|
Partneriaethau Atebolrwydd Cyfynedig
Cosbau Ffeilio Hwyr: Apeliadau
GBLLP4 Cym
Gorffennaf 2008 - Fersiwn 4
Pam bod yr hysbysiad cosb hwn wedi’i anfon at fy mhartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig?
Mae’r Hysbysiad Cosb amgaeedig yn rhoi manylion i chi am y gosb/cosbau a godwyd yn erbyn eich PAC oherwydd na wnaethom dderbyn cyfrifon eich PAC mewn pryd. Darllenwch yr hysbysiad hwn os gwelwch yn dda, sydd yn cynnwys gwybodaeth am sut y gallwch dalu’r gosb.
Beth yw cosbau ffeilio hwyr?
Rhaid i bob PAC anfon eu cyfrifon at y Cofrestrydd. Fel aelod dynodedig, chi sydd yn bersonol gyfrifol am sicrhau bod eich cyfrifon yn cael eu cyflwyno cyn i’r amser redeg allan. Mae cyflwyno yn golygu eu derbyn yn Nhŷ’r Cwmnïau yn y ffurf gywir. Os ydynt yn hwyr gosodir cosb yn awtomatig yn ôl y gyfraith. Mae maint y gosb yn dibynnu ar ba mor hwyr y mae’r cyfrifon yn dod i law’r Cofrestrydd, fel y dangosir yn y tabl hwn.
| Hyd yr oedi (wedi’i fesur o’r dyddiad y mae’r cyfrifon yn ddyledus) |
|
| 3 mis neu lai |
£100 |
| 3 mis a diwrnod hyd 6 mis |
£250 |
| 6 mis a diwrnod hyd 12 mis |
£500 |
| Mwy na 12 mis |
£1,000 |
A oes modd i mi apelio?
Gallwch apelio yn erbyn y gosb hon ond
ni fydd yn llwyddiannus oni bai eich bod yn gallu ddangos
bod yr amgylchiadau yn eithriadol.
Beth yw eithriadol?
Mae gan y Cofrestrydd ryddid cyfyngedig iawn i beidio â chasglu cosb. Gellir ei ddefnyddio pan fo trychineb annisgwyl yn taro PAC ar adeg hanfodol; er enghraifft tân yn dinistrio cofnodion ychydig ddyddiau cyn i’r amser ddirwyn i ben. Gall y Cofrestrydd ddefnyddio ei ryddid hefyd os yw camgymeriad ar ran Tŷ’r Cwmnïau wedi cyfrannu at y ffeilio hwyr.
Cynhaliwyd Adolygiad Barnwrol o natur gyfyngedig rhyddid y Cofrestrydd yn 2002. I weld copi llawn o’r dyfarniad, cliciwch y ddolen hon, Y Frenhines a chais (1) POW Trust a (2) Al's Bar and Restaurant v (1) Y Prif Weithredydd a Chofrestrydd Cwmnïau a (2) Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant (Rhagfyr 2002).
Beth sydd ddim yn eithriadol?
Dyma rai o’r rhesymau na fyddent yn cael eu hystyried yn resymau dros gyfiawnhau peidio â chasglu cosb.
- Cafodd fy nghyfrifon eu hoedi neu eu colli yn y post
- Mae fy PAC ynghwsg
- Mae fy PAC mewn anawsterau ariannol
- Ni allaf fforddio talu
- Fe wnaethoch eu derbyn mewn pryd ond cawsant eu gwrthod
- Aelod arall sydd yn gyfrifol am baratoi’r cyfrifon
- Roedd fy nghyfrifydd yn wael
- Roeddwn yn dibynnu ar fy nghyfrifydd
- Y rhain yw fy nghyfrifon cyntaf
- Nid wyf yn gyfarwydd â’r gofynion ffeilio
- Roeddwn dramor ar fusnes neu ar wyliau
- Ni dderbyniais hysbysiad atgoffa
Ydw i eisiau apelio o hyd?
Os, ar ôl darllen yr uchod, yr ydych yn parhau i fod eisiau apelio, yna rhaid i chi wneud hynny mewn ysgrifen a chyfeirio eich llythyr at y Rheolwr/wraig Achos a ddangosir ar dudalen flaen yr hysbysiad cosb. Fel rheol anfonir ateb atoch o fewn 10 diwrnod gwaith a chaiff gweithredu adfer ei atal tra bod eich apêl yn cael ei ystyried.
Beth sy’n digwydd os yw fy apêl yn cael ei wrthod?
Gallwch ysgrifennu at Reolwr/wraig y Tîm the Companies Registration Services. Os gwrthodir yr apêl hwn hefyd gallwch ysgrifennu at yr Uwch Reolwr/wraig Appeals neu, i PAC sydd wedi cofrestru yn yr Alban, at Gofrestrydd Cwmnïau yn yr Alban yng Nghaeredin.
Os yw’r Uwch Reolwr/wraig Appeals (neu’r Cofrestrydd yn yr Alban) yn cynnal y gosb yna gallwch ofyn ’r , Dyfarnwr annibynnol, adolygu eich achos. Peidiwch os gwelwch yn dda ag ysgrifennu at y Dyfarnwr hyd nes y byddwch wedi clywed gan yr Uwch Reolwr Appeals (neu’r Cofrestrydd yn yr Alban).
Noder os gwelwch yn dda bod y Senedd wedi penderfynu bod rhyddid i weithredu yn gyfan gwbl yn nwylo’r Cofrestrydd. Yn olaf gallwch ysgrifennu i ofyn i’r Cofrestrydd Cwmnïau edrych ar eich achos.
A oes modd i mi dalu’r gosb mewn rhandaliadau?
Oes. Os ydych yn cael anhawster i dalu’r gosb ar unwaith yna fel rheol byddwn yn derbyn taliad mewn rhandaliadau misol fel rheol dros bedwar mis ac yn eithriadol dros gyfnod o ddeng mis, yn dibynnu ar y swm sydd i’w dalu. Rhaid gwneud unrhyw gais am dalu mewn rhandaliadau mewn ysgrifen a dylai egluro pam na ellir talu’r gosb ar unwaith.
Beth sy’n digwydd os nad wyf yn talu’r gosb?
Os na chaiff y gosb ei thalu yna byddwn yn gofyn i’n casglwyr dyledion weithredu. Yn y pendraw caiff y mater ei benderfynu mewn Llys Sirol neu Lys Siryf lle y cewch gyfle i ffeilio amddiffyniad. Efallai y byddwch yn dymuno gofyn am gyngor proffesiynol oherwydd gellir adfer costau cyfreithiol os yw’r llys yn dyfarnu o blaid y Cofrestrydd.
Cymorth pellach?
Os oes angen cyngor pellach arnoch am y gosb/cosbau cysylltwch â’r Rheolwr/wraig Achos a ddangosir ar flaen yr hysbysiad cosb. Os ydych angen cymorth ar faterion eraill yn cynnwys llyfrynnau ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar 0870 33 33 636. Mae cyngor cyffredinol ar ofynion ffeilio a gwybodaeth am gwmnïau ar gael hefyd ar ein gwefan www.companieshouse.gov.uk.
Ffurflenni Statudol PAC
| Cais am gorffori Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig |
LLP2cym* |
| Hysbysiad o Newid Enw Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig |
LLP3cym |
| Hysbysiad o Aelod(au) Dynodedig Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig |
LLP8cym |
| Lleoliad cofrestr deiliaid debentur Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig |
LLP190 |
| Newid dyddiad cyfeirnod cyfrifo Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig |
LLP225cym |
| Hysbysiad o hawliad i ymestyn cyfnod a ganiateir ar gyfer gosod a chyflwyno cyfrifon – busnes neu fuddiannau tramor Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig |
LLP244 |
| Newid lleoliad neu gyfeiriad swyddfa gofrestredig Partneriaeth Atebolrwydd
Cyfyngedig |
LLP287cym |
| Hysbysiad bod Swyddfa Gofrestredig Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig
wedi’i lleoli yng Nghymru |
LLP287a cym |
| Penodi aelod i Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig |
LLP288a cym |
| Terfynu Aelodaeth Aelod o Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig |
LLP288b cym |
| Newid Manylion Aelod o Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig |
LLP288c cym |
| Ffurflen Flynyddol Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig |
LLP363 cym* |
| Hysbysiad o gael gwared o archwilydd o Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig |
LLP391 |
| Manylion morgais neu arwystlon mewn perthynas â Phartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig |
LLP395* |
| Manylion ar gyfer cofrestru arwystl i sicrhau cyfres o ddebenturon mewn perthynas â Phartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig |
LLP397 |
| Manylion am gyhoeddiad debenturon sicredig mewn cyfres mewn perthynas â Phartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig |
LLP397a |
| Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig: Tystysgrif Cofrestru yn yr Alban neu Gogledd Iwerddon o arwystl yn cynnwys eiddo wedi’i leoli yno |
LLP398 |
| Manylion am forgais neu arwystl ar eiddo sydd wedi’i gaffael gan Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig |
LLP400 |
| Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig: Datganiad o foddhad yn llawn neu yn rhannol o forgais neu arwystl |
LLP403a |
| Datganiad bod rhan o’r eiddo neu’r ymgymeriad dan arwystl (a) wedi ei ryddhau o’r arwystl; (b) heb fod bellach yn ffurfio rhan o eiddo neu ymgymeriad y Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig |
LLP403b |
| Hysbysiad o benodi derbynnydd neu reolwr mewn perthynas â Phartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig |
LLP405(1) |
| Hysbysiad o beidio â gweithredu fel derbynnydd neu reolwr mewn perthynas Phartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig |
LLP405(2) |
| Manylion morgais neu arwystl mewn perthynas â Phartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig wedi’i gofrestru yn yr Alban |
LLP410 |
| Manylion am gofrestru arwystl i sicrhau cyfres o ddebenturon mewn perthynas â Phartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig |
LLP413 |
| Manylion am gyhoeddi Debenturon allan o gyfres o Ddebenturon sicredig mewn perthynas â Phartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig
|
LLP413a |
| Manylion am arwystl y mae eiddo wedi’i gaffael yn amodol iddo gan Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig wedi’i gofrestru yn yr Alban |
LLP416 |
| Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig: Memorandwm Boddhad yn llawn neu yn rhannol o arwystl cofrestredig |
LLP419a |
| Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig: Memorandwm Ffaith bod rhan o’r eiddo dan arwystl (a) wedi ei ryddhau o’r arwystl; (b) heb fod bellach yn ffurfio rhan o eiddo’r PAC |
LLP419b |
| Manylion offeryn newid i dâl nofiol a grëwyd gan Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig a gofrestrwyd yn yr Alban |
LLP466 |
| Cais am ddiddymu Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig |
LLP652a cym |
| Tynnu cais am ddiddymu Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig yn ôl... |
LLP652c cym |
Sut i dalu’ch cosb
| Ar gyfer pob ymholiad sy’n ymwneud â thalu, ffoniwch eich hadran gyllid ar 029 2038 0358 |
Talu gyda siec
A fyddech gystal ag anfon eich siec (yn daladwy i Tŷ’r Cwmnïau), gan nodi rhif y cwmni ar gefn y siec, ynghyd â’ch slip talu, i:
Tŷ’r Cwmnïau
Blwch Post 710
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ |
Talu trwy BACS
A fyddech gystal â dyfynnu rhif y cwmni, a’i ddilyn gydag enw’r cwmni yng nghyfeirnod eich trafodyn, er mwyn ein galluogi ni i neilltuo’ch taliad yn ddi-oed:
Enw’r Cyfrif: Late Filing Penalties Receipts
Rhif y Cyfrif: 41005309
National Westminster Bank, Y Rhath, Caerdydd
Cod Didoli: 52.21.07
Cod Swift (ar gyfer taliadau tramor): NW BK GB 2122X
IBAN: - GB34NWBK52210741005309
|
|