Cwestiynau Mynych |
||||
|
|
Gweinyddu Cwmnïau, Gwrthwynebiadau A Chyfarwyddiadau Sut rhodda i wybod am anufuddhau i'r Ddeddf Cwmnïau? Darparwch fanylion llawn yn ysgrifenedig, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth, megis copi o'r pennawd llythyr yn achos torcyfraith yn ymwneud â deunydd ysgrifennu, neu ohebiaeth berthnasol gan y cwmni, i gael eu hystyried. All Tŷ'r Cwmnïau ganiatáu estyniad ar gyfer ffeilio cyfrifon? Gallwn ystyried estyn yr amser ffeilio o dan amgylchiadau eithriadol ond byddai arnon ni angen cais ysgrifenedig (llythyr neu ffacs - Rhif ffacs: 029 2038 0652) yn egluro'r rhesymau dros yr oedi a phryd y disgwylir y bydd modd ffeilio. Rhaid i'r cais am estyniad ddod i law erbyn y terfyn amser ar gyfer ffeilio neu ni ellir ei ystyried. Ni allwn drafod dros y ffôn a fydd y rhesymau a roir yn ddigon i gyfiawnhau estyniad. Pa fanylion sydd eisiau ar bennawd llythyr y cwmni? Rhaid i enw llawn y cwmni, ei rif cofrestru, cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig a lleoliad ei gofrestru (e.e. wedi ei gofrestru yng Nghymru a Lloegr) gael eu dangos ar bob llythyr busnes a ffurflen archebu. Rydw i wedi cofrestru Cwmni Cyfyngedig - alla i wrthwynebu bod rhywun yn masnachu o dan fy enw? Y Llysoedd ddylai ddelio ag unrhyw anghydfod sy'n codi rhwng Cwmni Cyfyngedig ac unig fasnachydd, neu sy'n ymwneud â phartneriaeth neu enw masnachu - awgrymwn eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol. Sut gwrthwyneba i gofrestru enw cwmni sy'n debyg iawn i enw fy nghwmni i? O dan adran 28(2), drwy lythyr syml yn cyflwyno'ch achos - does dim eisiau ffurflenni, ond ni allwn dderbyn gwrthwynebiad o'r fath ond am gyfnod o ddeuddeg mis ar ôl corffori'r enw a wrthwynebir. Alla i gofrestru fy musnes? Na allwch. Gan i Ddeddf Enwau Busnes 1916 gael ei ddirymu ar 26 Chwefror 1982, does dim angen na modd cofrestru enw busnes mwyach, ac fe ddifodwyd pob ffeil a chofnod sy'n ymwneud â chofrestriadau blaenorol o dan y ddeddfwriaeth honno. All Tŷ'r Cwmnïau ddarparu sêl gwmni? Ni ddarparwn seliau cwmni ond gellir eu sicrhau gan ddogfenwyr cyfreithiol neu asiantiaid ffurfio cwmnïau y gwelir eu cyfeiriadau yn y Tudalennau Melyn. |
|||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|