Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Desg y Wasg

Hysbysiad i’r wasg
chpn 12/05(gen)
dyddiad 28 tachwedd 2005

Ymgynghoriad agored tŷ’r cwmnïau a’r hmrc ar ddyddiadau ffeilio cyfrifon cwmnïau

Cyhoeddiad Canghellor y Trysorlys, Gordon Brown, heddiw yng Nghynhadledd Flynyddol y CBI y bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) a Thŷ’r Cwmnïau yn ymgynghori â chwmnïau a’u hymgynghorwyr proffesiynol ynghylch cynigion i gyfuno ffeilio ffurflenni treth cwmnïau a’r drefn ar gyfer cyflwyno cyfrifon i’r Cofrestrydd Cwmnïau.

Wrth groesawu cyhoeddiad y Canghellor, dywedodd Claire Clancy, y Cofrestrydd Cwmnïau:

“Rwy’n falch iawn bod cefnogaeth ar lefel mor uchel i’r gwaith a wneir ar y cyd gan Dŷ’r Cwmnïau a’r HMRC. Mae’n cynigion yn adlewyrchu agenda’r llywodraeth ar gyfer gwell rheoleiddio. Rhoddant gyfle sylweddol i leihau lefel y fiwrocratiaeth y mae cwmnïau’n gorfod ymgodymu â hi, a byddant yn ei gwneud yn haws i gwmnïau gwrdd â’u rhwymedigaethau cyfreithiol.”

Nod y cynllun yw cynnig i gwmnïau a’u hasiantiaid un gwasanaeth ffeilio ar-lein ar gyfer yr HMRC a Thŷ’r Cwmnïau, gan ysgafnhau’r baich gweinyddol ar ysgwyddau cwmnïau sy’n gorfod ffeilio cyfrifon.

Craidd y cynigion yw’r ymdrech i gysoni dyddiadau ffeilio rhwng yr HMRC a Thŷ’r Cwmnïau. Bydd hyn yn golygu amserau ffeilio byrrach ond nid effeithir ar y dyddiad y bydd y cwmni yn talu’i dreth.

Mae’r ymgynghoriad yn ceisio sylwadau am fuddion un gwasanaeth ffeilio ar-lein, ar gysoni’r dyddiadau ffeilio ac ar amseriad y newid. Gofynnir hefyd i ymatebwyr leisio barn ar agweddau eraill lle gallai’r HMRC a Thŷ’r Cwmnïau weithio gyda’i gilydd i wireddu buddion i gwmnïau.

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Tŷ’r Cwmnïau yn asiantaeth weithredol o dan y DTI, gyda chyfrifoldeb am gorffori a diddymu cwmnïau; am gofrestru gwybodaeth a gyflwynir iddynt o dan y Ddeddf Cwmnïau a deddfwriaeth gysylltiedig, ac am drefnu i’r wybodaeth hon fod ar gael i’r cyhoedd.
  • Daw’r cyfnod ymgynghori i ben ar 3 Mawrth 2006.
Ymholiadau’r wasg: Paul Reynolds, Tŷ’r Cwmnïau, Ffordd y Goron, Caerdydd CF14 3UZ. Tel: 029 20380526

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies