio a llofnodi indemniad ynglŷn â defnyddio tystysgrif a aeth ar goll neu a gafodd ei difodi. Gallant hefyd fynnu gan y deiliad dalu unrhyw dreuliau rhesymol mewn cysylltiad ag ymchwilio i dystiolaeth o golled. 14. Ga i ddileu cyfran os nad oes modd olrhain y deiliad? Na chewch. Mae'r gyfran yn eiddo i'r deiliad cofrestredig, nid i'r cwmni. Os yn y pen draw y datgenir yn gyfreithiol fod y person wedi marw, yna dylai'r gyfran gael ei thrawsgludo i'r buddiolydd (neu’r buddiolwyr) - gweler cwestiwn 11. Os awdurdodir hynny gan ei erthyglau, caiff cwmni gadw unrhyw fuddran sy'n aros heb ei hawlio wedi cyfnod arbennig.
Nodyn: Ar hyn o bryd, yr unig ffurflenni cyfalaf y gallwch eu ffeilio’n electronig yw Ffurflenni 88(2) a 123. Gallwch chi gyflwyno dogfennau i’r Cofrestrydd â llaw (yn bersonol neu drwy negesydd), gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa, dros wyliau banc a thros y penwythnos i Gaerdydd, Llundain a Chaeredin. Gallwch chi hefyd gyflwyno dogfennau drwy’r post, drwy’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) neu drwy’r Post Cyfreithiol (LP) yn yr Alban. Wrth anfon dogfennau, byddwch cystal â’u cyfeirio at:
Os hoffech chi dderbynneb wrth anfon dogfennau drwy’r post, drwy negesydd neu drwy’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX), bydd Tŷ’r Cwmnïau’n gyrru nodyn cydnabod os amgaewch gopi o’ch llythyr eglurhaol gydag amlen stampiedig yn dangos eich cyfeiriad dychwelyd. Byddwn yn marcio dyddiad ei dderbyn ar eich llythyr copi drwy gyfrwng cod bar ac yn ei ddychwelyd ichi yn yr amlen a ddarparwyd gennych. Sylwer: nid yw cydnabod dod i law yn golygu bod dogfen wedi cael ei derbyn i’w gofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau. Sylwer: Nid yw Tŷ'r Cwmnïau yn derbyn cyfrifon na dogfennau statudol eraill dros beiriant ffacs. 3. Ga i ffeilio dogfennau mewn ieithoedd eraill? Fel arfer, yn Saesneg y mae’n rhaid ichi ffeilio dogfennau gyda Thŷ’r Cwmnïau. Mae eithriadau i hyn yn unol â’r manylion isod. Cewch lunio a chyflwyno dogfennau sy’n ymwneud â chwmnïau Cymreig yn Gymraeg. Caiff cwmnïau gyflwyno’r dogfennau canlynol mewn ieithoedd eraill os bydd
Yn ychwanegol, mae cwmnïau hefyd yn cael ffeilio cyfieithiadau ardystiedig gwirfoddol o unrhyw ddogfen sy’n dod o dan ofynion datgelu’r Gyfarwyddeb Gyntaf ar y Gyfraith Gwmnïau. Mae hyn yn cynnwys:
Rhaid i’r cyfieithiad gwirfoddol gyfeirio at ddogfen a gyflwynwyd i Dŷ'r Cwmnïau ar 1 Ionawr 2007 neu wedi hynny. Gall cyfieithiadau gwirfoddol gael eu ffeilio yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd yn unig a rhaid anfon Ffurflen 1106i gyd-fynd â nhw. 4. Ble galla i gael ffurflenni a llyfrynnau canllaw? Mae hwn yn un o gyfres o lyfrynnau gan Dŷ’r Cwmnïau sy’n rhoi canllaw syml i’r Deddfau Cwmnïau a deddfwriaeth gysylltiedig. Mae ffurflenni statudol a llyfrynnau canllaw ar gael, yn rhad ac am ddim, gan Dŷ’r Cwmnïau. Y ffordd gyflymaf i’w sicrhau yw drwy’r wefan hon neu drwy ffonio 0870 3333636. Gellir hefyd gael ffurflenni gan ddogfenwyr cyfreithiol, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid ffurfio cwmnïau – cyfeiriadau mewn llyfrau ffôn ar gyfer busnesau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|