Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Deddf Cwmnïau


Croeso i’r trydydd podllediad yng nghyfres Deddf Cwmnïau 2006.

Daeth cam nesaf newidiadau’r Ddeddf Cwmnïau i rym ar 1 Hydref 2007, gan gwmpasu:

Dyma nifer o gwestiynau ac atebion ar bob un o’r meysydd er mwyn rhoi gwybod ichi orau sut y gall y newidiadau hyn effeithio arnoch chi

Gweithredu yng nghyswllt cyfyngu mynediad i’r Gofrestr Aelodau

Beth yw’r Gofrestr Aelodau?
Dyma fanylion cyfranddeiliaid y cwmni a chaiff ei chadw gan y cwmni mewn cyfeiriad penodedig.

I bwy mae’r cyfyngiad hwn yn gymwys?
Mae’n gymwys i bob cais o’r tu allan i’r cwmni.

Os caiff cwmni gais am gael gweld y Gofrestr Aelodau, pa wybodaeth y gall y cwmni yntau ei cheisio?

Gall y cwmni ofyn am enw a chyfeiriad y sawl sy’n gwneud y cais, neu os yw’n gorff, am enw rhyw unigolyn, ynghyd â diben y cais a ph’un a gaiff yr wybodaeth ei rhannu ag eraill, ac os felly â phwy ac at ba ddiben.

Mae’n dramgwydd i’r sawl sy’n gwneud y cais am fynediad roi datganiad anwir wrth ddarparu’r manylion hyn.

Pa ddewis sydd gan y cwmni o ran datgelu gwybodaeth y Gofrestr?

Mae’n rhaid i’r cwmni gydymffurfio â’r cais o fewn 5 diwrnod gwaith.  Os nad yw’n fodlon gwneud, gall gyflwyno cais i’r llysoedd am i’r mynediad gael ei gyfyngu y tro hwn.

Mater i lys ei benderfynu wedyn yw a oes diben priodol i’r cais a ph’un a ddylai cwmni gydymffurfio â chais o’r fath neu beidio.

Ydy’r cyfyngu’n gymwys i wybodaeth cofnodion Tŷ’r Cwmnïau?Nac ydy, dim ond i geisiadau yng nghyswllt Cofrestr Aelodau’r cwmni ei hun y mae’n gymwys, nid i’r wybodaeth a gedwir yng nghofnodion Tŷ’r Cwmnïau.

Gweithredu yng nghyswllt Yr Arolwg Busnes ac Adroddiad y Cyfarwyddwyr

Beth yw Arolwg Busnes?

Mae Arolwg Busnes yn adolygiad teg o fusnes y cwmni yn ystod y cyfnod cyfrifeg. Rhaid iddo fod yn ddadansoddiad cytbwys a chynhwysfawr o ddatblygiad a chyflawniad y cwmni, gan gynnwys disgrifiad o’r prif risgiau

Mae adran 417 o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn amlinellu cynnwys penodol adolygiad busnes.

I bwy mae hyn yn gymwys?
Bydd angen bellach i bob cwmni sy’n ffeilio Adroddiad Cyfarwyddwyr fel rhan o’u cyfrifon gynnwys adolygiad Busnes o fewn yr adroddiad.  Mae pob cwmni sy’n ffeilio cyfrifon cwmni bach wedi’i eithrio rhag gorfod ffeilio Adroddiad Cyfarwyddwyr ac Adolygiad Busnes.

Pryd daw hyn i rym?
Bydd yr Arolwg Busnes yn gymwys i bob cyfrifon sy’n bodloni cyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 1 Hydref 2007.

Gweithredu  Tablau Newydd A & C

Beth yw Tabl A?

Rhaid i bob cwmni fabwysiadu Erthyglau Cymdeithasiad pan fyddant yn corffori.  Mae Tablau A i F o Reoliadau Cwmnïau 1985 yn mynd o dan yr enw mwy cyffredin Tabl A a phennant erthyglau wedi’i safoni y gall cwmnïau eu defnyddio’n sail i’w herthyglau eu hun.

Os na fydd cwmnïau yn cofrestru eu herthyglau cymdeithasiad eu hunain, bydd Tabl A yn berthnasol yn eu habsenoldeb.

Tabl A yw’r erthyglau diofyn safonol ar gyfer cwmnïau preifat wedi’u cyfyngu drwy gyfrannau, a Thabl C yw’r erthyglau diofyn safonol ar gyfer cwmnïau preifat wedi’u cyfyngu drwy warant.

Pam y cafodd Tabl A ei ddiwygio?Cafodd Tablau A ac C eu diwygio lle’r oedd y tablau cyfredol yn anghyson â’r darpariaethau newydd a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2007.  Bydd y diwygiadau’n galluogi cwmnïau newydd a gaiff eu ffurfio ar 1 Hydref 2007 neu wedyn i fanteisio ar reoliadau newydd Tabl A, megis cyflwyniad dyletswyddau cyfarwyddwyr a newidiadau i’r gofynion i gwmni gynnal cyfarfodydd a mabwysiadu penderfyniadau.

Beth sydd wedi newid?
Nodir y newidiadau priodol a wnaethpwyd yn Rheoliadau Cwmnïau (Tablau A i F) (Diwygiad)  sydd ar gael ar wefan OPSI a  nodir mewn datganiad ar wefan BERR.

I bwy y mae Tabl A newydd yn berthnasol?
Daeth Tabl A newydd i rym ar 1 Hydref 2007, felly bydd yn gymwys i’r cwmnïau hynny a gaiff eu corffori ar y dyddiad hwnnw neu wedyn ac na fyddant yn cofrestru’u herthyglau eu hun wrth gorffori.Nid oes yn rhaid i gwmnïau ddefnyddio Tabl A  ac mae modd iddynt ysgrifennu eu herthyglau eu hunain neu eu seilio ar erthyglau Tabl A. Os na fydd cwmnïau yn cofrestru eu herthyglau cymdeithasiad eu hunain, bydd Tabl A yn berthnasol yn eu habsenoldeb

Pe bawn yn corffori cwmni newydd - sut mae hyn yn effeithio arna i?
Mae’r newidiadau a wnaethpwyd  i Dabl A  wedi sicrhau bod yr erthyglau a fydd yn berthnasol pan na fydd cwmni yn cofrestru ei erthyglau ei hun, yn cyd-fynd â’r gyfraith gwmnïau a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2007.

Sut fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar gwmni sy’n bodoli eisoes?

Nid yw’r Tabl A newydd yn effeithio ar gwmnïau sy’n bodoli eisoes oni bai eu bod yn dewis ei fabwysiadu. Gall cwmnïau sy’n bodoli eisoes ddewis diwygio’u herthyglau cymdeithasiad presennol, trwy gyfrwng penderfyniad arbennig, er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r newidiadau a wnaethpwyd i’r gyfraith fel y’u mynegwyd yn y Tabl A diwygiedig.

Mae rhagor o wybodaeth am ardrawiad penodol y rheoliadau diwygio ar gwmnïau presennol i’w chael ar dudalennau Deddf Cwmnïau’r wefan hon.

Sut mae’r newidiadau hyn yn ymwneud â’r erthyglau enghreifftiol drafft newydd a fydd yn dod i rym ar 1 Hydref 2009?
Ni fydd y newidiadau i Dabl A yn cael unrhyw effaith ar yr erthyglau enghreifftiol nac ar amseriad eu cyflwyno. Pan fydd yr erthyglau enghreifftiol yn dod i rym yn 2009 , byddant yn disodli Tabl A fel yr erthyglau rhagosodedig: ond ni fydd cwmni sydd eisoes â Thabl A diwygiedig yn erthyglau iddo, yn cael ei effeithio gan yr erthyglau enghreifftiol oni bai ei fod yn dewis newid iddynt.

Ble galla i gael copi o Dablau A ac C?
Mae fersiynau diweddaraf Tablau A ac C ar gael ar wefan Tŷ’r Cwmnïau.

Gweithredu  Newidiadau o ran Penderfyniadau a Chyfarfodydd

Beth yw’r newidiadau?

Mae’r newidiadau o ran penderfyniadau a chyfarfodydd yn ganlyniad uniongyrchol i gyflwyniad Rhan 13 o Ddeddf Cwmnïau 2006.

Mae Rhan 13 yn newid y gofynion o ran sut y bydd cwmnïau cyfyngedig preifat yn cynnal cyfarfodydd ac yn mabwysiadu penderfyniadau, gan gynnwys newidiadau i’r mwyafrif pleidleisio, yr angen am gynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a chylchredeg penderfyniadau arfaethedig ymhlith yr aelodau.

Pryd y daeth Rhan 13 i rym?
Bu i Ran 13 o Ddeddf Cwmnïau 2006, sy’n ymwneud â phenderfyniadau a chyfarfodydd, ddod i rym ar 1 Hydref 2007.

Oes angen i benderfyniadau ysgrifenedig gael eu  llofnodi gan bob un o’r unigolion sydd wedi’u henwi ar y penderfyniad?

Dim ond un llofnod sydd eisiau ar benderfyniadau ysgrifenedig a gaiff eu mabwysiadu ar neu wedi 1 Hydref 2007 o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 (er y gall fod mwy o lofnodion arnynt).

O dan adran 296, gellir defnyddio ‘dogfen ddilysedig’ fel cytundeb yr aelodau â phenderfyniad. Caiff yr aelodau naill ai llofnodi copi papur o’r penderfyniad neu ddangos eu cymeradwyaeth o fersiwn electronig. Dyma pam y dywedir dilysu yn hytrach na llofnodi.

Beth yw’r mwyafrif angenrheidiol ar gyfer penderfyniadau ysgrifenedig?
Bydd y mwyafrif sydd angen yn debyg i’r mwyafrif ar gyfer cyfarfodydd cyfranddeiliaid – mwyafrif syml o’r cyfrannau pleidleisio cymwys ar gyfer penderfyniadau arferol, neu 75% ar gyfer penderfyniadau arbennig.

Ydy’r geiriad wedi newid ar benderfyniadau arbennig i newid enwau cwmnïau?
Cafodd fformatiau’r penderfyniad arbennig a’r penderfyniad ysgrifenedig eu diweddaru ill dau ar 1 Hydref 2007 ac maen nhw ar gael ar wefan Tŷ’r Cwmnïau. Mae’r fersiwn ar-lein o Ddeddf Cwmnïau 2006 i’w weld ar wefan OPSI a Phennod 5 adrannau 77-81 yn cyfeirio at newid enw.

Oes angen o hyd i’m cwmni gynnal Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol?
Does dim angen i gwmnïau preifat yn cynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol mwyach os nad oes rhwymedigaeth i wneud felly yn ei erthyglau. Rhaid i gwmni presennol barhau i gynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol oni bai ei fod yn newid ei erthyglau i ddileu pob rhyw gyfeiriad at Gyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol.  Mae’n rhaid i gwmnïau cyhoeddus gynnal Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol o hyd.

Beth  yw’r cyfnod rhybudd ar gyfer cyfarfodydd cyfranddeiliaid?
Bellach, gall cyfarfodydd cyfranddeiliaid cwmnïau preifat gael eu cynnal drwy roi rhybudd o 14 diwrnod, oni bai bod trefniadau gwahanol wedi’u pennu yn Erthyglau’r cwmni.

Gweithredu Newidiadau o Ran Penderfyniadau drwy Bleidliais
Cafodd penderfyniadau drwy bleidlais eu diddymu o dan Ddeddf Cwmniau 2006

O 1 Hydref 2007 ymlaen, cafodd pedwar o’r pum math o benderfyniad drwy bleidlais eu diddymu.

Mae’r penderfyniad i glustnodi gwarannoedd yn dal yn ddilys.

Beth yw’r pedwar math o benderfyniad drwy bleidlais nad oes rhaid eu ffeilio mwyach ar gyfer cwmnïau preifat?

Mae’r rhai nad oes angen eu ffeilio mwyach yn ymwneud â’r canlynol:

  • Hepgor gosod cyfrifon ac adroddiadau gerbron cyfarfod cyffredinol
  • Hepgor cynnal cyfarfodydd cyffredinol blynyddol
  • Hepgor penodi archwilwyr ariannol bob blwyddyn
  • a Lleihau’r mwyafrif sydd eisiau i awdurdodi cyfarfod ar fyr rybudd

Os yw cwmni eisoes wedi mabwysiadu penderfyniadau drwy bleidlais, ydy’r rhain yn dal mewn grym?

Lle bo cwmni eisoes wedi ffeilio penderfyniadau drwy bleidlais, byddant yn dal mewn grym ac ni fydd angen i’r cwmni ddiwygio’r erthyglau.

Bydd penderfyniadau drwy bleidlais a gafodd eu cylchredeg cyn 1 Hydref 2007 yn dal yn dderbyniol i’w ffeilio.

Gan fod penderfyniadau drwy bleidlais wedi’u diddymu, oes rhaid i’r cwmni roi cyfrifon gerbron yr aelodau o hyd?

Fe erys y cyfrifoldeb am gyflenwi cyfrifon.  Rhaid i bob cwmni anfon copi o’i gyfrifon a’i adroddiadau blynyddol ar gyfer pob blwyddyn ariannol at -

  • bob aelod o’r cwmni
  • pob dyledebydd yn y cwmni, a
  • phawb sydd â hawl i dderbyn rhybudd am gyfarfodydd cyffredinol

Gweithredu  Newidiadau o ran Dyletswyddau Cyfarwyddwyr

Beth yw’r newidiadau o ran Dyletswyddau Cyfarwyddwyr?
Am y tro cyntaf, mae dyletswyddau cyffredinol cyfarwyddwyr i’w cwmnïau wedi’u gosod yn gynhwysfawr yn Neddf Cwmnïau 2006. Cafodd y dyletswyddau eu datblygu a’u cynnwys o fewn y Ddeddf newydd, gan eu bod tan hyn wedi’u pennu o dan y gyfraith achosion.    

Pa Ddyletswyddau Cyfarwyddwyr sydd wedi’u gweithredu?
Cafodd Pennod 2 o Ran 10 o Ddeddf Cwmnïau 2006 ei gweithredu ar 1 Hydref 2007, ond mae hyn yn hepgor ‘Dyletswyddau gwrthdrawiad buddiannau’.

Mae canllaw pellach i ddyletswyddau cyfarwyddwyr i’w gael ar wefan BERR.

Dyma ddiwedd podllediad Tŷ’r Cwmnïau.

Diolch am wrando.

 

 

 

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies