Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Desg y Wasg

Tŷ’r Cwmnïau yn ymuno â’r Gofrestr Busnes Ewropeaidd

Mae’n bleser gan Dŷ’r Cwmnïau gyhoeddi ei fod yn ddiweddar wedi ymuno â’r Gofrestr Busnes Ewropeaidd (‘y Gofrestr’) fel darparydd gwybodaeth. Ym mis Mai 2007, yn dilyn Cyfarfod Cyffredinol y Gofrestr yng Ngwlad Belg, llofnododd Tŷ’r Cwmnïau gontract Cofrestr Busnes Ewropeaidd yn ffurfiol. Ystyrir Tŷ’r Cwmnïau fel cofrestrfa bwysig iawn yn Ewrop ac roedd Cofrestr Busnes Ewrop  yn awyddus iawn i ni ymuno. Dywedodd Paul Farrel, cofrestrydd cwmnïau ar gyfer Iwerddon a chadeirydd bwrdd rheoli y Gofrestr:

‘Mae hwn yn foment pwysig iawn i Gofrestr Busnes Ewrop a’i dyfodol. Rydym bob
amser wedi ystyried absenoldeb Tŷ’r Cwmnïau fel anfantais fawr i’n rhwydwaith.
Rydym yn hynod o falch bod Tŷ’r Cwmnïau wedi gwneud y penderfyniad hwn a
hoffem ddiolch iddynt am ymddiried yn y Gofrestr yn yr un modd ag yr ydym ni yn gwneud’

Mae Tŷ’r Cwmnïau yn anelu at ddarparu gwybodaeth sylfaenol am gwmnïau trwy fas data Cofrestr Busnes Ewrop yn y Gwanwyn yn 2008. Trwy rwydwaith y Gofrestr mae gwybodaeth am gwmnïau ar draws Ewrop ar gael i bawb yn haws, yn enwedig i fusnesau bach a chanolig sydd yn ei chael yn anodd i gael gafael ar y math hwn o wybodaeth. Gall cwmnïau ledled y byd gael gafael ar wybodaeth am gwmnïau o unrhyw un o’r gwledydd sydd yn rhan o’r Gofrestr trwy gyfrwng y bas data. Mae fformat gwybodaeth Cofrestr Busnes Ewrop yn safonol ac felly mae’n hawdd cymharu cwmnïau ar draws Ewrop mewn siop un stop.

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies