Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Ymwadiad



Ymwadiad

NI fwriedir i’r wybodaeth sydd ar gael ar y wefan hon fod yn gynhwysfawr, a hepgorwyd llawer o fanylion a all fod yn berthnasol i amgylchiadau arbennig. Gan hynny, ni ddylid ystyried y wefan yn ffynhonnell gyflawn ar gyfer gwybodaeth am gwmnïau a’r gyfraith gwmnïau, a chynghorir darllenwyr i geisio cyngor proffesiynol annibynnol cyn gweithredu ar unrhyw beth a gynhwysir yma. Ni all Ty’r Cwmnïau dderbyn cyfrifoldeb am ganlyniadau camgymryd na hepgor.

Nodiadau i Ddefnyddwyr Chwiliadau Cwmni neu Chwiliadau Cyfarwyddwyr wedi eu Gwahardd

Mae’r wybodaeth sydd ar gael yma wedi ei thynnu o’r Gofrestr Gwmnïau/Cofrestr y Cyfarwyddwyr wedi eu Gwahardd, a gaiff eu diweddaru’n gyson. Gall hyn olygu bod gwallau achlysurol yn codi – gwallau y byddwn yn eu cywiro mor fuan ag y cân nhw eu tynnu i’n sylw. Os sylwch ar rywbeth y credwch y gallai fod yn anghywir, rhowch wybod inni fel y gallwn, os bydd angen, unioni’r gronfa ddata.

Gwybodaeth am Gwmnïau wedi ei Darparu gan Dŷ’r Cwmnïau

Mae Ty’r Cwmnïau yn gofrestrfa i wybodaeth am gwmnïau. Byddwn yn cynnal archwiliadau sylfaenol i wneud yn siwr fod dogfennau wedi eu cwblhau a’u llofnodi, ond nid oes gennym y pwer statudol na’r gallu i wirio cywirdeb yr wybodaeth y bydd cwmnïau yn ei hanfon atom. Byddwn yn derbyn ar goel bob gwybodaeth a anfonir atom gan gwmnïau ac yn ei rhoi ar y cofnod cyhoeddus. Ni ddylid cymryd bod y ffaith i’r wybodaeth gael ei rhoi ar y cofnod cyhoeddus yn golygu bod Ty’r Cwmnïau wedi ei gwirio neu ei dilysu mewn unrhyw fodd.

Cysylltiadau â Gwefannau Allanol

Ein polisi yw sicrhau caniatâd i gysylltu â gwefannau eraill. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau cysylltiedig. Ni ddylid cymryd bod eu rhestru yn golygu cymeradwyaeth o unrhyw fath. Ni allwn warantu y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio bob tro ac nid oes gennym reolaeth dros argaeledd tudalennau cysylltiedig.
Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies