Cwestiynau Mynych |
||||
| Dileu O'r Gofrestr, Diddymu Ac Adfer Sut gwna i gais am i gwmni gael ei ddileu o'r Gofrestr? Llenwch ac anfon atom Ffurflen 652A gyda ffi ffeilio o £10: bydd y Cofrestrydd yn darparu'r ffurflen yn unol â'ch cais. Ond dim ond i gwmni preifat y mae dileu o'r Gofrestr yn gymwys, lle nad yw, yn ystod y tri mis diwethaf:
Sut gwna i gais am adfer cwmni i'r Gofrestr? Dim ond drwy orchymyn llys y gellir adfer cwmni, felly dylid ceisio cymorth cyfreithiol. Pwy all wneud cais? Aelod neu gredydydd i'r cwmni, a hynny o fewn 20 mlynedd i'r diddymu. Os diddymwyd y cwmni yn sgîl cais o dan adran 652a, gall cais gael ei gyflwyno hefyd gan unrhyw un o'r partïon y mae'n rhaid rhoi gwybod iddynt am y cais. Ble gwna i gais? I'r Uchel Lys, Cofrestrfa'r Dosbarth neu Lys Sirol sydd ag awdurdodaeth i ddirwyn y cwmni i ben. Beth yw'r costau? Fel arfer, byddai costau'r Cofrestrydd rhwng £250 a £300 a byddai'n rhaid i'r ymgeisydd eu bodloni. Hefyd, ceir ffioedd y cyfreithiwr a chostau'r llys i'w talu. Beth sydd angen? Cyn gwrandawiad y llys, byddai'r Cofrestrydd fel arfer yn gofyn:
Am fanylion pellach, ffoniwch 029 2038 0065. |
||||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|