Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Cwestiynau Mynych

  Cofrestr Y Cyfarwyddwyr A Waharddwyd

Pam bod Tŷ'r Cwmnïau yn cadw Cofrestr o Gyfarwyddwyr a Waharddwyd?
Mae'n rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud hynny o dan adran 18 o Ddeddf Gwahardd Cyfarwyddwyr Cwmni 1986. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi dirprwyo'r cyfrifoldeb hwn i'r Cofrestrydd Cwmnïau.

Alla i gael copi o orchymyn gwahardd gan Dŷ'r Cwmnïau?
Na allwch. Nid yw'r llysoedd yn anfon copïau o orchmynion gwahardd at Dŷ'r Cwmnïau. Bydd swyddogion y llysoedd yn crynhoi gwybodaeth y gorchmynion er mwyn cwblhau ffurflenni penodedig a ddefnyddir wedyn i roi gwybod i Dŷ'r Cwmnïau am waharddiad rhywun.

Rydw i wedi edrych ar y Gofrestr o Gyfarwyddwyr a Waharddwyd a does dim sôn am y person y mae gen i ddiddordeb ynddo/i - beth mae hyn yn ei olygu?

Un o'r tri pheth canlynol:
  • nid yw'r person wedi ei (g)wahardd ac ni chafodd erioed mo'i (g)wahardd;
  • cafodd y person ei (g)wahardd yn y gorffennol ond ers hynny mae'r gorchymyn gwahardd wedi mynd yn ddirym (ni chedwir cofrestr o orchmynion gwahardd a aeth yn ddirym);
  • mae'r person wedi ei (g)wahardd ond ni roes y llysoedd wybod inni'n swyddogol eto.

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies