Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Cwestiynau Mynych

Corffori Cwmni Newydd

Cwblhau'n Glir

Wrth gwblhau'n ffurflenni neu anfon unrhyw ddogfennau atom, cadwch mewn cof ein bod yn eu sganio'n electronig. Dyna pam ei bod yn well gennym ichi lenwi'r ffurflenni mewn teipysgrif du. Os nad yw hyn yn bosibl, defnyddiwch lawysgrifen mewn priflythrennau. Defnyddiwch bob amser bapur A4 yn pwyso 80-100 gms. Cynhwysir y gofynion llawn yn ein llyfryn " Canllaw i Gyfarwyddwyr ac Ysgrifenyddion ", GBA1CYM.

Enw'r cwmni * NODYN: Dim ond yn Saesneg y mae'r gwasanaeth WebCHeck ar gael

Sylwer, fodd bynnag, na allwn neilltuo enw. Ni allwn ychwaith gofrestru enw sydd yr un fath ag un sydd eisoes ar y gofrestr. Ac os cofrestrwch enw sy'n "rhy debyg" i enw cwmni sy'n bod yn barod, mae gan y cwmni presennol yr hawl i wrthwynebu a gallwn eich cyfarwyddo i newid eich enw. YDŷ'r enw'n cynnwys gair sensitif? Gweler ein llyfryn canllaw "Enwau Cwmni ", GBF2CYM.

Cyfarwyddwyr wedi eu gwahardd

A gafodd unrhyw un o'r cyfarwyddwyr/ysgrifenyddion a gynigir ei wahardd rhag gweithredu'n gyfarwyddwyr? Ymgynghorwch â'r Gofrestr Cyfarwyddwyr wedi eu Gwahardd.

*NODYN: Dim ond yn Saesneg y mae'r Gofrestr Cyfarwyddwyr wedi eu Gwahardd ar gael

Memorandwm ac Erthyglau
  • A gafodd y dogfennau hyn eu hargraffu? Gwrthodir dogfennau mewn llawysgrifen - gan y gallant fod yn anodd eu sganio i'r cofnod cyhoeddus.
  • Ydy paragraffau a thudalennau'r Memorandwm a'r Erthyglau wedi eu rhifo'n gywir?
  • Ydy enwau, cyfeiriadau a llofnodion y tanysgrifwyr, ynghyd â nifer y cyfrannau a glustnodwyd ar eu cyfer (lle bo hynny'n briodol), wedi eu cofnodi ar y Memorandwm?
  • Ydy enwau, cyfeiriadau a llofnodion y tanysgrifwyr wedi eu cofnodi ar yr Erthyglau?
  • YDŷ'r tyst wedi llofnodi a dyddio'r Memorandwm a'r Erthyglau fel ei gilydd, gan roi ei (h)enw a'i gyfeiriad/chyfeiriad?
Ffurflen 10
  • A gafodd Ffurflen 10CYM ei chwblhau'n fanwl, ei llofnodi a'i dyddio, gan gofnodi manylion y cyflwynydd?
  • Os nad oes safleoedd eraill fel cyfarwyddwr, cofnodwch 'dim un'.
  • Rhaid i'r ffurflen gael ei chwblhau gan o leiaf un ysgrifennydd ac un cyfarwyddwr, na allant fod yr un person. Yng nghyswllt pob cyfeiriad ar y ffurflen, ydych wedi rhoi'r côd post?
  • A gafodd tudalen 3 ei lofnodi a'i ddyddio gan asiant ar ran y tanysgrifwyr neu gan bawb o'r tanysgrifwyr?
Ffurflen 12CYM
  • A wnaed y dileadau angenrheidiol?
  • YDŷ'r datganydd wedi datgan yn glir ym mha rinwedd y mae'n datgan y ffurflen - p'un ai fel cyfreithiwr neu ysgrifennydd neu gyfarwyddwr?
  • A ddatganwyd y ffurflen wrth lofnodi neu ar ôl llofnodi pob dogfen arall a gyflwynir ac yng ngwydd comisiynydd llwon neu notari cyhoeddus, neu ynad heddwch neu gyfreithiwr?
Gwiriad terfynol y dogfennau

Gwiriwch y dogfennau i gyd i wneud yn siwr bod popeth yn iawn cyn eu hanfon i Dŷ'r Cwmnïau. Er enghraifft, ydy enw'r cwmni yn union yr un fath trwy'r dogfennau cyfan? Bydd yn cyflymu'ch corfforiad os cewch bethau'n iawn y tro cyntaf.

Ffi

A amgaewyd y ffi angenrheidiol o £20?

Copïau

Ydych chi wedi cymryd copïau o'r dogfennau corffori fel y cawsant eu cwblhau? Bydd y Cofrestrydd yn cadw'r dogfennau corffori gwreiddiol a gyflwynir iddo.

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies