Deddf Cwmnïau |
||||
|
|
DEDDF CWMNÏAU 2006 Y Gweinidog Cystadleugarwch (Stephen Timms): Bydd Deddf Cwmnïau 2006, a sicrhaodd Gydsyniad Brenhinol ar 8 Tachwedd 2006, yn dod â buddion sylweddol iawn i fusnesau drwy foderneiddio a symleiddio’r gyfraith gwmnïau. Pennodd y Llywodraeth yr amserlen ddechrau i’r Ddeddf drwy Ddatganiad Ysgrifenedig ar 28 Chwefror 2007. Roedd tri phrif gam i’r amserlen weithredu, gan ddechrau mwyafrif y darpariaethau ar 1 Hydref 2007, 6 Ebrill 2008 neu 1 Hydref 2008. Yn unol â’r amserlen hon, dechreuwyd cyfran helaeth o’r darpariaethau ar 1 Hydref 2007, gan gynnwys darpariaethau’n ymwneud â dyletswyddau cyffredinol cyfarwyddwyr, yr arolwg busnes, a phenderfyniadau a chyfarfodydd cwmnïau. Caiff cyfran bellach o’r darpariaethau eu dechrau ar 6 Ebrill 2008, gan gynnwys y darpariaethau sy’n ymwneud â chyfrifon ac adroddiadau, archwilio ariannol a dileu’r rhwymedigaeth ar i gwmnïau preifat fod ag ysgrifennydd. Roedd Datganiad Ysgrifenedig 28 Chwefror 2007 yn egluro bod angen inni sicrhau bod y Cofrestrydd Cwmnïau yn cael digon o amser i weithredu newidiadau pwysig i systemau a phrosesau Tŷ'r Cwmnïau gyda golwg ar feysydd fel ffurfio cwmni, ac i roi rhybudd priodol i ddefnyddwyr y ffurflenni newydd. Am y rheswm hwn, penderfynodd y Llywodraeth mai ar 1 Hydref 2008 y dylid dechrau’r darpariaethau oedd yn ymwneud agosaf â’r newidiadau hyn. Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi gwneud cryn gynnydd â’r newidiadau angenrheidiol i’w systemau a’i brosesau. Fodd bynnag, erys llawer o waith i’w wneud ac mae’r Cofrestrydd Cwmnïau wedi rhoi gwybod na all fod yn gwbl hyderus y gellir cwblhau’r newidiadau angenrheidiol mewn pryd. Mae’r Llywodraeth yn cydnabod bod angen sicrwydd ar fyd busnes lle mae’r amserlen weithredu yn y cwestiwn ac mae wedi penderfynu, felly, y dylai mwyafrif y darpariaethau oedd i’w dechrau ar 1 Hydref 2008 gael eu gohirio tan 1 Hydref 2009. Mae hyn yn cynnwys darpariaethau’n ymwneud â ffurfio cwmni, cyfalaf cyfrannau, enwau cwmni a busnes, a chyfeiriadau preswyl cyfarwyddwyr. Mae rhai darpariaethau sydd i’w dechrau ar 1 Hydref 2008 lle na elwir am newidiadau i systemau a phrosesau Tŷ’r Cwmnïau. Gellid dechrau’r rhain ar 1 Hydref 2008 o hyd, ond cydnabyddwn fod angen cydbwyso amseriad dechrau’r darpariaethau dadreoleiddio a chymhlethdod y gweithredu mewn camau. Mae’r Llywodraeth, felly, yn bwriadu ymgynghori â budd-ddeiliaid allweddol ynglyn â dyddiad dechrau’r darpariaethau canlynol:
Fe wnaf Ddatganiad pellach ym mis Rhagfyr, yn pennu’r amserlen ddechrau derfynol yng ngoleuni’r trafodaethau hyn. |
|||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|