Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Amdanon Ni


Tabl A

1. Beth yw “Tabl A”?

Tabl, yn syml, yw’r enw a roir ar y diwyg penodedig ar gyfer Erthyglau Cymdeithasiad cwmni sydd wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau. Bydd yr Erthyglau’n gosod y rheoliadau ar gyfer llywio’r cwmni. Cynhwyswyd y diwyg penodedig cyntaf ar gyfer Erthyglau yn “The Joint Stock Companies Act, 1856”. Yn y Ddeddf honno, yr enw ar yr Erthyglau oedd “Table B” (yn unswydd oherwydd eu bod yn dod ar ôl diwyg ar gyfer Memorandwm Cymdeithasiad a elwid “Form A”). Adeg y penodi nesaf, sef ym 1862, symudwyd y Memorandwm i gorff y Ddeddf a daeth yr Erthyglau i gael eu galw “Table A”. Parhaodd y confensiwn enwi hwn i’r Erthyglau drwy’r holl ddeddfwriaeth a gyflwynwyd ym 1906, 1908, 1929, 1948 (a diwygiadau a wnaed ym 1967, 1976, 1980, 1981), a Gorffennaf 1985 (a diwygiadau a wnaed yn Awst 1985 a 2000).

2. Pam y byddai angen imi gyfeirio at “Dabl A”?

Wrth gorffori cwmni sydd wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau, does dim angen iddo ffeilio Erthyglau os dymuna ddefnyddio Tabl A fel ei Erthyglau. Yn yr achos hwn, os chwiliwch gofnodion cwmni sydd wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau mae’n bosib na welwch ddogfen yn gosod ei Erthyglau. Gall rhai o ddarpariaethau Tabl A fod yn gymwys hefyd i gwmni sydd wedi ffeilio Erthyglau, os nad yw Erthyglau’r cwmni wedi hepgor nac wedi addasu Tabl A yn benodol. Yn y naill achos neu’r llall, os dymunwch weld y rheoliadau sy’n llywio’r cwmni, bydd angen ichi gyfeirio at y Tabl A perthnasol.

3. Pa Dabl A sy’n berthnasol i gwmni arbennig?

Y Tabl A sy’n gymwys i gwmni yw’r Tabl A oedd mewn grym ar ddyddiad corffori’r cwmni. Os cafodd Tabl A ei ddiwygio wedyn, ni fydd y newidiadau’n effeithio ar gwmni a gafodd ei gofrestru cyn i’r diwygio ddod i rym. I fod yn siŵr eich bod yn darllen y Tabl A cywir, mae angen ichi wybod dyddiad corffori’r cwmni a pha fersiwn o Dabl A oedd mewn grym ar y dyddiad hwnnw.

Mae’r rhestr ganlynol yn dangos dyddiad effeithiol pob Tabl A.

Dyddiad effeithiol pob Tabl A.
Tabl A wedi’i benodi gan: Mewn grym o:
Deddf Cwmnïau Cydgyfalaf 1856 (Tabl B – gweler cw. 1) 14 Gorff. 1856
Deddf Cwmnïau 1862 7 Awst 1862
Gorchymyn y Bwrdd Masnach 1906 1 Hydref 1906
Deddf Cydgyfnerthu Cwmnïau 1908 1 Ebrill 1909
Deddf Cwmnïau 1929 1 Tachwedd 1929
Deddf Cwmnïau 1948 1 Gorff. 1948
- fel y cafodd ei diwygio gan Ddeddf Cwmnïau 1967 27 Ionawr 1968
- fel y cafodd ei diwygio gan Ddeddf Cwmnïau 1976 (3 dyddiad dechrau) 18 Ebrill 1977,
1 Mehefin 1977, a
1 Hydref 1977
- fel y cafodd ei diwygio gan Ddeddf y Gyfnewidfa Stoc (Cwblhau Bargeinion) 1976 Rhan 1
- fel y cafodd ei diwygio gan Ddeddf y Gyfnewidfa Stoc (Cwblhau Bargeinion) 1976 Rhan 2
- fel y cafodd ei diwygio gan Ddeddf y Gyfnewidfa Stoc (Cwblhau Bargeinion) 1976 Rhan 3
2 Chwefror 1979
- fel y cafodd ei diwygio gan Ddeddf Cwmnïau 1980 22 Rhagfyr 1980
- fel y cafodd ei diwygio gan Ddeddf Cwmnïau 1981 3 Rhagfyr 1981
Rheoliadau Cwmnïau (Tablau A i F) 1985 1 Gorff. 1985
- fel y cafodd ei diwygio gan Reoliadau Cwmnïau (Tablau A i F) (Diwygiad) 1985 1 Awst 1985
- fel y cafodd ei diwygio gan Orchymyn Deddf Cwmnïau 1985 (Cyfathrebu Electronig) 2000 22 Rhagfyr 2000
- fel y cafodd ei diwygio gan Reoliadau Cwmnïau (Tablau A i F)(Diwygiad)2007 1 Hydref 2007

Ymwadiad

Sylwch fod y Tablau A a welir yma wedi cael eu hatgynhyrchu o’r Deddfau, y Gorchmynion neu’r Offerynnau cyhoeddedig gwreiddiol a restrwyd uchod ac maent yn gywir hyd eithaf ein gwybod a’n cred. Fodd bynnag, nid yw Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriad na hepgor. Dylid dibynnu’n llwyr ar y ddeddfwriaeth berthnasol fel y cafodd honno ei chyhoeddi gan y Swyddfa Gwybodaeth Sector Cyhoeddus (OPSI)(a elwid gynt Gwasg Ei Mawrhydi (HMSO)).

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies