Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Amdanon Ni

Ein prif swyddogaethau Ac Hanes
Bwrdd a Rheolwyr Tŷ'r Cwmnau
Cyflenwi Tŷ'r Cwmnau
Llyfrgell
Canllaw
Cyfathrebu yn Gymraeg
Amrywiol
Dogfennau Polisi


Cliciwch yma i weld fersiwn Saesneg y Llyfryn Canllaw hwn (gan agor mewn ffenestr arall)

Ffurfio Cwmnïau - GBF1

Tachwedd 2007 - Fersiwn 18 Fel yr addaswyd gan Ddeddf Cwmniau 2006

Cynnwys

Cyflwyniad
1. Cwmnïau newydd
2. Cwmnïau cyfyngedig cyhoeddus
3. Cwmnïau unig aelod
4. Ailgofrestru
5. Cyhoeddi enw'r cwmni, a'r manylion sydd i'w dangos ar ddeunydd ysgrifennu'r cwmni
6. Y cwmni newydd - edrych ymlaen
7. Gwybodaeth bellach
Canllaw yn unig yw'r llyfryn hwn a dylid ei ddarllen ar y cyd â'r ddeddfwriaeth berthnasol.
Brig 
Cyflwyniad

Mae'r llyfryn hwn yn sôn am y gofynion ar gyfer corffori cwmnïau cyfyngedig preifat, cwmnïau cyfyngedig cyhoeddus (CCC) a chwmnïau anghyfyngedig. Mae'n egluro'r gwahaniaeth rhwng y mathau hyn o gwmni a'r dogfennau ymffurfio, yr aelodaeth, y cyfalaf a'r swyddogion sydd eisiau ar gyfer pob un.

Nid yw'r llyfryn yn egluro'r rheolaeth sy'n bodoli o ran defnyddio rhai enwau cwmni. I gael gwybodaeth am hyn, darllenwch ein llyfryn 'Enwau Cwmni'.

Rhaid i bob cwmni corfforedig ddatgelu gwybodaeth arbennig i Dŷ'r Cwmnïau er mwyn y cofnod cyhoeddus ac i'r bobl y deliant â nhw. Mae'r llyfryn hwn yn dweud wrthych chi:
  • pryd mae'n rhaid rhoi gwybod i Dŷ'r Cwmnïau am newidiadau i amgylchiadau a manylion y cwmni;
  • ble mae'n rhaid ichi ddangos enw'r cwmni a pha wybodaeth y mae'n rhaid iddo ymddangos ar ddeunydd ysgrifennu'r cwmni.

Dim ond fel cyflwyniad i'r rhwymedigaethau parhaol hyn y bwriedir y llyfryn hwn. Sonnir yn y testun am lyfrynnau eraill yn y gyfres; mae'r rhain yn ymdrin yn fanylach â phynciau unigol.

Ar gyfer cwmnïau buddiant cymunedol (cwmnïau BC), fe welir y ddeddfwriaeth berthnasol yn www.cicregulator.gov.uk

Fe welwch y gyfraith berthnasol yn Neddf Cwmnïau 1985 (fel y'i diwygiwyd ym 1989 ac yn ddiweddarach), ac at hyn, ar gyfer cwmnïau Hawl i Reoli (RTM) a chymdeithasau cyfunddaliad gweler Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 a’r ddeddfwriaeth gysylltiedig.

Daw llawer rhwymedigaeth yn sgîl sefydlu cwmni. Gall fod yn werth ichi geisio cyngor cyfreithiwr neu gyfrifydd er mwyn cael gweld ai cwmni corfforedig yw'r ffordd orau ichi redeg eich busnes.

Brig 
PENNOD 1
Cwmnïau newydd


1. Oes mwy nag un math o gwmni?

Ceir pedwar prif fath o gwmni:

  • Cwmni preifat wedi ei gyfyngu drwy gyfrannau - bydd atebolrwydd yr aelodau’n gyfyngedig i’r swm sydd heb ei dalu yng nghyswllt y cyfrannau a ddaliant. Mae hyn yn cynnwys y cwmnïau buddiant cymunedol hynny (cwmnïau BC) sy’n gwmnïau preifat wedi eu cyfyngu drwy gyfrannau.
  • Cwmni preifat wedi ei gyfyngu drwy warant – bydd atebolrwydd yr aelodau’n gyfyngedig i’r swm y buodd iddyn nhw gytuno i’w gyfrannu at asedion y cwmni pe câi ei ddirwyn i ben. Mae hyn yn cynnwys pob cwmni hawl i reoli a chymdeithas gyfunddaliad, ynghyd â’r cwmnïau buddiant cymunedol hynny sy’n gwmnïau wedi eu cyfyngu drwy warant.
  • Cwmni anghyfyngedig preifat – does dim terfyn i atebolrwydd yr aelodau.
  • Cwmni cyfyngedig cyhoeddus (CCC) – gellir cynnig cyfrannau’r cwmni i’w gwerthu ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol a bydd atebolrwydd yr aelodau’n gyfyngedig i’r swm sydd heb ei dalu yng nghyswllt y cyfrannau a ddaliant. Mae hyn hefyd yn cynnwys cwmnïau buddiant cymunedol cyfyngedig cyhoeddus (sef, cwmnïau BC sy’n gwmnïau CCC). Gwelir rhagor o fanylion ynghylch cwmnïau CCC ym mhennod 2.
2. Pwy gaiff ffurfio cwmni?

Yn gyffredinol, mae'r Ddeddf Cwmnïau'n caniatáu i un neu ragor o bobl ffurfio cwmni at unrhyw ddiben cyfreithlon drwy danysgrifio i'w femorandwm cymdeithasiad. Ond rhaid i gwmni cyhoeddus neu gwmni anghyfyngedig fod ag o leiaf dau danysgrifydd. Gwelir gwybodaeth am gwmnïau wedi eu ffurfio gan un person ym mhennod 3. (O dan y gyfraith, mae 'person' yn cynnwys unigolion a chwmnïau.)

3. Sut dylwn i ffurfio cwmni?

Mae cwmnïau parod ar gael gan asiantiaid ffurfio cwmnïau y gwelir eu henwau a'u cyfeiriadau yn y Tudalennau Melyn. Os byddwch yn corffori cwmni eich hun, bydd angen ichi anfon y dogfennau canlynol, ynghyd â'r ffi gofrestru (gweler cwestiwn 15 isod) at y Cofrestrydd Cwmnïau: Eglurir pob un o'r dogfennau hyn isod.

4. Beth am gwmnïau buddiant cymunedol (cwmnïau BC)?

Wrth ffurfio cwmni BC, bydd angen y dogfennau canlynol yn ychwanegol at y rhai a restrwyd o dan 3 uchod:

- datganiad buddiant cymunedol
- datganiad cwmni eithriedig

Rhaid i’r dogfennau hyn fod ar ddiwyg sydd wedi ei gymeradwyo gan y Rheoleiddiwr BC. Gwelir diwyg cymeradwy a chanllaw pellach ar y wefan BC yn www.cicregulator.gov.uk

5. Beth yw memorandwm cymdeithasiad?

Mae’r ddogfen hon yn nodi:

  • enw’r cwmni;
  • ymhle y lleolir swyddfa gofrestredig y cwmni (yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban); a
  • beth a wnaiff (ei amcanion). Hwyrach mai amcan y cwmni, yn syml, fydd dilyn busnes fel cwmni masnachu cyffredinol.

Mae’r cymalau eraill sydd i’w cynnwys yn y memorandwm yn dibynnu ar y math o gwmni a gorfforir. Am ragor o wybodaeth, gweler cwestiwn 7 isod.

Rhaid i femorandwm y cwmni fel y caiff ei gyflwyno i’r Cofrestrydd gael ei lofnodi gan bob tanysgrifydd gerbron tyst y mae’n rhaid iddo yntau/iddi hithau dystio i’r llofnod.


6. Beth yw erthyglau cymdeithasiad?

Mae’r ddogfen hon yn nodi’r rheolau ar gyfer rhedeg materion mewnol y cwmni. Darperir erthyglau enghreifftiol yn y Tablau a’r rheoliadau y sonnir amdanyn nhw yng nghwestiwn 7.

Gall cwmni fabwysiadu’r cyfan o Dabl A fel ei erthyglau neu unrhyw ran ohono.

Does dim angen i gwmni sydd wedi ei gyfyngu drwy gyfrannau ac a fabwysiadodd y cyfan o Dabl A heb addasiadau (fel sy’n briodol i’w statws fel cwmni preifat neu gyhoeddus) gyflwyno copi at ddibenion cofrestru. Ond bydd rhaid ichi atodi llythyr i’r perwyl hwn wrth eich cais. Ni chaiff cwmnïau BC fanteisio ar Dabl A i osgoi cofrestu erthyglau.

NODYN: Os mabwysiadwch Dabl A heb addasiadau, yna bydd angen ichi benodi o leiaf dau gyfarwyddwr. Ond gall cwmni preifat fod ag un cyfarwyddwr yn unig, os yw ei erthyglau’n caniatáu (gweler cwestiwn 8). Felly, os un cyfarwyddwr yn unig fydd gan eich cwmni, mae angen ichi fabwysiadu fersiwn diwygiedig o Dabl A.

Os mabwysiedir Tabl A gyday addasiadau, rhaid ichi gyflwyno’r erthyglau i’w cofrestru.

Rhaid i bob cwmni sydd wedi ei gyfyngu drwy warant neu sy’n anghyfyngedig gofrestru erthyglau. Dylai’r rhain fod yn unol â’r tablau canlynol, neu mor agos atynt ag y caniatâ’r amgylchiadau:

Cwmni wedi ei gyfyngu drwy warant heb gyfalaf cyfrannau*
Tabl C
Cwmni anghyfyngedig gyda chyfalaf cyfrannau Tabl E

* Nid yw Tabl C yn gymwys i gwmnïau hawl i reoli na chymdeithasau cyfunddaliad, ond mae erthyglau i’r cwmnïau hyn wedi eu pennu yn y rheoliadau y soniwyd amdanyn nhw yng nghwestiwn 4.

Rhaid i erthyglau cymdeithasiad cwmnïau buddiant cymunedol gydymffurfio â gofynion Rheoliadau Cwmnïau Buddiant Cymunedol 2005. Gwelir sampl o femorandwm ac erthyglau i gwmni BC ar y wefan BC yn www.cicregulator.gov.uk.

Rhaid i erthyglau’r cwmni fel y cân nhw eu cyflwyno i’r Cofrestrydd gael eu llofnodi gan bob tanysgrifydd gerbron tyst y mae’n rhaid iddo yntau/iddi hithau dystio i’r llofnod.

7. Beth ddylid ei gynnwys mewn memorandwm ac erthyglau cymdeithasiad?
Cewch ddewis prynu memorandwm ac erthyglau addas i fath arbennig o gwmni gan ddogfennwr cyfreithiol neu asiant ffurfio cwmnïau, neu eu paratoi eich hun ar sail y rheoliadau sydd wedi’u nodi isod. Ni all Tŷ’r Cwmnïau mo’u cyflenwi.
Nodir diwyg y memorandwm a’r erthyglau ar gyfer pob math o gwmni mewn rheoliadau o dan yr enw Rheoliadau Cwmnïau (Tablau A i F) 1985. (Yn y llyfryn hwn, cyfeiriwn atynt fel ‘y Tablau’). Cafodd y Tablau eu diwygio sawl gwaith: daeth y diwygiad diwethaf i rym o 1 Hydref 2007 ymlaen. O’r dyddiad hwn, bydd Tablau diwygiedig A ac C yn gymwys i gwmnïau newydd wedi’u ffurfio ar neu wedi 1 Hydref 2007. Os bydd cwmni newydd am fabwysiadu rhai o ddarpariaethau’r Tabl newydd neu’r ddarpariaethau i gyd, fe gaiff ond bydd angen iddo gymeradwyo penderfyniad i wneud y newidiadau hyn. Mae gwybodaeth bellach ar gael yn http://www.companieshouse.gov.uk/companiesAct/implementations/oct2007.shtml

Mae Rheoliadau Cwmnïau (Tablau A i F) 1985, OS 1985/805 a Rheoliadau Cwmnïau (Tablau A i F) (Diwygiad) 1985, OS 1985/1052 ar gael i’w prynu oddi wrth ‘The Stationery Office Online’ yn www.tsoshop.co.uk  Cafodd Tabl A ei ddiwygio’n bellach gan Orchymyn 2000 Deddf Cwmnïau 1985 (Cyfathrebu Electronig), OS 2000/3373. A chafodd Tablau A ac C eu diwygio gan Reoliadau Cwmnïau (Tablau A i F) (Diwygiad) 2007 (OS 2007/2541) a Rheoliadau Cwmnïau (Tablau A i F) (Diwygiad) (Rhif 2) 2007 (OS 2007/2826).  Mae’r rhain i gyd ar gael i’w lawrlwytho, yn rhad ac am ddim, gan y Swyddfa Gwybodaeth Sector Cyhoeddus (OPSI) yn www.opsi.gov.uk

Nid yw’r Tablau’n gymwys i gwmnïau hawl i reoli na chymdeithasau cyfunddaliad.. Mae memorandwm ac erthyglau cymdeithasiad y mathau hyn o gwmni wedi eu nodi yn:

Ar gyfer cwmnïau hawl i reoli: ‘Rheoliadau (Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasiad) Cwmnïau Hawl i Reoli (Cymru) 2004’ neu ‘Rheoliadau (Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasiad) Cwmnïau Hawl i Reoli (Lloegr) 2003’

Ar gyfer cymdeithasau cyfunddaliad: ‘Rheoliadau Cyfunddaliad 2004’.

Mae’r rheoliadau ar gael i’w lawrlwytho o wefan OPSI yn www.opsi.gov.uk

Rhaid i femoranda ac erthyglau cymdeithasiad cwmnïau buddiant cymunedol gydymffurfio â gofynion Rheoliadau Cwmnïau Buddiant Cymunedol 2005. Gwelir  memorandwm ac erthyglau enghreifftiol i gwmni BC ar y wefan BC yn www.cicregulator.gov.uk


8. Beth yw Ffurflen 10?


Mae Ffurflen 10 yn rhoi manylion y cyfarwyddw(y)r cyntaf, yr ysgrifennydd a'r cyfeiriad a arfaethir i'r swyddfa gofrestredig. Yn ogystal â'u henwau a'u cyfeiriadau, rhaid i gyfarwyddwyr y cwmni roi eu dyddiad geni, eu galwedigaeth a manylion unrhyw safleoedd eraill fel cyfarwyddwr a ddaliwyd ganddynt yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Rhaid i bob swyddog a benodir a phob tanysgrifydd (neu eu cynrychiolydd) lofnodi a dyddio'r ffurflen.

Swyddogion yn gweithredu'n gyfarwyddwr ac ysgrifennydd
Gall yr un person fod yn gyfarwyddwr ac yn ysgrifennydd i'r cwmni, ar yr amod bod yna gyfarwyddwr arall. Ni chaiff unig gyfarwyddwr fod yn ysgrifennydd i'r cwmni hefyd.

9. Beth yw swyddfa gofrestredig?

Dyma'r cyfeiriad cwmni yr anfonir llythyrau a nodiadau atgoffa Tŷ'r Cwmnïau iddo. Gall y swyddfa gofrestredig fod unrhyw le yng Nghymru a Lloegr (neu'r Alban os yw'ch cwmni wedi ei gofrestru yno). Rhaid i'r swyddfa gofrestredig bob amser fod yn gyfeiriad effeithiol ar gyfer cyflwyno dogfennau i'r cwmni, ac i osgoi unrhyw oedi mae'n bwysig bod pob gohebiaeth a anfonir i'r cyfeiriad hwn yn cael sylw prydlon. Os bydd cwmni'n newid cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig ar ôl corffori, rhaid rhoi gwybod i Dŷ'r Cwmnïau am y cyfeiriad newydd ar Ffurflen 287.

Cyfeiriadau dilys
Bydd Tŷ'r Cwmnïau'n defnyddio ffeil gyfeiriadau Swyddfa'r Post i ddilysu cyfeiriadau; felly, i osgoi unrhyw oedi, byddwch cystal â sicrhau bod y cyfeiriad a fwriedir ar gyfer eich swyddfa gofrestredig wedi ei gydnabod gan Swyddfa'r Post a gofalwch bob amser nodi'r côd post cywir ar ffurflenni a gyflwynir i gael eu cofrestru.

10. Beth yw'r nifer isaf o swyddogion sy'n ofynnol i gwmni?

Rhaid i bob cwmni fod bob amser â swyddogion wedi eu penodi'n ffurfiol.

Rhaid i gwmni preifat fod ag o leiaf:
  • un cyfarwyddwr - ond gall erthyglau cymdeithasiad y cwmni fynnu mwy nag un. Gweler cwestiwn 6.
  • un ysgrifennydd - does dim eisiau cymwysterau ffurfiol. Ni chaiff unig gyfarwyddwr i gwmni fod hefyd yn ysgrifennydd cwmni.
Rhaid i gwmni cyhoeddus fod ag o leiaf:
  • dau gyfarwyddwr;
  • un ysgrifennydd - â chymwysterau ffurfiol, gweler pennod 2.
Mae gan swyddogion cwmni gyfrifoldebau eang o dan y gyfraith, ond cynhwysir y gofynion allweddol yn ein llyfryn 'Canllaw i Gyfarwyddwyr ac Ysgrifenyddion'.

Wedi corffori, mae'n rhaid ichi ddweud wrth Dŷ'r Cwmnïau:
  • am benodi swyddog newydd - defnyddiwch Ffurflen 288a;
  • am swyddog sy'n ymddiswyddo o'r cwmni - defnyddiwch Ffurflen 288b;
  • am newidiadau i enwau neu gyfeiriadau swyddogion neu i unrhyw rai o'r manylion eraill a gofrestrwyd yn wreiddiol ar Ffurflen 10 - defnyddiwch Ffurflen 288c.
11. A all unrhyw un fod yn gyfarwyddwr cwmni?

Mewn termau cyffredinol, gall, ond ceir nifer o reolau. Allwch chi ddim bod yn gyfarwyddwr cwmni os:
  • ydych yn fethdalydd heb eich rhyddhau neu wedi'ch gwahardd gan lys rhag dal swydd cyfarwyddwr, oni roddwyd ichi ganiatâd i weithredu dros gwmni neu gwmnïau arbennig.
Yn yr Alban, ni fydd y Cofrestrydd yn cofrestru penodiad cyfarwyddwr o dan 16 oed i unrhyw gwmni. Nid oes gan blentyn o dan yr oedran hwnnw y cymhwyster cyfreithiol i dderbyn swydd cyfarwyddwr - Deddf Cymhwyster Cyfreithiol (Yr Alban) 1991. Os bydd arnoch chi angen gwybodaeth bellach, cysylltwch â Thŷ'r Cwmnïau, Caeredin.

Mae cyfyngiad ar rai pobl sydd heb fod o genedligrwydd Prydeinig o ran pa waith y cân nhw ei wneud yn y wlad hon. Os bydd arnoch chi angen rhagor o wybodaeth ynghylch a gaiff rhywun felly fynd yn gyfarwyddwr i gwmni wedi ei gofrestru yn y DU, cysylltwch â:

Home Office Immigration and Nationality Department
Lunar House
Wellesley Road
Croydon
CR9 2BY   (Ffôn: 0870 606 77 66)

12. Beth yw Ffurflen 12?

Mae Ffurflen 12 yn ddatganiad statudol y cydymffurfiwyd â'r holl ofynion cyfreithiol o ran corffori cwmni. Rhaid iddi gael ei llofnodi gan y cyfreithiwr sy'n ffurfio'r cwmni, neu gan un o'r bobl a enwyd yn gyfarwyddwr neu'n ysgrifennydd cwmni ar Ffurflen 10. Rhaid ei llofnodi gerbron comisiynydd llŵon, notari cyhoeddus, ynad heddwch neu gyfreithiwr.

Llofnodi'r datganiad ar Ffurflen 12
  • Rhaid i Ffurflen 12 gael ei llofnodi a'i dyddio ar ôl llofnodi a dyddio pob dogfen arall. Y rheswm am hyn yw bod Ffurflen 12 yn cadarnhau bod yr holl ofynion cofrestru eraill wedi eu bodloni.
  • Rhaid i'r ffurflen ddangos yn glir a lofnodwyd ar ran cyfarwyddwr corfforaethol. Os ymddengys nad cyfarwyddwr yw'r person a lofnododd, bydd hynny'n achosi oedi.


13. Beth sy'n digwydd i'r dogfennau a anfonir at y Cofrestrydd?

Mae pob dogfen yng nghyswllt ffurfio cwmni yn agored i gael ei hadolygu, gan gynnwys gwirio enwau darpar swyddogion yn ôl cofrestr y cyfarwyddwyr a waharddwyd.

Wedyn, bydd y Cofrestrydd yn cadw'r dogfennau ac yn trefnu iddynt fod ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd.

14. Alla i ddewis unrhyw enw fynna i i'm cwmni?

Na allwch. Ceir rhai cyfyngiadau ar eich dewis o enw cwmni. Mae'n llyfryn 'Enwau Cwmni' yn egluro sut y gall y cyfyngiadau hyn effeithio ar eich dewis enw.

Gwirio enwau cwmni
Mae'n bwysig gwneud yn siŵr fod yr enw sydd eisiau yn dderbyniol gan Dŷ'r Cwmnïau cyn llenwi'ch dogfennau ffurfio cwmni.

Yn gryno, y cyfyngiadau yw:

na chewch gofrestru'r un enw â chwmni arall;
bod cyfyngu ar ddefnyddio geiriau arbennig;
na chaniateir enwau sy'n debygol o beri tramgwydd.

Mae'n bwysig hefyd i edrych a yw'ch dewis enw'n debyg i unrhyw enwau eraill sydd eisoes ar y gofrestr. Os yw'ch dewis enw'n rhy debyg i enw arall, gellid ei wrthwynebu o fewn 12 mis i gorffori'ch cwmni ac fe allech chi gael eich cyfarwyddo gan yr Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio i newid enw'r cwmni

Hefyd, os oes nod masnach wedi’i gofrestru neu gais am gofrestru nod masnach wedi’i wneud a hwnnw’n nod masnach sydd yr un fath â’r enw cwmni rydych chi wedi’i ddewis neu’n debyg iddo, fe allech chi wynebu achos cyfreithiol am dorri’r nod masnach. Gallwch edrych ar y Gofrestr Nodau Masnach yn Swyddfa Eiddo Deallusol y D.U. (UK-IPO) cyn ichi gofrestru enw yn Nhŷ’r Cwmnïau.

I gael rhagor o gyngor, gan gynnwys sut i chwilio’r gofrestr nodau masnach, cysylltwch â Swyddfa Eiddo Deallusol y D.U. (UK-IPO) ar 08459 500 505, neu edrychwch ar eu gwefan yn http://www.opsi.gov.uk./

Newidiodd Y Swyddfa Patentau ei henw i Swyddfa Eiddo Deallusol y D.U. (UK-IPO) ar 2 Ebrill 2007.

Ni ellir neilltuo enwau ac ni chaiff ceisiadau ffurfio mo’u prosesu’n gaeth yn nhrefn amser na dyddiadau derbyn. Go brin y cawn fwy nag un cais am gofrestru’r un enw, ond os digwydd hynny dim ond un gaiff ei gofrestru. Fe gâi’r ail un ei wrthod oherwydd y byddai’r enw hwnnw eisoes ar y mynegai enwau. Ni ellir gwarantu pa gais gaiff ei brosesu gyntaf. At ei gilydd, bydd ceisiadau corffori cwmni a gyflwynir yn electronig yn cael eu prosesu ynghynt na cheisiadau eraill ar bapur.
I allu defnyddio’r gwasanaeth ‘Software Filing’ i gorffori cwmni, rhaid ichi fod â meddalwedd addas. Ar y dechrau, ni fydd modd cofrestru cwmnïau buddiant cymunedol yn electronig ond dylai’r gwasanaeth hwn fod ar gael yn y dyfodol.

Os hoffech chi wybod mwy am y gwasanaeth electronig, cliciwch yma.

15. Faint mae Tŷ'r Cwmnïau'n ei godi am gorffori cwmni?

Ein ffi gofrestru safonol yw £20, ond mae'n gwasanaeth premiwm (cost: £50) yn sicrhau corfforiad yr un diwrnod ag y derbyniwn y dogfennau ffurfio, os cânt eu cyflwyno â llaw erbyn 3pm. Ni ellir gwarantu’r un peth ar gyfer ceisiadau a gaiff eu postio, er y byddwn, yn y mwyafrif o enghreifftiau, yn cofrestru’r cais yr un diwrnod ag y bydd yn dod i law.

Mae ffi ychwanegol o £15 i’w thalu i’r Rheoleiddiwr wrth ffurfio cwmni buddiant cymunedol. Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn casglu’r ffi ar ran y Rheoleiddiwr. Edrychwch ar y wefan BC yn www.cicregulator.gov.uk am wybodaeth bellach ynghylch ffioedd. Sylwer na fydd gwasanaeth corffori yr un diwrnod ar gael i gwmnïau BC yn y dyfodol agos.

I ddefnyddwyr ein gwasanaeth Ffeilio drwy feddalwedd, y ffi safonol yw £15, a £30 am y gwasanaeth premiwm yr un diwrnod. I allu corffori’n electronig, rhaid ichi naill ai prynu meddalwedd addas neu ddatblygu’ch meddalwedd eich hun. Ymwelwch â’n gwefan yn www.companieshouse.gov.uk am wybodaeth bellach.

Ceisiadau yr un diwrnod
Gyda cheisiadau a gaiff eu postio, rhai a anfonir drwy negesydd a cheisiadau seliedig eraill am wasanaeth yr un diwrnod, rhaid marcio'n glir ar yr amlen 'i sylw'r Adran Cwmnïau Newydd' a 'Corffori yr un diwrnod'.

Dylid gwneud sieciau'n daladwy i "Tŷ'r Cwmnïau".

Er mwyn i gymdeithas cyfunddaliad gofrestru ei heiddo fel ‘ystad ryddfraint ar dir cyfunddaliad’, mae’n rhaid i’w memorandwm ac erthyglau cymdeithasiad fod wedi eu cofrestru yn y Gofrestrfa Dir.

16. Ble galla i gael ffurflenni i gorffori cwmni?

Mae Ffurflenni 10 a 12 ar gael yn rhad ac am ddim gan Dŷ'r Cwmnïau ond ni allwn ddarparu memorandwm nac erthyglau cymdeithasiad. Gellir cael enghreifftiau o'r dogfennau hyn gan ddogfenwyr cyfreithiol, cyfrifwyr, cyfreithwyr neu asiantiaid ffurfio cwmnïau, a all hefyd ddarparu Ffurflenni 10 a 12. Gwelir enwau a chyfeiriadau'r rhain mewn llyfrau ffôn ar gyfer busnesau.

Mae datganiadau buddiant cymunedol a datganiadau cwmni eithriedig (perthnasol yn unig i gwmnïau buddiant cymunedol) ar gael o’r wefan BC yn www.cicregulator.gov.uk

17. Alla i ddelio'n uniongyrchol â Thŷ'r Cwmnïau i ffurfio fy nghwmni?

Gallwch. Ond, er y bydd ein staff yn falch o roi ichi gyfarwyddyd ynglŷn â materion cyffredinol (megis llenwi ffurflenni neu gyngor ynghylch enwau cwmni), ni allant eich cynghori ynghylch cynnwys y memorandwm a'r erthyglau, nac ychwaith ai cwmni corfforedig yw'r cyfrwng gorau i'ch busnes.

Os ydych chi'n ansicr ynglŷn ag unrhyw agwedd ar ffurfio cwmni, byddwch cystal â cheisio cyngor cyfreithiol eich cyfreithiwr, eich cyfrifydd neu'ch asiant ffurfio cwmnïau.

Brig 
PENNOD 2
Cwmnïau cyfyngedig cyhoeddus


1. Beth yw cwmni cyfyngedig cyhoeddus?

Mae cwmni cyfyngedig cyhoeddus yn un a gofrestrir fel y cyfryw ac sy'n cydymffurfio â'r canlynol:

  • Rhaid iddo nodi mai cwmni cyfyngedig cyhoeddus ydyw yn ei femorandwm ac yn ei enw. Rhaid i'r memorandwm gynnwys cymal yn dweud mai cwmni cyfyngedig cyhoeddus ydyw, a rhaid i'r enw ddiweddu mewn 'Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus' neu 'CCC' (neu'r Saesneg cyfatebol 'Public Limited Company' neu 'PLC').
  • I gwmnïau cyfyngedig cyhoeddus sydd hefyd yn gwmnïau buddiant cymunedol (cwmnïau BC), mae’n rhaid i’r enw ddiweddu yn ‘cwmni cyfyngedig cyhoeddus buddiant cymunedol’ neu ‘c.c.c. buddiant cymunedol’ (neu’r Saesneg cyfatebol ‘community interest public limited company’ neu ‘community interest p.l.c.’).
  • Rhaid i'r memorandwm fod ar y diwyg a bennir yn Nhabl F o'r Tablau (tudalen 6) neu mor agos i’r diwyg hwnnw ag a ganiatâ’r amgylchiadau. (Mae sampl o femorandwm cwmni buddiant cymunedol i’w weld ar y wefan BC yn www.cicregulator.gov.uk)
  • Rhaid iddo fod â chyfalaf cyfrannau awdurdodedig o £50,000 fan leiaf.
  • Cyn y caiff ddechrau busnes, rhaid ei fod wedi clustnodi cyfrannau gwerth o leiaf £50,000. Rhaid i chwarter y rheiny, gwerth £12,500, fod wedi eu talu. Rhaid i bob cyfran a glustnodwyd fod wedi ei thalu hyd at o leiaf chwarter ei gwerth nominal, ynghyd ag unrhyw bremiwm yn ei grynswth.
Er enghraifft, os caiff cyfran sydd â gwerth nominal o £1 ei gwerthu am £6, yna dywedir bod iddi bremiwm o £5. Rhaid talu'r premiwm hwn i'r cwmni, ynghyd ag o leiaf chwarter gwerth nominal pob cyfran - sef £0.25c ynghyd â £5, gan roi taliad cyfan o £5.25.

Mae gwybodaeth bellach am gyfalaf cyfrannau i'w chael yn ein llyfryn 'Cyfalaf Cyfrannau a Llyfrynnau Prosbectws'.

2. A all CCC ddosbarthu cyfrannau mewn arian breiniol arall?

Gall, os derbyniwyd ganddo'r penderfyniadau angenrheidiol i fabwysiadu'r arian breiniol hwnnw'n rhan o'i gyfalaf awdurdodedig ac os yw'r cwmni wedi rhoi i'r cyfarwyddwyr yr awdurdod i glustnodi'r cyfalaf dan sylw. Ond rhaid iddo bob amser fod ag o leiaf y swm isaf awdurdodedig o £50,000 sterling ar ffurf cyfalaf wedi ei ddosbarthu, ni waeth pa arian breiniol arall a ddefnyddia.

Gall cwmni ddefnyddio faint fynna o wahanol fathau o arian breiniol at ddibenion ei gyfalaf cyfrannau, ar yr amod bod y mathau hynny'n arian dilys.

3. Pryd caiff CCC ddechrau gwneud busnes?

Ni chaiff CCC newydd ei ffurfio ddechrau gwneud busnes nac arfer unrhyw bwerau benthyca nes bod ganddo dystysgrif wedi ei rhoi o dan adran 117 o Ddeddf Cwmnïau 1985, yn cadarnhau i'r cwmni ddosbarthu cyfalaf cyfrannau'n cyfateb o leiaf i'r lleiafswm statudol (gweler cwestiwn 1). Gallwch gael y dystysgrif hon gan Dŷ'r Cwmnïau drwy lenwi Ffurflen 117. Unwaith y caiff ei rhoi, bydd y dystysgrif yn brawf bod gan y cwmni hawl i wneud busnes a benthyca. Byddwn fel arfer yn postio'r dystysgrif atoch chi, ond gallwn wneud copi ffacs i'w gasglu yn unrhyw un o swyddfeydd Tŷ'r Cwmnïau os gofynnwch am hyn wrth gyflwyno Ffurflen 117(ar gael mewn Saesneg yn unig) i'w chofrestru.

4. Oes unrhyw gyfyngiadau eraill ar CCC?

Oes. Ceir pedwar prif gyfyngiad:
  • Rhaid i CCC fod ag o leiaf dau aelod ac o leiaf dau gyfarwyddwr cwmni. Rhaid i'r ysgrifennydd (neu'bob cyd-ysgrifennydd) hefyd fod yn berson yr ymddengys i'r cyfarwyddwyr ei f/bod â'r wybodaeth a'r gallu angenrheidiol i gyflawni'r swyddogaethau ac sydd:

    (a) yn dal swydd ysgrifennydd neu ysgrifennydd cynorthwyol neu ddirprwy ysgrifennydd ar 22 Rhagfyr 1980; neu

    (b) am o leiaf tair o'r pum mlynedd cyn ei b/phenodi, wedi dal swydd ysgrifennydd i gwmni heb fod yn breifat; neu

    (c) yn fargyfreithiwr, yn adfocad neu'n gyfreithiwr a alwyd neu a dderbyniwyd mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig; neu

    (d) yn rhywun, yn rhinwedd ei b/phrofiad blaenorol neu ei (h)aelodaeth o gorff arall, yr ymddengys i'r cyfarwyddwyr ei f/bod yn alluog i gyflawni swyddogaethau ysgrifennydd; neu

    (e) yn aelod o unrhyw un o'r cyrff canlynol:

    - Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr;
    - Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban;
    - Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Iwerddon;
    - Sefydliad yr Ysgrifenyddion a'r Gweinyddwyr Siartredig;
    - Cymdeithas Siartredig y Cyfrifwyr Ardystiedig;
    - Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (gynt Sefydliad y Cyfrifwyr Costio a Rheoli); neu
    - y Sefydliad Siartredig ar gyfer Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg.

  • Dim ond saith mis ar ôl diwedd ei gyfnod cyfeirnod cyfrifeg sydd gan CCC fel arfer i gyflwyno'i gyfrifon i'r Cofrestrydd. Tynnir cosb sifil os cyflwyna gyfrifon i Dŷ'r Cwmnïau ar ôl yr amser statudol a ganiateir i ffeilio. Eglurir y cosbau'n llawn yn ein llyfryn 'Cosbau Ffeilio Hwyr'.

  • Ni all CCC fanteisio ar lawer o'r darpariaethau a'r eithriadau sy'n gymwys i gwmnïau preifat o dan y Ddeddf, megis eithrio cwmnïau preifat bach rhag archwilio ariannol.

  • Ni all CCC wneud cais am ddileu'n wirfoddol o'r gofrestr o dan adran 652A, Deddf Cwmnïau 1985. Mae gwybodaeth bellach am hyn i'w chael yn ein llyfryn 'Dileu o'r Gofrestr, Diddymu ac Adfer'.
5. Beth, wedyn, yw mantais cwmni cyhoeddus?

Mae gan CCC fynediad at farchnadoedd cyfalaf a gall gynnig ei gyfrannau i'w gwerthu i'r cyhoedd drwy gyfnewidfa stoc gydnabyddedig. Gall hefyd gyhoeddi hysbysebion yn cynnig unrhyw rai o'i warannau i'w gwerthu i'r cyhoedd. O'i wrthgyferbynnu, ni all cwmni preifat gynnig cyfrannau ynddo'i hun i'r cyhoedd.

6. Ydy’r rheolau hyn yn gymwys i ccc tramor?

Nid yw mwyafrif y rheolau uchod yn gymwys i gwmni cyhoeddus wedi ei ffurfio dramor. Wrth sefydlu cangen neu le busnes ym Mhrydain Fawr, bydd cwmni o'r fath wedi ei reoli gan Ran XXIII o Ddeddf Cwmnïau 1985, yn union fel unrhyw gwmni tramor arall. Ond, ar wahân i Ran XXIII o'r Ddeddf, bydd hefyd wedi ei reoli gan reoliadau yng ngwlad ei gorffori, gan rannau arbennig o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000, a chan Gôd y Ddinas ar Feddiannu ac Uno.

Brig 
PENNOD 3
Cwmnïau unig aelod


1. Beth yw cwmni unig aelod?

Cwmni unig aelod yw cwmni preifat wedi ei gyfyngu drwy gyfrannau neu warant ac a gorfforir gydag un aelod, neu y caiff ei aelodaeth ei leihau i un aelod.

2. A all unig aelod redeg y cwmni?

Na all. Rhaid i'r cwmni o hyd fod ag o leiaf un cyfarwyddwr ac ysgrifennydd na chaiff hefyd fod yn unig gyfarwyddwr.

3. Sut gall unig aelod gynnal cyfarfodydd cyffredinol?

Oni fo erthyglau cymdeithasiad y cwmni'n pennu i'r gwrthwyneb, mae unig aelod - yn bresennol yn bersonol neu drwy ddirprwy - yn cyfansoddi cworwm. Os cynhelir cyfarfod o'r fath, rhaid sôn amdano yn y cofnodion.

Os gwneir penderfyniad gan unig aelod, ac eithrio drwy benderfyniad ysgrifenedig, yna rhaid trosglwyddo'r penderfyniad i'r cwmni yn ysgrifenedig.

4. Sut dylai cwmni gofnodi contract anysgrifenedig ag unig aelod?

Os bydd i'r cwmni dynnu contract anysgrifenedig â'r unig aelod sydd hefyd yn gyfarwyddwr i'r cwmni (a'r contract heb fod yn rhan o fusnes arferol y cwmni), rhaid i'r cwmni sicrhau bod telerau'r contract yn cael eu nodi mewn memorandwm neu yng nghyfarfod nesa'r cyfarwyddwyr.

5. Beth am y gofrestr aelodau?

Rhaid i gofrestr aelodau'r cwmni gofnodi ei aelodau'n fanwl-gywir. Os corfforir cwmni gydag un aelod, yna bydd rhaid i'r gofrestr adlewyrchu hynny. Os mwy nag un aelod fuodd gan y cwmni'n wreiddiol a bod yr aelodaeth yn lleihau, yna bydd rhaid i'r gofrestr ddangos pryd digwyddodd hynny. Yn yr un modd, rhaid ychwanegu cofnodion priodol at y gofrestr aelodau os bydd nifer yr aelodau'n cynyddu'n ddiweddarach.

Brig 
PENNOD 4
Ailgofrestru
cwmni a hefyd troi cwmni yn gwmni BC

1. A all cwmni preifat droi'n CCC?

Gall. Gall cwmni preifat wedi ei gyfyngu drwy gyfrannau a chwmni anghyfyngedig gyda chyfalaf cyfrannau ailgofrestru'n CCC, ond ni all cwmni heb gyfalaf cyfrannau.

Rhaid i gwmni preifat fabwysiadu penderfyniad arbennig i'r perwyl y caiff ei ailgofrestru felly, gan gyflwyno copi o'r penderfyniad, ynghyd â ffurflen gais, i'r Cofrestrydd. Bydd rhaid hefyd i'r penderfyniad:

  • ddiwygio memorandwm y cwmni fel ei fod yn dweud mai cwmni cyfyngedig cyhoeddus fydd y cwmni;
  • gwneud unrhyw ddiwygiadau eraill i'r memorandwm fel ei fod yn cydymffurfio â'r memorandwm sy'n ofynnol ar gyfer cwmni cyfyngedig cyhoeddus;
  • gwneud unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol i erthyglau cymdeithasiad y cwmni.

Mae gwybodaeth bellach am benderfyniadau i'w chael yn ein llyfryn 'Penderfyniadau'. (Deddf Cwmnïau 1985 neu Deddf Cwmnïau 2006)

Rhaid i'r cais fod ar Ffurflen 43(3)(ar gael mewn Saesneg yn unig), bod wedi ei lofnodi gan gyfarwyddwr neu ysgrifennydd i'r cwmni, a chael ei gyflwyno gyda'r dogfennau canlynol:

  • copi o femorandwm ac erthyglau cymdeithasiad y cwmni, wedi eu diwygio yn unol â'r penderfyniad uchod;
  • copi o fantolen wedi ei pharatoi nid mwy na saith mis cyn y dyddiad gwneud cais ac yn cynnwys adroddiad diamwys gan archwilwyr ariannol y cwmni;
  • adroddiad arbennig gan yr archwilwyr gyda golwg ar asedion net y cwmni ar ddyddiad y fantolen mewn perthynas â chyfalaf cyfrannau'r cwmni fel y cafodd ei erchi a'r adnoddau na ellir mo'u dosbarthu;
  • adroddiad prisio yng nghyswllt unrhyw gyfrannau a ddosbarthwyd wedi eu talu'n llawn neu'n rhannol, ac eithrio mewn arian parod, wedi dyddiad y fantolen;
  • datganiad statudol ar Ffurflen 43(3)(e)(ar gael mewn Saesneg yn unig) yn cadarnhau bod y penderfyniad wedi ei fabwysiadu, ac na welodd sefyllfa ariannol y cwmni unrhyw newid a fyddai'n peri i'w asedion net ostwng i lefel is na'i gyfalaf cyfrannau wedi ei erchi a'r adnoddau na ellir mo'u dosbarthu.

Yn ogystal â'r uchod, mae'n rhaid i gwmni anghyfyngedig:

  • gynnwys yn y penderfyniad ddatganiad i'r perwyl bod atebolrwydd yr aelodau wedi ei gyfyngu ac yn nodi lefel cyfalaf cyfrannau arfaethedig y cwmni;
  • gwneud y diwygiadau hynny i'r memorandwm a'r erthyglau cymdeithasiad sy'n angenrheidiol iddynt gydymffurfio â memorandwm ac erthyglau cwmni wedi ei gyfyngu drwy gyfrannau.

Rhaid i'r cwmni fodloni hefyd y gofynion statudol o ran lleiafswm cyfalaf cyfrannau, y soniwyd amdanyn nhw o dan gwestiwn 1 o bennod 2, cyn mabwysiadu'r penderfyniad arbennig.


2. A all CCC droi'n gwmni preifat?

Gall. Gall cwmni cyhoeddus wedi ei gyfyngu drwy gyfrannau neu warant ailgofrestru'n gwmni preifat wedi ei gyfyngu drwy gyfrannau neu warant, a hynny drwy fabwysiadu penderfyniad arbennig i wneud felly. Ond os bydd digon o aelodau'n gwrthwynebu, o dan adran 54 o Ddeddf Cwmnïau 1985 fe allan nhw wneud cais i'r llys am ddileu'r penderfyniad o fewn 28 diwrnod i'w fabwysiadu.

Gall llys hefyd orchymyn i gwmni cyhoeddus ailgofrestru'n gwmni preifat wrth gymeradwyo 'cofnod lleihau' yng nghyswllt cyfalaf cyfrannau, sy'n golygu bod y cyfalaf cyfrannau a ddosbarthwyd yn disgyn yn is na'r lleiafswm statudol. Mewn achos o'r fath, bydd y llys hefyd yn pennu diwygiadau i femorandwm ac erthyglau'r cwmni. Fydd dim angen penderfyniad arbennig i ailgofrestru.

Yn yr un modd, gellir mynnu gan gwmni cyhoeddus ailgofrestru'n gwmni preifat os bydd i'r cyfalaf cyfrannau a ddosbarthwyd ganddo ddisgyn islaw'r lleiafswm statudol mewn ffyrdd eraill. Mae'r rhain yn cynnwys adennill, fforffedu neu adbrynu cyfrannau. Mewn achosion o'r fath, bydd eisiau penderfyniad arbennig i ailgofrestru.

Ymhob achos (ac eithrio lle bo llys wedi pennu mewn gorchymyn y diwygiadau sydd i'w gwneud), bydd rhaid hefyd fabwysiadu penderfyniad i ddiwygio'r memorandwm a'r erthyglau cymdeithasiad i gydymffurfio â'r rhai sy'n ofynnol ar gyfer cwmni preifat.

Rhaid cyflwyno gyda'r cais am ailgofrestriad (ar Ffurflen 53)(ar gael mewn Saesneg yn unig) gopïau o'r penderfyniadau a chopïau o'r memorandwm a'r erthyglau fel y cawsan nhw eu diwygio i fodloni amgylchiadau newydd y cwmni.

3. Beth yw cost ailgofrestru (i gwmnïau heb gynnwys cwmnïau BC)?

  • Y ffi safonol am ailgofrestru yw £20, neu £50 am wasanaeth premiwm yr un diwrnod. Os yw'r cwmni'n ailgofrestru ac yn newid enw yr un pryd, bydd ffi ychwanegol o £10 am newid enw hefyd yn daladwy, felly y ffi gyfan fydd £30 (£100 am wasanaeth premiwm yr un diwrnod).
  • Newid enw £10
  • Newid enw yr un diwrnod £50
  • Ailgofrestru a newid enw gyda’i gilydd yr un diwrnod £100
  • Ailgofrestru £20
  • Ailgofrestru yr un diwrnod £50
Byddai dileu'r geiriau 'cwmni' neu 'a'r cwmni' (neu eu talfyriadau neu'r geiriau Saesneg cyfatebol) o enw'r cwmni fel arfer yn golygu newid enw. Ond nid yw hyn yn wir wrth ailgofrestru. Os bydd gennych chi unrhyw amheuon ynglŷn â'r ffi briodol, cysylltwch â ni.

4. A all cwmni presennol droi’n gwmni BC?
Gall, fe all cwmni presennol wneud cais i’r Rheoleiddiwr cwmnïau buddiant cymunedol am droi’n gwmni BC. Am fanylion pellach, cyfeiriwch at y wefan BC yn www.cicregulator.gov.uk.

5. Beth yw’r ffioedd i gwmnïau BC?
Trosi £25
Newid enw £10
Newid statws £20
Trosi’n cynnwys newid statws (Ailgofrestru) £35

Sylwer na fydd gwasanaeth yr un diwrnod ar gael i gwmnïau BC yn y dyfodol agos.

Brig 
PENNOD 5
Cyhoeddi enw'r cwmni, a'r manylion sydd i'w dangos ar ddeunydd ysgrifennu'r cwmni


O dan Ddeddf Cwmnïau 1985, rhaid i'ch cwmni nodi ei enw (fel yr ymddengys yn ei femorandwm cymdeithasiad) mewn mannau arbennig ac ar ddeunydd ysgrifennu'r busnes. Rhaid i'ch cwmni hefyd roi gwybodaeth arbennig ar ei holl lythyrau busnes, ffurflenni archebu a gwefannau.

1. Ble mae'n rhaid dangos enw'r cwmni?

Rhaid i bob cwmni beintio neu osod ei enw y tu allan i bob swyddfa neu leoliad lle dilynir busnes - hyd yn oed os cartref un o'r cyfarwyddwyr fydd hynny. Rhaid i'r enw fod wedi ei beintio neu ei osod yn gyson a rhaid iddo fod yn amlwg ac yn ddarllenadwy.

2. Ar ba ddogfennau mae'n rhaid dangos enw'r cwmni?

Rhaid i'r cwmni nodi ei enw, mewn ysgrifen ddarllenadwy, ar y canlynol:

  • holl lythyrau busnes y cwmni;
  • ei holl hysbysiadau a chyhoeddiadau swyddogol eraill;
  • pob bil cyfnewid, addaweb, arnodiad, siec ac archeb arian neu archeb nwyddau yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y cwmni;
  • ei holl ddatganiadau o eitemau taladwy, anfonebau, derbynebau a llythyrau credyd.
3. Oes rhaid i'r cwmni ddangos unrhyw fanylion eraill?

Oes. Ar ei holl lythyrau busnes, ffurflenni archebu (p’un ai fel copi caled, ar ffurf electronig neu unrhyw ffurf arall) a gwefannau’r cwmni, mae'n rhaid i'r cwmni ddangos mewn ysgrifen ddarllenadwy:
  • Leoliad ei gofrestru a'i rif cofrestru. Rhaid i'r lleoliad cofrestru fod yn un o'r canlynol, fel y bo'n briodol:
I gwmnïau wedi eu cofrestru
yng Nghymru a Lloegr:
I gwmnïau wedi eu cofrestru
yn yr Alban:


Cofrestrwyd yng Nghaerdydd Cofrestrwyd yn yr Alban
Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr Cofrestrwyd yng Nghaeredin
Cofrestrwyd yng Nghymru  
Cofrestrwyd yn Lloegr  
Cofrestrwyd yn Llundain  
  • Cyfeiriad y swyddfa gofrestredig.
  • Os bydd llythyr busnes neu ffurflen archebu neu unrhyw wefannau sydd gan y cwmni yn sôn am fwy nag un cyfeiriad, argymhellir eich bod yn nodi p'un o'r cyfeiriadau yw cyfeiriad y swyddfa gofrestredig.

4. Oes rhaid dangos enwau cyfarwyddwyr?

Does dim rhaid i gwmni nodi enwau'r cyfarwyddwyr ar ei lythyrau busnes, ond os dewisa wneud hynny, rhaid iddo nodi enw pob cyfarwyddwr. Mewn geiriau eraill, ni all cwmni fod yn ddetholus o ran enwau pa gyfarwyddwyr a ddengys - rhaid iddo eu dangos i gyd neu ddim un.

5. Oes rhaid dangos rhywbeth arall?

Rhaid i rai mathau o gwmni ddangos yr wybodaeth ganlynol hefyd ar eu llythyrau busnes, ffurflenni archebu (boed ar gopi caled, ffurf electronig neu unrhyw ffurf arall) ac ar wefannau:

Ar gyfer cwmni sydd â chyfalaf cyfrannau, does dim angen nodi'r cyfalaf cyfrannau ar y deunydd ysgrifennu, ond os dewisa'r cwmni wneud hynny, rhaid iddo nodi ei gyfalaf cyfrannau taledig, nid ei gyfalaf awdurdodedig.

6. Oes yna reolau arbennig i gwmnïau elusennol?

O dan adran 68 o Ddeddf Elusennau 1993, mae'n rhaid i gwmni elusennol nad yw ei enw'n cynnwys y gair 'elusen' ('charity') neu 'elusennol' ('charitable') nodi'r ffaith mai elusen ydyw ar bob dogfen a restrwyd o dan gwestiwn 2, ar bob bil a ddosbartha ac ar unrhyw drawsgludiadau a gyflawna.

Nid yw adran 68 yn mynnu gan gwmni elusennol gynnwys y gair 'elusen' ('charity') neu 'elusennol' ('charitable') yn ei enw.

Nid yw Deddf Elusennau 1993 yn gymwys i gwmnïau elusennol wedi eu cofrestru yn yr Alban ond mae'r un rheol yn gymwys i gwmnïau Albanaidd o dan adran 112(6) o Ddeddf Cwmnïau 1989.

7. Ydy'r rheolau'n gymwys i gwmnïau tramor?

Rhaid i gwmni a gorfforwyd y tu allan i Brydain Fawr ac sy'n agor cangen neu le busnes ym Mhrydain Fawr gael ei gofrestru a darparu manylion tebyg i'r rhai a nodwyd yn y bennod hon. Rhestrir manylion llawn yn ein llyfryn 'Oversea Companies'.

8. Beth os yw’r cwmni’n cael ei ddirwyn i ben?

Os yw’r cwmni’n cael ei ddirwyn i ben, rhaid i bob anfoneb, archeb nwyddau, llythyr busnes neu ffurflen archebu (boed ar gopi caled, ffurf electronig neu unrhyw ffurf arall) neu ar unrhyw wefannau sydd gan y cwmni gynnwys datganiad bod y cwmni yn cael ei ddirwyn i ben.

Brig 
PENNOD 6
Y cwmni newydd - edrych ymlaen


1. Pa wybodaeth sydd angen ar Dŷ'r Cwmnïau?

Mae gan gyfarwyddwyr cwmni gyfrifoldeb personol am drefnu i wybodaeth am fframwaith cyfalaf, rheolaeth a gweithgareddau eu cwmnïau fod ar gael i aelodau'r cwmni ac i'r cyhoedd yn gyffredinol.

I gwmnïau sydd ag atebolrwydd cyfyngedig, bydd hyn yn cynnwys cyfrifon. Lle bo'ch cwmni'n anghyfyngedig, mae'n rhaid cyflwyno cyfrifon i'r Cofrestrydd:
  • os yw'n is-ymgymeriad neu'n rhiant i gwmni cyfyngedig; neu
  • os buodd yn gwmni bancio neu yswiriant neu os trefnodd gynllun stampiau masnachu yn ystod cyfnod y cyfrifon.
2. Pa gyfnod y dylai'r cyfrifon ei fodloni?

Rhaid i gyfrifon cynta'r cwmni ddechrau o'r dyddiad corffori. Rhaid i'r flwyddyn ariannol gyntaf ddod i ben ar y 'dyddiad cyfeirnod cyfrifeg' neu ar ddyddiad hyd at saith diwrnod y naill ochr neu'r llall i'r dyddiad hwn (gweler cwestiwn 3). Bydd cyfrifon olynol yn dechrau ar y diwrnod ar ôl dyddiad diwedd-blwyddyn y cyfrifon blaenorol. Deuant i ben ar y 'dyddiad cyfeirnod cyfrifeg' nesaf neu ar ddyddiad hyd at saith diwrnod y naill ochr neu'r llall.

3. Sut pennir y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg?

Y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg yw dydd ola'r cyfnod a fodlonir gan y cyfrifon blynyddol. Bydd y dyddiad hwn yn dibynnu ar y dyddiad corffori, gan ei fod yn cyfateb i ddydd ola'r mis sy'n cynnwys y dyddiad corffori. Er enghraifft, os corfforir eich cwmni ar 2 Gorffennaf eleni, y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg fydd 31 Gorffennaf, a bydd rhaid i'w flwyddyn ariannol gyntaf ddod i ben ar 31 Gorffennaf y flwyddyn nesaf (neu o fewn saith diwrnod i'r dyddiad hwnnw).

4. Oes modd newid y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg?

Oes. Y ffordd gyflymaf a hawsaf i newid eich dyddiad cyfeirnod cyfrifeg yw drwy ddefnyddio’n gwasanaethau Software Filing a WebFiling. Fel arall, gallwch anfon Ffurflen 225 at y Cofrestrydd. Rhaid ichi wneud hyn o fewn y cyfnod cyfrifeg yr effeithir arno gan y newid neu yn ystod y cyfnod a ganiateir ar gyfer cyflwyno'r cyfrifon cysylltiedig inni. Am ragor o wybodaeth, gweler ein llyfryn 'Cyfrifon a Dyddiadau Cyfeirnod Cyfrifeg'.


5. Faint o amser sydd gen i i gyflwyno cyfrifon?

Mae'n rhaid cyflwyno cyfrifon cyntaf cwmni preifat:
  • o fewn 10 mis i ddiwedd y cyfnod cyfeirnod cyfrifeg; neu
  • os yw'r cyfnod cyfeirnod cyfrifeg yn hwy na 12 mis, o fewn 22 mis i'r dyddiad corffori, neu dri mis i ddiwedd y cyfnod cyfeirnod cyfrifeg, p'un bynnag sydd hwyaf.
Rhaid cyflwyno cyfrifon cyntaf cwmni cyhoeddus (CCC):
  • o fewn saith mis i ddiwedd y cyfnod cyfeirnod cyfrifeg; neu
  • os yw'r cyfnod cyfeirnod cyfrifeg yn hwy na 12 mis, o fewn 19 mis i'r dyddiad corffori, neu dri mis i ddiwedd y cyfnod cyfeirnod cyfrifeg, p'un bynnag sydd hwyaf.
6. Beth arall sy'n rhaid imi ei ddweud wrth Dŷ'r Cwmnïau?

Dyma rai o'r pethau pwysig y mae'n rhaid ichi ddweud wrthym amdanynt - gan ddefnyddio, yn y mwyafrif o enghreifftiau, ffurflen arbennig a ddarparwn, ac o fewn y cyfyngiadau amser a nodir.
  • Newid cyfarwyddwr/cyfarwyddwyr ac ysgrifennydd, o fewn 14 diwrnod. Ar gyfer
penodiadau defnyddiwch ein gwasanaethau Software Filing neu WebFiling, neu Ffurflen 288a
ymddiswyddiadau defnyddiwch ein gwasanaethau Software Filing neu WebFiling, neu Ffurflen 288b
newid manylion personol defnyddiwch ein gwasanaethau Software Filing neu WebFiling, neu Ffurflen 288c
  • Manylion cyfrannau newydd sy'n cael eu clustnodi, o fewn mis. Defnyddiwch Ffurflen 88(2). Gweler ein llyfryn 'Cyfalaf Cyfrannau a Llyfrynnau Prosbectws' am ragor o wybodaeth.

  • Unrhyw benderfyniad arbennig a rhai mathau o benderfyniad arferol (p’un a gaiff ei fabwysiadu mewn cyfarfod neu yn ysgrifenedig), o fewn 15 diwrnod i’r cwmni eu mabwysiadu. Does dim ffurflen arbennig ond bydd angen inni gael copi o’r penderfyniad. Mae gwybodaeth bellach am benderfyniadau cwmni i’w chael yn ein llyfryn ‘Penderfyniadau’. Lle bo penderfyniad yn newid memorandwm neu erthyglau cymdeithasiad y cwmni, mae’n rhaid hefyd anfon copi o’r ddogfen ddiwygiedig yr un pryd â’r penderfyniad.
    (Deddf Cwmnïau 1985 neu Deddf Cwmnïau 2006)

  • Manylion unrhyw forgais neu arwystl a greir gan y cwmni, o fewn 21 diwrnod. Gweler ein llyfryn 'Arwystlon a Morgeisiau Cwmni' neu ar gyfer cwmnïau Albanaidd 'Company Charges (Scotland)'.

  • Newid swyddfa gofrestredig, o fewn 14 diwrnod. Defnyddiwch ein gwasanaethau Software Filing neu WebFiling, neu Ffurflen 287. Dim ond wrth inni gofrestru'r newid y daw i rym cyfreithiol.

Cyflwyno manylion cyfarwyddwyr a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig trwy’r dull electronig:

Cynllun PROOF (PRO tected On-line Filing) y Cofrestrydd

Mae cyfarwyddwyr yn dal safle pwysig o fewn y cwmni: mae ganddynt y pÿer i brynu, a gwneud trefniadau credyd ar ran y cwmni. Yn yr un modd, mae cyfeiriad y swyddfa gofrestredig yn bwysig am mai dyma lle’r anfonir pob gohebiaeth swyddogol.

Caiff cofnodion Tÿ’r Cwmnïau eu defnyddio weithiau i wirio cyfreithlonrwydd cwmni a’i gyfarwyddwyr cyn caniatáu credyd neu fenthyciadau, felly mae’n bwysig bod y cofnodion yn gywir. Bydd cwmnïau’n agored i dwyll ariannol os caiff y bobl anghywir eu cynnwys ar y cofnod fel cyfarwyddwyr cwmni neu os caiff cyfeiriad swyddfa gofrestredig ffug ei ffeilio.

I atal twyllwyr rhag ymhonni’n gyfarwyddwyr cyfreithlon, mae Tÿ’r Cwmnïau yn cynnig i gwmnïau system ddiogel a chwbl electronig ar gyfer rhoi gwybod am newidiadau o ran cyfarwyddwyr a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig. Os dewiswch roi gwybod am y manylion hyn trwy’r dull electronig yn unig, fe gânt eu diogelu trwy godau electronig ac ni fyddwn yn derbyn hysbysiadau gan eich cwmni wedi eu cyflwyno ar unrhyw ddiwyg arall.

I fanteisio ar y gwasanaeth hwn, bydd angen yn gyntaf ichi gofrestru trwy’n gwasanaeth WebFiling i gael cod diogelwch a chod dilysu fel y gall eich cwmni ffeilio’n electronig. I ddysgu mwy am hyn, ymwelwch â’n gwefan yn www.companieshouse.gov.uk.

Yna bydd angen ichi lenwi ffurflen ‘Opt-in’ (PR1) a chytuno â’r amodau a’r telerau fel mai dim ond pan gânt eu cyflwyno trwy’r dull electronig diogel, a byth ar ffurflen bapur, y bydd Tÿ’r Cwmnïau’n derbyn unrhyw newidiadau o ran cyfarwyddwyr neu gyfeiriad y swyddfa gofrestredig. Mae’r ffurflen ‘Opt-in’ a’r amodau a’r telerau ar gael trwy’n gwefan neu drwy ffonio 0870 33 33 636. Ar ôl ei llenwi, bydd raid postio’r ffurflen yn ôl i Dÿ’r Cwmnïau.

Mae’r gwasanaeth hwn yn wirfoddol; gallwch ddewis peidio â chymryd rhan ar unrhyw adeg a byddwn yn mynd yn ôl i dderbyn hysbysiadau’ch cwmni wedi eu cyflwyno’n electronig neu ar ffurflenni papur.


7. Beth am ffurflenni blynyddol?

Rhaid i bob cwmni gyflwyno ffurflen flynyddol i Dŷ'r Cwmnïau o leiaf unwaith bob 12 mis. Caiff 28 diwrnod o ddiwrnod ola'r cyfnod a fodlonir gan y ffurflen i wneud hyn.

I'ch helpu i gwrdd â'r gofynion ffeilio hyn, byddwn yn anfon llythyr i swyddfa gofrestredig y cwmni pan ddaw’ch ffurflen flynyddol yn ddyledus. Bydd hwn yn cynghori sut i ffeilio’r ffurflen yn electronig drwy ddefnyddio’n gwasanaethau Software Filing neu WebFiling, gan mai dyma’r opsiwn hawsaf .

Ond os na allwch chi ffeilio ar-lein, cewch archebu copi papur o’r ffurflen flynyddol drwy’n Canolfan Cysylltu ar 0870 33 33 636.

Hefyd, os yw’ch cwmni wedi ymddatod yn wirfoddol neu os dymunwch ffeilio yn Gymraeg, hwyrach na fydd Electronic Filing ar gael i’ch cwmni. Am gyngor ar y mathau eraill o gwmni na allant ffeilio ar-lein, ymwelwch â’n gwefan http://www.companieshouse.gov.uk/welsh/index.shtml Yn yr achos hwn caiff ffurflen bapur ei hanfon i’r swyddfa gofrestredig.

Mae ffi flynyddol o £30 am brosesu dogfen (neu £15 i ddefnyddwyr ein gwasanaethau Software Filing neu WebFiling) y mae’n rhaid ei hanfon gyda’r ffurflen flynyddol.

Os dymunwch chi anfon ffurflen flynyddol i Dŷ’r Cwmnïau cyn pen-blwydd corffori’r cwmni, ffoniwch 0870 33 33 636 a gofyn am ffurflen flynyddol ar bapur (Ffurflen 363c).

8. Beth fydd Tŷ'r Cwmnïau yn ei wneud â'r wybodaeth a anfonir gan y cwmni?

Rhaid inni drefnu i'r wybodaeth a ddaliwn am gwmnïau cofrestredig fod ar gael i unrhyw un sydd am ei gweld. Felly, fe gaiff yr wybodaeth a gyflwynwch ei hychwanegu at gofnod y cwmni a bydd ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd.

9. Beth sy'n digwydd os nad anfona i'r wybodaeth i Dŷ'r Cwmnïau mewn pryd?

Mae'n hawdd colli ffydd mewn cwmni nad yw'n cwrdd â'i rwymedigaethau cyfreithiol. Os na ddywedwch chi wrthym am gyflwr ariannol eich cwmni yn brydlon, ac os na chyflwynwch fanylion am newidiadau, ni fydd y sawl sydd am wneud busnes â chi yn cael mantais yr wybodaeth ddiweddaraf am eich cwmni. Gallai hynny achosi problemau masnachu neu effeithio ar statws credyd eich cwmni. Gallai hyd yn oed atal buddsoddydd posibl rhag buddsoddi arian yn eich cwmni, neu'ch rhwystro rhag cael benthyg pan fydd angen un arnochchi.

Os cyflwynir eich cyfrifon yn hwyr, ceir cosb awtomatig. Bydd y gosb hon rhwng £100 a £1,000 ar gyfer cwmni preifat a rhwng £500 a £5,000 ar gyfer CCC. Mae rhagor o wybodaeth am gosbau ffeilio hwyr i'w chael yn ein llyfryn 'Cosbau Ffeilio Hwyr'.

Yn ychwanegol, gellir erlyn cyfarwyddwyr am beidio â ffeilio dogfennau arbennig. O'u collfarnu, bydd ganddynt record droseddu a byddant yn agored i'w dirwyo hyd at £5,000 am bob tramgwydd. Mewn rhai enghreifftiau, gellid hefyd eu gwahardd rhag dal swydd cyfarwyddwr cwmni neu gymryd rhan yn rheolaeth unrhyw gwmni am hyd at bum mlynedd.

10. Beth os na fydd y cwmni'n llwyddo neu na fydd arna i ei angen mwyach?

Gall cwmnïau preifat sydd heb fasnachu na dilyn busnes mewn ffordd arall ers o leiaf tri mis wneud cais i'r Cofrestrydd am gael eu dileu o'r gofrestr. Am wybodaeth ynghylch hyn, gweler ein llyfryn 'Dileu o'r Gofrestr, Diddymu ac Adfer' neu ar gyfer cwmnïau Albanaidd ‘Strike-off, Dissolution and Restoration (Scotland)'. Nid yw hyn yn drefn yn lle gweithrediadau ansolfedd ffurfiol lle bo'r rheiny'n briodol - gweler ein llyfryn 'Ymddatod ac Ansolfedd' neu ar gyfer cwmnïau Albanaidd ‘Liquidation and Insolvency (Scotland)’.

Brig 
PENNOD 7
Gwybodaeth bellach


1. Ble galla i gael cymorth?

Bydd ein staff yng Nghaerdydd a Chaeredin yn gallu’ch cynghori ynghylch materion yn gyffredinol, ond wrth ddechrau cwmni mae’n bwysig gwneud pethau’n iawn. Fel na fyddwch chi’n gwneud camgymeriadau a allai droi’n gostus, gall fod yn ddoeth ymgynghori â chyfreithiwr, asiant ffurfio cwmnïau, ysgrifennydd siartredig neu gyfrifydd fel sy’n briodol. Fe welir y cyfeiriadau yn y Tudalennau Melyn fel arfer.

Am ymholiadau ynghylch cwmnïau buddiant cymunedol, ymwelwch ag www.cicregulator.gov.uk

2. Sut mae anfon gwybodaeth at y Cofrestrydd

Y ffordd fwyaf diogel i anfon gwybodaeth statudol i Dŷ’r Cwmnïau yw defnyddio’n gwasanaethau ffeilio ar-lein. I gael rhagor o wybodaeth a manylion am sut i gofrestru, edrychwch ar ein gwefan www.companieshouse.gov.uk

Gallwch chi  gyflwyno dogfennau â llaw (yn bersonol neu drwy negesydd), gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa, dros wyliau banc a thros y penwythnos i Gaerdydd, Llundain a Chaeredin - gweler y clawr gefn am y cyfeiriadau.

Gallwch chi hefyd gyflwyno dogfennau drwy’r post, drwy’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) neu drwy’r Post Cyfreithiol (LP) yn yr Alban.

Os anfonwch chi ddogfennau drwy'r post, byddwch cystal â’u cyfeirio at:

Ar gyfer cwmnïau wedi eu corffori
yng Nghymru a Lloegr:
Ar gyfer cwmnïau wedi eu corffori
yn yr Alban:
Y Cofrestrydd Cwmnïau
Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ

DX33050 Caerdydd 1
The Registrar of Companies
Companies House
37 Castle Terrace
Edinburgh EH1 2EB

DX ED235 Edinburgh 1
LP - 4 Edinburgh 2

Dim ond os darparwch chi amlen stampiedig yn dangos y cyfeiriad dychwelyd y byddwn yn cydnabod i ddogfennau ddod i law yn Nhŷ’r Cwmnïau.
Os ydych yn anfon dogfennau drwy’r post, drwy negesydd neu drwy’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau(DX) a’ch bod yn dymuno cael derbynneb, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn darparu cydnabyddiaeth os amgaewch gopi o’ch llythyr eglurhaol gydag amlen stampiedig ac arni eich cyfeiriad dychwelyd. Bydd y côd bar a roddwn ar eich llythyr yn cyfleu’r dyddiad dod i law ac fe ddychwelwn y copi yn yr amlen a ddarparwch.

Sylwer: nid yw cydnabyddiaeth dod i law yn golygu bod dogfen wedi ei derbyn i’w chofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Sylwer: Nid yw Tŷ'r Cwmnïau yn derbyn cyfrifon na dogfennau statudol eraill dros beiriant ffacs

3. Ga i ffeilio dogfennau mewn ieithoedd eraill?

Yn gyffredinol, mae’r dogfennau sy’n cael eu hanfon at y Cofrestrydd yn gorfod bod yn Saesneg. Er hynny, caiff dogfennau sy’n ymwneud â chwmnïau Cymreig gael eu llunio a’u cyflwyno yn Gymraeg.

Caiff cwmnïau gyflwyno’r dogfennau canlynol mewn ieithoedd eraill os bydd cyfieithiad Saesneg ardystiedig yn cael ei hanfon gyda nhw:

  • Penderfyniadau a chytundebau sy’n effeithio ar gyfansoddiad cwmni
  • Contractau sy’n dyrannu cyfrannau am gydnabyddiaeth heblaw arian parod
  • Yn achos cwmnïau sydd wedi’u cynnwys yng nghyfrifon grwpiau mwy yn yr EEA neu y tu allan i’r EEA, cyfrifon y grŵp ac adroddiad blynyddol y rhiant-ymgymeriad
  • Offerynnau arwystlon (neu gopïau o offerynnau arwystlon)

Caiff cwmnïau hefyd yn cael ffeilio cyfieithiadau ardystiedig gwirfoddol o unrhyw ddogfen sy’n dod o dan y gofynion yn y Gyfarwyddeb ar ddatgelu. Mae hyn yn cynnwys:

  • Dogfennau cyfansoddiadol fel y memorandwm a’r erthyglau cymdeithasiad
  • Penodiadau cyfarwyddwyr, newid manylion neu ymddiswyddiadau
  • Cyfrifon, adroddiadau a ffurflenni blynyddol
  • Hysbysiad ynglŷn ag unrhyw newid yn swyddfa gofrestredig y cwmni
  • Dogfennau dirwyn i ben
  • Dogfennau cyfalaf cydrannau (cwmnïau cyhoeddus yn unig)
  • Dogfennau ynghylch cyfuno a rhannu cwmnïau (cwmnïau cyhoeddus yn unig)
  • Dogfennau ynghylch cwmnïau tramor

Rhaid i’r cyfieithiad gwirfoddol gyfeirio at ddogfen a gyflwynwyd i’r Cofrestrydd ar 1 Ionawr 2007 neu wedi hynny. Gall cyfieithiadau gwirfoddol gael eu ffeilio yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd yn unig a rhaid anfon Ffurflen 1106 i gyd-fynd â nhw.

4. Ble galla i gael ffurflenni a llyfrynnau canllaw?

Mae hwn yn un o gyfres o lyfrynnau gan Dŷ’r Cwmnïau sy’n rhoi canllaw syml i’r Ddeddf Cwmnïau –

Mae ffurflenni statudol a llyfrynnau canllaw ar gael, yn rhad ac am ddim, gan Dŷ’r Cwmnïau. Y ffordd gyflymaf i’w sicrhau yw drwy’r wefan hon neu drwy ffonio 0870 3333636.

Gellir hefyd gael ffurflenni gan ddogfenwyr cyfreithiol, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid ffurfio cwmnïau – cyfeiriadau mewn llyfrau ffôn ar gyfer busnesau.

Brig

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies