Cofrestru Cwmni Newydd
Pam bod rhaid imi ffeilio Ffurflen 12?
Mae Ffurflen 12 yn ddatganiad statudol bod yr wybodaeth sydd wedi ei ffeilio fel rhan o gais corffori neu fel ateg iddo, yn gywir. Mae'r datganiad yn ei gwneud yn bosibl erlyn, o dan y Ddeddf Anudon, unrhyw un sy'n gwneud datganiadau anwir, ac felly mae'n lleihau'r tebygolrwydd bod ymgeiswyr yn osgoi gofynion datgelu'r Ddeddf Cwmnïau.
Os bydda i'n cywiro neu'n diwygio gwybodaeth ar Ffurflen 10 neu femorandwm cymdeithasiad, pam bod rhaid imi aildyngu fy Ffurflen 12?
Mae Ffurflen 12 yn ddatganiad statudol bod yr wybodaeth sydd wedi ei ffeilio fel rhan o gais corffori neu fel ateg iddo, yn gywir. Mae'n rhaid i unrhyw wybodaeth newydd a ychwanegir at y cais gael ei chyflwyno ochr yn ochr â datganiad arall yn dweud bod yr wybodaeth newydd honno yn gywir.
Pam bod rhaid i'r cyfarwyddwr a'r ysgrifennydd lofnodi Ffurflen 10?
I ddangos ei fod/bod yn cydsynio i weithredu yn y rhinwedd honno, ac i dderbyn y dyletswyddau a'r cyfrifoldebau sy'n perthyn i'r swydd.
Pam bod rhaid i'r tanysgrifwyr neu'r asiantiaid lofnodi'r ffurflen pan fyddant ran amlaf eisoes wedi llofnodi'r memorandwm a'r erthyglau cymdeithasiad?
Maen nhw'n llofnodi i ddangos eu bod, fel perchnogion neu gynrychiolwyr y perchnogion, yn cydsynio i'r unigolion a nodir fel cyfarwyddwyr neu ysgrifenyddion weithredu dros y cwmni yn y rhinwedd honno.
Oes oedran isaf i unigolyn gael gweithredu'n gyfarwyddwr cwmni?
Nid yw'r Ddeddf Cwmnïau'n gosod unrhyw gyfyngiad o ran oedran isaf i gyfarwyddwyr cwmni. Ond bydd Tŷ'r Cwmnïau'n cymryd camau gweithredol i anghymell penodi unrhyw un o dan 16 oed i wneud gwaith cyfarwyddwr cwmni ar y sail ei bod yn bosibl na fydd yr unigolyn dan sylw yn llwyr ddeall y cyfrifoldebau cyfreithiol sy'n perthyn i'r safle ac na fydd ganddo/i, ran amlaf, y profiad sydd angen i gyflawni dyletswyddau cyfarwyddwr cwmni. Bydd eithriadau i'r rheol gyffredinol hon ac mae personél Tŷ'r Cwmnïau yn agored i'w darbwyllo. Pe bai ymgeisydd yn mynnu byddai'n rhaid inni dderbyn penodiad o dan oed, ond dylai ymgeiswyr gadw mewn cof yr effaith y gallai penodiad o'r fath ei chael ar hygrededd eu cwmni ymhlith unigolion sy'n archwilio cofnod cyhoeddus y cwmni.
A ganiateir i swyddogion cwmni roi cyfeiriad corfforaethol neu rif Blwch Post fel cyfeiriad?
Na chaniateir - mae'r Ddeddf Cwmnïau'n gwbl bendant yma. Mae'n rhaid i swyddogion cwmni roi eu cyfeiriad cartref preifat. Caiff Corff Corfforaethol sy'n sefyll fel Ysgrifennydd neu Gyfarwyddwr roi cyfeiriad Blwch Post ar yr amod y gallai'r Post Brenhinol ei gadarnhau.
Oes modd defnyddio Blwch Post fel cyfeiriad Swyddfa Gofrestredig?
Oes, ar yr amod y rhoir y cyfeiriad llawn, gan gynnwys y côd post, a'i fod yn cael ei gadarnhau gan y Post Brenhinol.
Oes rheidrwydd i danysgrifwyr neu swyddogion cwmnïau cyfyngedig Prydeinig fod yn drigiannol yn y DU?
Nac oes - caiff tanysgrifwyr neu swyddogion fod yn drigiannol y tu allan i'r DU.
Beth yw amcanion cwmni?
Yr amcanion yw yr hyn a wna'r cwmni. Un enghraifft yw 'Cwmni Masnachu Cyffredinol'.
Ble galla i brynu Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasiad?
Gellir prynu Memoranda ac Erthyglau Cymdeithasiad gan Ddogfenwyr Cyfreithiol neu Asiantiaid Ffurfio Cwmnïau. Eu cost yw tua £20-30. Edrychwch yn y llyfr ffôn am eich stocwyr lleol.
A fydd tystysgrifau a roir gan y Cofrestrydd Cwmnïau yn cael eu derbyn at ddibenion rhoi tystysgrifau cyfreithloni?
Cyfreithloni tystysgrifau wedi eu rhoi gan y Cofrestrydd Cwmnïau
Caiff tystysgrifau a roir gan Dŷ’r Cwmnïau eu stampio neu eu llofnodi’n electronig ond ni dderbynnir mohonynt gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad at ddibenion rhoi tystysgrifau cyfreithloni.
Mae’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn mynnu bod dogfennau’n cynnwys y llofnod gwreiddiol neu sêl swyddog cyhoeddus Prydeinig.
I sicrhau tystysgrif wedi ei llofnodi’n bersonol gan swyddog yn Nhŷ’r Cwmnïau, mae angen i gwsmeriaid ofyn am ‘dystysgrif ardystiedig’.
‘Gellir archebu ‘tystysgrifau ardystiedig’ drwy:
Ffioedd tystysgrifau ardystiedig
Gwasanaeth 4 diwrnod gwaith £15.00
Gwasanaeth 24 awr (o archebu cyn 2pm) £50.00
Ffi ychwanegol am gopi ffacs o ddogfen o dan y gwasanaeth 24 awr £3.00
Am wybodaeth bellach ynghylch cyfreithloni dogfennau, ymwelwch ag http://www.fco.gov.uk (Cliciwch ar 'Legalisation' yn y ddewislen i'r chwith). |