Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Cwestiynau Mynych



Cau Canolfannau Gwybodaeth Tŷ’r Cwmnïau

Pam bod Tŷ’r Cwmnïau yn cau ei Ganolfannau Gwybodaeth?
Gall cwsmeriaid ddefnyddio gwasanaethau Tŷ’r Cwmnïau’n electronig bellach, felly mae llai ohonynt yn ymweld â’n Canolfannau Gwybodaeth. Mae hyn yn golygu ei bod wedi mynd yn annarbodus parhau i ddarparu gwasanaethau drwy’r Canolfannau.

Pryd y bydd hyn yn digwydd?
Bydd y Canolfannau Gwybodaeth yn cau i gwsmeriaid ar 1 Awst 2003.

Sut y cymerodd Tŷ’r Cwmnïau y penderfyniad i gau’r Canolfannau hyn?
Argymhellodd Arolwg Pum-mlynyddol y DTI o weithgarwch Tŷ’r Cwmnïau y dylai’r swyddfa adolygu’r Canolfannau Gwybodaeth.

Ymgymerodd Tŷ’r Cwmnïau ag arolwg trwyadl o faint o ddefnydd yr oedd cwsmeriaid yn ei wneud o’r Canolfannau ym Medi 2002. Daeth yr arolwg hwn i’r casgliad nad oedd lefel y defnyddio ar y Canolfannau Gwybodaeth yn cyfiawnhau eu cadw ar agor.

A fydd swyddfeydd Tŷ’r Cwmnïau yng Nghaerdydd, Llundain a Chaeredin yn aros ar agor?

Byddant. Nid oedd y swyddfeydd hyn yn rhan o’r arolwg.

Faint o gwsmeriaid sy’n defnyddio’r Canolfannau?
Dim ond tua 3% o’r dogfennau a dderbynnir gan Dŷ’r Cwmnïau sy’n cael eu cyflwyno drwy’r Canolfannau Gwybodaeth. Yn 2002 dim ond 3,323 o ddogfennau, ar gyfartaledd, a dderbyniodd y Canolfannau bob wythnos, o gymharu â 25,000 y dydd yn cael eu derbyn ym mhrif swyddfa Tŷ’r Cwmnïau yng Nghaerdydd.

Cafodd 101 o gwmnïau eu corffori bob mis drwy’r Canolfannau Gwybodaeth yn 2001/02 ar gyfartaledd, o gymharu â chyfartaledd misol o 19,000 o gwmnïau’n cael eu corffori i gyd.

Faint o gwsmeriaid sy’n defnyddio gwasanaethau eraill?
Caiff 97% o ddogfennau eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau yng Nghaerdydd, heb ddefnyddio’r Canolfannau Gwybodaeth, drwy’r post, drwy negeswyr, drwy’r drefn Cyfnewid Dogfennau (DX) neu yn bersonol.

Erbyn hyn, caiff 90% o chwiliadau cwmni eu ceisio a’u gwireddu drwy’r dull electronig, a chaiff mwy na 50% o gwmnïau newydd eu corffori’n electronig.

Bydd gwefan Tŷ’r Cwmnïau yn cofrestru mwy nag 11 miliwn o argraffiadau tudalen bob mis.

Beth am gwsmeriaid sy’n cyflwyno dogfennau i Ganolfannau Gwybodaeth?
Gellir cyflwyno dogfennau i’n swyddfeydd eraill yng Nghaerdydd, Llundain a Chaeredin:
  • yn bersonol
  • drwy’r post
  • drwy’r drefn Cyfnewid Dogfennau (DX)
  • drwy negesydd
Gellir cyflwyno Ffurflenni 287, 288a, 288b a 288c yn electronig.
Ceir cynlluniau i ehangu nifer y ffurflenni a dderbyniwn yn electronig, yn unol ag Agenda Moderneiddio’r Llywodraeth.

Beth fydd yn digwydd i gorfforiadau yr un diwrnod?
Bydd y rhain ar gael i’n holl gwsmeriaid drwy’n swyddfeydd yng Nghaerdydd, Llundain a Chaeredin.

Sut y bydd Tŷ’r Cwmnïau yn cynnal lefelau ei wasanaeth?
Mae gan Dŷ’r Cwmnïau bellach 12 o grŵpiau ffocws rhanbarthol, sy’n sicrhau bod gan gwsmeriaid lais yn natblygiad ein gwasanaethau. Trefnwn hefyd arolwg rheolaidd o foddhad ein cwsmeriaid, sy’n rhoi i ystod eang o gwsmeriaid gyfle i wneud sylwadau am wireddiad ein holl wasanaethau. Gwelir manylion ar y wefan hon; neu fe allwch ffonio’n canolfan cysylltu ar 0870 33 33 636.

Ble galla i gael manylion y gwasanaethau a gynigir gan Dŷ’r Cwmnïau yn hytrach na’r Canolfannau Gwybodaeth?
Gwelir manylion holl wasanaethau Tŷ’r Cwmnïau ar y wefan hon; neu fe allwch ffonio’n canolfan cysylltu ar 0870 33 33 636.

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies