Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Tŷ’r Cwmnïau yn Cyflwyno Gwasanaeth Gwrth-Gipio

Gwasanaeth PROtected Online Filing (PROOF)

Ers peth amser, mae Tŷ’r Cwmnïau wedi bod yn ymwybodol o’r difrod y gall herwgipwyr ei achosi i gwmnïau a chyflenwyr nwyddau a gwasanaethau. Fel arfer, mae’r gweithgarwch hwn yn ymwneud â thwyllwyr yn newid manylion ynghylch cyfarwyddwyr a swyddfa gofrestredig y cwmni. I helpu i fynd i’r afael â thwyll cwmni, mae Tŷ’r Cwmnïau wedi cyflwyno cynllun 3 phwynt yn rhoi gwybodaeth bellach amdano isod.

Ni allwn atal cipio. Nid oes gennym grym i ymchwilio i gynnwys a chywirdeb ffurflenni a anfonir atom er mwyn eu ffeilio. Fodd bynnag, rydym wedi bod yn ystyried yn ofalus a oes modd i systemau Ffeilio Electronig wella diogelwch cwmnïau. Mae’n gwasanaethau ‘WebFiling’ a ‘Software Filing’ yn cynnwys mesurau diogelwch megis defnyddio cyfrineiriau, codau dilysu cyfrinachol a chyfeiriadau e-bost cydnabyddedig.

Cyflwynwyd y gwasanaeth newydd hwn gennym ar 17 Ionawr 2005 i alluogi cwmnïau i’w diogelu eu hunain ymhellach rhag cael eu herwgipio.  Mae gwasanaeth PROOF yn atal cwmnïau rhag ffeilio rhai ffurflenni papur.  Mae’r rhain yn cynnwys dogfennau i benodi/terfynu penodiad/newid manylion swyddogion cwmni a newid y swyddfa gofrestredig.  (Ar hyn o bryd ffurflenni 287, 288 a’r Ffurflen Flynyddol.)

Unwaith eich bod wedi ymuno â’r cynllun yn llwyddiannus, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn gwrthod unrhyw fersiynau papur o’r ffurflenni hyn ac yn eu hanfon yn ôl i gyfeiriad y swyddfa gofrestredig.  Bydd hyn o gymorth i sicrhau bod unrhyw newidiadau a wneir wedi cael eu cofrestru gan y cwmni ei hun.

Bydd defnyddio PROOF, ynghyd â gwasanaethau eraill fel WebFiling a Software Filing a CH Monitor, yn rhoi ichi fwy o hyblygrwydd a diogeledd, gan sicrhau eich bod â rheolaeth lwyr dros eich gwybodaeth gwmni a gaiff ei ffeilio gyda ni yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Mae ymuno â PROOF yn hawdd – ni raid ond llenwi a dychwelyd ffurflen ‘Dewis Ymuno’ PR1 y gallwch ei lawrlwytho o’r Wefan hon. 

I sicrhau diogeledd pellach,  sylwer, os yw’ch cwmni yn destun anghydfod mewnol parhaus, ni fyddwch yn gallu ymuno â chynllun PROOF. Ni all Tŷ’r Cwmnïau ymyrryd mewn anghydfodau mewnol cwmni ac mae’n rhaid i’r partïon dan sylw geisio cyngor cyfreithiol proffesiynol annibynnol. Pan fydd y Cofrestrydd yn hollol fodlon bod yr anghydfod mewnol wedi cael ei ddatrys, bydd y cwmni yn gallu ymuno â’r cynllun.

I ddefnyddio gwasanaeth PROOF, rhaid i chi fod yn ddefnyddiwr cofrestredig ar gyfer ein gwasanaethau WebFiling neu Software Filing, oherwydd bydd yn rhaid chi nodi’r cod Dilysu Cwmni ar ffurflen ‘Opt In – PR1’. Ni dderbynnir y ffurflen hebddo.

Gwasanaeth Web Filing

Dyma’n gwasanaeth cofrestru ar-lein sy’n eich galluogi i gyflwyno gwybodaeth gwmni yn fwy diogel.

Software Filing

Yn gofyn defnyddio meddalwedd arbenigol i ffeilio data gyda Thŷ’r Cwmnïau.  Mae'r gwasanaeth hwn yn fwy priodol i swmp-ddefnyddwyr.

* Mae’r system yn destun amodau a thelerau.

Ffurflenni Cynllun PROOF:

Cyn llenwi’r ffurflen ‘Opt In – PR1’, rhaid i chi fod yn ddefnyddiwr cofrestredig ein gwasanaethau WebFiling neu Software Filing, oherwydd bydd angen i chi nodi cod Dilysu y Cwmni yn y ffurflen ‘Opt In – PR1’. Ni dderbynnir y ffurflen hebddo.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am wasanaethau WebFiling a Software Filing.

PR1 – dewis ymuno
PR1 – dalen barhad
PR2 – dewis peidio ag ymuno
PR3 – cydsynio ar gyfer ffeilio papur

Cliciwch yma am Ffurflenni Cynllun PROOF. (ar gael un saesneg yn unig)

Darllenwch fwy am Gynllun PROOF Tŷ’r Cwmnïau (ar gael un saesneg yn unig)

Am fanylion pellach, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt, 0870 3333636, neu’r rhif Minicom - 029 20381245 – ar gael o 08:30 tan 18:00 (amser y DU)

 

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies