Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Amdanon Ni

Ein prif swyddogaethau Ac Hanes
Bwrdd a Rheolwyr Tŷ'r Cwmnau
Cyflenwi Tŷ'r Cwmnau
Llyfrgell
Canllaw
Cyfathrebu yn Gymraeg
Amrywiol
Dogfennau Polisi


Cliciwch yma i weld fersiwn Saesneg y Llyfryn Canllaw hwn (gan agor mewn ffenestr arall)

Dileu o'r Gofrestr, Diddymu ac Adfer

Ebrill 2008 - Fersiwn 8

Cynnwys

Brig 
Cyflwyniad

Mae'r llyfryn hwn yn ganllaw i'r drefn ar gyfer dileu enw'ch cwmni o'r gofrestr cwmnïau. Mae'n llyfryn 'Ymddatod ac Ansolfedd' hefyd yn ddefnyddiol os ydych chi'n ystyried dirwyn eich cwmni i ben.

Gall cwmni gael ei ddileu o'r gofrestr a'i ddiddymu:

  • os yw wedi gwneud cais i'r Cofrestrydd am i'w enw gael ei ddileu; neu
  • os daw'r Cofrestrydd i'r casgliad nad yw'n dilyn busnes nac yn gweithredu.

Fe welwch chi'r gyfraith berthnasol yn Neddf Cwmnïau 1985 y cyflwynwyd Adran 652 ac Adrannau 652A i 652F ohono gan Ddeddf Dadreoleiddio ac Ymryddhau o Reolau 1994.

Mae'r llyfryn hefyd yn trafod sut, o dan amgylchiadau arbennig, y gellir adfer eich cwmni i'r gofrestr.

Brig

PENNOD 1
Dileu o'r gofrestr a diddymu'n wirfoddol


1. Pwy all wneud cais am i enw cwmni gael ei ddileu o'r gofrestr?

Gall cwmni preifat nad yw'n masnachu wneud cais i'r Cofrestrydd am gael ei ddileu o'r gofrestr. Gellir gwneud hyn os nad oes angen y cwmni mwyach. Er enghraifft, efallai y bydd y cyfarwyddwyr gweithredol am ymddeol a bod neb arall ar gael i gymryd yr awenau o'u dwylo; neu os yw'n isgwmni nad oes angen ei enw mwyach; neu os cafodd ei sefydlu i fanteisio ar syniad na throes yn ymarferol.

Nid yw'r drefn yn ddewis arall yn lle gweithrediadau ansolfedd ffurfiol lle bo'r rheiny'n briodol, gan fod credydwyr yn debygol o atal y dileu (gweler cwestiynau 4 a 7). Hyd yn oed lle caiff y cwmni ei ddileu a'i ddiddymu, gallai credydwyr ac eraill wneud cais am iddo gael ei adfer i'r gofrestr (gweler pennod 3).

Gall cwmni preifat wneud cais am i'w enw gael ei ddileu os nad yw, yn ystod y tri mis blaenorol:

  • wedi masnachu na gwneud busnes mewn ffordd arall;
  • wedi newid ei enw;
  • wedi cael gwared, am werth cyfatebol, ag unrhyw eiddo neu hawliau a ddaliai i'w gwerthu neu am elw fel rhan o drefn naturiol ei fusnes neu ei fasnach yn union cyn rhoi heibio i gynnal busnes neu fasnach (er enghraifft, ni allai cwmni oedd yn gwerthu afalau fel busnes barhau i werthu afalau yn ystod y cyfnod hwnnw o dri mis, ond gallai werthu'r lori a ddefnyddid gynt i gludo'r afalau neu'r warws lle caent eu storio); neu
  • wedi cymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch arall, ac eithrio gweithgarwch yr oedd ei angen neu a oedd yn gyfleus er mwyn gwneud cais am ddileu o'r gofrestr, trefnu materion y cwmni neu fodloni gofynion statudol (er enghraifft, caiff cwmni geisio cyngor proffesiynol ynglŷn â'r cais, talu costau copïo Ffurflen 652a, ac ati). Fodd bynnag, gall cwmni wneud cais am i'w enw gael ei ddileu os buodd iddo fodloni dyledion masnachu neu fusnes yn ystod y tri mis blaenorol.

Ni all cwmni wneud cais am i'w enw gael ei ddileu os yw'n destun, neu'n destun arfaethedig:

  • i unrhyw weithrediadau ansolfedd (megis ymddatod, gan gynnwys lle cyflwynwyd deiseb na chafodd ei thrin eto); neu
  • i gynllun Adran 425 (sef, cyfaddawd neu drefniadau rhwng cwmni a'i gredydwyr neu ei aelodau).
2. Beth dylwn i ei wneud cyn gwneud cais?

Mae'r drefn yn cynnwys darpariaeth i ddiogelu rhai y mae diddymiad y cwmni'n debygol o effeithio arnyn nhw. Os oes gan eich cwmni gredydwyr, aelodau, ac ati, fe'ch cynghorir i rybuddio pawb a restrir yng nghwestiwn 4 cyn gwneud cais, am fod modd i unrhyw un o'r rheiny wrthwynebu dileu'r cwmni o'r gofrestr. Dylid tacluso unrhyw fanion - megis cau cyfrif banc y cwmni, trosglwyddo enwau parth - cyn gwneud cais.

Mae'n ddoeth hefyd i roi gwybod i unrhyw gorff neu barti arall a all fod â buddiant ym materion y cwmni, fel arall fe allen nhw wrthwynebu'r cais yn nes ymlaen. Mae enghreifftiau'n cynnwys awdurdodau lleol, yn enwedig os oes ar y cwmni rwymedigaeth yng nghyswllt caniatâd cynllunio neu faterion yn ymwneud ag iechyd a diogelwch, cynghorau hyfforddiant a menter ac asiantaethau'r llywodraeth.

O ddyddiad y diddymu ymlaen, bydd unrhyw asedion a ddelir gan gwmni a gafodd ei ddiddymu yn perthyn i'r Goron - gweler pennod 2, cwestiwn 5. Caiff cyfrif banc y cwmni ei rewi ac unrhyw gredyd sy’n weddill yn y cyfrif ei drosglwyddo i’r Goron.

3. Sut dylwn i wneud cais?

Dylech chi ofyn i'r Cofrestrydd am Ffurflen 652a. Mae ffurflenni hefyd i’w cael o’r ffynonellau sydd wedi eu rhestru ar gefn y llyfryn hwn..

Rhaid i'r ffurflen gael ei llofnodi a'i dyddio gan:

  • yr unig gyfarwyddwr, os un yn unig a geir;
  • y ddau gyfarwyddwr, os oes dau; neu
  • y mwyafrif, os oes mwy na dau.

Rhaid ichi roi enw, cyfeiriad a rhif teleffon y person y dylai Tŷ'r Cwmnïau gysylltu ag ef/â hi ynglŷn â'r cais. Wedyn, dylech chi anfon y ffurflen a gwblhawyd, gyda'r ffi o £10, at

Y Cofrestrydd Cwmnïau,
Tŷ'r Cwmnïau,
Ffordd y Goron,
Caerdydd CF14 3UZ.

Gwnewch y siec yn daladwy i "Tŷ'r Cwmnïau", gan nodi rhif y cwmni ar y cefn.

4. Pwy mae'n rhaid imi roi gwybod iddyn nhw?

O fewn saith diwrnod i anfon Ffurflen 652a at y Cofrestrydd, mae’n rhaid ichi ddarparu copïau o’r ffurflen ar gyfer y canlynol:

  • aelodau, fel arfer y cyfranddeiliaid;
  • credydwyr, gan gynnwys pob credydydd digwyddiadol (presennol) a phob darpar gredydydd (rhai tebygol) megis banciau, cyflenwyr, cyn-weithwyr os oes ar y cwmni arian iddyn nhw, landlordiaid, tenantiaid (er enghraifft, lle bo bond yn ad-daladwy), gwarantwyr a hawlwyr niwed personol. Hefyd, rhaid ichi roi gwybod i swyddfeydd priodol HM Revenue & Customs (HMRC), yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a’r Tollau Tramor a Chartref os oes rhwymedigaethau heb eu bodloni, darpar rwymedigaethau neu rai digwyddiadol;

    * Ffurfiwyd Cyllid a Thollau EM ar 18 Ebrill 2005, yn dilyn cydsoddiad Cyllid y Wlad ac Adrannau Tollau Tramor a Chartref EM.
  • gweithwyr;
  • rheolwyr neu ymddiriedolwyr unrhyw gronfa bensiwn i weithwyr; a hefyd
  • unrhyw gyfarwyddwyr nad ydynt wedi llofnodi’r ffurflen.

Rhaid anfon copi o’r ffurflen hefyd at unrhyw un sy’n dod yn aelod, yn gredydydd etc, ar ôl y cais, o fewn saith diwrnod iddynt gael eu cydnabod felly.

Rhaid i bob cwmni sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW roi gwybod i’r swyddfa TAW briodol (Deddf Cyllid 1985).

5. Sut dylwn i roi gwybod i'r bobl berthnasol?

Dylid cyflwyno iddynt gopi o Ffurflen 625a, neu ei bostio iddynt neu ei adael yn:
  • y cyfeiriad hysbys diwethaf (os unigolyn); neu
  • y brif swyddfa/swyddfa gofrestredig (os cwmni neu bartneriaeth).
NODYN: I roi gwybod i gredydwyr sydd â mwy nag un man busnes, rhaid ichi anfon copïau o'r ffurflen i bob man busnes lle buodd y cwmni'n cynnal trafodion yng nghyswllt y dyledion cyfredol (er enghraifft, y gangen y buodd ichi archebu nwyddau oddi wrthi neu a yrrodd anfoneb atoch), neu adael copïau yno. Fe'ch cynghorir i gadw rhyw brawf o'r cyflwyno neu'r postio.

6. Sut y cofrestrir y ffurflen?

Bydd y Cofrestrydd yn gwirio'r ffurflen ac, os bydd yn dderbyniol, fe gaiff ei rhoi ar gofnod cyhoeddus y cwmni. Anfonir nodyn cydnabod i'r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen. Rhoir gwybod i'r cwmni hefyd yng nghyfeiriad ei swyddfa gofrestredig, fel y gall wrthwynebu os yw'r cais yn ffug.

7. A gaiff unrhyw un wrthwynebu'r diddymu?

Caiff unrhyw fuddwyr wrthwynebu.

8. Sut a pham y cân nhw wrthwynebu?

Rhaid i wrthwynebiadau fod yn ysgrifenedig a chael eu hanfon at y Cofrestrydd Cwmnïau, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ategol, megis copïau o anfonebau a all brofi bod y cwmni'n masnachu. Mae rhesymau dros wrthwynebu'n cynnwys:

  • bod y cwmni wedi torri unrhyw un o amodau ei gais (er enghraifft, ei fod wedi masnachu, newid ei enw neu fynd yn destun gweithrediadau ansolfedd) yn ystod y cyfnod o dri mis cyn y cais, neu wedyn;
  • bod y cyfarwyddwyr heb roi gwybod i fuddwyr;
  • bod unrhyw un o ddatganiadau'r ffurflen heb fod yn wir;
  • bod rhyw fath o gamau'n cael eu cymryd, neu yn yr arfaeth, i adennill unrhyw arian dyledus (er enghraifft, deiseb dirwyn i ben neu weithrediadau mewn llys mân hawliadau);
  • bod gweithrediadau cyfreithiol eraill ar y gweill yn erbyn y cwmni;
  • bod y cyfarwyddwyr wedi masnachu ar gam, neu wedi cyflawni twyll treth neu ryw drosedd arall.
9. Beth os bydda i'n newid fy meddwl ac am dynnu fy nghais yn ôl?

Rhaid i'r cyfarwyddwyr dynnu'r cais yn ôl trwy ddefnyddio Ffurflen 652c os paid cwmni â bod yn gymwys i'w ddileu o'r gofrestr. Gall hyn fod oherwydd bod y cwmni:

  • yn masnachu neu'n gwneud busnes mewn ffordd arall;
  • yn newid ei enw;
  • yn cael gwared, am werth cyfatebol, ag unrhyw eiddo neu hawliau ar wahân i rai yr oedd eu hangen arno er mwyn gwneud neu fwrw ymlaen â'r cais (er enghraifft, gall cwmni fynd ymlaen â'r cais os bydd yn gwerthu teleffon a gedwid ganddo i ddelio ag ymholiadau ynglŷn â'i gais);
  • yn dod yn destun gweithrediadau ansolfedd ffurfiol neu'n gwneud cais o dan Adran 425 (cyfaddawd neu drefniadau rhwng cwmni a'i gredydwyr);
  • yn dilyn unrhyw weithgarwch arall, onid oedd hwnnw'n angenrheidiol neu'n gyfleus er mwyn: gwneud neu fwrw ymlaen â chais am ddileu o'r gofrestr; rhoi terfyn ar y materion hynny sydd heb eu bodloni oherwydd yr hyn a fuodd yn angenrheidiol neu'n gyfleus i wneud neu fwrw ymlaen â chais (megis talu costau rhedeg swyddfa tra'n cwblhau ei faterion ac yna gwerthu'r swyddfa'n derfynol); neu gydymffurfio â gofynion statudol.
Gall unrhyw gyfarwyddwr lenwi a llofnodi Ffurflen 652c. Rhaid anfon y ffurflen i Dŷ'r Cwmnïau.

10. Beth sy'n digwydd wrth i'r Cofrestrydd dderbyn cais ar Ffurflen 652a?

Bydd y Cofrestrydd yn cyhoeddi rhybudd yn y London Gazette yn rhoi gwybod am y bwriad i ddileu o'r gofrestr ac yn gwahodd gwrthwynebiadau. Os na wêl reswm dros wneud fel arall a bod y cais heb ei dynnu'n ôl, bydd y Cofrestrydd yn dileu enw'r cwmni o'r gofrestr nid llai na thri mis wedi dyddiad y rhybudd hwnnw. Caiff y cwmni ei ddiddymu wrth i'r Cofrestrydd gyhoeddi rhybudd i'r perwyl hwnnw yn y Gazette. (Adeg y dileu, anfonir llythyr at y person a enwyd fel cyswllt ar Ffurflen 652a, gan gadarnhau dyddiad arfaethedig y diddymu.)

Tramgwyddau a chosbau
Mae'n dramgwydd:
  • i wneud cais pan fo'r cwmni'n anghymwys i'w ddileu;
  • i roi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol mewn cais neu fel ateg iddo;
  • i beidio ag anfon copïau o'r cais at bawb perthnasol o fewn saith diwrnod;
  • i beidio â thynnu'r cais yn ôl os daw'r cwmni'n anghymwys.
Bydd y mwyafrif o dramgwyddau'n agored i ddirwy hyd at £5,000 o dan gollfarn ddiannod (gerbron llys ynadon) neu i ddirwy ddigyfyngiad pan roir ditiad (gerbron rheithgor). Os bydd i'r cyfarwyddwyr guddio'r cais yn fwriadol rhag unrhyw fuddwyr, byddan nhw'n agored nid yn unig i ddirwy ond hefyd i garchariad hyd at saith mlynedd.

Gall unrhyw un a geir yn euog o'r tramgwyddau hyn gael ei (h)anghymwyso hefyd rhag bod yn gyfarwyddwr am hyd at 15 mlynedd.

11. Oes eisiau imi anfon ffi gyda Ffurflen 652a?

Mae ffi o £10 yn daladwy i fodloni cost darparu'r gwasanaeth. Nid ad-delir y ffi os caiff y cais ei wrthod neu ei dynnu'n ôl wedi ei gofrestru. Bydd ffi arall i'w thalu am gais newydd. Rhaid gwneud unrhyw sieciau'n daladwy i "Tŷ'r Cwmnïau", gan nodi rhif y cwmni ar y cefn.

Brig

PENNOD 2
Cwmnïau wedi darfod


1. A gaiff y Cofrestrydd ddileu enw cwmni o'r gofrestr?

Caiff, os nad yw'n dilyn busnes nac yn gweithredu. Gall y Cofrestrydd fod o'r farn hon, er enghraifft:

  • os na chafodd gan y cwmni ddogfennau y dylsid fod wedi eu hanfon ato; neu
  • os buodd i eitemau a anfonodd drwy'r post i swyddfa gofrestredig y cwmni gael eu dychwelyd heb eu dosbarthu.

Cyn dileu cwmni o'r gofrestr, rhaid i’r Cofrestrydd holi a yw'r cwmni hwnnw'n dal i wneud busnes neu i weithredu. Os bydd yn fodlon nad yw, cyhoeddir yn y London Gazette rybudd o fwriad y Cofrestrydd i ddileu enw'r cwmni. Rhoir copi o'r rhybudd ar gofnod cyhoeddus y cwmni. Os na wêl reswm dros wneud fel arall, bydd y Cofrestrydd yn dileu enw'r cwmni heb fod yn llai na thri mis wedi dyddiad y rhybudd. Caiff y cwmni ei ddiddymu wrth gyhoeddi rhybudd pellach i'r perwyl hwnnw yn y Gazette. Ar ddyddiad y diddymu, bydd unrhyw asedion a ddelir gan gwmni a gafodd ei ddiddymu yn perthyn i'r Goron: gweler cwestiwn 5. Caiff cyfrif banc y cwmni ei rewi ac unrhyw gredyd sy’n weddill yn y cyfrif ei drosglwyddo i’r Goron.

2. Sut galla i osgoi'r camau hyn?

Os yw'r cwmni i aros ar y gofrestr, mae'n bwysig ymateb yn brydlon i unrhyw lythyr ymholi ffurfiol oddi wrth y Cofrestrydd, gan gyflwyno unrhyw ddogfennau dyledus. Gall methiant i gyflwyno'r dogfennau angenrheidiol hefyd arwain at erlyn y cyfarwyddwyr.

3. Ga i wrthwynebu?

Bydd y Cofrestrydd yn cymryd i ystyriaeth sylwadau'r cwmni ac unrhyw fuddwyr eraill megis credydwyr.

4. Sut bydd bwriad y Cofrestrydd i ddileu enw'r cwmni'n ymddangos yn y London Gazette?

Mewn Atodiad i'r London Gazette ar gyfer Hysbysiadau Swyddogol yng nghyswllt y Gyfraith Gwmnïau, cyhoeddir rhybuddion wythnosol ar ffurf microfiche. Gellir cael copïau gan:

The London Gazette, PO Box 7923, Llundain SE1 5ZH
gwefan: www.gazettes-online.co.uk
ffôn: 0870 600 3322

5. Beth sy'n digwydd i asedion cwmni a ddiddymwyd?

O ddyddiad y diddymu ymlaen, bydd unrhyw asedion a ddelir gan gwmni a gafodd ei ddiddymu yn rhai ‘bona vacantia’. Mae hyn yn golygu eu bod yn perthyn i'r Goron. Caiff cyfrif banc y cwmni ei rewi ac unrhyw gredyd sy’n weddill yn y cyfrif ei drosglwyddo i’r Goron.

Dylai ymholiadau ynglŷn ag eiddo bona vacantia gael eu cyfeirio, fel a fo'n briodol, at:

Os yw swyddfa gofrestredig y
cwmni yn Swydd Gaerhirfryn:
The Solicitor to the Duchy of Lancaster
66 Lincoln's Inn Fields
Llundain WC2A 3LH
Os yw swyddfa gofrestredig y
cwmni yng Nghernyw neu
Ynysoedd Scilly:
The Solicitor to the Duke of Cornwall
66 Lincoln’s Inn Fields
Llundain WC2A 3LH
Ymhob achos arall: The Treasury Solicitor (BV)
One Kemble Street
Llundain WC2B 4S

www.bonavacantia.gov.uk

Brig

PENNOD 3
Adfer i'r gofrestr


Ni all y Cofrestrydd adfer cwmni i'r gofrestr heb Orchymyn Llys. Pan gyflwynir i'r Cofrestrydd gopi swyddogol o Orchymyn y Llys i adfer, ystyrir bod cwmni wedi parhau mewn bodolaeth fel pe bai heb ei ddileu a'i ddiddymu.

1. Pwy gaiff wneud cais am i enw cwmni gael ei adfer i'r gofrestr?

I'r cwmnïau hynny a ddileir o'r gofrestr yn sgîl cais 652a: o fewn 20 mlynedd i'r diddymu, gall unrhyw un o'r bobl hynny y mae'n rhaid rhoi gwybod iddyn nhw am y cais hwnnw (gweler pennod 1, cwestiwn 4) wneud cais i'r Llys am i enw cwmni a ddiddymwyd gael ei adfer i'r gofrestr. Gall y Llys orchymyn ei adfer os bydd yn fodlon:

  • na roddwyd i'r person gopi o gais y cwmni;
  • bod cais y cwmni'n torri'r amodau ymgynnig; neu
  • ei bod yn iawn gwneud felly am ryw reswm arall
Gall yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd wneud cais i'r Llys am adfer yr enw os cyfiawnheir hynny er lles y cyhoedd.

I'r cwmnïau hynny a ddileir o'r gofrestr ar anogaeth y Cofrestrydd: gall y cwmni, neu un o'i aelodau neu ei gredydwyr, wneud cais i'r Llys am ei adfer o fewn 20 mlynedd i'r diddymu. Pan fydd cwmni'n ceisio'i adferiad ei hun, rhaid i aelod o'r cwmni fod yn ymgeisydd hefyd er mwyn rhoi unrhyw ymrwymiadau angenrheidiol gerbron y Llys.

Lle diddymir cwmni: gall y diddymydd neu unrhyw un arall sydd â buddiant megis credydydd, wneud cais i'r Llys am i'r diddymu gael ei ddatgan yn ddirym. Yn y mwyafrif o enghreifftiau, rhaid gwneud cais o fewn dwy flynedd i'r diddymu, ond gellir ymgynnig unrhyw adeg os diben y cais yw dwyn achos yn erbyn y cwmni am:
  • ddigollediad ar gyfer anafiadau personol, gan gynnwys unrhyw swm yn rhinwedd Adran 1(2)(c) o Ddeddf Diwygio'r Gyfraith (Darpariaethau Amrywiol) 1934 (treuliau angladd); neu
  • ddigollediad o dan Ddeddf Damweiniau Angheuol 1976 neu Ddeddf Digollediad (Yr Alban) 1976.
2. I bwy y gwna i gais am Orchymyn Llys i adfer?

Gwnewch gais i'r Uchel Lys drwy lenwi ffurflen hawlio Rhan 8 (dyma'r ffurflen safonol sy'n rhoi cychwyn i weithrediadau. Gellir ei dadlwytho o www.courtservice.gov.uk). Fel arfer, bydd Cofrestrydd Llys y Cwmnïau yn Llundain yn gwrando achosion adfer yn ei siambrau unwaith yr wythnos ar brynhawn Gwener. Gwrandewir achosion hefyd mewn Cofrestrfeydd Dosbarth. Fel arall, gellir gwneud cais i Lys Sirol sydd â'r awdurdod i ddirwyn cwmnïau i ben. Am ganllawiau mwy manwl ynghylch adfer, gweler cyhoeddiad Cyfreithiwr y Trysorlys: ‘A Guide to Company Restoration’ sydd ar gael o www.tsol.gov.uk neu ffoniwch 020 7210 3000.

3. Sut dylwn i gyflwyno dogfennau?

Dylid cyflwyno'r ffurflen hawlio i'r:
  • cyfreithiwr sy'n delio ag unrhyw asedion bona vacantia, sef Cyfreithiwr y Trysorlys neu gyfreithiwr y Ddugiaeth berthnasol, a'r

    Cofrestrydd Cwmnïau
    Adran Adfer
    Tŷ'r Cwmnïau
    Ffordd y Goron
    Caerdydd CF14 3UZ

    DX: 33050 Cardiff

    Ffôn: 029 2038 0069
    Ffacs: 029 2038 0006
Bydd y Cofrestrydd yn derbyn trosglwyddo drwy'r post (argymhellir dosbarthiad wedi ei gofnodi) neu â llaw i Dŷ'r Cwmnïau, Caerdydd, neu Dŷ'r Cwmnïau, Bloomsbury Street, Llundain, yn ystod neu'r tu allan i oriau swyddfa arferol. Bydd ar y Cofrestrydd angen hefyd gopi o'r affidafid neu ddatganiad y tyst i gefnogi'r cais.

Rhaid rhoi i'r Cofrestrydd rybudd 10 diwrnod, fan leiaf, cyn y gwrandawiad fel y caiff amser i gyfarwyddo Cyfreithiwr y Trysorlys a delio â'r mater.

4. Pa dystiolaeth y mae'n rhaid imi ei rhoi?

Bydd ar y Llys angen affidafid (datganiad o'r gwirionedd) neu ddatganiad tyst yn cadarnhau:
  • i'r ddogfen gychwynnol gael ei chyflwyno; ac
  • nad oes gan y cyfreithiwr sy'n delio â'r asedion bona vacantia unrhyw wrthwynebiad i adfer y cwmni (dylid atodi copi o'i (l)lythyr wrth yr affidafid neu ddatganiad y tyst).
Dylai'r affidafid neu ddatganiad y tyst ymdrin hefyd â'r canlynol, fel a fo'n briodol i'r cais:
  • pa bryd y cafodd y cwmni ei gorffori, ynghyd â natur ei amcanion (dylid atodi copi o'r dystysgrif gorffori ac o'r memorandwm a'r erthyglau cymdeithasiad);
  • ei aelodaeth a'i swyddogion;
  • ei weithgarwch masnachu a, lle bo hynny'n gymwys, pryd y rhoes heibio i fasnachu;
  • esboniad o unrhyw fethiant i gyflwyno cyfrifon, ffurflenni blynyddol neu hysbysiadau i'r Cofrestrydd Cwmnïau;
  • manylion am y dileu o'r gofrestr a'r diddymu;
  • sylwadau ynglŷn â hydaledd y cwmni;
  • unrhyw wybodaeth arall sy'n egluro'r rheswm dros y cais.
Bydd y Cofrestrydd yn darparu gwybodaeth i gynorthwyo gwneud cais i'r Llys. Cyn y gwrandawiad Llys, bydd fel arfer yn gofyn am:
  • i unrhyw ddogfennau statudol y mae eu hangen i ddiweddaru ffeil gyhoeddus y cwmni gael eu cyflwyno. Dylid anfon y rhain at y Cofrestrydd o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y gwrandawiad fel y caiff amser i'w prosesu a'u harchwilio, gan y gall fod angen eu dychwelyd i gael eu diwygio;
  • i unrhyw afreoleidd-dra yn fframwaith y cwmni gael ei unioni.
5. Oes yna gostau neu gosbau?

Oes. Caiff y Cofrestrydd ei gynrychioli gan Gyfreithiwr y Trysorlys, y bodlonir ei gostau fel rheol gan y Ceisydd/Ceiswyr. Rhaid i'r cwmni dalu yn arferol unrhyw gosb statudol am ffeilio hwyr yng nghyswllt cyfrifon a gyflwynir i’r Cofrestrydd y tu allan i'r cyfnod a ganiateir o dan Ddeddf Cwmnïau 1985. Y cosbau a all fod yn ddyledus yw:
  • cosbau heb eu talu yng nghyswllt cyfrifon a gyflwynwyd yn hwyr cyn i’r cwmni gael ei ddiddymu; a
  • chosbau dyledus yng nghyswllt cyfrifon a gyflwynir adeg adfer y cwmni, os oedd y cyfrifon eisoes yn ddyledus ar ddyddiad diddymu’r cwmni.

Bydd lefel unrhyw gosb ffeilio hwyr yn dibynnu ar ba mor hwyr y bydd y cyfrifon yn dod i law’r Cofrestrydd, fel y dangosir yn y tabl isod. Yn achos cyfrifon a gyflwynir adeg adfer y cwmni, anwybyddir fel arfer y cyfnod pan oedd y cwmni wedi ei ddiddymu. Er enghraifft, bydd set o gyfrifon y dylsid fod wedi eu cyflwyno 2 fis cyn diddymu cwmni preifat fel arfer yn cael eu hystyried 2 fis yn hwyr os cânt eu cyflwyno wrth adfer y cwmni - £100 o hyd fydd y gosb ffeilio hwyr.

Hyd yr oedi, wedi ei fesur o’r dyddiad y daeth y cyfrifon yn ddyledus (heb gyfrif cyfnod y diddymu) Cwmni preifat Cwmni cyhoeddus
3 mis neu lai £100 £500
3 mis a diwrnod hyd 6 mis £250 £1,000
6 mis a diwrnod hyd 12 mis £500 £2,000
Mwy na 12 mis £1,000 £5,000

Fel arfer, ni chesglir cosbau ffeilio hwyr yng nghyswllt cyfrifon a ddaeth yn ddyledus pan oedd y cwmni wedi ei ddiddymu ond a dderbyniwyd pan gafodd ei adfer.

Am ragor o wybodaeth ynghylch cosbau, gweler ein llyfryn ‘Cosbau Ffeilio Hwyr’.

6. Beth sy'n digwydd pan wneir y gorchymyn adfer?


Rhaid i gopi swyddogol o'r gorchymyn, gyda sêl y Llys, gael ei gyflwyno i'r Cofrestrydd gan yr ymgeisydd sydd am adfer y cwmni. Ystyrir bod cwmni wedi ei adfer pan gyflwynir y gorchymyn.

Brig

PENNOD 4
Gwybodaeth bellach


1. Ble galla i gael ffurflenni a llyfrynnau canllaw?

Mae hwn yn un o gyfres o lyfrynnau gan Dŷ’r Cwmnïau sy’n rhoi canllaw syml i’r Ddeddf Cwmnïau. Gweler tu mewn y clawr cefn am restr lawn.

O gael cais, gallwn ni hefyd ddarparu canllawiau ynghylch deddfwriaeth gysylltiedig. Mae’r teitlau’n cynnwys: ‘Oversea Companies’ (GB01), ‘Limited Partnership Act’ (GB02), ‘Newspaper Libel and Registration Act’ (GB03), ‘Grwpiadau Buddiant Economaidd Ewropeaidd’ (GB04), ‘Defnyddio’r Gymraeg’ (GB05) a ‘The European Company: Societas Europaea (SE)’ (GB06).

Mae ffurflenni statudol a llyfrynnau canllaw ar gael, yn rhad ac am ddim, gan Dŷ’r Cwmnïau. Y ffordd gyflymaf i’w sicrhau yw drwy’n gwefan www.companieshouse.gov.uk neu drwy ffonio 0870 3333636.

Os bydd yn well gennych, cewch ysgrifennu at ein Hadran Deunydd Ysgrifennu yng Nghaerdydd. Mae’r cyfeiriad ar y clawr cefn.

Gellir hefyd gael ffurflenni gan ddogfenwyr cyfreithiol, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid ffurfio cwmnïau – cyfeiriadau mewn llyfrau ffôn ar gyfer busnesau.

2. Sut dylwn i anfon gwybodaeth at y Cofrestrydd?

Gallwch chi gyflwyno dogfennau â llaw (yn bersonol neu drwy negesydd), gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa, dros wyliau banc a thros y penwythnos i Gaerdydd neu Lundain.

Gallwch chi hefyd gyflwyno dogfennau drwy’r post, drwy’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) neu drwy’r Post Cyfreithiol (LP) yn yr Alban.

Os anfonwch chi ddogfennau drwy'r post, byddwch cystal â’u cyfeirio at:

Ar gyfer cwmnïau wedi eu corfforiyng Nghymru a Lloegr: Ar gyfer cwmnïau wedi eu corfforiyn yr Alban:

Y Cofrestrydd Cwmnïau
Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ

DX33050 Caerdydd 1

The Registrar of Companies
Companies House
37 Castle Terrace
Edinburgh EH1 2EB

DX ED235 Edinburgh 1

LP – 4 Edinburgh 2

Dim ond os darparwch chi amlen stampiedig yn dangos cyfeiriad dychwelyd y byddwn yn cydnabod bod dogfennau wedi dod i law yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Sylwer: nid yw cydnabyddiaeth dod i law yn golygu bod dogfen wedi ei derbyn i’w chofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Sylwer: Nid yw Tŷ'r Cwmnïau yn derbyn cyfrifon na dogfennau statudol eraill dros beiriant ffacs.

Brig

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies