Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Mae Business Link yn newid

Helpu busnesau i ddechrau, gwella a thyfu: Mae mwy a mwy o fusnesau’n arbed amser ac ymdrech trwy chwilio ar y we yn gyntaf am wybodaeth a chyngor am fusnes. Mae’r ffordd mae Business Link yn helpu busnesau’n newid hefyd; o 25 Tachwedd 2011 ymlaen, bydd gwasanaethau newydd ar gael ar-lein trwy wefan Business Link: www.businesslink.gov.ukpan fydd y gwasanaethau cynghori rhanbarthol yn cau. Yn Saesneg yn unig yw tudalennau Business Link.

Ynglŷn â businesslink.gov.uk

  • Dyma’r lle cyntaf i fynd i gael gwybodaeth, cymorth a gwasanaethau hanfodol i’ch busnes
  • Gallwch gyrchu’r wasanaethau angenrheidiol gan y llywodraeth megis talu’ch TAW, cynllun Talu Wrth Ennill neu gofrestru busnes gyda Thŷ’r Cwmnïau
  • Drwy gofrestru ar lein, gallwch gael gwybodaeth a diweddariadau rheolaidd wedi’u teilwra i anghenion penodol eich busnes a’ch diwydiant
  • Gallwch chwilio am gyfleoedd caffael yn y sector cyhoeddus gan ddefnyddio businesslink.gov.uk/contractsfinder
  • Ac mae toreth o wybodaeth a chanllawiau ar gael am reoliadau sy’n effeithio ar eich busnes er mwyn sicrhau y gallwch reoli eich risgiau busnes a sicrhau eich bod yn gwneud y peth cywir
  • O fis Tachwedd 2011 ymlaen, caiff gwefan Business Link ei diweddaru i ddarparu gwybodaeth hawdd ei defnyddio i’ch helpu i ddechrau, gwella neu dyfu eich busnes. Bydd y nodweddion newydd yn cynnwys:
    • Gwasanaeth twf a gwelliant newydd a fydd yn eich galluogi i gael y wybodaeth rydych ei hangen i wneud i’ch busnes weithio’n well, gan gynnwys offer i’ch helpu i wneud adnabod a datrys problemau busnes, system dod o hyd i gymorth busnes, tiwtorialau ac astudiaethau achos ar fideo, gwybodaeth am ddigwyddiadau yn eich ardal a chysylltiadau i drafodaethau busnes a gwasanaethau eraill.
    • Os ydych chi’n ystyried dechrau busnes, neu’n adnabod rhywun sy’n ystyried gwneud, bydd adran newydd sbon o wefan Business Link yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr ar ddechrau busnes gan gynnwys hyfforddiant ar-lein a rhestr tasgau dechrau busnes i dywys pobl drwy’r broses.

I gael gwybod mwy a chael y wybodaeth ddiweddaraf sy’n bwysig i fusnesau megis newidiadau i reoliadau, cofrestrwch gyda gwefan Business Link a chytuno i gael ei e-gylchlythyr ar www.businesslink.gov.uk/mybusiness

Mae busnesau sy’n gwneud yn dda yn aml yn cael cymorth o’r tu allan. Os ydych chi’n meddwl y gallech gael budd o siarad â rhywun sydd â llawer o brofiad busnes, gallwch ddod o hyd i fentor busnes ar www.mentorsme.co.uk

  • Bydd Mentorsme.co.uk yn eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau mentora ar draws y Deyrnas Unedig a all eich helpu i ddod o hyd i’r math o fentor sy’n addas i chi
  • Hefyd mae yna lawer o gyngor ar yr hyn y dylech chwilio amdano mewn mentor da
  • Os hoffech fod yn fentor a rhannu’ch profiad helaeth gyda pherson busnes llai profiadol, gall y porth mentora eich helpu i ddod o hyd i sefydliad sy’n gallu helpu

Pam mae’r gwasanaethau wedi newid?

  • Mae mwy a mwy o fusnesau’n arbed amser ac arian trwy ddefnyddio gwasanaethau ar-lein i ddod o hyd i’r wybodaeth a’r canllawiau maent eu hangen i redeg eu busnesau
  • Rydym yn gwybod bod busnesau sy’n derbyn cyngor yn gwneud yn well, felly rydym yn gweddnewid y wybodaeth a’r cyngor sydd ar gael ar lein i’w gwneud yn haws i chi ddod o hyd i’r hyn rydych ei angen yn gyflym ac o ffynonellau y gallwch ymddiried ynddynt
  • Hefyd, hon yw’r ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon i ni ddarparu’r wybodaeth a’r cyngor rydych eu hangen
  • Mae busnesau hefyd wedi dweud wrthym mai’r hyn maent yn ei werthfawrogi fwyaf yw cymorth a chyngor oddi wrth fusnesau eraill felly rydym wedi cynnwys nodweddion yn ein gwasanaethau newydd i’ch galluogi i ddod o hyd i hyn yn gyflym ac yn effeithiol
  • Mae ein cymorth yn canolbwyntio ar helpu busnesau i ddechrau, gwella a thyfu oherwydd busnesau’r Deyrnas Unedig fydd yn ysgogi adferiad ein heconomi