Deddf Cwmnïau |
||||
|
|
Holi ac Ateb – Datganiad Ysgrifenedig ac Amserlen Pa ddarpariaethau fydd yn dechrau yn Ebrill 2008? Caiff y darpariaethau canlynol eu cychwyn o 6 Ebrill 2008 ymlaen:
Arfaethir i Orchymyn Cychwyn ar wahân roi dechrau i adran 1175 (Dileu darpariaethau arbennig ynglŷn â chyfrifon ac archwilio cwmnïau elusennol) ar gyfer Prydain Fawr (ond nid Gogledd Iwerddon) o 1 Ebrill 2008 ymlaen. Pa ddarpariaethau fydd yn dechrau yn Hydref 2008? Caiff y darpariaethau canlynol eu cychwyn o 1 Hydref 2008 ymlaen:
Bydd y gorchymyn cychwyn hefyd yn diddymu cyfyngiadau Deddf Cwmnïau 1985 o ran cymorth ariannol i feddiannu cyfrannau mewn cwmnïau preifat, gan gynnwys y drefn “gwyngalchu”. C. Pa ddarpariaethau fydd yn dechrau yn Hydref 2009? Caiff y darpariaethau canlynol eu cychwyn o 1 Hydref 2009 ymlaen:
Mae manylion pellach i’w gweld yn y tabl dyddiadau cychwyn. C. Pam y daethpwyd ymlaen â dyddiad cychwyn rhai darpariaethau i Ebrill 2008 (adrannau 121 a 128, ac adrannau 811(4), 812 a 814)? A. Yng ngoleuni sylwadau budd-ddeiliaid allweddol, mae’r Llywodraeth wedi penderfynu y dylai’r darpariaethau hyn - sy’n ymwneud yn eu tro â dileu cofnodion cyn-aelodau o’r Gofrestr Aelodau, ac archwilio’r gofrestr fuddiannau yng nghyswllt cyfrannau’r cwmni - gael eu cychwyn o 6 Ebrill 2008 ymlaen. C. Pryd y cawn olwg ar y gorchmynion cychwyn ar gyfer darpariaethau sydd i ddechrau yn 2008 a 2009? A. Fel mae’r Datganiad Ysgrifenedig yn egluro, arfaetha’r Llywodraeth gyflwyno, cyn y Nadolig, orchymyn cychwyn drafft ar gyfer yr holl ddarpariaethau sydd i ddechrau yn 2008, ar wahân i’r rhai sy’n ymwneud â lleihau cyfalaf drwy gymorth datganiad solfedd. Caiff y darpariaethau lleihau-cyfalaf hyn hwythau (gan gynnwys adran 654 ar ddosrannu cronfeydd wrth gefn sy’n deillio o leihau’r cyfalaf) eu gweithredu drwy orchymyn cychwyn ar wahân sydd i’w gyflwyno ar ffurf ddrafft yn 2008. Bydd hefyd orchymyn cychwyn ar wahân yn 2008 i weithredu diddymiad darpariaethau Deddf 1985 o ran archwilio cyfrifon cwmnïau elusennol bach. C. Beth sy’n digwydd yng nghyswllt dyletswyddau gwrthdrawiad buddiannau cyfarwyddwyr? A. Cafodd mwyafrif y dyletswyddau sydd i’w cynnwys yn y datganiad statudol newydd o ddyletswyddau cyfarwyddwyr eu cychwyn yn Hydref 2007. Gan hynny, cyhoeddodd y Llywodraeth yn Chwefror 2007 y bydd y dyletswyddau gwrthdrawiad yn cychwyn yn Hydref 2008, ac mae hyn yn wir o hyd. C. Pryd y bydd BERR yn cyhoeddi rheolau trefniadol drafft gydagolwg ar ddyfarnu ynghylch enwau cwmnïau? A. Bydd BERR yn ymgynghori ymhellach yn gynnar yn 2008 ar Reolau drafft diwygiedig y Dyfarnwyr Enwau Cwmni, gan gymryd i ystyriaeth sylwadau a wnaed ar y drafft blaenorol. Bydd y drafft diwygiedig yn cynnwys y ffioedd. C. Ble galla i weld manylion pellach ynghylch yr adrannau hynny sydd i’w cychwyn yn Ebrill a Hydref 2008? A. Cyfeirier at Gwestiynau Mynych BERR yn: www.berr.gov.uk/bbf/co-act-2006/faq%20Act%202006/page38139.html |
|||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|