Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Rhestr Oriau Agor y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd 2011/2012

Fe welwch wedi'u rhestru isod y trefniadau agor a gwasanaethu dros wyliau’r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Swyddfeydd Tŷ'r Cwmnïau

Dydd Llun 26 Rhagfyr Pob Swyddfa Ar Gau
Dydd Mawrth 27 Rhagfyr Pob Swyddfa Ar Gau
Dydd Mercher 28 Rhagfyr Swyddfeydd Ar Agor ac eithrio Llundain a fydd ar gau
Dydd Iau 29 Rhagfyr Pob Swyddfa Ar Agor
Dydd Gwener 30 Rhagfyr Pob Swyddfa Ar Agor
Dydd Llun 2 Ionawr Pob Swyddfa Ar Gau
Dydd Mawrth 3 Ionawr Swyddfeydd Ar Agor ac eithrio Caeredin a fydd ar gau

Gwasanaethau Ar-lein

Bydd Companies House Direct, WebCHeck, WebFiling, Electronic Filing, Extranet ac XML Gateway ar gael fel arfer (24 awr, 7 diwrnod yr wythnos) gyda’r eithriadau canlynol i'r Ddesgau Cymorth:

Dydd Llun 26 Rhagfyr Ar Gau
Dydd Mawrth 27 Rhagfyr Ar Gau
Dydd Mercher 28 Rhagfyr Ar Agor
Dydd Iau 29 Rhagfyr Ar Agor
Dydd Gwener 30 Rhagfyr Ar Agor
Dydd Llun 2 Ionawr Ar Gau
Dydd Mawrth 3 Ionawr Ar Agor

Cyflwyno Dogfennau

Dim ond Swyddfa Caerdydd gaiff ei staffio i dderbyn dogfennau dros y gwyliau cyfan. Mae cyfleusterau blwch postio yn y swyddfeydd eraill ac eithrio Gogledd Iwerddon. Rhaid i gyfrifon gael eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau ar neu cyn y dyddiad dyledus. Ni dderbynnir oedi cludo fel esgus dros gyflwyno hwyr, a hyd yn oed os cyflwynir cyfrifon ddiwrnod yn hwyr caiff cosb ei gosod.

Dylid nodi y gellir defnyddio’r gwasanaeth WebFiling i ffeilio amrywiaeth o ddogfennau, gan gynnwys cyfrifon bach heb eu harchwilio. Os nad ydych chi wedi cofrestru eisoes, bydd angen i chi wneud hynny. Dylech nodi y caiff cod dilysu’r cwmni, sydd ei angen arnoch er mwyn cyrchu’r gwasanaeth, ei anfon (drwy’r post) i swyddfa gofrestredig y cwmni cyn pen dau ddiwrnod gwaith ar ôl i chi gyflwyno’ch cais. Gadewch digon o amser i dderbyn y cod gyda golwg unrhyw oediad achos trefn bost y gwyliau.

Corffori Papur, a Newid Enw

Caiff pob cais a dderbynnir gan ein hadran Cwmnïau Newydd neu Copïau Ardystiedig ei brosesu fel arfer ond dymunwn roi gwybod i gwsmeriaid na allwn fod yn gyfrifol am unrhyw oedi wrth dderbyn ceisiadau oherwydd trefn bost y gwyliau.