Amdanon Ni |
|||||||
|
|
Cwynion Ein nod yw delio ag unrhyw broblemau ac anawsterau yn gyflym ac yn deg. Fe wnawn hyn drwy fonitro pob cwyn ac awgrym i’n helpu i weld beth sy’n mynd o’i le a sut y gallwn wella pethau, a thrwy drefnu system sydd:
Bydd ein staff yn gwneud popeth a allant i ddatrys unrhyw anhawster. Os na fydd ein staff yn gallu rhoi ateb boddhaol i’ch pryderon, cysylltwch â’n Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid yn ein swyddfa yng Nghaerdydd. Jane Walters Os nad ydych yn fodlon ar ein penderfyniad, gallwch ysgrifennu at y Cyfarwyddwr Gwasanaethu Cwsmeriaid yng Nghaerdydd neu Gofrestrydd Cwmnïau yr Alban. Os byddwch yn dal yn anfodlon ar ôl ysgrifennu, gallwch ysgrifennu at Ddyfarnwraig annibynnol Tŷ’r Cwmnïau, Y Fonesig Elizabeth Neville, DBE QPM. Ond mae angen i Dŷ’r Cwmnïau gael cyfle i ddatrys unrhyw anghydfod, felly cyn ysgrifennu at y Fonesig Elizabeth Neville, mae’n rhaid bod cwyn wedi mynd drwy holl drefn fewnol Tŷ’r Cwmnïau a chan hynny bod wedi cael ei hystyried gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethu Cwsmeriaid. Os byddwch yn dal yn anfodlon ar ôl cael dyfarniad, gallwch gysylltu â’ch Aelod Seneddol a gofyn am i’r gŵyn gael ei hatgyfeirio i sylw Ombwdsman y Senedd a’r Gwasanaeth Iechyd.
Cliciwch yma i gyrchu’n Datganiad Safon Siarter a llyfryn ein Cod Gorfodi. Mae’r llyfryn hwn yn rhoi canllawiau clir o ran safonau’r gwasanaeth y gallwch eu disgwyl gennym. |
||||||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|