Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Amdanon Ni

Ein prif swyddogaethau Ac Hanes
Bwrdd a Rheolwyr Tŷ'r Cwmnïau
Cyflenwi Tŷ'r Cwmnïau
Llyfrgell


Ydych chi’n fodlon ar ein gwasanaeth?

I gynnal y safonau uchel a osodwn i ni’n hunain, mae angen inni wybod ble yr ydym yn llwyddo yn ogystal â ble yr ydym yn methu. Croesawn unrhyw sylwadau, canmoliaeth neu awgrymiadau a all fod gennych ynglyn â’n gwasanaethau.

Arolwg Boddhad Cwsmeriaid

Ymddiddorwn bob amser yn eich sylwadau a’ch awgrymiadau o ran sut y cyflawnwn ein dyletswyddau, ac o ran y cynhyrchion a’r gwasanaethau a gynigiwn. Er mwyn gwneud hyn mewn ffordd gyfundrefnus y gallwn ei mesur yn effeithiol, rydym wedi datblygu arolwg chwarterol o foddhad ein cwsmeriaid.
Mae’r arolwg hwn yn caniatáu inni fonitro’n perfformiad yn ôl nifer o feysydd allweddol ac yn rhoi i chithau gyfle i wneud eich barn, yn ffafriol neu fel arall, yn hysbys inni. Mae cymryd yr amser i ateb yr arolwg yn bwysig i ni oherwydd po fwyaf a wyddom am yr hyn sy’n dda neu’n ddrwg gennych, mwyaf oll o welliannau y gallwn eu gwneud i’n gwasanaethau.

Felly….

Cliciwch yma i lenwi’n Harolwg Boddhad Cwsmeriaid a gwneud eich barn yn hysbys!

Cwynion

Ein nod bob amser yw bodloni anghenion ein cwsmeriaid mor effeithlon a darbodus ag sydd modd ond sylweddolwn fod pethau’n mynd o le weithiau. Pa fydd hynny’n digwydd, fe unionwn y sefyllfa cyn gynted â phosib.

Cliciwch yma i gael gwybod mwy am ein trefn gwyno a phwy i gysylltu â nhw

Awgrymiadau

Os hoffech chi wneud awgrym neu sylwadau ynghylch unrhyw agwedd ar ein Gwefan, ein cynhyrchion neu’n gwasanaethau, gallwch wneud hynny drwy gysylltu â:-

Mr Ian Smith
Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid
Ismith@companieshouse.gov.uk

Cydnabyddiaeth

Os cawsoch wasanaeth neilltuol o dda gan Dŷ’r Cwmnïau a chithau am i’r aelod staff neu’r Adran gael eu cydnabod, rhowch wybod inni drwy gysylltu â:-

Mr Ian Smith
Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid
Ismith@companieshouse.gov.uk

Byddai’n ddefnyddiol pe gallech gynnwys rhai manylion am yr enw, yr adran, y dyddiad, yr amser a natur eich galwad a beth a wnaeth argraff arnoch o ran y ffordd y cafodd eich galwad ei thrin.

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies