Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Cwestiynau Mynych

  Cwestiynau Mynych ynglyn ag Ymddatod ac Ansolfedd

Sut y galla i ddod i wybod am ddiddymu fy nghwmni (neu unrhyw weithrediadau ansolfedd eraill)?
Mae llyfryn canllaw Ty’r Cwmnïau ‘Ymddatod ac Ansolfedd’ yn ymdrin â diddymu, mynd i ddwylo derbynnydd, gweinyddiad a threfniadau corfforaethol gwirfoddol, yn ogystal â rhoi gwybodaeth gyffredinol am ansolfedd.

Argymhellwn geisio cyngor proffesiynol, e.e. gan gyfreithiwr neu ymarferydd ansolfedd, cyn bwrw ymlaen ag unrhyw rai o’r gweithrediadau hyn.
[Noder bod materion sy’n ymwneud â dileu enw cwmni o’r Gofrestr yn cael eu trafod ar wahân yn y llyfryn canllaw 'Dileu o’r Gofrestr, Diddymu ac Adfer’.]

Ble galla i gael y ffurflenni perthnasol i’w ffeilio gyda’r Cofrestrydd?
Mae Ffurflen 405(1) a 405(2) Hysbysiad am benodi neu derfynu penodiad derbynnydd, a Ffurflen 600, Hysbysiad am benodi diddymydd i ddiddymu’n wirfoddol, ar gael yn rhad ac am ddim gan Dŷ’r Cwmnïau. Mae rhai ffurflenni ansolfedd ar gael ar Wefan y Gwasanaeth Ansolfedd. Gellir prynu pob ffurflen ansolfedd arall gan ddogfenwyr cyfreithiol.

Oes cymwysterau o unrhyw fath gan y bobl sy’n gyfrifol am y gweithrediadau hyn?
Ers gweithredu’r Ddeddf Ansolfedd ar 29 Rhagfyr 1986, mae’n rhaid i unrhyw un sy’n ymgymryd â dyletswyddau diddymydd, derbynnydd gweinyddu, gweinyddydd neu oruchwylydd trefniadau corfforaethol gwirfoddol fod â chymwysterau fel ymarferydd ansolfedd. Does dim angen cymwysterau felly ar rai sy’n dal swydd rheolwr derbyn neu dderbynnydd o dan y Ddeddf Eiddo, nac ychwaith ar neb oedd eisoes yn ei swydd cyn gweithredu’r Ddeddf.

Sut y dylwn i gwyno am ymddygiad un o’r ymarferwyr cymwys hyn?
Dylai cwynion gael eu cyfeirio, yn ysgrifenedig, gydag unrhyw dystiolaeth ategol, at:

Insolvency Practitioner Policy Section
Area 1.10
PO Box 20321
Bloomsbury Street
Llundain
WC1B 3QW

Byddant yn trosglwyddo’r mater i’r corff awdurdodi priodol iddynt hwythau gymryd camau. Fel arall, gallwch gysylltu’n uniongyrchol â’r corff awdurdodi priodol.

Rwy’n deall bod cwmni’n cael ei ddatod dri mis ar ôl dod i ben â’r diddymu. Mae arna i angen i’r cwmni aros ar y Gofrestr fyw am dro. Os ysgrifenna i atoch, a wnewch chi ohirio dyddiad gweithredu’r datod?

Ni all y Cofrestrydd ohirio’r datod a ddaw yn sgil diddymiad yn weinyddol. Os diddymwyd yn wirfoddol, gellir gwneud cais i’r llys am ohirio’r datod. Os diddymwyd yn orfodol, byddai angen gwneud cais i’r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyfeiriad canlynol:

The Insolvency Service
5th Floor
Ladywood House
45-46 Stephenson House
Birmingham
B2 4UZ

[Nodyn: Yn y naill achos neu’r llall, mae’n rhaid ffeilio’r cyfarwyddyd gohirio gyda’r Cofrestrydd ar ôl cofrestru’r ddogfennaeth gwblhau o dan y diddymiad a chyn dyddiad y datod. Unwaith bod y datod wedi digwydd, yr unig beth y gellir ei wneud wedyn yw gwneud cais i’r llys am i’r datodiad gael ei ddatgan yn ddirym.]

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng diddymu’n wirfoddol a diddymu’n orfodol?
Trefnir diddymiad gwirfoddol, naill ai gan yr aelodau neu gan y credydwyr, drwy benderfyniad ar ran y cwmni a chaiff ei gynnal gan ymarferydd cymwys. Trefnir diddymiad gorfodol drwy orchymyn gan y llys a gall gael ei gynnal gan y Derbynnydd Swyddogol neu gan ymarferydd cymwys.

Mae ar gwmni arian imi. Maen nhw wedi dweud wrtho i eu bod wedi rhoi heibio i fasnachu ond nad ydynt yn ymddatod. A ga i drefnu iddynt gael eu dirwyn i ben?
Mae’n bosib i gredydydd wneud cais i’r llys am i gwmni gael ei ddiddymu’n orfodol. Cyfeiriwch ar y nodiadau canllaw a cheisiwch gyngor proffesiynol.

Beth bynnag fo’r gweithrediadau, bydd y cwmni’n ansolfent ac fe gaiff ei ddileu o’r Gofrestr yn y pen draw, na chaiff?
O dan ddiddymiad gwirfoddol gan yr aelodau, bydd y cyfarwyddwyr yn tyngu datganiad, o’r enw datganiad solfedd, i ddweud y bydd modd i’r cwmni dalu ei holl ddyledion o fewn cyfnod heb fod yn hwy na deuddeg mis. Ni fyddai’r cwmni’n ‘ansolfent’. Dim ond diddymiadau gorfodol sydd â’r canlyniad bod y cwmni’n cael ei ddatod. Mae yn bosib, yn sgil cwblhau derbynyddiaeth, gweinyddiad neu drefniadau corfforaethol gwirfoddol, i gwmni aros ar y gofrestr fyw a pharhau i fasnachu.

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies