Cwestiynau Mynych |
||||
| Gwasanaeth Software Filing Beth yw’r gwasanaeth Software Filing? Gwasanaeth tanysgrifio sy’n ei gwneud yn bosibl i wybodaeth ar gyfer dogfennau arbennig gael ei ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau fel data wedi eu fformadu yn hytrach nag ar bapur. Caiff pob dogfen a gyflwynir yn y ffordd hon ei chydnabod fel un wedi ei derbyn neu ei gwrthod. Sut mae’r gwasanaeth yn gweithio? Caiff data’r dogfennau eu gyrru i Dŷ’r Cwmnïau ar ddiwyg wedi ei ddiffinio gan Dŷ’r Cwmnïau fel neges e-bost at gyfeiriad e-bost penodedig. Ydy Tŷ’r Cwmnïau yn darparu meddalwedd ar gyfer hyn? Nid yw Tŷ’r Cwmnïau yn darparu unrhyw feddalwedd; y cyfan a wnaiff yw pennu’r fformat ar gyfer anfon y data. Y dewisiadau o ran darparu data yn y fformat hwn yw naill ai prynu meddalwedd wedi ei chymeradwyo oddi wrth ddarparydd meddalwedd neu drefnu i newid/ddatblygu meddalwedd fewnol. Pa ddarparwyr meddalwedd all gyflenwi neu ddarparu gwasanaeth? Gwelir manylion ar dudalen Ffeilio Electronig y wefan hon. Beth sydd angen imi ei wneud i ddatblygu meddalwedd fewnol? ŷ’r Cwmnïau yn y fformat sydd eisiau. Gellir cael manyleb sy’n dangos y fformat ac yn nodi’r cyfeiriadau e-bost a’r trefniadau profi sydd i’w defnyddio naill ai yma, drwy ffonio 0870 33 33 636 neu drwy e-bostio efiling@companieshouse.gov.uk – gofynnwch am Fanyleb Rhyngwyneb Technegol ar gyfer Software Filing. A godir tâl am ddefnyddio’r gwasanaeth? Does dim tâl tanysgrifio am ddefnyddio’r gwasanaeth. Yr unig gostau yw eich costau cyfathrebu am e-bostio’r data at Dŷ’r Cwmnïau ac unrhyw ffioedd statudol a fyddai fel arfer yn gymwys am ffeilio dogfen. Ar hyn o bryd, yr unig ffi o’r fath mewn cysylltiad â’r gwasanaeth yw’r ffi o £15 am ffeilio’r Ffurflen Flynyddol (363a) a £20 am gorffori. Sut y telir y ffioedd? Defnyddir ffurflen gais am gyfrif credyd i ymuno â’r gwasanaeth. Agorir cyfrif sydd â therfyn credyd a chaiff cyflwynwyr eu hanfonebu bob mis am unrhyw gostau a dynnwyd dros y mis blaenorol. Beth yw’r gofynion i gael manteisio ar y gwasanaeth? Sut y galla i gael ffurflen gais ar gyfer y gwasanaeth? Os ydych yn bwriadu prynu meddalwedd, mae’n debyg y bydd stoc o ffurflenni gan eich darparydd meddalwedd. Fel arall, gallwch ddadlwytho copi o’r ffurflen ar y tudalen Software Filing neu fe ellir anfon un drwy’r post fel rhan o becyn cyflwyno’r drefn Software Filing. Beth yw oriau gweithredu’r gwasanaeth? Gallwch fel arfer gyflwyno negesau 24 awr y dydd, er y gall fod adegau pan gaiff y gwasanaeth ei dynnu’n ôl dros dro at ddibenion gweithgareddau hwsmona a chynnal a chadw. At ddibenion statudol, ystyrir mai’r dyddiad derbyn yw’r dyddiad y bydd y ddogfen yn cyrraedd blwch post y wefan. Nodyn: Fodd bynnag, ni fydd dogfennau a dderbynnir yn electronig y tu allan i oriau 0730 i 1830 Llun i Wener yn cael eu prosesu gan Dŷ’r Cwmnïau tan y diwrnod gwaith nesaf. Sut y dylwn i ddosbarthu codau dilysu ymhlith y cwmnïau yr ydw i am ffeilio ar eu cyfer? Ymhob achos, dylech gyflenwi rhif y cwmni a’r cod dilysu chwe-arwyddnod yr hoffech ei ddefnyddio ar ei gyfer. Os oes gennych chi nifer fawr o godau i’w cofrestru, dylech eu cyflwyno ar ddisg lipa gyda llythyr esboniadol. Os yw’r nifer yn llai, bydd llythyr ar bapur pennawd y cwmni yn ddigon. Mae manylion pellach am y gofynion ar gyfer cyflwyno codau i’w gweld ym mhecyn cyflwyno’r drefn Software Filing ac yn www.companieshouse.gov.uk/efiling. Dyma’r unig ran o’r broses lle defnyddir papur, ond mae’n un o ofynion y gyfraith y dylai’r codau gael eu pennu drwy gyfathrebu ysgrifenedig rhwng y cwmni a Thŷ'r Cwmnïau. |
||||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|