Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Cwestiynau Mynych

 

Rhaid gwneud pob ffi’n daladwy i ‘Tŷ’r Cwmnïau.

Cyflwyno Dogfennau i Dŷ’r Cwmnïau

Mae’n rhaid i gwmnïau sicrhau bod eu cyfrifon yn cael eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau erbyn y terfyn amser ar gyfer ffeilio. Os caiff cyfrifon eu ffeilio’n hwyr, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn codi cosb ffeilio hwyr.
Byddwn yn gosod cosb:

  • Lle caiff cyfrifon eu ffeilio’n hwyr.
  • Lle caiff cyfrifon eu hanfon cyn y terfyn amser ar gyfer ffeilio ond eu bod yn methu cyrraedd Tŷ’r Cwmnïau erbyn y terfyn amser.

Ni all y Cofrestrydd Cwmnïau dderbyn oedi wrth gludo fel rheswm dros anwybyddu cosb.
Rydym am wneud yn siŵr bod cwsmeriaid yn ymwybodol o’u cyfrifoldeb am ffeilio’n brydlon a bod ganddynt yr wybodaeth sydd eisiau i wneud felly. Dylai unrhyw un sy’n ffeilio dogfennau yn Nhŷ’r Cwmnïau:

Sicrhau eu bod yn deall eu cyfrifoldebau cyfreithiol.
Cadwch mewn cof y gall gwasanaethau’r post a gwasanaethau cludo eraill fod yn agored i ddioddef colli neu oedi. Mae ffigurau cyhoeddedig y Post Brenhinol eu hun ar y cyflawniad dosbarthu (Ebrill - Rhagfyr 2004) yn dangos ei bod yn bosib na fydd cymaint â 9% o bost y dosbarth cyntaf yn cyrraedd pen y daith erbyn y diwrnod gwaith nesaf ar ôl y postio.

Cadwch mewn cof, yn arbennig, unrhyw anghydfod diwydiannol neu ffactorau eraill a all ei gwneud yn anodd i gludydd fodloni’r safonau dosbarthu a hysbysebir ganddynt..

Dewiswch wasanaeth dosbarthu dibynadwy, gan fanteisio ar y drefn dosbarthiad gwarantedig lle bo amser yn ffactor o bwys.

Gofynnwch inni gydnabod derbyn dogfennau, gan ddarparu amlen gyfeiriedig wedi’i stampio’n barod a chopi eich llythyr eglurhaol.

Gwiriwch eich cofnod cwmni eich hun yn rheolaidd i wneud yn siŵr bod y manylion sydd wedi’u cadw yn Nhŷ’r Cwmnïau yn adlewyrchu’r sefyllfa ddiweddaraf.

Anfonwch ddogfennau cwmnïau Cymreig a Seisnig at y Cofrestrydd yng Nghaerdydd, a dogfennau cwmnïau Albanaidd at y Cofrestrydd yng Nghaeredin.

Y tu allan i oriau gwaith, gofynnir i gwsmeriaid sy’n cyflwyno dogfennau i Dŷ’r Cwmnïau yn Llundain a Chaeredin eu rhoi drwy’r blwch llythyrau. Yr unig swyddfa lle ceir staff fin nos a thros y penwythnos yw un Caerdydd

Gall cwsmeriaid sy’n cyflwyno dogfennau i Dŷ’r Cwmnïau, Caerdydd, eu trosglwyddo fel mater o ffaith y tu allan i oriau swyddfa a dal i ddisgwyl derbynneb.

Mae cyfarwyddyd ynghylch cyfrifoldebau cyfreithiol cyfarwyddwyr cwmni, a’r dyddiadau dyledus ar gyfer ffeilio cyfrifon a chyflwyno dogfennau i’r Cofrestrydd Cwmnïau, i’w gael o dan 'Llyfrynnau Canllaw'.

Neu ffoniwch Ganolfan Cysylltu Tŷ’r Cwmnïau ar: 0870 33 33 636.

Mae gan Dŷ’r Cwmnïau swyddfeydd yn:

Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ

37 Castle Terrace
Edinburgh
EH1 2EB

21 Bloomsbury Street
Llundain
WC1B 3XD

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies