Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Hawliau Gwybodaeth


Rhyddid Gwybodaeth a Gwarchod Data

Mae dwy brif hawl statudol sy’n galluogi pawb i fynnu gwybodaeth gan Dŷ’r Cwmnïau

  • Deddf Rhyddid Gwybodaeth – mae’r Ddeddf hon yn rhoi hawl fynediad gyffredinol i’r cyhoedd gyrchu gwybodaeth gofnodedig sydd wedi’i chadw gan awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys gwybodaeth wedi’i chadw gan Dŷ’r Cwmnïau
  • Deddf Gwarchod Data – yn unol â’r Ddeddf hon, caiff unrhyw un sydd am sicrhau copi o unrhyw wybodaeth y gall Tŷ’r Cwmnïau fod yn ei chadw amdano neu amdani wneud cais o dan Ddeddf Gwarchod Data 1998 am fynediad i’r wybodaeth a gedwir.

Am wybodaeth bellach am y ddwy ddeddfwriaeth, defnyddiwch y ddolen gyswllt hon: www.dca.gov.uk/peoplesrights.htm

Daeth Deddf Rhyddid Gwybodaeth i rym llawn yn Ionawr 2005. Ei diben yw hybu mwy o agoredrwydd a thryloywder drwy’r sector cyhoeddus cyfan ac mae’n gymwys i bob awdurdod cyhoeddus. Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi ymrwymo i egwyddorion ‘llywodraeth agored’ yn y ffordd y gwnawn fusnes, wrth gyflwyno’n gwasanaethau ac o ran sut y gwnawn benderfyniadau. Mae Tŷ’r Cwmnïau eisoes yn trefnu i wybodaeth fod ar gael am ei wasanaethau a bydd yn parhau i wneud felly. Nid yw gwybodaeth sydd ar gael o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn effeithio ar wybodaeth sydd ar hyn o bryd ar gael drwy’n cynhyrchion o dan Ddeddf Cwmnïau 1985.

O dan Ddeddf Gwarchod Data 1998, roedd gan unigolion hawliau mynediad yn barod i wybodaeth bersonol sydd wedi’i chadw amdanynt. Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn estyn yr hawliau hyn i gwmpasu gwybodaeth arall. Mae gan unrhyw un hawl fynediad i wybodaeth gofnodedig sydd wedi’i chadw gan awdurdodau cyhoeddus, gan ddibynnu’n unig ar gyfyngiadau a gaiff eu gosod gan y Ddeddf a deddfwriaeth arall.

Mae’r cyfrifoldeb am oruchwylio gweithrediad y Deddfau hyn yn nwylo’r Comisiynydd Gwybodaeth sy’n annibynnol ar y llywodraeth ac yn atebol yn uniongyrchol i’r Senedd.

Am fanylion y ddwy Ddeddf, eu cwmpas a’ch hawliau i gael gwybodaeth, ymwelwch â gwefan y Comisiynydd Gwybodaeth.

Sut galla i fynnu gwybodaeth?
Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies