[an error occurred while processing this directive]
 

Deddf Cwmnïau


Holi ac Ateb – Gohirio gweithredu Deddf Cwmnïau 2006

C. Pam y cymerwyd y penderfyniad hwn yn awr?
A. O gofio bod perygl na fydd systemau Tŷ’r Cwmnïau mewn grym llawn erbyn Hydref 2008, mae’n gwbl iawn i fod yn onest â byd busnes yn awr, er mwyn sicrhau bod modd cymryd y camau priodol.
C. A fydd gweithrediad darpariaethau Ebrill 2008 yn mynd ymlaen yn unol â’r arfaeth?
A. Bydd.
C. Pa rannau o Ddeddf 2006 a gaiff eu gohirio tan 2009?
A. Gweler yr Amserlen Ddechrau ar wefan BERR yn
http://www.berr.gov.uk/bbf/co-act-2006/index.html
C. Oes rhannau o’r Ddeddf a gaiff eu gweithredu yn Hydref 2008 o hyd?
A. Rydym yn ymgynghori â budd-ddeiliaid allweddol i gael gweld a ddylai rhannau nad ydynt yn dwyn cysylltiad uniongyrchol â newidiadau i systemau a phrosesau Tŷ’r Cwmnïau gael eu gweithredu yn Hydref  2008 yr un fath.  Mae’r agweddau allweddol sydd o bwys i fusnesau’n cynnwys:
  1. Dyletswyddau cyfarwyddwyr o ran gwrthdrawiad buddiannau
  2. Diddymu cyfyngiadau Deddf Cwmnïau 1985 o ran cymorth ariannol i feddiannu cyfrannau mewn cwmnïau preifat.
C. Pryd y gwneir penderfyniad terfynol o safbwynt a gaiff unrhyw rannau eu gweithredu yn Hydref 2008?
A. Byddwn yn cyflwyno Datganiad Ysgrifenedig i’r Senedd ym mis Rhagfyr, yn pennu’r amserlen weithredu derfynol yng ngoleuni’n trafodaethau â budd-ddeiliaid allweddol.
C. A gaiff cwmnïau unrhyw anawsterau yn eu trafodion beunyddiol â Thŷ’r Cwmnïau drwy gydol 2008 a 2009?
A. Na chânt.  Nid effeithir ar gwsmeriaid Tŷ’r Cwmnïau, a fydd yn gallu ffeilio dogfennau a chwilio’r cofnodion fel arfer.
C. Pryd y bydd modd i gwmnïau newydd gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau o dan Ddeddf Cwmnïau 2006?
A. Bydd cwmnïau newydd yn parhau i gael eu cofrestru o dan Ddeddf 1985 tan 1 Hydref 2009.  Byddant, wrth gwrs, yn cael mantais llawer o’r buddion dadreoleiddio hynny sydd eisoes wedi’u gweithredu o dan Ddeddf 2006.
C. Beth yw goblygiadau’r newid amserlen i fyd busnes?
A. Bydd llawer o fuddion dadreoleiddio allweddol y Ddeddf wedi cael eu cyflwyno erbyn Ebrill 2008 yr un fath.  Mae’r rhain yn cynnwys:
  1. Mwy o fanteisio ar ddarpariaethau ar gyfer cyfathrebu electronig
  2. Rhan fwya'r datganiad statudol o ddyletswyddau cyfarwyddwyr
  3. Prosesau penderfynu haws/rhatach i gwmnau preifat
  4. Ni fydd yn ofynnol mwyach i gwmnau preifat fod ag ysgrifennydd

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies