Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Desg y Wasg

Croeso i Tîm Cyfathrebiadau Mewnol a’r Wasg Tŷ’r Cwmnïau

Mae gan Dŷ’r Cwmnïau gyfleuster gwybodaeth a chyswllt bychan ar gyfer aelodau’r Cyfryngau a’r Wasg Fasnach. Oherwydd hynny, tra ein bod yn croesawu diddordeb proffesiynol yn Nhŷ’r Cwmnïau rydym yn gyfyngedig yn ein gallu i ymateb i ofynion chwilio helaeth. Er hynny, rydym yn gallu darparu cefnogaeth chwilio gyfyngedig ac yn sicr gallwn gynghori ar sut i gael tanysgrifiadau i’n cyfleusterau chwilio ar-lein.

Mae mwyafrif llethol yr ymholiadau a dderbyniwn yn ymwneud â chwestiynau am gwmnïau neilltuol, cyfarwyddwyr neu wybodaeth am gyfrifoldebau cyfreithiol cwmnïau. Argymhellwn eich bod yn gwirio ein Gwefan ar gyfer yr wybodaeth hon i ddechrau, a bydd, yn y rhan fwyaf o achosion, yn rhoi’r holl atebion yr ydych eu hangen i chi ar unwaith.
Mae cyfleusterau ar-lein yn cynnwys:

'Llyfrynnau Canllaw' yn rhoi canllaw ac amseru ar gyfrifoldebau cyfarwyddwyr, dyddiadau terfynol ar gyfer ffeilio cyfrifon etc.

'Ein Gwasanaethau': ein cofnod cyhoeddus helaeth sydd yn rhestru’r cyfleusterau chwilio sydd ar gael.  Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth y byddwch fyth ei hangen yn hyn o beth ar gael trwy ein cyfleuster  ’WebCHeck’ ardderchog, sydd yn wasanaeth wedi ei deilwra i’r cwsmer; neu o ‘ ‘Companies House Direct’, sydd yn wasanaeth tanysgrifio sydd yn costio £5 y mis. Mae’r gwasanaethau hyn ar gael o Ddydd Llun – Dydd Sadwrn 7:00am tan Hanner Nos Amser y DU.

Mae Tîm Cyfathrebiadau Mewnol a’r Wasg Tŷ’r Cwmnïau ar gael o 09:00 am - 17:00 pm Llun – Gwener, ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus.

Ar gyfer Ymholiadau’r Wasg

Ffôn: 0870 33 33 636, Minicom 029 20381245 neu e-bost: press@companieshouse.gov.uk


mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies