|
 |
Cliciwch yma i weld fersiwn Saesneg y Llyfryn Canllaw hwn (gan agor mewn ffenestr arall)
- GBF3CYM
Tachwedd 2007 - Fersiwn 14 Fel yr addaswyd gan Ddeddf Cwmnïau 2006
Cynnwys
| Cyflwyniad |
| 1. Enwau busnes |
| 2. Rheolau datgelu |
| 3. Gwybodaeth bellach |
Canllaw yn unig yw'r llyfryn hwn a dylid ei ddarllen ar y cyd â'r ddeddfwriaeth berthnasol.
|
Brig
Cyflwyniad
Ni chaiff enwau busnes eu cofnodi mwyach gydag unrhyw adran o'r llywodraeth. Ond ceir deddfau ynglŷn â defnyddio rhai enwau a datgelu rhai manylion o ran perchnogaeth.
Cyn 1982, roedd yn rhaid cofrestru llawer o enwau busnes o dan Deddf Cofrestru Enwau Busnes 1916. Diddymwyd y Ddeddf hon ar 26 Chwefror 1982 pan ddaeth rheolau newydd ynglŷn ag enwau busnes i rym o dan Ddeddf Cwmnïau 1981. Disodlwyd y ddeddf honno gan Ddeddf Enwau Busnes 1985. Mae hon olaf yn rhoi i'r Ysgrifennydd Gwladol reolaeth arbennig dros yr enw a ddewiswch i'ch busnes a beth mae'n rhaid ichi ei ddweud wrth eraill am berchnogaeth y busnes.
Mae rhai geiriau ac ymadroddion wedi eu rheoli gan ddeddfau eraill. Mae'r rheolau hyn yn diogelu'r hawliau a all fod gan bobl mewn cysylltiad ag enwau neu eiriau. (O dan y gyfraith, mae 'person' yn cynnwys unigolion a chwmnïau.)
Mae'r llyfryn hwn yn ganllaw i reolau Deddf Enwau Busnes 1985. Nid yw'n ddatganiad cyflawn o'r gyfraith. Os ydych chi'n ansicr ynglŷn ag unrhyw rai o'r manylion, dylech ddarllen y ddeddf eich hun neu ymgynghori â chyfreithiwr.
Dychmygol yw unrhyw enwau busnes a nodir yn y llyfryn hwn fel enghreifftiau.
Brig
PENNOD 1
Enwau busnes
1. Beth yw 'enw busnes'?
Mae'n enw a ddefnyddir gan unrhyw berson, partneriaeth neu gwmni at ddibenion cynnal busnes, oni fo yr un fath â'u henw eu hun.
2. Pa archwilio dylwn i ei wneud cyn defnyddio enw busnes?
Peth doeth yw ymgynghori â chyfreithiwr cyn defnyddio enw busnes. Dylech chi hefyd edrych mewn llyfrau ffôn lleol ac unrhyw newyddiaduron neu gylchgronau masnach perthnasol i weld a yw unrhyw fusnes arall eisoes yn defnyddio'r enw. Os ydyw, fe allech chi brofi anawsterau cyfreithiol.
Os ydych chi'n bwriadu masnachu mewn nwyddau neu wasanaethau, y peth callaf fyddai ichi wneud yn siŵr nad yw enw'ch busnes yn gwrthdaro â nod masnach cofrestredig. Does dim rhaid iddo fod yr un fath yn hollol â nod masnach i beri gwrthdrawiad posibl. Gall problemau godi os bernir bod enw'n ddigon tebyg i greu dryswch. Am gyngor pellach, gan gynnwys sut i chwilio'r Gofrestr Nodau Masnach, cysylltwch â Chofrestrfa Nodau Masnach y Swyddfa Batentau drwy:
E-bost: enquiries@patent.gov.uk
Gwefan: www.patent.gov.uk Teleffon: 08459 500 505
Newidiodd y Swyddfa Batentau ei henw i Swyddfa Eiddo Deallusol y DG (UK-IPO) ar 2 Ebrill 2007
3. I bwy mae'r Ddeddf Enwau Busnes yn gymwys?
Mae'n gymwys i:
- gwmni sy'n masnachu o dan enw nad yw'n enw corfforaethol, er enghraifft 'XYZ Cyfyngedig' yn masnachu fel 'Hynafolion Llwyd';
- partneriaeth nad yw'n masnachu o dan enwau pawb o'r partneriaid;
- unigolyn sy'n masnachu o dan enw nad yw'n gyfenw iddo/i. Does dim gwahaniaeth a ychwanegir enwau cyntaf neu flaenlythrennau'r unigolyn neu beidio. Felly, byddai'r Ddeddf yn gymwys i Mr JQZ Singh pe bai'n masnachu fel 'Hynafolion Singh' ond nid pe bai'n masnachu fel 'Singh' neu 'JQZ Singh'.
4. Beth yw ystyr rheolaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros enwau busnes?
Mae eisiau cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol i enwau sy'n cynnwys geiriau neu ymadroddion a gafodd eu pennu drwy reoliad cyn bod modd eu defnyddio. Ceir hefyd dermau eraill y gall fod yn dramgwydd troseddol i'w defnyddio mewn enw o dan rai amgylchiadau. Gweler y cwestiynau nesaf hyn am ragor o fanylion.
5. Pa enwau sydd angen cymeradwyaeth?
A, B ac C er mwyn osgoi camarwain y cyhoedd i gredu bod maint neu statws i'r cwmni na ellir mo'i gyfiawnhau. Mae Atodiad A hefyd yn rhestru canllawiau cyffredinol o ran y meini prawf y bydd eisiau i'ch busnes eu bodloni yng nghyswllt geiriau ac ymadroddion arbennig. Bydd angen cymeradwyaeth hefyd i enw sy'n rhoi'r argraff bod gan y busnes gysylltiad â Llywodraeth Ei Mawrhydi neu ag awdurdod lleol cyn bod modd ei ddefnyddio.
Enwau sy'n awgrymu gweithgarwch bancio
Yn sgil dirymu Deddf Bancio 1987, nid oes eisiau cymeradwyaeth mwyach ar gyfer enwau busnes sy'n cynnwys bank, banker, banking neu deposit. Ond mae defnyddio geiriau sy'n awgrymu gweithgarwch bancio yn cyfleu'r syniad bod y person sy'n defnyddio'r enw yn dilyn busnes bancio a chan hynny yn derbyn adneuon - gweithgarwch sydd wedi ei reoleiddio o dan Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000. Felly, byddai angen yn arferol i'r person fod yn 'berson awdurdodedig' neu fod wedi ei (h)eithrio o dan y Ddeddf.
Gall defnydd enw bancio gan rywun nad yw wedi ei (h) awdurdodi na'i (h)eithrio o dan y Ddeddf fod yn arwyddocaol o ran penderfynu a gyflawnwyd tramgwydd o dan adran 24 o'r Ddeddf. Fodd bynnag, mae'n bosibl y gallai'r person brofi nad yw'r ffordd y mae'n dilyn y busnes yn golygu bod y rhai sy'n delio ag ef/â hi yn cymryd ei bod/fod yn berson awdurdodedig.
Ni ddylid cymryd yn ganiataol bod penderfyniad gennym ni i gofrestru enw bancio penodol yn golygu na fyddai ei ddefnyddio o dan amgylchiadau arbennig yn groes i adran 24. Os ydych yn ansicr, dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol.
6. Beth sy'n digwydd os bydd y berchnogaeth yn newid?
Pan newidir perchnogaeth busnes sydd ag enw'n cynnwys gair a gafodd ei bennu, rhaid i'r perchennog newydd sicrhau cymeradwyaeth bellach cyn pen 12 mis i ddefnyddio'r enw. Bydd hyn yn gymwys p'un a gafodd yr enw ei gofrestru'n flaenorol o dan Ddeddf Cofrestru Enwau Busnes 1916 neu ei gymeradwyo o dan Ddeddf Cwmnïau 1981.
7. Sut dylwn i wneud cais am gymeradwyaeth i ddefnyddio enw?
Os hoffech chi ddefnyddio enw sy'n cynnwys gair neu ymadrodd a restrir yn Atodiad A, dylech ysgrifennu at y canlynol, gan amgáu unrhyw wybodaeth a allai fod o gymorth i'ch cais:
| ar gyfer busnesau yng Nghymru neu Loegr |
ar gyfer busnesau yn yr Alban |
Adran Enwau Busnes
Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ
|
The Registrar of Companies
Companies House
37 Castle Terrace
Edinburgh
EH1 2EB
|
Pob ymholiad teleffon: 0870 33 33 636
Dim ond os yw’r wybodaeth a ddarparwch yn dangos bod y busnes yn bodloni’r amodau perthnasol adeg eich cais neu’n fuan wedyn y rhoir cymeradwyaeth.
Atodiad B, bydd angen ichi ysgrifennu i'r 'corff perthnasol' i ofyn a ydyn nhw'n gwrthwynebu'ch bod yn defnyddio'r ymadrodd honno (ac os ydyn nhw, pam). Amgaewch gopi o unrhyw ateb a gawsoch chi gan y corff perthnasol wrth ysgrifennu i Dŷ'r Cwmnïau yng Nghaerdydd neu Gaeredin i geisio cymeradwyaeth i ddefnyddio'r enw.
Os yw'r enw a ddewiswyd gennych yn rhoi'r argraff bod eich busnes wedi ei gysylltu â Llywodraeth Ei Mawrhydi neu ag awdurdod lleol, rhaid ichi beidio â'i ddefnyddio heb gymeradwyaeth ysgrifenedig yr Ysgrifennydd Gwladol. Os ydych chi'n bendant am ddefnyddio'r math hwn o enw, dylech ysgrifennu i'n Hadran Enwau Busnes yng Nghaerdydd neu Gaeredin, gan roi cymaint o fanylion ag sydd modd i ategu'ch cais.
Mewn enghreifftiau o'r fath, anfonir penderfyniad ysgrifenedig yr Ysgrifennydd Gwladol atoch wedi ystyried yr holl wybodaeth ategol.
Bydd cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol i'r enw wedi ei chyfyngu i ddefnyddio geiriau neu ymadroddion neilltuol. Nid yw cymeradwyaeth o'r fath yn ymestyn i nodau ac amcanion y cwmni.
Gallai defnyddio geiriau ac ymadroddion sydd wedi eu rhestru yn Atodiad C fod yn dramgwydd troseddol. Os dymunwch eu defnyddio mewn enw busnes, dylech chi ysgrifennu i'r corff priodol ac ymgynghori â cyfreithiwr. Nid oes gan yr Ysgrifennydd Gwladol bŵer i gymeradwyo na gwrthod enwau o'r fath nad ymdrinnir â nhw o dan Ddeddf Enwau Busnes 1985.
Brig
PENNOD 2
Rheolau datgelu
1. Ydŷ'r rheolau datgelu'n gymwys i bob busnes?
Os yw'r Ddeddf yn gymwys i chi (gweler pennod 1, cwestiwn 3), yna mae'n rhaid ichi gydymffurfio â'r rheolau datgelu.
Er enghraifft, os bydd Mr W Jones yn masnachu fel 'Popty W Jones', yna bydd y rheolau datgelu a welir yn y Ddeddf Enwau Busnes yn gymwys.
Mae'r rheolau datgelu hefyd yn gymwys i gwmnïau corfforedig sy'n masnachu o dan enw gwahanol, er enghraifft Bwydydd ABC Cyfyngedig fel Bwydydd ABC.
Rhaid i gwmnïau corfforedig hwythau gydymffurfio â'r rheolau datgelu o dan y Deddfau Cwmnïau. Mae'r rhain yn sôn am beth mae'n rhaid ei nodi ar ddeunydd ysgrifennu'r cwmni a gellir eu gweld yn ein llyfryn canllaw 'Ffurfio Cwmnïau'.
2. Pa fanylion y mae'n rhaid eu datgelu ynglŷn â busnes?
Bydd angen ichi ddatgelu (yn ôl sy'n briodol):
- yr enw corfforaethol; neu
- enw pob partner; neu
- enw'r person unigol; ac
- ar gyfer pob person a enwir, cyfeiriad lle gellir anfon dogfennau.
3. Ble mae'n rhaid dangos yr wybodaeth hon?
Bydd angen ichi ddangos yr wybodaeth yn glir:
- ymhobman lle cynhaliwch eich busnes a lle byddwch chi'n delio â chwsmeriaid neu gyflenwyr;
- ar bob llythyr busnes;
- gwefanna
- ar bod archeb ysgrifenedig am gyflenwi nwyddau neu wasanaethau;
- ar bod anfoneb a derbynneb;
- ar bod cais ysgrifenedig am dalu dyledion busnes.
Mae Atodiad D yn nodi rhai enghreifftiau o ffyrdd y gallwch chi ddangos yr wybodaeth ar eich deunydd ysgrifennu. Cyhyd ag y bo'r manylion yn 'glir a darllenadwy', gallant fod wedi eu hysgrifennu â llaw neu wedi eu hargraffu.
4. Oes rhaid ei dangos mewn modd arbennig?
Cyhyd â'i fod yn hawdd ei gweld a'i darllen, nid yw o bwys sut y dangoswch chi'r wybodaeth. (Rhoir enghraifft o hysbysiad yn Atodiad E). Ar eiddo mawr, hwyrach y bydd angen ichi feddwl yn ofalus am faint yr hysbysiad a lle y caiff ei arddangos er mwyn gwneud yn siŵr fod pawb o'ch cwsmeriaid a'ch cyflenwyr yn ei weld. Cewch godi mwy nag un hysbysiad os dymunwch chi.
Peidiwch ag anfon copi o'ch hysbysiad arddangos i Dŷ'r Cwmnïau.
5. Oes rhaid rhoi'r wybodaeth i unrhyw un arall?
Os gofynnir amdanynt, rhaid i'r enwau a'r cyfeiriadau y mae angen eu datgelu gael eu rhoi ar unwaith hefyd, yn ysgrifenedig, i unrhyw un y gwnewch chi fusnes â nhw.
6. Beth os ceir llawer o bartneriaid - oes rhaid datgelu'r holl enwau?
Os oes mwy na 20 partner i'r busnes, does dim rhaid ichi nodi enwau'r holl bartneriaid ar eich dogfennau busnes. Ond rhaid ichi nodi cyfeiriad y prif le busnes a dweud bod modd archwilio rhestr lawn o enwau a chyfeiriadau'r partneriaid yno.
7. Beth sy'n digwydd os na fydda i'n cydymffurfio â'r gofynion?
Byddwch yn cyflawni tramgwydd troseddol os defnyddiwch chi enw busnes sydd eisiau cymeradwyaeth ymlaen llaw, a chithau heb sicrhau'r gymeradwyaeth honno.
Yn yr un modd, byddwch yn cyflawni tramgwydd troseddol os na ddatgelwch chi'r manylion busnes a fynnir gan y Ddeddf.
Cofiwch: os na threfnwch i fanylion eich busnes fod ar gael, neu os na fyddwch yn eu harddangos, hwyrach na fydd modd ichi orfodi cytundeb a dynnwyd gennych.
Brig
PENNOD 3
Gwybodaeth bellach
1. Ble galla i gael ffurflenni a llyfrynnau canllaw?
Mae hwn yn un o gyfres o lyfrynnau gan Dŷ’r Cwmnïau sy’n rhoi canllaw syml i’r Ddeddf Cwmnïau.
Mae ffurflenni statudol a llyfrynnau canllaw ar gael, yn rhad ac am ddim, gan Dŷ’r Cwmnïau. Y ffordd gyflymaf i’w sicrhau yw drwy’r wefan hon neu drwy ffonio 0870 3333636.
Os bydd yn well gennych, cewch ysgrifennu at ein hadrannau deunydd ysgrifennu yng Nghaerdydd neu Gaeredin.
Gellir hefyd gael ffurflenni gan ddogfenwyr cyfreithiol, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid llunio cwmnïau – cyfeiriadau mewn llyfrau ffôn ar gyfer busnesau.
2. Sut mae anfon gwybodaeth at y Cofrestrydd?
Y ffordd fwyaf diogel i anfon gwybodaeth statudol I Dŷ’r Cwmnïau yw defnyddio’n gwasanaethau ffeilio ar-lein. I gael rhagor o wybodaeth a manylion am sut I gofrestru, edrychwch ar ein gwefan www.companieshouse.gov.uk
Gallwch gyflwyno dogfennau â llaw (yn bersonol neu drwy negesydd), gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa, dros wyliau banc a thros y penwythnos i Gaerdydd, Llundain a Chaeredin.
Gallwch chi hefyd gyflwyno dogfennau drwy’r post neu drwy Wasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX).
Os anfonwch chi ddogfennau drwy'r post, byddwch cystal â’u cyfeirio at:
| Ar gyfer cwmnïau wedi eu corfforiyng Nghymru a Lloegr: |
Ar gyfer cwmnïau wedi eu corfforiyn yr Alban: |
Y Cofrestrydd Cwmnïau
Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ
DX33050 Caerdydd 1 |
The Registrar of Companies
Companies House
37 Castle Terrace
Edinburgh EH1 2EB
DX ED235 Edinburgh 1
LP – 4 Edinburgh 2 |
Os ydych yn anfon dogfennau drwy'r post, drwy negesydd neu drwy drefn Britdoc (DX) a'ch bod yn dymuno cael derbynneb, bydd Tŷ'r Cwmnïau yn darparu cydnabyddiaeth os amgaewch gopi o'ch llythyr eglurhaol gydag amlen stampiedig ac arni eich cyfeiriad dychwelyd. Bydd y côd bar a roddwn ar eich llythyr yn cyfleu'r dyddiad dod i law ac fe ddychwelwn y copi yn yr amlen a ddarparwch.
Sylwer: nid yw cydnabyddiaeth dod i law yn golygu bod dogfen wedi ei derbyn i'w chofrestru yn Nhŷ'r Cwmnïau.
Sylwer: Nid yw Tŷ Cwmnïau yn derbyn cyfrifon na dogfennau statudol eraill dros beiriant ffacs.
Caiff cwmnïau gyflwyno’r dogfennau canlynol mewn ieithoedd eraill os bydd cyfieithiad Saesneg ardystiedig yn cael ei hanfon gyda nhw:
- Penderfyniadau a chytundebau sy’n effeithio ar gyfansoddiad cwmni
- Contractau sy’n dyrannu cyfrannau am gydnabyddiaeth heblaw arian parod
- Yn achos cwmnïau sydd wedi’u cynnwys yng nghyfrifon grwpiau mwy yn yr EEA neu y tu allan i’r EEA, cyfrifon y grŵp ac adroddiad blynyddol y rhiant-ymgymeriad
- Offerynnau arwystlon (neu gopïau o offerynnau arwystlon)
Caiff cwmnïau hefyd ffeilio cyfieithiadau ardystiedig gwirfoddol o unrhyw ddogfen sy’n dod o dan y gofynion yn y Gyfarwyddeb ar ddatgelu. Mae hyn yn cynnwys:
- Dogfennau cyfansoddiadol fel y memorandwm a’r erthyglau cymdeithasiad
- Penodiadau cyfarwyddwyr, newid manylion neu ymddiswyddiadau
- Cyfrifon, adroddiadau a ffurflenni blynyddol
- Hysbysiad ynglŷn ag unrhyw newid yn swyddfa gofrestredig y cwmni
- Dogfennau dirwyn i ben
- Dogfennau cyfalaf cydrannau (cwmnïau cyhoeddus yn unig)
- Dogfennau ynghylch cyfuno a rhannu cwmnïau (cwmnïau cyhoeddus yn unig)
- Dogfennau ynghylch cwmnïau tramor
Rhaid i’r cyfieithiad gwirfoddol gyfeirio at ddogfen a gyflwynwyd i’r Cofrestrydd ar 1 Ionawr 2007 neu wedi hynny. Gall cyfieithiadau gwirfoddol gael eu ffeilio yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd yn unig a rhaid anfon Ffurflen 1106 i gyd-fynd â nhw.
Atodiad A
Bydd arnoch chi angen cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant cyn defnyddio unrhyw rai o'r geiriau neu'r ymadroddion canlynol (neu eu ffurfiau lluosog neu feddiannol) yn enw'ch busnes. Mae gwybodaeth fwy manwl i'w chael gan yr Adran Enwau Busnes yn Nhŷ'r Cwmnïau, Caerdydd neu Gaeredin.
| (a) Geiriau sy'n awgrymu blaenoriaeth genedlaethol neu ryngwladol: |
| British |
International |
Scottish |
| England |
Ireland |
United Kingdom |
| English |
Irish |
Wales |
| European |
National |
Welsh |
| Great Britain |
Scotland |
|
| (b) Geiriau sy'n awgrymu blaenoriaeth fusnes neu statws cynrychioliadol: |
| Association |
Council |
Institution |
| Authority |
Federation |
Society |
| Board |
Institute |
Government |
HSC (Adran lechyd
a Gofal Cymdeithasol) |
HPSS (Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol) |
|
| (c) Geiriau sy'n awgrymu amcanion neu swyddogaethau penodol: |
| Assurance |
Friendly society |
Post office |
Trade union |
| Assurer |
Fund |
Reassurance |
Trust |
| Benevolent |
Group |
Re-assurer |
|
| Charter |
Holding |
Register |
|
| Chartered |
Industrial & provident society |
Registered |
|
| Chemist |
Insurance |
Re-insurance |
|
| Chemistry |
Insurer |
Re-insurer |
|
| Co-operative |
Patent |
Sheffield |
|
| Foundation |
Patentee |
Stock exchange |
|
Mae'r rhestr ganlynol yn ganllaw i'r amodau y bydd angen ichi eu bodloni os dymunwch ddefnyddio unrhyw un o'r geiriau a nodwyd uchod. Nid yw'n rhestr lawn. Ar gyfer geiriau na welir isod, mae canllawiau i'w cael yn ein llyfryn 'Enwau Cwmni'.
- British - gall caniatâd i'r gair hwn yn enw'ch busnes amrywio, gan ddibynnu ar sut y caiff ei ddefnyddio. Fel arfer, byddai'r Ysgrifennydd Gwladol yn disgwyl i'r busnes fod o dan berchnogaeth Brydeinig. Byddai angen ichi ddangos bod y busnes yn amlwg yn ei faes drwy ddarparu tystiolaeth ategol gan ffynhonnell annibynnol megis adran o'r llywodraeth neu gymdeithas fasnach.
Os yw'r gair 'British' wedi ei oleddfu gan eiriau nad ydyn nhw'n disgrifio gweithgarwch neu gynnyrch, er enghraifft drwy ddefnyddio gair 'gwneud', yna ni fydd tystiolaeth o flaenoriaeth o angenrheidrwydd yn hanfodol. Ond byddai disgwyl ichi ddangos bod eich busnes yn un sylweddol o ran ei weithgarwch neu ei gynnyrch a'i fod yn amlwg yn ei faes ei hun.
- England, English, Scotland, Scottish, Wales, Welsh, Ireland neu Irish -os dymunwch chi ddefnyddio'r geiriau hyn o flaen enw'ch busnes, mae'r meini prawf yn debyg i'r rhai ar gyfer 'British'. Fel arfer, fe gewch gymeradwyaeth i ddefnyddio unrhyw un o'r geiriau hyn ar ôl yr enw os gallwch ci ddangos fod eich prif leoliad busnes yn y wlad dan sylw. Os dymunwch ddefnyddio un o'r geiriau hyn am ei fod yn gyfenw, fe roir cymeradwyaeth ichi fel arfer ar yr amod bod yr enw'n cynnwys enwau cyntaf neu flaenlythrennau.
- European - gellir cymeradwyo enwau sy'n cynnwys y gair hwn os nad awgrymant gyswllt â chyrff swyddogol Undeb Ewrop, ac os nad yw'r enw'n gamarweiniol nac yn debyg o greu cwyn y mae cyfiawnhad drosto.
- International - os defnyddir y gair hwn o flaen enw'ch busnes, bydd angen ichi ddangos bod masnachu tramor yn cyfrif am ran helaeth o'ch gweithgareddau busnes. Os dymunwch ei ddefnyddio ar ei ôl, yna fe roir cymeradwyaeth fel arfer ar yr amod y gallwch chi ddangos mai allforio yw ei brif weithgareddau, neu ei fod yn gweithredu mewn dwy neu ragor o wledydd tramor. Fel arfer, cymeradwyir busnesau sydd am ddefnyddio'r gair hwn lle bo'r busnes yn cymryd rhan mewn masnach sy'n rhyngwladol ei chymeriad, megis teithio neu gludiant, ar yr amod nad yw'r enw'n gamarweiniol nac yn debyg o greu cwyn y mae cyfiawnhad drosto
- National - mae'r meini prawf ar gyfer y gair hwn yr un fath ag ar gyfer 'British'.
- association, federation neu society - os dymunwch chi ddefnyddio un o'r geiriau hyn, dylai'ch cyfansoddiad ddweud bod pob aelod yn cael un bleidlais ac fel arfer y caiff unrhyw elw ei ddefnyddio i hybu amcanion y corff yn hytrach na'u talu i'r aelodau ar ffurf buddrannau.
- group - group - os yw defnyddio'r gair hwn yn awgrymu sawl cwmni o dan un berchnogaeth gorfforaethol, yna bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth o'r cydgymdeithasu, fel rhiant-gwmni a/neu is-gwmni, â dau neu ragor o cwmnïau Prydeinig neu dramor. Os yw'r enw'n dangos yn glir fod y cwmni i hybu buddiannau grŵp o unigolion, yna fe gaiff yr enw ei gymeradwyo fel arfer.
- assurance, assurer, insurance, insurer, re-assurance, re-assurer, re-insurance neu re-insurer - os oes angen yr enw i gwmni tanysgrifennu, bydd Tŷ'r Cwmnïau fel arfer yn ceisio cyngor pellach. Ond os dymunwch ddefnyddio'r enw i fusnes na fydd yn darparu ond gwasanaethau yswiriant, yna fe ddylech chi gynnwys y disgrifiad priodol, er enghraifft 'agents', 'consultants' neu 'services', yn yr enw.
- Llywodraeth- dim ond os yw Tŷ’r Cwmnïau’n fodlon nad oes cyswllt swyddogol â Llywodreth Ei Mawrhydi neu unrhyw ran o weinyddiaeth yr Alban neu Gymru y rhoir cymeradwyaeth i ddefnyddio’r gair hwn. Caiff yr enw cwmni cyfan ei gymryd i ystyriaeth a’i farnu’n annibynnol yn ôl ei rinwedd.
- HSC (Iechyd a Gofal Cymdeithasol)- Gall Tŷ’r Cwmnïau ymgynghori â’r DHSSPS (Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch Cyhoeddus) wrth ystyried cymeradwyo enwau sy’n cynnwys y gair hwn, gan y gallai roi camargraff i gleifion, defnyddwyr gwasanaethau a’r cyhoedd yn ehangach bod y busnes â statws cydnabyddedig mewn cysylltiad ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
- HPSS (Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol)- Gall Tŷ’r Cwmnïau ymgynghori â’r DHSSPS (Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch Cyhoeddus) wrth ystyried cymeradwyo enwau sy’n cynnwys y gair hwn, gan y gallai roi camargraff i gleifion, defnyddwyr gwasanaethau a’r cyhoedd yn ehangach bod y busnes â statws cydnabyddedig mewn cysylltiad â’r Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol.
Atodiad B
Bydd angen cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd i eiriau neu ymadroddion y rhestr ganlynol. Os dymunwch ddefnyddio unrhyw un ohonynt yn enw'ch busnes, bydd eisiau ichi ysgrifennu'n gyntaf i'r corff perthnasol i ofyn a oes ganddyn nhw unrhyw wrthwynebiad i ddefnyddio'r gair neu'r ymadrodd yn enw'ch busnes. Wrth wneud cais am gymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol i ddefnyddio'r enw, dylech chi ddweud eich bod wedi ysgrifennu i'r corff perthnasol ac amgáu copi o unrhyw ateb a gawsoch.
| Gair neu ymadrodd |
Corff perthnasol i
gwmnïau'n bwriadu bod â'u swyddfa gofrestredig
yng Nghymru neu Loegr |
Corff perthnasol i
gwmnïau'n bwriadu bod â'u swyddfa gofrestredig
yn yr Alban |
| Charity, Charitable |
Head of Status
Charity Commission
Woodfield House
Tangier
Taunton TA1 4BL |
I gael cydnabyddiaeth
fel elusen Albanaidd
Inland Revenue
FICO (Scotland)
Trinity Park House
South Trinity Road
Edinburgh
EH5 3SD |
| Contact Lens |
The Registrar
General Optical Council
41 Harley Street
London W1N 2DJ |
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr |
| Dental, Dentistry |
The Registrar
General Dental Council
37 Wimpole Street
London W1M 8DQ |
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr |
District Nurse,
Health Visitor,
Midwife, Midwifery,
Nurse, Nursing |
The Registrar &
Chief Executive
United Kingdom Central
Council for Nursing,
Midwifery and Health Visiting
23 Portland Place
London W1N 3AF |
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr |
| Health Centre |
Office of the Solicitor
Department of Health &
Social Security
48 Carey Street
London WC2A 2LS |
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr |
| Health Service |
Penny Turner
Head of Branding
Department of Health
Room 230B
Skipton House
80 London Road
London
SE1 6LH
|
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr |
| NHS (Gwasanaeth Iechyd Gwladol) |
Mike Pattrick
Office of the Solicitor
Dept of Health, Room 518,
New Court 48,Carey Street
London WC2A 2LS
Tel 0207 412 1225
Email Mike.Pattrick@dwp.gsi.gov.uk
|
Fel ar gyfer Cymru, Lloegr ac Yr Alban.
|
| Police |
Pauline Laybourne
Briefing and Honours Team
CRCSG Change and Support Unit
3rd Floor A
Fry Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF
|
The Scottish Ministers
Police Division
St Andrews House
Regent Road
Edinburgh EH1 3DG
|
| Polytechnic |
Department of Education
and Science
FHE 1B
Sanctuary Buildings
Great Smith Street
Westminster
London SW1P 3BT |
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr |
Pregnancy,
Termination,
Abortion |
Department of Health
Area 423
Wellington House
133-135 Waterloo Road
London SE1 8UG |
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr |
Royal, Royale,
Royalty, King,
Queen, Prince, Princess,
Windsor, Duke,
His/Her Majesty |
Os seiliedig yng Nghymru:
Y Swyddfa Gymreig
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Os seiliedig yn Lloegr:
Linda Henshaw
Department for Constitutional Affairs
Royal & Hereditary Branch
of the Crown and Devolution Division
Constitutional Policy Division
6 th Floor – Point 6B
Selbourne House
54 Victoria Street London
SW1E 6QW
|
Douglas Boyd
Protocol Unit
St Andrew's House
Regent Road
Edinburgh
EH1 3DG |
| Special School |
Department for Education
and Employment
Schools 2 Branch
Sanctuary Buildings
Great Smith Street
Westminster
London SW1P 3BT |
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr
|
| University |
Privy Council Office
2 Carlton Gardens
London SW1Y 5AA |
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr |
Atodiad C
Mae geiriau neu ymadroddion arbennig wedi eu rhychwantu gan ddeddfwriaeth arall a gallai eu defnyddio fod yn dramgwydd troseddol. Rhestrir rhai o'r rhain isod, ond nid yw'r rhestr yn ddisbyddol ac os bydd gennych chi unrhyw amheuon dylech geisio cyngor pellach. Os dymunwch ddefnyddio unrhyw un o'r enwau neu'r ymadroddion hyn yn enw'ch busnes, hwyrach y carech chi ymgynghori â chyfreithiwr ac ysgrifennu i'r corff priodol i geisio'u cyngor o ran a fyddai defnyddio enw'n dramgwydd troseddol. Does dim diben ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol, gan na all gymeradwyo defnyddio'r un ohonynt.
| Gair neu ymadrodd |
Deddfwriaeth berthnasol |
Corff perthnasol |
| Architect |
Section 20 Architects
Registration Act 1997 |
Architects Registration
Board
73 Hallam Street
London W1N 6EE |
| Credit Union |
Credit Union Act 1979 |
The Public Records Section
Financial Services Authority
25 The North Colonnade
Canary Wharf
London E14 5HS |
Veterinary Surgeon,
Veterinary, Vet |
Sections 19/20
Veterinary Surgeons
Act 1966 |
The Registrar
Royal College of
Veterinary Surgeons
62-64 Horseferry Rd
London SW1P 2AF |
| Solicitor (Scotland) |
S.31, Solicitors (Scotland) Act 1980 |
The Law Society of Scotland
26 Drumsheugh Gardens
Edinburgh EH3 7YR |
Dentist,
Dental Surgeon,
Dental Practitioner, |
Dental Act 1984 |
The Registrar
General Dental Council
37 Wimpole Street
London W1M 8DQ |
Drug, Druggist,
Pharmaceutical,
Pharmaceutist,
Pharmacist,
Pharmacy |
Section 78
Medicines Act 1968 |
The Director of
Legal Services
The Royal Pharmaceutical
Society of Great Britain
1 Lambeth High Street
London SE1 7JN
(i gwmnïau wedi eu
cofrestru yn yr Alban)
The Pharmaceutical
Society
36 York Place
Edinburgh
EH13HU |
Olympiad ,
Olympiads,
Olympian,
Olympians,
Olympic,
Olympics,
Paralympic,
Paralympics,
Paralympiad,
Paralympiads,
Paralympian,
Paralympians,
c yfieithiad o'r rhain neu o eiriau tebyg i’r geiriau wedi’u diogelu
|
Olympic Symbol etc. (Protection) Act 1995*
(fel y’i diwygiwyd)*
Gallai defnyddio’r geiriau hyn dorri hawliau Cymdeithas Olympaidd Prydain/Cymdeithas Baralympaidd Prydain
* Hefyd yn diogelu'r symbol
Olympaidd o bum cylch
plethedig a'r arwyddair Olympaidd "Citius Altius Fortius" (“Cynt, Uwch, Cryfach”); symbol Paralympaidd y tri “agitos”; yr arwyddair Paralympaidd “Spirit in Motion”; ac unrhyw beth tebyg iddynt.
Yn sgil cais llwyddiannus Llundain am gynnal y Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd yn 2012, mae Deddf Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2006 wedi’i chyflwyno. Mae hon yn rhoi rhagor o hawliau i ddiogelu geiriau, symbolau a marciau Olympaidd sy’n ymwneud â’r gemau. Yn ychwanegol at y geiriau wedi’i diogelu a amlinellir yn y llyfryn hwn, gallai cofrestru enw cwmni sy’n cynnwys geiriau penodol sy’n awgrymu cysylltiad â Gemau Llundain 2012 dorri hawliau The London Organising Committee of the Olympic Games Limited (LOCOG) o dan y Ddeddf hon. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar:
www.london2012 .com/brandprotection |
The London Organising Committee of the Olympic Games Limited (LOCOG)
23 rd Floor
1 Churchill Place
Canary Wharf
London
E14 5LN
|
Optician,
Ophthalmic Optician
Dispensing Optician,
Enrolled Optician,
Registered Optician,
Optometrist |
Opticians Act 1989 |
The Registrar
General Optical Council
41 Harley Street
London W1N 2DJ |
Red Cross,
Geneva Cross,
Red Crescent,
Red Lion and Sun |
Geneva Convention
Act 1957 |
Ceisier cyngor
Tŷ'r Cwmnïau |
| Anzac |
Section 1 Anzac Act 1916 |
Ceisier cyngor
Tŷ'r Cwmnïau |
Chiropodist, Dietician,
Medical Laboratory,
Technician,
Occupational Therapist,
Orthoptist,
Physiotherapist,
Radiographer
Remedial Gymnast |
Professions
Supplementary to
Medicine Act 1960
if preceded by
Registered, State or
Registered |
Mrs Joan Arnott
Department of Health
HRD HRB
Rm 2N35A
Quarry House
Quarry Hill
Leeds LS2 7JE |
| Chiropractor |
Chiropractors Act 1994 |
The Chief Executive
General Chiropractic Council
44 Wicklow Streer
LondonWC1X 9HL
|
Institute of Laryngology,
Institute of Otology,
Institute of Urology,
Institute of Orthopaedics |
University College
London Act 1988 |
Ceisier cyngor
University College
London
Gower Street
London
WC1E 6BT |
Patent Office,
Patent Agent |
Copyright, Designs
and Patents Act
1988 |
IPPD (Intellectual Property Policy Directorate)
Room 3B38, Concept House
The Patent Office
Cardiff Road
Newport NP10 8QQ |
| Building Society |
Building Society
Act 1986 |
Ceisier cyngor
Building Societies Commission
Victoria House
30-40 Kingsway
London WC2B 6ES |
Siambr Fusnes/Siambrau Busnes
Siambr Fasnach/Siambrau Masnach
Siambr(au) Masnach a Diwydiant
Siambr(au) Masnach, Hyfforddiant a Menter
Siambr Fenter/Siambrau Menter
Siambr Ddiwydiant/Siambrau Diwydiant
Siambr(au) Hyfforddiant
Siambr(au) Hyfforddiant a Menter
neu fersiynau Saesneg y geiriau hyn |
Company and Business Names (Chamber of Commerce etc.) Act 1999 |
Mae canllaw ar gael gan Dŷ’r Cwmnïau |
The Victoria University of Manchester,
University of Manchester Institute of Science and Technology,
UMIST,
Manchester University |
Gwaherddir i bawb ond Prifysgol Manceinion gan “University of Manchester Act 2004” |
|
Athrofa Feddygaeth Prifysgol Cymru,
Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru
neu’r Saesneg cyfatebol |
Gwaherddir i bawb ond Prifysgol Cymru gan “University of Wales, Cardiff Act 2004” |
|
Atodiad D
Does dim rheolau ynglŷn â sut dylech chi ddangos yr wybodaeth angenrheidiol ar ddeunydd ysgrifennu'ch busnes, ond dyma rai enghreifftiau i'ch helpu:
1. Busnes ym meddiant person unigol:
POPTY W.JONES
(Perch: W. Jones)
12 Stryd Fawr
Pont-y-rhyd
Sir Gaernewydd
SA1 2YZ
2. Busnes ym meddiant partneriaeth
JONES AC EVANS (TRWSIO CEIR)
(partneriaid: P Jones ac A Evans)
34 Stryd Isaf
Pont-y-rhyd
Sir Gaernewydd
SA2 3WX
3. Busnes ym meddiant cwmni:
BWYDYDD ABC
Uned 2
Ystad Fasnachol Newydd
Pont-y-rhyd
Sir Gaernewydd
BA3 4ST
Ar waelod y pennawd llythyr (mae angen y manylion hyn o dan Ddeddf Enwau Busnes 1985 a'r Deddfau Cwmnïau):
BWYDYDD ABC (PRYDAIN FAWR) CYF, cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Rhif cofrestru: 1234567
Swyddfa Gofrestredig: 5 Stryd Ganol, Pont-y-rhyd, Sir Gaernewydd SA4 5QR
|
Atodiad E
Unwaith eto, does dim rheolau sy'n llywio'r ffordd y byddwch chi'n dangos enw'ch busnes gydag enw a chyfeiriad y perchennog. Ond efallai y bydd yr enghraifft ganlynol o gymorth.
MANYLION PERCHNOGAETH
POPTY W JONES
(yn unol â gofynion Deddf Enwau Busnes 1985)
William Jones
12 Stryd Fawr
Pont-y-rhyd
Sir Gaernewydd
SA1 2YZ
COFIWCH: rhaid dangos yr hysbysiad hwn mewn lle amlwg fel bod modd ei ddarllen yn rhwydd ymhob man lle dilynwch eich busnes a lle byddwch chi'n delio â chwsmeriaid neu gyflenwyr. |
Brig
|