Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Deddf Cwmnïau


Dyma’r podcast cyntaf a gynhyrchwyd gan Dŷ’r Cwmnïau ac mae’n rhoi gorolwg dros Ddeddf Cwmnïau 2006.

Dechreuodd y cefndir i gyflwyniad y Ddeddf ym1998 pan sefydlwyd Grŵp Adolygu’r Gyfraith Gwmnïau gan y Llywodraeth i ystyried yn fanwl sut y gellid moderneiddio’r gyfraith gwmnïau.

Daeth argymhellion y Grŵp yn flaengynllun i’r diwygiadau a gafodd eu cynnig ym Mhapur Gwyn Diwygio’r Gyfraith Gwmnïau, a gyhoeddwyd ym Mawrth 2005.

Yn sgil cydymgynghori, esblygodd cynigion y Papur Gwyn yn Fesur drafft a gafodd ei drafod wedyn yn ystod ei hynt drwy’r Senedd.

Wyth mlynedd o’i dechreuadau, cafodd Deddf Cwmnïau 2006 y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 8 Tachwedd 2006.

Yn ei hanfod, darn o ddeddfwriaeth gynradd yw’r Ddeddf a hi yw’r ddeddf hwyaf i fynd drwy’r Senedd erioed - dros 700 o dudalennau, yn cynnwys 1300 o adrannau, 16 o atodlenni a 47 o rannau.

Mae cyswllt â chopi o’r Ddeddf ar wefan y Swyddfa Gwybodaeth Sector Cyhoeddus ar gael o fewn adran Cyhoeddiadau’r tudalennau gwe hyn.

Bydd y Ddeddf i raddau helaeth yn gymwys i gwmnïau’n uniongyrchol ac o ran effaith yn disodli’r ddeddfwriaeth gwmnïau bresennol, ac eithrio darpariaethau’n ymwneud ag archwilio cwmnïau ac â chwmnïau buddiant cymunedol.

Bwriad y Ddeddf yw symleiddio a moderneiddio’r gyfraith, yn enwedig i gwmnïau bach. Ei nod fydd

  • Hybu rhan y cyfranddeiliad a’r diwylliant buddsoddi tymor-hir
  • Sicrhau gwell rheoleiddio ac ymagwedd ‘meddwl yn fach yn gyntaf’
  • Ei gwneud yn haws sefydlu a rhedeg cwmni
  • Sicrhau hyblygrwydd i’r dyfodol.

Yn sgil rhaglen ymgynghori gynhwysfawr, ni chaiff mwyafrif helaeth y Ddeddf mo’i gweithredu tan Hydref 2008.

Bydd hyn yn rhoi amser i’r Adran Masnach a Diwydiant greu’r trefniadau trosiannol sydd angen ac yn caniatáu i gwmnïau ymgyfarwyddo â’r newidiadau a pharatoi ar eu cyfer.

Caiff rhai o’r darpariaethau eu cyflwyno’n gynnar, gan alluogi busnesau i wireddu buddion y Ddeddf drwy leihau’r baich rheoleiddio arnynt.

Daeth y  gyntaf o’r rhain i rym yn Ionawr , gan gynrychioli Cyfarwyddeb gan yr UE i alluogi cwmnïau i fanteisio’n ehangach ar gyfathrebu electronig.

Mae manylion llawn am hyn ar gael ar wefan y DTI.

Caiff y trefniadau ar gyfer gweithredu cynnar pellach eu cyhoeddi cyn bo hir a bydd y manylion ar gael ar wefannau’r DTI a Thŷ’r Cwmnïau fel ei gilydd.

Bydd Tŷ’r Cwmnïau’n ymdrechu i sicrhau bod pob cwmni, cyfarwyddwr a chwsmer yn ymwybodol o’r Ddeddf, gan ei gwneud yn haws iddynt ddod i ddysgu mwy am y newidiadau.

Mae’r tudalennau gwe hyn o eiddo Tŷ’r Cwmnïau yn cynnwys dolenni’n cysylltu â chyhoeddiadau perthnasol gan Dŷ’r Cwmnïau, ac ar y cyd â gwefannau eraill gallant gynnig ichi wybodaeth ddefnyddiol.

Byddwn yn sicrhau bod gwefan Tŷ’r Cwmnïau yn rhoi ichi bopeth sydd angen arnoch i wneud yn siŵr eich bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau i’r Ddeddf a all effeithio ar drafodion eich cwmni â Thŷ’r Cwmnïau.

Diolch am wrando.

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies