Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Amdanon Ni


Peryglon y busnes enwi

Hysbysiad i’r Wasg
CHPN 03/11 (GEN)
DYDDIAD 5 Tachwedd 2003

Bydd cwmnïau’n aml yn treulio llawer o amser ac yn gwario llawer o arian ar ddewis enw. Yn anffodus, gallai’r holl amser ac arian yma fynd yn wastraff os caiff yr enw a ddewisir ganddynt ei wrthod gan Dŷ’r Cwmnïau am fod yr un fath ag enw presennol sydd eisoes ar Fynegai Enwau’r Cofrestrydd. Wrth ddewis enw, peth doeth yw gwirio pa enwau a gafodd eu cofrestru’n barod. Mae Tŷ’r Cwmnïau yn darparu cyfleustra chwilio’r Mynegai am ddim ar eu gwefan www.companieshouse.gov.uk a gallech hefyd wirio argaeledd enw drwy eu ffonio ar 0870 3333636. Er y gall enw gael ei dderbyn i’w gofrestru, dylid nodi nad yw hyn yn atal y cwmni rhag cael ei gyfarwyddo i enwid ei enw os ystyrir ei fod yn “rhy debyg” i enw presennol sydd ar y Mynegai. Hefyd, nid yw cofrestru enw yn arwydd nad oes hawliau  perchnogol megis nodau masnach, logos, enwau masnachu, ac ati, yn bodoli mewn cysylltiad ag enw neu ran o enw. Fe’ch cynghorir, felly, i ymchwilio’n drwyadl i’ch dewis enw cyn ei gofrestru.

Mae Tŷ’r Cwmnïau yn ymwybodol o gyhuddiadau sy’n cael eu gwneud bod unigolion wedi gweithredu ar sail gwybodaeth a gafwyd gan y Wasg a ffynonellau eraill i gofrestru enw, yn ôl pob golwg, mewn ffordd sy’n rhwystro unrhyw gais dilynol am yr enw hwnnw ac i geisio tâl am ryddhau’r enw i bwy bynnag sydd â diddordeb. Nid yw’r Ddeddf Cwmnïau yn cynnwys unrhyw ddarpariaethau arbennig i ddelio ag enwau a gafodd eu cofrestru o dan amgylchiadau felly – rhywbeth y cyfeirir ato’n aml fel “cofrestru manteisgar” neu “sgwatio enw”. Byddai angen i rywun sy’n tybio iddo gael cam geisio cyngor cyfreithiol ac edrych y tu allan i gylch y gyfraith gwmnïau i ystyried a ellid cychwyn achos.

Gan nad oes modd neilltuo enwau cwmni, hwyrach yr hoffech chi ystyried a oes yna gamau y gallech eu cymryd i ddiogelu’ch dewis enw. Er enghraifft, gall fod modd ichi sicrhau na fydd y dewis enw’n cael ei wneud yn gyhoeddus nes ei gofrestru gennych chi yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Beth am y dyfodol? Mae’r Llywodraeth ar hyn o bryd yn ymgymryd â phrosiect tymor-hir i foderneiddio’r Gyfraith Gwmnïau ym Mhrydain. Dechreuodd hyn ym 1998 pan lansiwyd arolwg annibynnol o’r Gyfraith Gwmnïau greiddiol a chyhoeddwyd yr adroddiad terfynol yng Ngorffennaf 2001. Ymhlith yr awgrymiadau dros newid, argymhellai’r Arolwg y dylai fod darpariaeth i rywun wneud cais i’r llysoedd am gyfarwyddyd i gwmni newid ei enw o dan rai amgylchiadau. Gallai ymgeiswyr alw ar y ddarpariaeth hon lle gallent ddangos bod enw wedi’i ddewis gyda’r bwriad o fynnu arian am ei ryddhau.

Yng Ngorffennaf 2002 cyhoeddodd y Llywodraeth Bapur Gwyn i foderneiddio’r Gyfraith Gwmnïau, gan osod ymateb cychwynnol y Llywodraeth i gasgliadau’r Arolwg. Amlinellai’r papur hwn y cynllun ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio’r Gyfraith Gwmnïau a chynhwysai’r elfen gyntaf o Fesur Cwmnïau drafft newydd. Nid oedd y Papur Gwyn, fodd bynnag, yn amlinellu polisi o ran enwau cwmni nac yn cynnwys darpariaethau drafft newydd yn y cyswllt hwnnw. Os hoffech chi wneud unrhyw sylwadau ar y pwnc hwn, dylech gysylltu ag Anne Scrope o Dîm y Mesur Cwmnïau. Ei chyfeiriad e-bost yw Anne.Scrope@dti.gsi.gov.uk neu fe ellir cysylltu â hi’n ysgrifenedig yn y cyfeiriad canlynol:-

Companies Bill Team
DTI
5th Floor

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies