|
 |
Beth yw’r buddion i fusnesau?
Pob cwmni
- Mae’r datganiad statudol ynghylch dyletswyddau cyffredinol cyfarwyddwyr yn gwneud y gyfraith sefydledig yn y maes hwn yn fwy hygyrch, gan ei chysoni ag arfer busnesau modern.
- Bydd modd i gwmnïau fanteisio’n helaethach ar gyfathrebu electronig â chyfranddeiliaid.
- Eglurhawyd y rhwymedigaeth o ran adroddiadau i’r farchnad.
- Bydd cyfarwyddwyr yn cael y dewis awtomatig o ffeilio cyfeiriad gwasanaeth ar y cofnod cyhoeddus (yn hytrach na’u cyfeiriad cartref preifat).
- Bydd gwell rheolau ar gyfer enwau cwmni.
- Ni fydd mwyach yn ofynnol i gwmnïau nodi’u hamcanion.
- Fe ddaw’r memorandwm cwmni yn ddogfen ffurfiol yn cofnodi’r sefyllfa adeg y cofrestru, a dim ond yr erthyglau yn ddogfen gyfansoddiadol barhaol.
- Bydd modd i gyfranddeiliaid gymeradwyo cyfyngiadau i atebolrwydd archwilwyr ariannol.
|
|