Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Gyrfaoedd


Beth yw Amryfaliaeth?

Mae amryfaliaeth yn ffordd o ystyried a meithrin amgylchedd lle bydd pobl yn teimlo bod gwerth iddynt a’u bod yn cael eu cydnabod. Mae’n golygu’n syml:-
  • ein bod ni i gyd yn wahanol
  • bod gennym bawb bethau gwahanol i’w cynnig
  • a bod gennym bawb ganfyddiadau, disgwyliadau a syniadau gwahanol
Yn Nhŷ’r Cwmnïau, rhown werth ar y ffaith bod gennym weithlu amryfal. Byddwn yn croesawu ac yn mawrbrisio pobl o bob cymuned a diwylliant, a sylweddolwn yn llawn y buddion a all fod ynghlwm wrth dîm sy’n hyderus eu bod yn gallu cyflwyno gwahanol safbwyntiau, syniadau a phersbectifau.

Ymrwymiad ar ein rhan ni oll

Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi ymrwymo i gofleidio amryfaliaeth ar sail hinsawdd o gyd-barch i eraill ac i wahaniaethau pobl eraill. Disgwyliwn i bawb drin ei gilydd ag urddas.

Mae “lle i bawb” yn y ffordd y rheolir amryfaliaeth yn Nhŷ’r Cwmnïau, o’r Prif Weithredydd ac aelodau’r Bwrdd i reolwyr, arweinwyr timau a phob aelod unigol o’n staff.

Manteision gweithlu amryfal
  • drwy groesawu gwahaniaeth, bydd pob aelod staff yn gwireddu ei botensial a’i werth llawn i’r tîm
  • osgoir rhagfarn yng nghyswllt materion a all rwystro datblygiad personol yn annheg
  • rhoir gwerth ar bawb fel unigolyn ac nid fel aelod o grŵp
  • mae pawb yn driw iddo neu iddi ei hun ac yn ceisio bod yn llwyddiannus ar sail rhinwedd unigol
  • mae rheoli amryfaliaeth yn osgoi gwastraffu dawn ac yn sicrhau bod pobl yn cyflawni eu potensial eithaf
  • mae rheoli amryfaliaeth yn mynd i’r afael â rhagfarn, ystrydebu, erledigaeth ac ymddygiad diurddas
Byddwn yn ymdrechu’n gyson i ddod o hyd i ffyrdd gwell o feithrin amryfaliaeth a gwneud y mwyaf ohoni, yn hytrach na gorfodi pawb i gydymffurfio ag ystrydeb neu fowld arbennig. Byddwn bawb yn Nhŷ’r Cwmnïau yn parhau i wneud cynnydd tuag at y nod hwn.

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies