Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Amdanon Ni`

Ein prif swyddogaethau Ac Hanes
Bwrdd a Rheolwyr Tŷ'r Cwmnau
Cyflenwi Tŷ'r Cwmnau
Llyfrgell
Canllaw
Cyfathrebu yn Gymraeg
Amrywiol
Dogfennau Polisi


Cwmnïau Rheoli Fflatiau - GBA9

Mehefin 2008 - Fersiwn 12 Fel yr addaswyd gan Ddeddf Cwminau 2006

Rhaid bod yn ymwybodol o’r canlynol wrth ddarllen y nodiadau canllaw hyn:

Mae rhai (ond nid y cyfan) o ddarpariaethau Deddf Cwmnïau 2006 wedi dod i rym.  Gan hynny, mae rhai o ddarpariaethau Deddf Cwmnïau 1985 yn dal yn berthnasol.  Rydym wedi ceisio gwneud yn glir drwy’r holl nodiadau hyn, gymaint â phosib, pa Ddeddf sy’n berthnasol.  Os hoffech chi wybod pa ddarpariaethau yn y Deddfau priodol sydd mewn grym, galwch heibio i’n gwefan www.companieshouse.gov.uk.Mae dolen ar ein gwefan hefyd i wefan BERR (Yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio) www.berr.gov.uk/bbf/co-act-2006/index.html, lle gallwch weld rhagor o wybodaeth. Mae rhai darpariaethau yn y Ddeddf newydd yn amodol ar drefniadau trosiannol. Cyhyd â phosib, eglurwn hyn yn y canllaw hwn a rhown fanylion ar ein gwefan

Mae dau gam pellach yng ngweithrediad Deddf Cwmnïau 2006 a drefnwyd ar gyfer Hydref 2008 a Hydref 2009. Byddwn yn diweddaru unrhyw nodiadau canllaw a effeithir gan y gweithrediadau hynny ar y pryd. Efallai yr hoffech chi gadw golwg ar ein gwefan hefyd lle byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth wrth i’r broses o weithredu barhau, er mwyn ichi gael mynediad at y newyddion diweddaraf.

Tan fis Hydref 2009, mae’r nodiadau canllaw hyn yn gymwys yn unig i gwmnïau wedi eu ffurfio ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban). Bwriedir wedyn i’r system ar wahân ar gyfer Gogedd Iwerddon ymdoddi i system gyfunol ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd.

Cynnwys


Brig
Cyflwyniad

Diben y llyfryn hwn yw cynorthwyo pobl sy’n rhedeg cwmni a gafodd ei ffurfio i reoli eiddo wedi’i rannu’n nifer o fflatiau ar wahân. Mae sawl ffordd y gall cwmni fod yn berchen ar adeilad preswyl.  Gall cwmni fod yn berchen ar y rhydd-ddaliad neu fe allai ddal prif brydles yn lle hynny. O dan Ddeddf Diwygio Cyfunddaliad a Phrydlesi 2002, a gyflwynwyd ar 27 Medi 2004, gellir dal eiddo fel cyfunddaliad lle bydd y rhannau cyffredin wedi’u perchnogi a’u rheoli gan ‘gymdeithas gyfunddaliad’ sydd yn gwmni.

Anelir y llyfryn at ddarparu canllaw sylfaenol. Mae’n ymdrin â rhai o’r cwestiynau posibl y bydd angen ichi eu hystyried megis:

  • Oes angen cwmni cyfyngedig arnoch  chi?
  • Os byddwch yn gwmni, beth fydd eich cyfrifoldebau? 

Mae hefyd yn rhoi cyngor ar sut i gadw cofnodion cyfrifeg a sut i ddeall y cyfrifon a baratoir ohonynt. Nid yw’n egluro’r fframwaith statudol sy’n rheoli’r diwyg ar gyfer paratoi cyfrifon, na’r rheolau cyfrifeg hir a chymhleth. Mae’r llyfryn hwn yn ffynhonnell gyffredinol ar gyfer gwybodaeth i gwmnïau yn ystod y cyfnod trosiannol hwn wrth i rannau o Ddeddf Cwmnïau 1985 gael eu diddymu ac i rannau o Ddeddf Cwmnïau 2006 gychwyn::

  • nid yw’n egluro’r broses sy’n caniatáu i ddeiliaid prydles feddiannu’r hawl i reoli eu heiddo eu hun. Mae gwybodaeth am gwmnïau “hawl i reoli” i’w chael gan y Gwasanaeth Prydles Ymgynghorol (tel. 020 7374 5380 neu ymwelwch ag www.lease-advice.org) neu Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol  (tel. 020 7944 4400 neu ymwelwch ag www.communities.gov.uk;
  • nid yw’n egluro’r gyfraith ar gyfunddaliad na sut i sefydlu cymdeithas gyfunddaliad. Mae gwybodaeth am gymdeithasau cyfunddaliad i’w chael gan y Gwasanaeth Prydles Ymgynghorol (tel. 020 7374 5380 neu ymwelwch ag http://www.lease-advice.org) neu’r Weinyddiaeth Cyfiawnder (gynt Yr Adran Materion Cyfansoddiadol)(tel. 020 7210 8500 neu ymwelwch ag www.justice.gov.uk). Mae gwybodaeth am y gyfraith ar gyfunddaliad i’w chael o hyd yng nghyfeiriad cyn-wefan yr adran. www.dca.gov.uk

Fodd bynnag, bydd cwmnïau “hawl i reoli” a chymdeithasau cyfunddaliad wedi eu ffurfio o dan y Ddeddf Cwmnïau 1985 ac at ei gilydd bydd gwybodaeth y llyfryn hwn yn gymwys iddynt hwy.

Nid yw’r llyfryn yn cynnig canllaw ar gyfer pob achos nac yn ystyried y cymhlethdodau cyfreithiol a all godi. Os bydd gennych unrhyw amheuon ynglŷn â’ch hawliau a’ch rhwymedigaethau, hwyrach y carech chi geisio cyngor proffesiynol.

Brig

Pennod 1
Oes angen cwmni arnoch chi?

1 Beth yw cwmni cyfyngedig?

O dan y gyfraith, mae cwmni cyfyngedig yn ‘berson’ ynddo’i hun. Mae hyn yn golygu y gall fod yn berchen ar eiddo (megis rhyddfraint neu brydles) ac ymgymryd â chontractau yn ei enw ei hun. Mae’n bodoli’n annibynnol ac ar wahân i’r bobl sy’n ei reoli neu sy’n berchen arno. Mae gwahanol fathau o gwmni cyfyngedig: “cwmnïau cyhoeddus”, y caiff eu cyfrannau eu prynu a’u gwerthu gan y cyhoedd, a “chwmnïau preifat”, sef pob math arall o gwmni; ac mae’n bosib bod yn berchen ar gwmni heb orfod bod yn berchen ar gyfrannau ynddo, drwy gyfrwng “cwmni preifat wedi’i gyfyngu drwy warant”.  Mae’n annhebygol y byddai cwmni cyhoeddus yn addas fel cwmni rheoli fflatiau.

Pan gaiff eiddo ei rannu’n nifer o fflatiau, fel arfer bydd gan bob perchennog fflat brydles ar ei fflat ei hun, ond gall hefyd bod aelod mewn cwmni rheoli sy’n berchen ar ryddfraint (neu brydles) yr adeilad cyfan. Fel aelodau o’r cwmni, bydd gan berchnogion fflatiau eu llais eu hun yn y ffordd y caiff ei redeg. Os yw’r aelodau’n berchen ar gyfrannau yn y cwmni, yr arfer gyffredin o dan gyfansoddiad y cwmni (ei “erthyglau cymdeithasiad”) yw bod yn rhaid i gyfranddeiliaid sy’n gwerthu’u fflatiau drosglwyddo’u cyfrannau hefyd i’r perchnogion newydd. Drwy hyn fe sicrheir bod y cwmni cyfyngedig  ar unrhyw adeg arbennig  yn cynrychioli buddiannau pawb o’r perchnogion fflatiau presennol a bydd yn aros yn endid cyfreithiol ar wahân, ni waeth pwy sy’n dal ei gyfrannau o bryd i’w gilydd.  

Bydd rhai cwmnïau cyfyngedig heb gyfrannau a byddant yn hytrach ‘wedi eu cyfyngu drwy warant’. Yng Nghymru a Lloegr, mae hyn yn cynnwys cymdeithasau cyfunddaliad a chwmnïau “hawl i reoli”. Os yw’ch cwmni wedi ei gyfyngu drwy warant, mae hyn yn golygu bod yr aelodau wedi cytuno i gyfrannu at asedion y cwmni os caiff ei ddirwyn i ben. Yn y llyfryn hwn, ystyr y termau “cyfranddeiliad“ac “aelod” yw y bobl sy’n meddu ar y cwmni.

Yn lle bod yn gwmni, hwyrach yr hoffech chi ystyried dau bosibilrwydd arall:

  • Os nad yw’ch sefydliad yn meddu ar eiddo, ond yn syml yn casglu arian gan drigolion am waith trwsio a chynnal a chadw, gan dalu biliau wrth iddynt ddod yn ddyledus, yna gall trefniadau llai ffurfiol fod yn addas, megis cymdeithas drigolion.
  • Gallai’r trigolion ystyried prynu rhyddfraint eu heiddo yn eu henwau eu hun neu fel ymddiriedolwyr.

Os byddwch yn ansicr a yw’r opsiynau uchod yn addas i’ch amgylchiadau chi, hwyrach y carech chi geisio cyngor proffesiynol.

2 Pam bod yn gwmni cyfyngedig?

Mae llawer rheswm dros ffurfio a rhedeg cwmni cyfyngedig. Amlinellir isod ychydig o resymau sy’n ymwneud â chwmnïau rheoli fflatiau. Nid yw’r rhestr hon yn ddisbyddol.

Un rheswm pam y byddai trigolion bloc o fflatiau yn dymuno bod yn gwmni cyfyngedig yw meddu ar y rhyddfraint neu’r brif brydles. Mae rhyddfraint yn rhoi i’r cwmni cyfyngedig berchnogaeth lwyr ar yr eiddo. Mae prif brydles yn brydles a roir yn uniongyrchol i’r cwmni cyfyngedig, a all yn ei dro roi isbrydlesi ar yr eiddo (neu rannau ohono) i berchnogion y fflatiau. At ddibenion y llyfryn hwn, mae’r gwahaniaeth rhwng cwmni sy’n berchen ar ryddfraint ac un sy’n dal ‘prif brydles’ yn ddibwys. Fodd bynnag, caiff drigolion defnyddio cwmni cyfyngedig yn aml i gasglu cronfa arian ganolog at ddibenion gwaith trwsio a chynnal a chadw ar rannau o’r eiddo a ddelir yn gyffredin. Os defnyddir cwmni cyfyngedig i reoli bloc o fflatiau, yn aml, un o amodau prynu fflat yw bod y prynwr yn dod yn aelod neu’n gyfranddeiliad o dan y cwmni. Mewn rhai enghreifftiau, bydd pob perchennog fflat yn dod yn gyfarwyddwr awtomatig. Gweler cwestiwn 5 ynglŷn â chyfrifoldebau cyfarwyddwyr.

Rheswm arall dros sefydlu cwmni cyfyngedig yw er mwyn i ddeiliaid prydlesi fflatiau arfer eu hawl i reoli’r adeilad maen nhw’n byw ynddo. Rhaid arfer yr hawl i reoli drwy gwmni cyfyngedig a gaiff ei sefydlu at y diben hwnnw. Cwmni hawl i reoli y gelwir y math hwn o gwmni. Ceir rheolau arbennig ar gyfer sefydlu a rhedeg cwmni hawl i reoli yng Nghymru a Lloegr nad ymdrinnir â nhw yn y llyfryn hwn. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael gan Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol  (tel. 020 7944 4400 neu ymwelwch ag www.communities.gov.uk).

Câi cwmni cyfyngedig ei sefydlu hefyd i berchnogi a rheoli’r rhannau cyffredin o ddatblygiad oedd yn cynnwys unedau ar wahân o dan gyfunddaliad perchenogaeth.. Cymdeithas gyfunddaliad y gelwir y math hwn o gwmni. Ceir rheolau arbennig ar gyfer sefydlu a rhedeg cymdeithas gyfunddaliad nad ymdrinnir â nhw yn y llyfryn hwn. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael gan  Y Weinyddiaeth Cyfiawnder  (tel. 020 7210 8500 neu ymwelwch ag www.justice.gov.uk). Mae gwybodaeth am y gyfraith ar gyfunddaliad i’w chael o hyd yng nghyfeiriad cyn-wefan yr adran www.dca.gov.uk

3 Beth a wnaiff cwmni rheoli fflatiau?

Yn nodweddiadol, bydd cwmnïau rheoli fflatiau’n rheoli’r rhannau cyffredin o’r adeilad. Gall fod cyfrifoldebau eraill ganddynt. Mae’n debyg bod gan eich eiddo rannau sy’n gyffredin i’r holl berchnogion fflatiau sy’n byw yno: mae terfynau, toeau, cynteddau, rhodfeydd a gerddi yn enghreifftiau nodweddiadol. Bydd eisiau gwaith cynnal a chadw, yswiriant, goleuo, etc, ar gyfer y rhain. Y perchnogion fflatiau unigol fel arfer fydd yn cyllido’r costau hyn, drwy wneud cyfraniadau cyfnodol at gyd-gronfa  
Bydd llawer o gwmnïau rheoli fflatiau yn dewis diwallu’r trafodion hyn o fewn y cwmni ei hun. Gwelir gwybodaeth am y gyfrifeg ariannol sydd eisiau ym Mhenod 2 

Os nad yw’ch cwmni ond yn talu ychydig o filiau, efallai am drwsio neu gynnal a chadw, hwyrach y bydd eich ymgynghorydd yn dweud nad oes angen i’r taliadau hyn fynd drwy lyfrau’r cwmni. Gall trefniadau llai ffurfiol, megis casglu’r arian drwy gymdeithas drigolion, fod yn foddhaol. Wedyn gallai’r cwmni barhau i fod yn berchen ar ryddfraint (neu brif brydles) yr eiddo, ond bydd yn cynnal pob trafodyn cyfrifeg rywle arall - byddai’r cwmni wedyn yn 'segur'. Byddai’n rhaid o hyd ichi baratoi cyfrifon, eu cyflwyno i’r aelodau a’u hanfon i Dŷ’r Cwmnïau, ond y cyfan y byddai hynny’n ei olygu yw mantolen syml nad oes rhaid iddi gael ei harchwilio’n ffurfiol. Dylech chi geisio cyngor proffesiynol cyn mabwysiadu’r dull gweithredu hwn er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol.

Mae mantolen safonol ar gyfer cwmnïau segur, Ffurflen DCA, yn addas i gwmnïau wedi’u cyfyngu drwy gyfrannau sy’n segur ers eu corffori, a gellir ffeilio honno ar-lein drwy ddefnyddio WebFiling neu becyn Software Filing priodol. www.companieshouse.gov.uk. Am hon, a rhagor o wybodaeth ynghylch cyfrifon cwmnïau segur, gweler ein llyfryn 'Cwmnïau Segur'.

4 Beth yw cyfrifoldebau cyfreithiol cwmnïau cyfyngedig?

Un o brif fanteision cwmni cyfyngedig yw bod atebolrwydd y perchennog wedi’i gyfyngu os bydd y cwmni’n methu (oni bai bod ei berchnogion yn dewis bod ag atebolrwydd anghyfyngedig: nid ymdrinnir ag atebolrwydd anghyfyngedig yn y canllaw hwn). Ystyr atebolrwydd cyfyngedig yw na fydd y perchnogion yn talu ond yr hyn a dalwyd ganddynt yn barod neu y bu iddynt gytuno i’w dalu tuag at fodloni dyledion y cwmni cyfyngedig - naill ai yr hyn a dalwyd ganddynt neu y bu iddynt gytuno i’w dalu am eu cyfrannau neu’r swm y rhoesant warant i’w dalu, fel arfer £1. Yn gyfnewid am yr atebolrwydd cyfyngedig hwn, mae’r gyfraith yn mynnu bod cwmni cyfyngedig yn trefnu i wybodaeth arbennig fod ar gael i’r cyhoedd. Rhaid iddo ffeilio’r wybodaeth hon yn Nhŷ’r Cwmnïau. Mae amseriad a chyflwyniad yr wybodaeth wedi eu rheoli gan y gyfraith.

Deddfwriaeth y gyfraith gwmnïau sy’n llywodraethu cwmnïau rheoli fflatiau.. Nid yw’n caniatáu i gwmnïau rheoli fflatiau gael eu trin yn wahanol i gwmnïau eraill.

Y prif ofynion deddfwriaethol i gael ffeilio gwybodaeth yn Nhŷ’r Cwmnïau fel maent yn effeithio ar gwmnïau rheoli fflatiau yw bod rhaid cyflwyno:

Rhaid i’r dogfennau a’r hysbysiadau hyn gael eu ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau. Mae Pennod 3 yn rhoi gwybodaeth am beth y mae eisiau ichi ei anfon i Dŷ’r Cwmnïau a phryd.

5 Pwy sy’n gyfrifol am reoli’r cwmni?

Cyfrifoldeb ei swyddogion yw rheol cwmni. Y swyddogion yw cyfarwyddwyr y cwmni ac weithiau yr ysgrifennydd. Rhaid i bob cwmni fod â chyfarwyddwyr. O 6 Ebrill 2008 ymlaen, does dim rhaid i gwmni preifat fod ag ysgrifennydd cwmni: ond gall ddewis cynnwys yn ei erthyglau cymdeithasiad ofyniad y dylai fod un.  Os byddwch yn penodi ysgrifennydd cwmni, mae’n rhaid ichi roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am y penodiad, am unrhyw newid i’r manylion neu am derfynu’r penodiad ar y ffurflen briodol, sef Ffurflenni 288a, 288b neu 288c. Mae’r rhain ar gael i’w ffeilio ar-lein ar www.companieshouse.gov.uk; drwy ddefnyddio pecyn Software Filing priodol neu bapur.

Rhaid i gwmnïau cyhoeddus fod ag o leiaf un ysgrifennydd cwmni cymwys. Byddwch yn defnyddio’r un ffurflenni a nodwyd uchod i roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am y penodi, am newid manylion neu am derfynu’r swydd. 

Bydd y cyfarwyddwyr a’r ysgrifennydd yn rheoli’r cwmni ar ran yr aelodau. Ymhlith pethau eraill, maen nhw’n gyfrifol am gynnal cyfarfodydd a gwneud yn siŵr fod yr holl ffurflenni flynyddol, cyfrifon a dogfennau eraill sy’n angenrheidiol yn cyrraedd Tŷ’r Cwmnïau erbyn y dyddiad dyledus.

6 Beth sy’n digwydd os na chyflwyna i  ddogfennau i Dŷ’r Cwmnïau?

Wrth gael eich penodi’n swyddog, byddwch yn ysgwyddo nifer o rwymedigaethau pwysig iawn. Os na chydymffurfiwch â’r rhain, gallai’r canlyniadau fod yn ddifrifol dros ben. Gellid erlyn swyddogion y cwmni am eu bod yn gyfrifol am sicrhau bod dogfennau’n cael eu cyflwyno’n brydlon.  

Gallai’ch cwmni hefyd gael ei ‘ddileu o’r gofrestr’ a’i ddiddymu. Os felly, bydd holl asedion cwmni (megis rhyddfraint eich eiddo) yn dod yn‘bona vacantia’. Mae hyn yn golygu  bod yr asedion yn perthyn i’r Goron. Ni allai’ch cwmni werthu ei ryddfraint a hwyrach y caech chi na fyddai modd ichi werthu’ch fflat. Felly, mae er eich lles eich hun i wneud yn siŵr fod y cwmni’n cydymffurfio â’r gyfraith ac yn aros ar y gofrestr.

7 Ydy’r aelodau’n cael llais yn y ffordd y rheolir y cwmni?

O 1 Hydref 2007 ymlaen, does dim rhaid at ei gilydd i gwmnïau preifat gynnal cyfarfodydd cyffredinol. Ond os oes gofyniad ym memorandwm neu erthyglau cymdeithasiad cwmni preifat presennol ar 30 Medi 2007 sy’n mynnu’n unswydd gan y cwmni gynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol, bydd y gofynion hyn yn dal â grym cyfreithiol ar ôl 1 Hydref 2007. At hynny, bydd angen o hyd i’r cwmni gynnal cyfarfodydd cyffredinol i ddiswyddo cyfarwyddwr cyn i gyfnod ei benodiad ddod i ben, neu i hepgor gwasanaeth archwilydd ariannol cyn diwedd ei gyfnod yn y swydd. Caiff cwmnïau preifat wneud y rhan fwyaf o benderfyniadau a wneid gynt mewn cyfarfodydd drwy benderfyniad ysgrifenedig wedi’i gynnig gan yr aelodau. 

Mae yna bŵer i’r aelodau fynnu bod y cyfarwyddwyr yn galw cyfarfod cyffredinol o gwmni preifat. Fodd bynnag, dim ond lle bo canran ofynnol o’r aelodau’n mynnu hynny y bydd y pŵer hwn yn effeithiol.  

Mae’n rhaid i gwmnïau cyhoeddus gynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol.

Mae cyfarfodydd cyffredinol yn gyfle i’r aelodau godi materion a chymryd penderfyniadau ynglŷn â’r ffordd y caiff y cwmni ei redeg. Caiff yr aelodau ethol a therfynu penodiad cyfarwyddwyr, a mabwysiadu amrywiol benderfyniadau.  Er enghraifft, caiff yr aelodau benderfynu bod modd i’r cwmni anfon neu gyflenwi dogfennau, gan gynnwys cyfrifon, ar gyfer yr aelodau drwy drefnu iddynt fod ar gael ar wefan.  Does dim gorfod i aelodau dderbyn cyfathrebiadau yn y ffordd hon ac mae ganddynt hawl i fynnu copi papur.  


Brig

Pennod 2
Cyfrifon statudol

1 Pa gofnodion cyfrifeg y mae’n rhaid i gwmni eu cadw?

Mae gan bob cwmni ddyletswydd i gadw cofnodion cyfrifeg, e.e. anfonebau, nodion credyd etc. Cofnodion felly sy’n rhoi sail i baratoad cyfrifon blynyddol. Ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu wedi 6 Ebrill 2008 mae Deddf Cwmnïau 2006 a’r Rheoliadau a wnaed o dani yn pennu diwyg cyfrifon blynyddol cwmnïau, yr wybodaeth sydd angen ei datgelu, a’r rheolau sy’n effeithio ar brisiad a thriniaeth trafodion a gweddillau’n ymddangos yng nghyfrifon y cwmni. Deddf Cwmnïau 1985 a’r Rheoliadau a wnaed o dani sy’n gymwys i gyfrifon cwmnïau ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dechrau cyn 6 Ebrill 2008.

Mae’r gofynion hyn o ran cynhyrchu cyfrifon blynyddol yn hir a chymhleth. Os nad ydych yn sicr sut i’w cynhyrchu, hwyrach y carech chi ystyried ymgynghori â chyfrifydd proffesiynol i baratoi’ch cyfrifon blynyddol statudol.

2 Beth os na all ein cwmni fforddio cyfrifydd proffesiynol?

Mae llawer o gwmnïau bach rheoli fflatiau heb ddymuno cyflogi cyfrifydd a byddant yn ceisio paratoi eu cyfrifon eu hunain.

Bydd llawer o’r ymdrechion hyn i gynhyrchu cyfrifon blynyddol yn mynd o chwith yn ddifrifol. Caiff cyfrifon eu creu heb gyfeirio at y gofynion deddfwriaethol na gwybodaeth amdanynt; eto i gyd, bydd cyfarwyddwyr yn llofnodi, er enghraifft, ddatganiad yn y cyfrifon yn cydnabod bod y cyfrifon yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol.

Dylai cyfarwyddwyr nodi  y gallant gael eu herlyn os bydd eu cyfrifon yn methu cydymffurfio â’i gofynion deddfwriaethol.

Bydd rhai cwmnïau bach rheoli fflatiau yn ethol un o’u haelodau i gadw cofnod o’r trafodion, a bydd hefyd yn disgwyl i’r unigolyn paratoi’r cyfrifon statudol. Sut bynnag gall paratoi cyfrifon statudol lyncu llawer o amser, yn ogystal ag achosi straen a rhwystredigaeth. Dylai pawb o’r aelodau ystyried yn ofalus a yw’n deg i osod y llwyth hwnnw ar rywun, ac a yw’r unigolyn a ddewisir yn hyderus, yn alluog ac yn fodlon i ysgwyddo’r cyfrifoldeb.

3 Ein trysorydd sy’n cadw’r llyfrau a’r cyfrifon -  beth y gallwn ei wneud i hwyluso’r gwaith iddo/iddi?

Gall yr aelodau wneud bywyd yn haws i’r llyfrifydd drwy sicrhau bod eu cyfraniadau’n cael eu talu’n brydlon i gyfrif banc y cwmni.

Bydd llunio’r cofnodion cyfrifeg yn rheolaidd, ffeilio cyson a gwaith papur croesgyfeiriol, ynghyd â llenwi’r manylion ar fonion sieciau, i gyd yn gwneud y gwaith o gadw’r llyfrau yn haws. Os chi yw’r trysorydd ond eich bod yn ddibrofiad yn y swyddogaeth hon, mae’n werth cofio nad yw dibynnu ar eich cof yn gweithio’n dda iawn - dylech gadw cofnodion ysgrifenedig priodol a’u diweddaru’n gyson.

4 Ydy Tŷ’r Cwmnïau yn rhoi cyngor technegol ynglŷn â chyfrifon?

Nac ydy. Gallwn roi cyfarwyddyd cyffredinol, ond nid cyngor ar faterion cyfrifeg penodol. Yn gyntaf, nid yw dosbarthu cyngor technegol yn swyddogaeth Tŷ’r Cwmnïau . Yn ail, nid yw hynny’n ymarferol: mae’ch cyfrifon yn dibynnu ar ofynion cyfreithiol cymhleth, ac nid ydym yn gwybod digon am eich cwmni i fod yn hyderus ein bod yn rhoi ichi gyngor priodol.

Am ragor o wybodaeth ynghylch paratoi cyfrifon ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau gweler ein llyfryn canllaw. ‘Cyfrifon a Dyddiadau Cyfeirnod Cyfrifeg’ GBA3CYM

Brig

Pennod 3
Cwmnïau rheoli fflatiau a Thŷ’r Cwmnïau

1 Pa wybodaeth sydd angen ar Dŷ’r Cwmnïau?

Mae Tŷ’r Cwmnïau’n cadw gwybodaeth ddiweddaraf am bob cwmni cyfyngedig sydd ar glawr ac rydym yn trefnu i’r wybodaeth honno fod ar gael i unrhyw un sydd eisiau gwybod manylion y cwmni. Er enghraifft, mae angen inni wybod:

  • Ble i gysylltu â’r cwmni. Y ‘swyddfa gofrestredig’ y gelwir cyfeiriad swyddogol y
    cwmni.
  • Pwy sy’n rhedeg y cwmni. Manylion swyddogion y cwmni.
  • Pwy sydd biau cyfrannau yn y cwmni – Manylion y cyfranddeiliaid (os oes rhai gan y cwmni).
  • Lle mae’r cwmni’n cadw cofrestri cwmni arbennig
  • Pa reolau sy’n llywodraethu cwmni.  Ei femorandwm a’i erthyglau cymdeithasiad.
  • Pryd mae diwedd blwyddyn ariannol cwmni. Y ‘dyddiad cyfeirnod cyfrifeg’ y
    gelwir diwedd blwyddyn ariannol cwmni.
  • Beth mae cyfrifon y cwmni yn ei ddweud.

Caiff rhan fwya’r wybodaeth hon ei chofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau wrth ffurfio’r cwmni gyntaf ac, os bydd rhywbeth yn newid, bydd angen ichi ddweud wrthym, a hynny fel arfer ar ffurflen priodol. Mae’n rhaid i bob cwmni gyflwyno ffurflen flynyddol i Dŷ’r Cwmnïau o leiaf unwaith bob 12 mis, fel crynodeb o’r wybodaeth sy’n cael ei chadw ar y cofnod cyhoeddus yn Nhŷ’r Cwmnïau – gweler cwestiwn 6. Hefyd, bob blwyddyn, mae’n rhaid i gwmni baratoi cyfrifon ac anfon y rheiny atom.

Y ffordd fwyaf diogel i anfon gwybodaeth statudol i Dŷ’r Cwmnïau yw drwy ddefnyddio’n gwasanaethau ffeilio ar-lein.Mae WebFiling yn cynnwys darpariaethau gwirio mewnol fel y gallwch fod yn sicr nad ydych wedi hepgor unrhyw wybodaeth allweddol. Am ragor o wybodaeth ynghylch argaeledd a manylion cofrestru ymwelwch â’n gwefan www.companieshouse.gov.uk

Cynhwysir yn y bennod hon wybodaeth bellach am ba bryd a sut y mae angen ichi ddweud wrthym am newidiadau i’r manylion uchod.

2 Beth yw swyddfa gofrestredig?

Dyma gyfeiriad swyddogol y cwmni fel y cafodd ei gofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau. Dyma hefyd y cyfeiriad lle bydd Tŷ’r Cwmnïau fel arfer yn anfon llythyrau a nodiadau atgoffa. Gall y swyddfa gofrestredig fod unrhyw le yng Nghymru neu Loegr( os yw’ch cwmni wedi ei gofrestru yno) neu yn yr Alban (os yw’ch cwmni wedi ei gofrestru yno) neu yng Nghymru os. yw’ch memorandwm cymdeithasiad yn dweud bod rhaid i’r swyddfa gofrestredig fod yno.Mae’n bwysig bod pob gohebiaeth a hysbysiad a yrrir i’r cyfeiriad hwn yn cael sylw di-oed. Rhaid rhoi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau ar Ffurflen 287 sydd ar gael i’w ffeilio ar-lein drwy ddefnyddio Webfiling a phecynnau software filing amrywiol, os newidir cyfeiriad y swyddfa gofrestredig. Dim ond wrth gofrestru’r ffurflen yn  Nhŷ’r Cwmnïau  y daw’r cyfeiriad newydd yn swyddfa gofrestredig.

Rhaid i bob cwmni fod â  swyddfa gofrestredig, a rhaid dangos enw’r cwmni y tu allan.

Sylwer: Os bwriadwch newid y swyddfa gofrestredig ond eich bod yn methu dweud wrthym, byddwn yn parhau i anfon pob nodyn atgoffa a llythyr swyddogol i’r hen gyfeiriad. Mae’n bosib na fyddwch byth yn eu derbyn a gall y cwmni gael ei ddiddymu heb yn wybod ichi os methwch ffeilio cyfrifon a ffurflenni blynyddol fel mae’r ddeddfwriaeth yn mynnu.

3 Pwy yw swyddogion y cwmni?

Dyma gyfarwyddw(y)r ac weithiau ysgrifennydd y cwmni. Mae’n ofynnol i bob cwmni fod â chyfarwyddwyr. O 6 Ebrill 2008 ymlaen, does dim rhaid i gwmni preifat fod ag ysgrifennydd cwmni: ond gall ddewis cynnwys yn ei erthyglau cymdeithasiad ofyniad y dylai fod un.  Rhaid i gwmnïau cyhoeddus fod ag o leiaf un ysgrifennydd cwmni cymwys. Mae’r swyddogion yn gyfrifol am reoli’r cwmni ac am gyflwyno dogfennau i Dŷ’r Cwmnïau.Rhaid ichi gofnodi eu manylion yng nghofrestr y cwmni ei hun o’i gyfarwyddwyr a’i ysgrifenyddion a rhoi gwybod amdanynt i Dŷ’r Cwmnïau wrth ffurfio’r cwmni gyntaf. Rhaid ichi gofnodi unrhyw newidiadau yng nghofrestr y cwmni a rhoi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau amdanynt ar y ffurflen gywir o fewn 14 diwrnod i’r newid ddigwydd. Y ffurflenni ar gyfer rhoi gwybod am newidiadau yw:

  • Penodiadau Ffurlen 288a
  • Terfynu penodiadau Ffurflen 288b
  • Newid manylion Ffurlen 288c

Mae’r ffurflenni hyn ar gael i’w ffeilio ar lein ar www.companieshouse.gov.uk

Gall newid manylion cyfarwyddwr fod  unrhyw un o’r canlynol: enw, cyfeiriad, galwedigaeth, cenedligrwydd a safleoedd eraill fel cyfarwyddwr; ac i ysgrifennydd cwmni mae’n golygu enw neu gyfeiriad.

4 Pwy yw aelodau’r cwmni?

Mae aelod cwmni yn rhywun sydd wedi cytuno i ddod yn aelod ac mae ei (h)enw ar gofrestr y cwmni o aelodau. I gwmni rheoli fflatiau, mae hyn fel arfer yn golygu’r deiliaid prydles.

Rhaid i gwmni gadw cofrestr o’i aelodau. Mae gan unrhyw aelod o’r cwmni neu unrhyw un arall yr hawl i weld y gofrestr. Oni chaiff ei chadw yn y swyddfa gofrestredig, mae’n rhaid ich rhoi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau ymhle y cedwir y gofrestr, a rhaid ich rhoi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am unrhyw newid i’r lleoliad hwn ar Ffurflen 353 a Ffurflen 353a

Os yw’r cwmni wedi ei gyfyngu drwy gyfrannau, mae’r aelodau hefyd yn gyfranddeiliaid. Rhaid ichi  rhoi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am fanylion y cyfranddeiliaid ar Ffuflen flynyddol. Rhaid ichi ddiweddaru’r wybodaeth i ddangos unrhyw newidiadau bob blwyddyn ar y ffurflen flynyddol a byddwn yn ysgrifennu i’r swyddfa gofrestredig i atgoffa’r cwmni ychydig cyn y daw’n ddyledus.

5 Beth os bydd aelod yn gwerthu ei fflat?

Os yw’r cwmni wedi ei gyfyngu drwy gyfrannau, bydd erthyglau cymdeithasiad y cwmni fel arfer yn mynnu bod y gwerthwr yn trosglwyddo’r cyfrannau i’r prynwr.

Am ragor o wybodaeth ynghylch cyfrannau a throsglwyddo cyfrannau, gweler ein llyfryn ‘Cyfalaf Cyfrannau’.

Peidiwch ag anfon ffurflenni trosglwyddo stoc i Dŷ’r Cwmnïau. Cadwch y rheiny gyda chofnodion y cwmni ei hun.

Os yw’r cwmni wedi ei gyfyngu drwy warant, efallai bydd erthyglau cymdeithasiad y cwmni  yn mynnu bod y gwerthwr yn llofnodi ffurflen i ymddiswyddo fel aelod (dylai ffurflenni fod ar gael gan ysgrifennydd y cwmni) a’i chyflwyno i’r cwmni neu gall y newid aelodaeth ddigwydd yn awtomatig, gan ddibynnu ar beth mae’r erthyglau yn ei ddweud.

Sylwer: os yw’r gwerthwr neu’r prynwr HEFYD yn gyfarwyddwr neu’n ysgrifennydd cwmni, rhaid llenwi ffurflen berthnasol 288a neu 288b a’i hanfon i Dŷ’r Cwmnïau o fewn 14 diwrnod (gweler cwestiwn 3).

6 Beth yw ffurflen flynyddol (Ffurflen 363s)?

Dyma’r ffurflen y mae’n rhaid i bob cwmni (hyd yn oed rhai segur) ei hanfon i Dŷ’r Cwmnïau bob blwyddyn. Mae’n giplun o wybodaeth allweddol am y cwmni, megis ei gyfarwyddwyr, ei ysgrifennydd, ei gyfranddeiliaid etc Ni ddylid cymysgu’r ffurflen flynyddol â chyfrifon blynyddol - mae’r ddau beth yn gwbl wahanol. Rhaid llenwi’r ffurflen flynyddol yn fanwl-gywir hyd at ddyddiad arbennig a elwir yn ‘ddyddiad diwallu’. Daw’r dyddiad hwn:

  • 12 mis ar ôl dyddiad diwallu’r ffurflen flynyddol ddiwethaf; neu
  • yn achos ffurflen flynyddol gynta’r cwmni, flwyddyn ar ôl y dyddiad corffori.

Rhaid i’r ffurflen flynyddol a’r ffi flynyddol prosesu dogfennau gyrraedd Tŷ’r Cwmnïau o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad diwallu. Y ffi yw £15 wrth gyflwyno’n electronig (neu £30 wrth gyflwyno ar bapur).

I’ch helpu i fodloni’r rheidrwydd ffeilio hwn, byddwn yn anfon llythyr i swyddfa gofrestredig y cwmni pan ddaw’ch ffurflen flynyddol yn ddyledus.  Mae hwn yn rhoi gwybod sut i ffeilio’r ffurflen yn electronig drwy ddefnyddio’n gwasanaethau Software Filing neu WebFiling, gam mai dyma’r opsiwn hawsaf.

Nodwch: Ar hyn o bryd, mae cyfartaledd isel o gwmnïau ar y gofrestr yn methu defnyddio ein Gwasanaeth WebFiling. Mae'r rhain yn cynnwys cwmnïau sy'n ymddatod yn orfodol neu gwmnïau sydd am ffeilio yn Gymraeg. O fis Mehefin 2008 bydd cwmnïau yn gallu ffeilio rhai dogfennau yn Gymraeg gan ddefnyddio ein Gwasanaeth WebFiling. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n gwefan www.companieshouse.gov.uk os gwelwch yn dda.

7 Beth yw’r memorandwm a’r erthyglau cymdeithasiad?

Y dogfennau hyn sy’n llywodraethu’r cwmni.

Mae’r memorandwm yn nodi:

  • enw’r cwmni;
  • p’un ai yng Nghymru a Lloegr (h.y. unrhyw le yn y naill neu’r llall), yng Nghymru yn unig neu yn yr Alban y bo’r swyddfa gofrestredig wedi’i lleoli;
  • beth a wnaiff (ei amcanion);
  • manylion y math o gwmn i;
  • ei gyfalaf cyfrannau, os oes cyfrannau gan y cwmni.

Mae’r erthyglau yn gosod y rheolau ar gyfer rhedeg materion mewnol y cwmni.

O bryd i’w gilydd, gall fod angen newid y dogfennau hyn. Gallwch wneud y newidiadau hyn drwy benderfyniad arbennig neu benderfyniad ysgrifenedig (a gaiff ei gynnig fel penderfyniad arbennig). Gall natur y newid ddibynnu ar drefniadau a gofynion statudol eraill. Er enghraifft, os bydd cwmni am newid ei enw bydd yn gwneud hynny drwy fabwysiadu penderfyniad arbennig. Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn codi ffi o £10 i gofrestru’r newid, gan roi tystysgrif newid enw. Mae’n rhaid i benderfyniadau sy’n newid y memorandwm a’r erthyglau cymdeithasiad gael eu cofrestru gennych gyda Thŷ’r Cwmnïau.

Am ragor o wybodaeth ynghylch penderfyniadau sy’n newid y memorandwm a’r erthyglau cymdeithasiad, gweler ein llyfryn, 'Penderfyniadau' a gweler ein llyfryn ‘Enwau Cwmni’ ar gyfer enwau cwmni.

8 Beth yw dyddiad cyfeirnod cyfrifeg (DCC)?

Y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg (DCC) yw’r dyddiad a ddefnyddir i bennu diwedd y flwyddyn ariannol. Dyma’r dyddiad hefyd sy’n penderfynu pryd y bydd cyfrifon yn ddyledus i’w cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau. Wrth i gwmni gael ei ffurfio, bydd y ddeddfwriaeth yn pennu’i ddyddiad DCC yn awtomatig fel diwrnod ola’r mis sy’n cynnwys dydd ei gorffori gwreiddiol. Caiff cwmni newid ei ddyddiad DCC os myn. Rhaid ichi ddweud wrth Dŷ’r Cwmnïau os newidiwch y dyddiad DCC. Rhaid ichi roi gwybod am newid drwy ddefnyddio Ffurflen 225 y gellir ei ffeilio ar-lein drwy drefn WebFiling a llawer pecyn Software Filing.  Rhaid ichi gyflwyno Ffurflen 225 dderbyniol cyn y terfyn amser ar gyfer ffeilio cyfrifon y cyfnod y dymunwch ei newid.  Gall newid y dyddiad DCC fod yn gymhleth oherwydd yr effaith a gaiff hynny ar y cyfrifon perthynol.. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, gweler ein llyfryn 'Cyfrifon a Dyddiadau Cyfeirnod Cyfrifeg'.

9 Pryd mae’n rhaid ffeilio’r cyfrifon blynyddol?

Ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu wedi 6 Ebrill 2008, os ydych yn ffeilio cyfrifon cynta’ch cwmni a bod y cyfrifon hynny’n cyfateb i gyfnod o fwy na 12 mis mae’n rhaid ichi eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau:

  • o fewn 21 mis i’r dyddiad corffori yn hanes cwmnïau preifat, neu
  • o fewn 18 mis i’r dyddiad corffori yn hanes cwmnïau cyhoeddus,

neu o fewn 3 mis i’r dyddiad cyfeirnod cyfrifeg  (DCC), p’un bynnag fo ddiweddaraf. I’r diwrnod cyfewin y bwrir cyfrif o’r terfyn amser ar gyfer cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau.
Oni bai eich bod yn ffeilio cyfrifon cynta’ch cwmni, yr amser a ganiateir fel arfer i gyflwyno cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau yw:

  • 9 mis ar ôl y dyddiad DCC i gwmni preifat;neu
  • 6 mis ar ôl y dyddiad DCC i gwmni cyhoeddus.

Ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dechrau cyn 6 Ebrill 2008, mae’n rhaid ichi fel arfer gyflwyno cyfrifon blynyddol i Dŷ’r Cwmnïau o fewn 10 mis i’r dyddiad DCC yn hanes cwmni preifat a 7 mis yn hanes cwmni cyhoeddus. Ond os yw cyfrifon cynta’r cwmni’n bodloni cyfnod o fwy na 12 mis, yr amser hiraf a gaiff ei ganiatáu yw 22 mis ar ôl y dyddiad corffori (19 mis i gwmni cyhoeddus) neu 3 mis ar ôl y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg (DCC), p’un bynnag fo ddiweddaraf.

Argymhellwn eich bod yn anfon eich cyfrifon yn brydlon er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd cyn y terfyn amser ar gyfer ffeilio. I’ch helpu i ffeilio cyfrifon mewn pryd, byddwn yn anfon nodyn atgoffa i swyddfa gofrestredig y cwmni 6 i 8 wythnos cyn y daw’r cyfrifon yn ddyledus.  Lle bydd y terfyn amser yn syrthio ar ddydd Sul neu ŵyl banc, mae’r gyfraith yn mynnu o hyd ichi anfon cyfrifon derbyniol erbyn y dyddiad hwnnw.  Felly, dylech chi wneud yn siŵr eich bod yn eu hanfon mewn pryd i gyrraedd cyn terfyn amser o’r fath. Os ydych chi angen gwybod eich terfyn amser ar gyfer ffeilio, cysylltwch â ni ar 0870 33 33 636.

Os bydd cwmni’n ffeilio cyfrifon gyda Thŷ’r Cwmnïau y tu allan i’r amser a ganiateir, bydd yn agored i gosb ffeilio hwyr.  Gellid hefyd erlyn swyddogion y cwmni am eu bod yn bersonol gyfrifol am sicrhau bod dogfennau’n cael eu cyflwyno’n brydlon. Mae gwybodaeth bellach am gosbau sifil i’w chael yn ein llyfryn 'Cosbau Ffeilio Hwyr'.

Nid oes triniaeth arbennig i gwmnïau rheoli fflatiau. Mae’n rhaid ichi ffeilio cyfrifon yn brydlon yr un fath.

Mae’n rhaid i gwmni cyhoeddus roi ei gyfrifon gerbron Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Does dim rheidrwydd statudol mwyach i gwmnïau preifat roi eu cyfrifon gerbron cyfarfod cyffredinol. Os yw erthyglau cwmni preifat ar hyn o bryd yn pennu bod rhaid i’r cwmni gyflwyno’i gyfrifon i’r aelodau mewn cyfarfod cyffredinol, caiff fabwysiadu penderfyniad i ddileu’r ddarpariaeth honno.

10 Oes modd estyn y cyfnod a ganiateir i ffeilio cyfrifon?

Oes, ond dim ond os oes rheswm arbennig - er enghraifft, digwyddiad na ragwelwyd tu allan i reolaeth y cwmni, a dim ond os nad yw’r cyfnod a ganiateir fel arfer i ffeilio’r cyfrifon eisoes wedi dod i ben. Gall y cwmni sgrifennu at  Dŷ’r Cwmnïau  a gofyn am estyniad amser i gyflwyno cyfrifon. Rhaid i’r cais ddod i law cyn diwedd y cyfnod a ganiateir ar gyfer ffeilio cyfrifon I wneud cais am estyniad, sgrifennwch at:

Ar gyfer cwmnïau wedi’u ffurfio
yng Nghymru a Lloegr:
Ar gyfer cwmnïau wedi’u ffurfio yn yr Alba :

Adran Apeliadau a thorcyfreithiau Tŷ’r Cwmnïau
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ

DX33050 Caerdydd 1
Companies House
37 Castle Terrace
Edinburgh EH1 2EB

DX ED235 Edinburgh 1
LP – 4 Edinburgh 2

11 Pa ddogfennau eraill y mae’n rhaid imi eu ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau?

Mae hysbysiadau eraill y mae’n rhaid ichi eu ffeilio os ydynt yn
gymwys ichi yn cynnwys:

  • hysbysiad o gynyddu neu newid y cyfalaf cyfrannau - defnyddiwch Ffurflen 123 neu 122 fel y bo’n briodol;
  • manylion morgeisiau ac arwystlon - defnyddiwch Ffurflen 395 (Ffurflen 410 i gwmnïau wedi eu cofrestru yn yr Alban);
  • amrywiol benderfyniadau cwmni - gweler ein llyfryn ‘ Penderfyniadau’;
  • hysbysiad bod y cwmni wedi ymddatod, wedi mynd i ddwylo derbynnydd, wedi mynd i ddwylo gweinyddydd neu wedi mabwysiadu trefniadau gwirfoddol - gweler ein llyfryn‘ Ymddatod ac Ansolfedd’ (neu ‘ Liquidation and Insolvency (Scotland)’ i gwmnïau wedi eu cofrestru yn yr Alban).

Pryd bynnag y cwblhewch chi ddogfen, dyfynnwch bob amser rif y cwmni. Dyma adnabyddiaeth unigryw’r cwmni. Fe welir y rhif ar dystysgrif gorffori’r cwmni neu fe allwch ein ffonio ar 0870 33 33 636.

Brig

Pennod 4
Gwybodaeth bellach

1 Sut dylwn i anfon gwybodaeth at y Cofrestrydd?

Cewch gyflwyno’r mwyafrif o ddogfennau ar-lein at www.companieshouse.gov.uk neu drwy defnyddio pecyn Software Filing priodol
Gallwch chi gyflwyno dogfennau at y Cofrestrydd â llaw (yn bersonol neu drwy negesydd), gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa, dros wyliau banc a thros y penwythnos i Gaerdydd, Llundain a Chaeredin.

Gallwch chi hefyd gyflwyno dogfennau drwy’r post, drwy Wasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) neu drwy’r Post Cyfreithiol (LP) yn yr Alban.Os anfonwch chi ddogfennau drwy’r post, dylech eu cyfeirio at:

Ar gyfer cwmnïau wedi’u ffurfio yng Nghymru a Lloegr: Ar gyfer cwmnïau wedi’u ffurfio yn yr Alban:
Cofrestrydd Cwmnïau
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ
DX33050 Caerdydd 1
The Registrar of Companies
Companies House
37 Castle Terrace
Edinburgh EH1 2EB

DX ED235 Edinburgh 1
LP – 4 Edinburgh 2

Os ydych yn anfon dogfennau drwy’r post, drwy negesydd neu drwy drefn y Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau DX) a’ch bod yn dymuno cael derbynneb, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn darparu cydnabyddiaeth os amgaewch gopi o’ch llythyr eglurhaol gydag amlen stampiedig ac arni eich cyfeiriad dychwelyd. Bydd y côd bar a roddwn ar eich llythyr yn cyfleu’r dyddiad dod i law ac fe ddychwelwn y copi yn yr amlen a ddarparwch.

Nid yw cydnabyddiaeth dod yn golygu bod dogfen wedi ei derbyn i’w chofrestru.

Sylwer: Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn anfon nodyn cydnabod awtomatig drwy neges e-bost ar gyfer pob cyflwyniad a wneir drwy WebFiling, ynghyd ag e-bost ychwanegol yn nodi a gafodd y cyflwyniad ei dderbyn neu ei wrthod.

Sylwer: Nid yw Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn cyfrifon na dogfennau statudol eraill dros beiriant ffacs.

2. Ga i ffeilio dogfennau mewn ieithoedd eraill?

Fel arfer, yn Saesneg y mae’n rhaid ichi ffeilio dogfennau gyda Thŷ’r Cwmnïau. Mae eithriadau i hyn yn unol â’r manylion isod.  Cewch lunio a chyflwyno dogfennau sy’n ymwneud â chwmnïau Cymreig yn Gymraeg.

Caiff cwmnïau gyflwyno’r dogfennau canlynol mewn ieithoedd eraill os bydd
cyfieithiad Saesneg ardystiedig yn cael ei hanfon gyda nhw:

  • Penderfyniadau a chytundebau sy’n effeithio ar gyfansoddiad cwmni
  • Contractau’n ymwneud â  chlustnodi cyfrannau am Gydnabyddiaeth ar wahân i  arian parod
  • Yn achos cwmnïau sydd wedi’u cynnwys yng nghyfrifon grwpiau mwy yn yr EEA neu y tu allan i’r EEA, cyfrifon y grŵp ac adroddiad blynyddol y rhiant-ymgymeriad
  • Offerynnau arwystlon (neu gopïau o offerynnau arwystlon)

Yn ychwanegol, mae cwmnïau hefyd yn cael ffeilio cyfieithiadau ardystiedig gwirfoddol o
unrhyw ddogfen sy’n dod o dan y gofynion yn y Gyfarwyddeb ar ddatgelu. Mae hyn yn cynnwys:

  • Dogfennau cyfansoddiadol fel y memorandwm a’r erthyglau cymdeithasiad
  • Penodiadau cyfarwyddwyr, newid manylion neu terfyniadau
  • Cyfrifon, adroddiadau a ffurflenni blynyddol
  • Hysbysiad ynglyˆn ag unrhyw newid yn swyddfa gofrestredig y cwmni
  • Dogfennau dirwyn i ben
  • Dogfennau cyfalaf cydrannau (cwmnïau cyhoeddus yn unig)
  • Dogfennau ynghylch cyfuno a rhannu cwmnïau (cwmnïau cyhoeddus yn unig)
  • Dogfennau ynghylch cwmnïau tramor

Rhaid i’r cyfieithiad gwirfoddol gyfeirio at ddogfen a gyflwynwyd i Dŷ'r Cwmnïau ar 1 Ionawr 2007 neu wedi hynny. Gall cyfieithiadau gwirfoddol gael eu ffeilio yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd yn unig a rhaid anfon Ffurflen 1106 i gyd-fynd â nhw.

3 Ble galla i gael ffurflenni a llyfrynnau canllaw?

Gellir cyflwyno llawer o ffurflenni ar-lein i Dŷ’r Cwmnïau drwy’n gwasanaethau Software Filing neu WebFiling. Mae’r gwasanaethau’n cynnig system ddiogel i gyflwynwyr anfon gwybodaeth gwmni.(www.companieshouse.gov.uk)

Mae ffurflenni statudol a llyfrynnau canllaw ar gael, yn rhad ac am ddim, gan Dŷ’r Cwmnïau. Y ffordd gyflymaf i’w cael yw drwy’r wefan hon, ein gwefan at www.companieshouse.gov.uk neu drwy ffonio 0870 33 33 636.

Gellir cael ffurflenni hefyd gan ddogfenwyr cyfreithiol, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid ffurfio cwmnïau - cyfeiriadau mewn llyfrau ffôn ar gyfer busnesau.

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies