Cwestiynau Mynych |
||||
|
|
Ymholiadau Ynghylch Cydymffurfiad Cwmnïau Beth mae'n rhaid i gwmni ei anfon i Dŷ'r Cwmnïau bob blwyddyn? Rhaid i bob cwmni cyfyngedig anfon set o gyfrifon a ffurflen flynyddol (ffurflen 363a neu 363s). Dydy fy nghwmni ddim yn masnachu. Oes rhaid imi anfon cyfrifon a ffurflen flynyddol yr un fath? Oes. Hyd yn oed os nad yw'ch cwmni wedi masnachu eto, neu os nad yw'n masnachu ar hyn o bryd, mae'n rhaid ichi gyflwyno cyfrifon a ffurflen bob blwyddyn o hyd. Dydw i ddim yn siwr pa fath o gyfrifon y mae eisiau i'm cwmni eu paratoi. Oes gwybodaeth ar gael? Oes. Mae'r Llyfrynnau Canllaw uchod yn dweud wrthych am gyfrifon, gan gynnwys rhai ar gyfer cwmnïau segur a rhai sydd â throsiant busnes bach. Neu gallwch ein ffonio ar 0870 33 33 636. Beth fydd yn digwydd os na chyflwynir cyfrifon a ffurflenni blynyddol fy nghwmni mewn pryd? Mae methiant i gyflwyno dogfennau prydlon yn dramgwydd troseddol: bydd cyfarwyddwyr yn wynebu record droseddu, dirwy a gwaharddiad. Hefyd, bydd y cwmni yn tynnu cosb ariannol awtomatig hyd at £1,000 yn achos cwmnïau preifat, neu £5,000 yn achos cwmnïau cyhoeddus, os cyflwynir unrhyw gyfrifon yn hwyr. At hynny, gellid dileu enw'ch cwmni o'r gofrestr os na ddiwedderir y cofnod. Cofiwch fod cofnodion cwmni bellach yn tynnu sylw at absenoldeb cyfrifon a ffurflenni blynyddol, a bod yr wybodaeth hon ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd. A fydd Tŷ'r Cwmnïau'n dweud wrtho i pan fydd dogfennau'n ddyledus? Bydd Tŷ'r Cwmnïau'n anfon dros 1.5 miliwn o lythyrau bob blwyddyn at gwmnïau a'u swyddogion i'w hatgoffa bod eu dyddiadau cyflwyno gerllaw, neu i'w rhybuddio bod terfynau amser wedi mynd heibio. Annoeth, fodd bynnag, yw dibynnu'n llwyr ar y rhain - cyfrifoldeb y cyfarwyddwyr yw sicrhau bod dogfennau'n cael eu cyflwyno'n brydlon. Nodyn: At swyddfa gofrestredig y cwmni yr anfonir mwyafrif llythyrau Tŷ'r Cwmnïau, felly mae'n bwysig rhoi manylion diweddaraf y cyfeiriad hwn o hyd. Os byddwch yn newid cyfeiriad eich swyddfa gofrestredig, anfonwch y manylion newydd at Dŷ'r Cwmnïau ar Ffurflen 287 yn ddi-oed. |
|||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|