Deddf Cwmnïau |
||||
|
|
Croeso i’r ail bodllediad yng nghyfres Deddf Cwmnïau 2006, a fydd yn amlinellu’r broses ymgynghori â’r cwsmer sydd eisoes yn mynd rhagddi. Nid yw mwyafrif y newidiadau a’r rheoliadau sydd wedi’u hamlinellu yn Neddf 2006 i fod i gael eu gweithredu nes mis Hydref 2008. Yn y cyfamser, mae Tŷ’r Cwmnïau yn awyddus i gydgysylltu’n agos â’i gwsmeriaid wrth gyflwyno prosesau newydd, drwy gyfrwng dwy ddogfen ymgynghori, a gafodd eu cyhoeddi gan Dŷ’r Cwmnïau a’u rhoi ar gael ar y wefan hon ar y ugainfed o Orffennaf. Mae’r ddogfen gyntaf, “Gweithio gyda Thŷ’r Cwmnïau”, yn ymdrin â Rheolau’r Cofrestrydd. Mae’r rhain yn bwerau newydd a ddyfarnwyd o dan Ddeddf 2006 i alluogi’r Cofrestrydd i benderfynu prosesau a gafodd eu diffinio’n flaenorol gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae’r ddogfen yn gofyn i gwsmeriaid nifer o gwestiynau sylfaenol am eu hymwneud beunyddiol â Thŷ’r Cwmnïau, gan gynnwys:
Caiff ymatebion cwsmeriaid eu hystyried wrth lunio fframwaith Rheolau’r Cofrestrydd, ac o’u diffinio, bydd y rheolau newydd yn hygyrch i bob defnyddiwr. Mae’r ail ddogfen yn ymgynghori ynghylch y cosbau sifil a godir yng nghyswllt ffeilio cyfrifon yn hwyr. Cyflwynwyd y drefn Cosbau Ffeilio Hwyr ym 1992, fel ffordd o gynyddu nifer y cwmnïau sy’n ffeilio cyfrifon o fewn yr amserlen ofynnol. Mae’r ddogfen ymgynghori yn cynnig cyflwyno trefn newydd i roi anogaeth bellach i gwmnïau ffeilio cyfrifon yn brydlon. Mae hyn yn cynnwys:
Os teimlwch y gallwch wneud cyfraniad at y naill ymgynghoriad neu’r llall, fe’ch anogwn i leisio barn. Mae’r ddwy ddogfen ymgynghori ar gael o dan yr adran gyhoeddiadau o fewn tudalennau Deddf Cwmnïau’r wefan hon Bydd y broses ymgynghori ar gyfer pob un yn dod i ben ar y deuddegfed o Hydref 2007. Diolch am wrando. |
|||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|