Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Gyrfaoedd


Cyfrifydd Ariannol IFRS
Cyflog: £24,063 - £30,313

Swydd am Gyfnod Penodol o 18 mis yw hon

Tŷ'r Cwmnïau yw prif ganolfan cyfnewid gwybodaeth am gwmnïau yn y DU: gan helpu busnesau, hysbysu'r cyhoedd a rhoi budd i economi'r DU. Ein gweledigaeth yw bod yn ddarparwr gwybodaeth heb ei ail – hygyrch, hawdd ei ddefnyddio gan roi'r cwsmer yn gyntaf.

Prif Gyfrifoldebau:

Yn y swydd hon byddwch yn gyfrifol am drosi Cyfrifon Ariannol Tŷ’r Cwmnïau i gydymffurfio â Safonau Adroddiadau Ariannol Rhyngwladol (IFRS). Hefyd, byddwch yn sicrhau bod holl reolau a pholisïau Cyfrifo perthnasol y Llywodraeth yn cael eu gweithredu'n gywir. Bydd hyn yn golygu cysylltu â thimau archwilio mewnol ac allanol, a chysylltu â Thrysorlys EM a'r Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio.

Cymwyseddau Craidd a Swydd Benodol:

Hanfodol

  • Aelod o gorff a gydnabyddir gan CCAB (ACA, ACCA, CIMA, CIPFA)
  • O leiaf 2 flynedd o brofiad ôl-gymhwyso yn gweithio mewn amgylchedd ariannol, gyda phrofiad o drosi cyfrifon i gydymffurfio ag IFRS yn ddelfrydol

Dymunol Iawn

  • Y gallu i gyfathrebu ar bob lefel
  • Sgiliau trefnu da
  • Y gallu i ddatrys problemau
  • Sgiliau gweithio mewn tîm effeithiol
  • Tystiolaeth amlwg o gynhyrchu cyfrifon terfynol mewn fformat cyfrifon statudol a rheoli
  • Profiad amlwg o reoli tîm bach i amserlenni tynn

Manteisiol

  • Lefel arbenigol mewn rhaglenni MS Office (yn enwedig Excel)
  • Sgiliau trafod profedig gyda chyrff allanol

Y Cyfleoedd a Gynigir:

  • Bod yn aelod allweddol o Dîm Adrodd Ariannol Tŷ’r Cwmnïau
  • Ehangu profiad cyfrifo IFRS ymhellach

Bydd buddion yn gynlluniau pensiwn, gwyliau rhagorol, polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd a chyfle i weithio i sefydliad blaengar mewn amgylchedd cyfeillgar.

I wneud cais

I wneud cais, bydd angen i chi lwytho’r ffurflen gais i lawr, a’i llenwi gan ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol a pherthnasol i gefnogi eich cais. Fe welwch hefyd ffurflenni ychwanegol y bydd angen i chi eu llwytho i lawr, eu cwblhau a’u dychwelyd gyda’ch CV. Dylid anfon ceisiadau wedi’u cwblhau at:

Y Tîm Adnoddau Dynol
Llawr Cyntaf
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ

Os oes angen gwybodaeth ychwanegol arnoch, cysylltwch â’r Tîm Adnoddau Dynol trwy e-bost hrrecruitment@companieshouse.gov.uk neu ffoniwch 029 2038 173 gan ddyfynnu cyfeirnod SR/07/104R.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mawrth 13 Mai 2008

Bydd gofyn i ymgeiswyr gwblhau tasg berthnasol fel rhan o’r cyfweliad.

Fe welwch ein bod wedi cynnwys amrywiaeth o wybodaeth gefndirol am Dŷ’r Cwmnïau a’r heriau sydd o’n blaen, er gwybodaeth i chi.

Ffurflen gais

Furfleni monitro i gwblhau

Am Ddisgrifiad Swydd

Adroddiad Blynddol a Chyfrifion 2006-2007

Cyfeiriad Strategol i Tŷ'r Cwmnïau am 2010.

Cynllun Busnes 2007/2008

Cofrestr

BERR

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies