Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Hawliau Gwybodaeth


Os dymunwch wybodaeth am gwmnïau gweler Dod o hyd i wybodaeth am gwmni

Sut alla i gyrchu gwybodaeth nad yw ar gael trwy Gynhyrchion a Gwasanaethau Tŷ’r Cwmnïau?

Mae Tŷ’r Cwmnïau yn darparu cryn dipyn o wybodaeth ar y wefan hon, a hefyd drwy’r Cynllun Cyhoeddi.

O dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae’n rhaid i bob awdurdod cyhoeddus gynhyrchu Cynllun Cyhoeddi. Dyma gofrestr yn disgrifio’r wybodaeth a gadwant ac y trefnir ar hyn o bryd iddi fod ar gael i’r cyhoedd; o ble y gellir cael yr wybodaeth; ym mha ffurf; a ph’un a ydyw ar gael yn rhad ac am ddim neu beidio, gan anelu, lle bynnag y bo modd, at gynnig ffordd rwydd o’i chyrchu.

Beth os nad yw’r wybodaeth sydd angen arna i ar gael ar y wefan neu drwy’r Cynllun Cyhoeddi?

Os na allwch weld beth a geisiwch ar ein gwefan neu yn y Cynllun Cyhoeddi, gallwch wneud cais am yr wybodaeth honno o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Os ceisiwch wybodaeth bersonol y gallwn fod yn ei chadw amdanoch, gallwch fynnu’r wybodaeth honno o dan y Ddeddf Gwarchod Data.

 phwy y dylwn gysylltu i fynnu gwybodaeth?

Cysylltwch â’r Tîm Hawliau Gwybodaeth, Tŷ’r Cwmnïau, Ffordd y Goron, Caerdydd CF14 3UZ

Ffôn: 029 2038 0616

Ffacs: 029 2038 0149

E-bost: jchainey@companieshouse.gov.uk
E-bost: charnett@companieshouse.gov.uk

A fydd Tŷ’r Cwmnïau bob amser yn rhoi imi’r wybodaeth a geisia i?

Nid hawl absoliwt mo’r hawl i sicrhau gwybodaeth: gall gwybodaeth fod wedi’i heithrio o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r Ddeddf Gwarchod Data am nifer o resymau. Am ragor o wybodaeth ynghylch eich hawliau o dan y ddeddfwriaeth hon, gweler www.dca.gov.uk/peoplesrights.htm.

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies