Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Cwestiynau Mynych



Arwystlon a Morgeisiau Cwmni

GBA8CYM - Arwystlon a Morgeisiau Cwmni Faint mae'n ei gostio i gofrestru morgais/arwystl yn Nhŷ’r Cwmnïau?
  • Mae’n rhaid anfon ffi o £10, wedi ei gwneud yn daladwy i “Thy’r Cwmnïau”, gyda phob ffurflen morgais/arwystl cwmni a Gweithred a gyflwynir (Ffurflenni 395, 397 a 400)
  • Codir ffi o £10 hefyd am bob ffurflen arwystl a Gweithred a gyflwynir mewn cysylltiad ag arwystl Slavenburg (cwmni tramor heb leoliad busnes yng Nghymru a Lloegr)
  • Gyda golwg ar ffurflenni PAC (Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig), y ffi a godir am y math hwn o gofrestriad yw £20.
Alla i agor cyfrif gyda Thy’r Cwmnïau yn hytrach nag anfon siec am bob cyflwyniad?
Gallwch, os ydych yn gyflwynydd rheolaidd. Am wybodaeth bellach ac i sefydlu cyfrif, cysylltwch â Richard Evans - Ffôn: 029 2038 0918 neu E-bost: revans@companieshouse.gov.uk

Pa ddogfennau y mae’n rhaid eu cyflwyno i gofrestru morgais/arwystl?
Mae rhifau’r ffurflenni yn cyfateb i adrannau perthnasol Deddf Cwmnïau 1985 ac fe’u rhestrir yn y tabl isod:

Rhif Ffurflen Disgrifiad/Diben
395 /LLP395 Manylion morgais neu arwystl
397 /LLP397 Manylion ar gyfer cofrestru arwystl i warantu cyfres o ddyledebau
397a /LLP397a Manylion am ddosbarthu dyledebau gwarantedig mewn cyfres
398 /LLP398 Cadarnhau cofrestru yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon arwystl cysylltiedig ag eiddo yno
400 /LLP400 Manylion morgais neu arwystl y meddiannwyd eiddo o dano
  • Mae'n rhaid cyflwyno gyda'r ffurflen yr offeryn gwreiddiol a greodd neu a dystiolaethai i'r arwystl.
  • Ond yn achos Ffurflenni 398 a 400 gall fod yn gopi wedi ei gadarnhau.
Pa ddogfennau y mae’n rhaid eu cyflwyno i roi gwybod am fodloni morgais/arwystl?
  • Ffurflen M403a - Bodloni’r ddyled yn llawn neu’n rhannol, neu
  • Ffurflen M403b - Eiddo’n peidio â pherthyn i’r arwystl neu wedi ei ryddhau rhagddo, neu’r ddau mewn rhai enghreifftiau.
Pa mor hir sydd eisiau i gofrestru’r ddogfen forgais wreiddiol a’r dystysgrif gofrestru?
Fel arfer, mae eisiau 5 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad derbyn i ddogfennau morgais ymddangos ar y ffeil gyhoeddus.

Pwy sydd i lofnodi Ffurflen M395?
Un o swyddogion y cwmni, y pridiannai (benthyciwr) neu gyfreithiwr yn gweithredu ar ran un neu’r ddau ohonynt.

Pwy sydd i lofnodi Ffurflen M403a / M403b?
Rhaid i un o swyddogion y cwmni neu weinyddydd ddatgan y ffurflen drwy ei llofnodi, ac yna mae’n rhaid ei thyngu gerbron Comisiynydd Llwon ac ati (gweler y ffurflen ei hun am fanylion).

Pwy all lofnodi Ffurflen M400?

Rhaid i’r ffurflen gael ei llofnodi gan un o’r canlynol:
  • Swyddog i'r cwmni - cyfarwyddwr neu ysgrifennydd
  • Cyfreithiwr yn gweithredu ar ran y cwmni.
YDŷ’r cyfyngiad amser o 21 diwrnod ar gyfer cofrestru yn cynnwys y penwythnos a gwyliau banc?
Ydy.

Ydy Deddf Cwmnïau 1989 mewn grym gyda golwg ar ddogfennau morgais?
Nac ydy, ni chyflwynir yr adran hon o’r Ddeddf.

Os modd diwygio cofnod arwystl ar y gofrestr pan fydd y pridiannai yn newid?
Nac oes, nid yw Deddf Cwmnïau 1985 yn darparu ar gyfer trosglwyddo arwystlon.

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies