Cwestiynau Mynych |
||||
| Cwestiynau Mynych ynghylch Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig Beth yw Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC)? Mae’n gyfrwng busnes corfforaethol amgen sy’n rhoi buddion atebolrwydd cyfyngedig ond sy’n cynnig i’w aelodau hyblygrwydd trefnu eu fframwaith mewnol fel partneriaeth draddodiadol. Mae PAC yn endid cyfreithiol ar wahân ac, er mai’r PAC ei hun fydd yn atebol am amrediad cyfan ei hasedion, bydd atebolrwydd yr aelodau yn gyfyngedig. Pryd y cawsant eu cyflwyno? Daeth Deddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000 a Rheoliadau 2001 i rym ar 6 Ebrill 2001. Pa fath o gorff all fynd yn PAC? Gall unrhyw gwmni newydd neu bresennol o ddau neu ragor o bersonau gorffori fel PAC. Alla i gorffori PAC yn yr Alban yn ogystal â Chymru a Lloegr? Gallwch. Alla i drosi o fod yn gwmni cyfyngedig i fod yn PAC? Nid yw’r ddeddfwriaeth PAC yn darparu ar gyfer ‘proses drosi’ – fel y gallai cwmni cyfyngedig drosi i statws PAC o dan y Ddeddf Cwmnïau, er enghraifft. Dylai unrhyw un sydd â chwmni cyfyngedig presennol ac a fyddai’n hoffi trosglwyddo enw’r cwmni presennol i PAC newydd gysylltu ag Arweinydd y Tîm PAC. Bydd y broses yn golygu trefniadau dan reolaeth gaeth i newid enw’r cwmni a chorffori PAC. Bydd dod i gysylltiad cyn cyflwyno’r ffurflenni angenrheidiol yn sicrhau bod y broses yn mynd rhagddi mor llyfn â phosib. Beth yw’r gofynion datgelu i PAC? Maen nhw’n debyg i’r rhai ar gyfer cwmni. Mae’n ofynnol i bartneriaethau PAC ddarparu gwybodaeth ariannol yn cyfateb i’r drefn ar gyfer cwmnïau, gan gynnwys ffeilio cyfrifon blynyddol. Ymhlith pethau eraill, mae’n ofynnol hefyd iddynt:
Mae aelodau dynodedig yn gyfrifol am gyflawni dyletswyddau arbennig, gan gynnwys rhai o’r dyletswyddau y byddai cyfarwyddwr neu ysgrifennydd cwmni fel arfer yn eu cyflawni. Mae’r rhain yn cynnwys pethau fel:
Caiff PAC ei threthu fel partneriaeth. Mae fframwaith mewnol PAC yn debyg i bartneriaeth. Bydd yr aelodau’n darparu cyfalaf ar waith ac yn rhannu unrhyw elw. Bydd yr incwm a gaiff yr aelodau o’r PAC yn debycach i incwm partneriaeth na’r buddrannau a gaiff eu talu gan gwmnïau. Mae’r Ddeddf hefyd yn darparu y bydd partneriaeth sy’n troi’n PAC yn cael gostyngiad toll stamp mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo a drosglwyddir yn ystod y flwyddyn gyntaf, gan ddibynnu ar amodau. Bydd yr aelodau’n agored i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol o dan Ddosbarth 2 a Dosbarth 4. Am wybodaeth bellach ynghylch y dreth ac Yswiriant Gwladol, ymwelwch â gwefan Cyllid y Wlad: www.inlandrevenue.gov.uk A fydd statws PAC ar gael i elusennau? Na fydd. Dim ond i fusnes cyfreithlon a ddilynir er mwyn elw y mae statws PAC ar gael. Ble galla i gael cymorth a chyngor pellach? Cysylltwch â staff Ty’r Cwmnïau yn y cyfeiriadau isod. Dylech nod mai dim ond canllawiau cyffredinol y gall y staff eu rhoi. Ni allant ddyfalu ai PAC yw’r cyfrwng priodol i chi ac i’ch busnes. Dylech felly geisio cyngor cyfreithiol a phroffesiynol addas Am Ymholiadau Penodol Ynglyn  Phartneriaethau P.A.C. Yng Nghymru A Lloegr, Cysylltwch Â’r Canlynol: Y Tîm PAC Ty’r Cwmnïau Ffordd y Goron CAERDYDD CF14 3UZ Ffôn: 029 2038 0744 Am Ymholiadau Penodol Ynglyn  Phartneriaethau P.A.C. Yn Yr Alban, Cysylltwch Â’r Canlynol: Registrar for Scotland 37 Castle Terrace EDINBURGH EH1 2EB Ffôn: 0131 535 5831 Cwestiynau Mynych ynghylch Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig |
||||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|